Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dilwyn Williams, y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Ioan Thomas a’r
Cyng. Cemlyn Williams ar gyfer eitem 6 gan eu bod yn aelodau o Gyngor Tref
Caernarfon. |
|||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||||||||||||||||||||
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 CHWEFROR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 16 Chwefror 2021 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||
TROSGLWYDDIAD LES A RHEOLAETH O SAFLE COED HELEN, CAERNARFON Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Prydlesu a throsglwyddo rheolaeth Parc Coed Helen,
Caernarfon i Gyngor Tref Caernarfon. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Thomas PENDERFYNIAD Prydlesu a throsglwyddo rheolaeth Parc Coed Helen,
Caernarfon i Gyngor Tref Caernarfon. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Mynegwyd yn ôl yn Rhagfyr 2014 fod y Cyngor
wedi cymeradwyo rhaglen arbedion dros £1miliwn i’r adran Hamdden. Ychwanegwyd
fod yr adran wedi llwyddo i wireddu'r arbedion, ac fel rhan o’r arbedion
sefydlwyd Cwmni Byw’n Iach i gymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth hamdden. Amlygwyd fod y
cwmni yn rhedeg 12 o Ganolfan Hamdden y Cyngor yn ogystal â pum adnodd
cymunedol. Nodwyd fod Parc Coed Helen yn un o’r adnoddau cymunedol, sydd yn
cael ei defnyddio gan glybiau lleol o fewn y cymunedau. Ychwanegwyd y bu i’r
adnoddau gael eu trosglwyddo i’r Cwmni dros dro gan amlygu ar y pryd nad oedd y
trefniant hwn yr un mwyaf effeithiol ar gyfer y safleoedd. Mynegwyd fod yr
adran Economi a Chymuned wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda nifer o grwpiau
ac endidau yn y cymunedau i weld os
byddai diddordeb a threfniadau mwy effeithiol i reoli’r adnoddau. Ategwyd fod
trafodaethau cadarnhaol wedi eu cynnal gyda Chyngor Tref Caernarfon gan nodi
fod y Cyngor Tref wedi penderfynu cymryd trosglwyddiad o’r Parc ar les 99
mlynedd. Pwysleisiwyd fod y Cyngor Tref yn hapus i gynnal a chadw’r
gwasanaethau presennol yn ogystal â chwilio am gyfleodd i wella’r cyfleusterau
i’r dyfodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd gan fod
y tir hwn yn dir cyhoeddus agored fod hysbysiad y bwriad yn angenrheidiol yn
gyfreithiol. Pwysleisiwyd fod hyn wedi ei wneud a ni dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiad. ¾ Amlygwyd fod
gwrthwynebiad gan un o’r Aelodau Lleol a holwyd beth oedd y pryderon oedd wedi
ei amlygu ganddo. Mynegwyd ei fod wedi codi nifer o faterion megis trefniadau
ar gyfer yr Ofalwraig, materion parcio yn ogystal â capasiti
Cyngor Tref. Mynegwyd fod y Cyngor wedi egluro’r sefyllfa ond nodwyd fod yw’r
Aelod Lleol yn parhau i wrthwynebu’r trosglwyddiad. ¾ Nodwyd fod y parc
yn un sydd yn agos at galon nifer o bobl a bod sicrhau ei ddyfodol yn gwbl
angenrheidiol. Mynegwyd fod y Cyngor Tref o bosib yn gorff gwell i reoli’r
adnodd. Amlygwyd dealltwriaeth dros bryderon am yr ofalwraig. ¾ Mynegwyd yr angen
i edrych ar drosglwyddo ar gyfer yr holl adnoddau cymunedol, gan y bydd modd
iddynt dderbyn mwy o fuddsoddiad drwy gyrff megis Cynghorau Tref. Awdur: Sioned Williams |
|||||||||||||||||||||
ADRODDIAD CYNNYDD PANEL STRATEGOL DIOGELU 2018-2020 Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu
Plant ac Oedolion. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn
Morgan PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac
Oedolion. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas
yr adroddiad oedd rhoi ddiweddariad ar waith y Panel Strategol Diogel.
Pwysleisiwyd fod diogelu yn flaenoriaeth i bawb o fewn y sir a'i fod wedi ei
amlygu yn ystod y cyfnod covid-19. Mynegwyd fod yr adroddiad yn crynhoi gwaith
y panel, gyda chyfeiriadau at adroddiadau archwiliwr allanol ac Adroddiad
Blynyddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyfnod o ddwy flynedd. Mynegwyd er
bod yr adroddiad wedi llithro ond nad yw hyn adlewyrchiad o waith y panel yn
ystod y cyfnod. Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ymddiheuro
fod yr adroddiad yn hwyr yn cyrraedd, ond mynegwyd fod yr adroddiad yn un
cynhwysfawr. Mynegwyd fod oedi byr iawn cyn cyfarfod ar ddechrau’r pandemig ond amlygwyd y bu i’r panel gyfarfod drwy gydol y
flwyddyn ddiwethaf, a bod hyn wedi amlygu fod diogelu yn flaenoriaeth o fewn y
Cyngor. Diolchwyd am ymrwymiad pawb i’r maes. Tynnwyd sylw ar effaith y pandemig ar ddiogelu gan amlygu fod y nifer y cyfeiriadau
wedi lleihau am gyfnod ond fod y
niferoedd yn cynyddu fel oedd elfennau o’r pandemig
yn addasu. Mynegwyd ei bod yn galonogol fod y tueddiadau yma yn gyson gyda'r
darlun a welwyd ar draws Cymru, a bod trafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol
yn parhau i edrych ar y tueddiadau yma. Nodwyd o ran y rhaglen waith fod cynnydd
wedi ei wneud. Tynnwyd sylw at y gwaith da o godi ymwybyddiaeth sydd yn cael ei
wneud yn barhaus, ond mynegwyd fod data hyfforddiant yn parhau i fod yn bryder
gan nad yw’r ffigyrau nifer o staff y cyngor yn mynychu hyfforddiant yn 100%.
Ychwanegwyd fod y panel yn edrych ar y ffordd orau o rannu’r wybodaeth gyda
staff. Amlygwyd y gwaith sydd yn cael ei wneud mewn partneriaeth yn rhanbarthol
ac yn genedlaethol. Mynegwyd bellach fod
y panel yn fewnol wedi cyfuno diogelwch cymunedol o fewn y Panel Diogelu. Tynnwyd sylw ar y cynnydd mewn nifer o rieni
yn penderfynu addysgu eu plant o’r cartref gan amlygu nad oes canllawiau
diogelwch ar yn lle ar gyfer y plant yma. Amlygwyd yr angen i edych ymhellach i
mewn i’r mater. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Holwyd
o ran nifer plant yn cael eu haddysgu
o’r cartref a’r rhesymeg dros y cynnydd. Mynegwyd angen gofyn i’r Pennaeth
Addysg am y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau ond nodwyd fod gweithdrefnau yn
eu lle er mwyn gwneud cyswllt gyda’r unigolion sydd yn dewis addysgu o’r
cartref. ¾
Mynegwyd
fod cyfradd trais yn y cartref yn isel yn benodol ar ôl y cyfnod clo. Amlygwyd
pryder am y maes a bod swyddogion arbennig o fewn y maes yn gweithio yn agos
gyda phenaethiaid i geisio gwneud popeth mor syml â phosib i’r unigolion sydd
wir angen cymorth. Ychwanegwyd fod disgwyliad i’r niferoedd godi yn dilyn y pandemig ac y bydd angen creu asesiad anghenion poblogaeth
yn dilyn y cyfnod. ¾ Diolchwyd i’r staff am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Morwena Edwards |
|||||||||||||||||||||
YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR Y PAPUR GWYN: AIL-GYDBWYSO GOFAL A CYMORTH Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig a'r Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr ymateb drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi
angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er mwyn cryfhau’r ymateb. Cefnogwyd penderfyniad y Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion
sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr ymateb
drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er
mwyn cryfhau’r ymateb. Cefnogwyd penderfyniad y
Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn yn edrych ar Ail Gydbwyso
Gofal a Chymorth. Nodwyd fod y Papur Gwyn yn amlygu gweledigaeth y Llywodraeth
a oedd yn cynnwys symud oddi wrth gymhlethdodau, symud oddi wrth brisiau ac yn
nes at werth cymdeithasol ac i symud o ffocws sefydliadol i ffocysu ar
gydweithio effeithiol. Mynegwyd cefnogaeth i’r weledigaeth sydd yn cyd-fynd a’r
weledigaeth sydd o fewn y Cyngor. Pwysleisiwyd mai’r brif
broblem o edrych ar y dogfennau oedd sut fydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn.
Ymhelaethwyd drwy nodi fod y Papur Gwyn yn pwysleisio'r elfen symleiddio, ond
yn cymhlethu’r trefniadau drwy nodi prosesau comisiynu safonol, creu Byrddau a
Swyddfa Genedlaethol ac i sefydlu’r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol yn endidau
corfforaethol cyfreithiol. Amlygwyd ymdeimlad fod y bwriad uchod yn groes i’r
weledigaeth a bod hyn wedi ei amlygu yn ymateb y Cyngor. Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol ar yr olwg gyntaf ei fod yn cyd-fynd a gweledigaeth y
Cyngor ac yn ymateb da gan y Llywodraeth. Er hyn, nodwyd wrth edrych yn
fanylach ei fod yn groes i’r weledigaeth sydd yn cael ei nodi. Amlygwyd fod y
maes yn cael ei gymhlethu drwy ychwanegu mwy o haenau ac yn benodol mewn
rhanbarthau mawr megis Gogledd Cymru. Ategwyd y byddai hyn yn symud y
penderfyniadau pellgyrhaeddol ymhellach oddi wrth yr unigolyn. Pwysleisiwyd fod
prynu cymorth unigolion yn rhan fawr o’r ddogfen ac yn mynd yn erbyn
egwyddorion Gwynedd o fynd ar sail yr unigolyn yn hytrach na bwydlen o
gefnogaeth. Nodwyd fod y ddogfen yn amlygu
angen am delerau ac amodau gwell ar gyfer staff gofal ond nad yw’n nodi beth
yw’r datrysiad. Amlygwyd fod sôn am gronfeydd cronnus rhanbarthol ond nodwyd na
fyddai hyn yn rhoi datrysiad. Mynegwyd nad oes dim sôn am y ddogfen
bellgyrhaeddol Cymru Iachach, sy’n nodi’n glir fod angen gweledigaeth
ranbarthol ond darpariaeth leol. O ran yr ymatebiad nodwyd fod ymatebion i’w
gweld yn yr atodiadau ond amlygwyd yr angen i anfon llythyr yn ogystal yn
amlygu beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gyd-fynd a’r weledigaeth sydd yn cael ei
amlygu. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Nodwyd
dealltwriaeth o anfon llythyr gyda’r ymatebion ond mynegwyd y posibilrwydd y
byddant yn edrych ar yr ymatebion yn unig. Pwysleisiwyd yr angen i amlygu yn
glir y gwrthwynebiad o greu endid corfforaethol cyfreithiol rhanbarthol. ¾
Pwysleisiwyd
pryder am rhanbartholi gan ei bydd yn tynnu ymhellach
oddi wrth y trigolion. ¾
Mynegwyd fod
risgiau o greu cronfeydd a bod angen amlygu'r rhain yn yr ymateb i gryfhau'r
gwrthwynebiad am greu corff rhanbarthol. ¾ Pwysleisiwyd fod y weledigaeth yn cyd-fynd a deheuad y Cyngor. Nodwyd nad oes dim sôn am ymarferon da sydd i’w gweld ar draws Cymru, a dim sôn yn ogystal am sylwadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Morwena Edwards |
|||||||||||||||||||||
FFIOEDD PRESWYL A NYRSIO 2021-22 Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y ffioedd preswyl a nyrsio isod i’w cytuno gyda
darparwyr annibynnol ar gyfer 2021/22
Cofnod: Cymeradwywyd y ffioedd
preswyl a nyrsio isod i’w cytuno gyda darparwyr annibynnol ar gyfer 2021/22
TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gais bid ar gyfer codi ffioedd.
Tynnwyd sylw at yr opsiwn ffafredig. Ychwanegodd
y Rheolwr Busnes yr Adran Oedolion cyn cyfnod y pandemig
fod angen rhoi sylw i ffioedd oherwydd bod nifer o ddarparwyr yn gwrthod y
ffioedd ac yn codi ffioedd eu hunain. Cydnabuwyd yr angen i adolygu’r ffioedd
gan ychwanegu fod darn o waith wedi ei gomisiynu i edrych ar y mater ymhellach.
Mynegwyd
o ganlyniad i’r panedemig fod y gwaith hwn wedi ei
roi i un ochor ac felly ddim yn ddigon aeddfed i’w ddefnyddio ar gyfer edrych
ar ffioedd 2021/22. Nodwyd o ganlynid i hyn fod teclyn safonol rhanbarthol wedi
ei ddefnyddio ar gyfer gosod y ffioedd am 2021/22. Ychwanegwyd yr angen i
addasu'r teclyn hwn a bod trafodaeth ranbarthol yn cael ei gynnal gyda darparwyr.
Amlygwyd
yr opsiynau gan bwysleisio fod yr opsiwn ffafredig,
Opsiwn A, yn ateb rhai materion sydd yn cael eu hamlygu ynghyd a rhoi costau.
Ond ychwanegwyd ei fod yn rhoi cyfle i’r Cyngor barhau gyda’r trafodaethau i
dalu costau uwch yn y dyfodol ynghyd ac ail afael yn y gwaith a gomisiynwyd. Nododd
y Pennaeth Cyllid ei fod yn siomedig nad oedd yn rhan o’r drefn bidiau ac yn
benderfyniad ar wahân. Ychwanegodd fod agweddau rhanbarthol yn eu dal yn ôl yn
hytrach na gweithio yn syml a chlir. Mynegwyd fod yr opsiwn ffafredig
yn fforddiadwy o fewn y gyllideb. Awdur: Rhion Glyn |
|||||||||||||||||||||
EFFAITH COVID-19 AR GYLLIDEB 2021/22 CWMNI BYW'N IACH Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas & Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Awdurdodwyd y Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, i ddarparu
llythyr o sicrwydd er mwyn ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i
gwmni Byw’n Iach hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2021/22, yn unol â’r
ddarpariaeth yn y cytundeb gyda’r cwmni. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD Awdurdodwyd y Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, i ddarparu
llythyr o sicrwydd er mwyn ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i
gwmni Byw’n Iach hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2021/22, yn unol â’r
ddarpariaeth yn y cytundeb gyda’r cwmni. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn Mai 2020
cyflwynwyd adroddiad yn nodi bwlch posib yng nghyllideb 2020/21 i Gwmni Byw’n
Iach o ganlyniad i Covid-19. Ychwanegwyd yn y cyfarfod fod disgwyliad y byddai
Llywodraeth Cymru yn cyllido gwariant ychwanegol a phenderfynwyd y buasai’r
Cabinet yn fodlon darparu’r gefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal
gwasanaethau cwmni Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol
2020/21. Mynegwyd fod y Llywodraeth wedi cyfannu yn
deg o’r Gronfa Caledi at golledion incwm a bod y Cyngor wedi hawlio arian o
gynllun ‘Ffyrlo’ tra bu canolfannau hamdden wedi cau.
Nodwyd fod yr adran gyllid yn disgwyl y bydd y Cyngor wedi hawlio cyfanswm o
£3m o gymorth ar ran cwmni’r Byw’n Iach. Amlygwyd y bydd sgil effaith argyfwng
Covid-19 yn parhau yn 2021/22 gyda phosibilrwydd o ryw fath o gyfyngiadau mewn
lle ynghyd a’r her o ail adeiladu hyder cwsmeriaid y cwmni. Pwysleisiwyd fod y
Cyngor yn parhau o’r farn mai model cwmni hyd-braich yw’r un mwyaf addas i
gwrdd â’r dyheadau yn y maes hamdden ac y bydd perthynas agos yn parhau i sicrhau
ei hyfywdra ariannol. Nodwyd yr argymhelliad i ymestyn y cyfnod o sicrwydd i’r flwyddyn ariannol nesaf fel bod modd eu cefnogi yn ariannol o leiaf hyd ar 31 Mawrth 2022. Ychwanegwyd drwy ddefnyddio 2021/22 fel sail ni ragwelir y bydd y gost o gadw‘r cwmni yn hyfyw uwchlaw swm eleni. Yn ogystal, mynegwyd fod rhagdybiaeth cyllidebu resymol y bydd y Llywodraeth yn parhau i ddigolledu’r Cyngor am golledion incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Awdur: Dafydd Edwards |