Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Nia Jeffreys a Morwena
Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. . |
|
COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 9 MAWRTH 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 9 Mawrth 2021 fel rhai cywir |
|
TREFNIADAU CWYNION A GWELLA GWASANAETH Y CYNGOR Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys, Cyng. Dilwyn Morgan a'r Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
I.
Mabwysiadwyd trefn
gwynion newydd i'r Cyngor yn unol ag Atodiad 1.
II.
Dynodwyd Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol fel y Swyddog Cyfrifol.
III.
Derbyniwyd yr
adroddiadau blynyddol a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig PENDERFYNIAD
I.Mabwysiadwyd trefn gwynion newydd i'r
Cyngor yn unol ag Atodiad 1.
II.Dynodwyd Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol fel y Swyddog Cyfrifol. III.Derbyniwyd yr
adroddiadau blynyddol a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod nifer o
elfennau i’r adroddiad. Amlygwyd elfen cwynion yr Adran Oedolion gan nodi ei
fod yn safonol i gyflwyno adroddiad cwynion yn flynyddol. Mynegwyd fod dau gam
ar gyfer cwynion sef datrysiad lleol ac yna ymchwiliad llawn. Pwysleisiwyd fod yr
adran yn dysgu gwersi yn dilyn pob cwyn ac yn eu defnyddio ar gyfer gwella
gwasanaeth. Ychwanegwyd er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar gwynion ei fod
hefyd yn cydnabod y gwaith da sydd yn cael ei wneud o fewn yr adran yn ogystal
gydag adran benodol yn yr adroddiad yn amlygu'r sylwadau da sydd wedi ei derbyn. Nododd y Swyddog Monitro fod argymhelliad
cyntaf yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet
i fabwysiadu trefn gwynion newydd, gan bwysleisio fod y drefn hon yn benodol ar
gyfer cwynion corfforaethol. Mynegwyd fod Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru 2019 wedi cyflwyno sail statudol i drefniadau cwynion y
Cyngor. Ychwanegwyd fod y model yn
adlewyrchu’r drefn a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2014, ac felly mai dim ond
man newidiadau fydd angen ei gwneud. Ategwyd yn ogystal y bydd y Swyddog
Monitro yn camu yn ôl ac y bydd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn cael ei
ddynodi fel y Swyddog Cyfrifol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd yr angen
am amserlen gweithredu. ¾ Mynegwyd fod yr
Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd wedi blaenoriaethu cwynion. Ychwanegwyd eu bod
wedi rhoi pwyslais ar roi gwybodaeth am gwyno i drigolion ac yn cynnig
gwasanaeth gafael llaw ar gyfer trigolion sydd yn cwyno er mwyn rhoi cefnogaeth
lwyr i’r unigolion. Amlygwyd fod nifer y cwynion yng ngham 1 wedi codi ond mae
hyn o ganlyniad i’r adran yn nodi pob ymholiad maent yn ei dderbyn.
Ymhelaethwyd fod yr adran yn cael adroddiad cynhwysfawr chwarterol ac yn
dadansoddi’r cwynion er mwyn gwella’r gwasanaeth. ¾
Nododd
Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod gostyngiadau wedi bod mewn cwynion
ond bellach fod mesur mewn lle i fesur sawl
diwrnod mae’n ei gymryd i ddelio gyda chŵyn.
Esboniwyd bellach ei bod oddeutu 7 diwrnod i ddelio gyda chŵyn.
¾ O ran y sylw ar
gymal 7.3 yr adroddiad ar gwynion yn y maes Oedolion gofynnwyd pam bod gohirio
gweithredu wedi bod ar argymhellion yr Ombwdsmon pan mai ymddiheuro ac atgoffa
staff am bwysigrwydd asesiadau oedd y prif argymhellion oedd yn disgyn ar y
Cyngor. Nododd y swyddog nad oedd yr ateb ganddi ac y byddai’n ymchwilio gan
hysbysu’r Prif Weithredwr o’r rhesymau. ¾ Pwysleisiwyd fod
natur rhai gwasanaethau yn golygu eu bod yn derbyn mwy o gwynion ond fod gwersi
yn cael ei dysgu gan bob cwyn. ¾ Mynegwyd fod yr
ystadegau a sylwadau positif yn galonogol a diolchwyd i staff am eu gwaith. Awdur: Morwena Edwards, Iwan Evans a Geraint Owen |
|
EGWYDDORION ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd ar Egwyddorion Economi Cynaliadwy Gwynedd ar sail
drafft er mwyn cychwyn ar y broses ymgynghori gyda trigolion a busnesau
Gwynedd. Cytunwyd i barhau trafodaethau ar strwythur i weithredu'r
egwyddorion i'r dyfodol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac unrhyw bartner
perthnasol arall. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Thomas. PENDERFYNIAD Cytunwyd ar
Egwyddorion Economi Cynaliadwy Gwynedd ar sail drafft er mwyn cychwyn ar y
broses ymgynghori gyda trigolion a busnesau Gwynedd. Cytunwyd i
barhau trafodaethau ar strwythur i weithredu'r egwyddorion i'r dyfodol gyda
Pharc Cenedlaethol Eryri ac unrhyw bartner perthnasol arall. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan bwysleisio fod yr egwyddorion ar sail
drafft er mwyn cychwyn ymgynghori gyda thrigolion a busnesau. Ategwyd fod
cyfnod Covid-19 wedi atgyfnerthu’r angen i greu egwyddorion yn y maes
Twristiaeth. Nodwyd y brif egwyddor oedd creu Economi Ymweld er budd a lles
pobl Gwynedd. Esboniwyd y trafodaethau sydd wedi eu cynnal er mwyn creu'r
egwyddorion drafft a oedd yn cynnwys gweithdai gydag aelodau, trafodaethau gyda
Chroeso Cymru a’r sector twristiaeth. Ychwanegwyd y bydd trafodaethau pellach
yn ystod y cyfnod ymgynghori. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod y cam hwn
yn gam pwysig i greu perthynas newydd o fewn y maes. ¾ Nodwyd fod y gwaith hwn
yn holl bwysig gan fod y maes mor bwysig i’r ardal. ¾ Esboniwyd fod yr
egwyddorion yn rhai da a clir ond ei fod yn holl bwysig fod cymunedau nid yn
unig busnesau yn rhan o’r drafodaeth. Ychwanegwyd yr angen i’r trafodaethau
gyda chymunedau gael ei chynnal ar sail yr 13 ardal sydd wedi eu hamlygu gan
fod gofynion pob ardal am fod yn gwbl wahanol. Pwysleisiwyd yr angen i’r
trafodaethau gael ei cynnal ar y cyd rhwng cymunedau a’r busnesau fel bod y
deialog yn cael ei greu yn ogystal ac
rhannu profiadau. ¾ Mynegwyd y bydd Uwch
Gynhadledd yn cael ei gynnal yn yr Hydref a fydd yn cynnwys busnesau a
chymunedau ble fydd modd cyflwyno’r egwyddorion ar ei ffurf olaf ac i greu
camau gweithredu. ¾ Nodwyd cefnogaeth i’r
egwyddorion gan fod angen sicrhau fod budd i’r cymunedau drwy dwristiaeth. ¾ Pwysleisiwyd y bydd pob
ardal yn rhan o’r drafodaeth, ac nid y cymunedau ble mae nifer uchel o
dwristiaeth. Awdur: Roland Evans |