Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc : https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/581818
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorwyr – Dyfrig
Siencyn, Craig ab Iago, Nia Jeffreys, Gareth Thomas, Ioan Thomas a Catrin Wager
ar gyfer eitem 10 – Pris Cinio Ysgolion Cynradd, Arbennig a Dilynol Medi 2021
gan fod ganddynt blant neu wyrion mewn ysgolion cynradd o fewn y Sir. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 MAI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 15 Mehefin 2021 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020-21, CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-24 Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd a nodwyd cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020-21,
Cynllun Cydraddoldeb 2020-24. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd a nodwyd cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020-21,
Cynllun Cydraddoldeb 2020-24. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.
Eglurwyd fod yr adroddiad ar gyfer blwyddyn anarferol ac anodd o ganlyniad i’r pandemig ble roedd yr angen newid y ffordd o weithio a ble
amlygwyd anghydraddoldeb yng Ngwynedd. Pwysleisiwyd fod yr pandemig
wedi bod yn waeth i rai unigolion a bod effaith wedi bod yn fwy amlwg i bobl o
leiafrifoedd ethnig. Tynnwyd sylw ar y protestiadau sydd wedi cael eu cynnal
gan gynnwys rhai gan y mudiad Black Lives Matter yn ystod llynedd. Nodwyd fod y gwasanaeth wedi cyflawni beth
oedd wedi ei obeithio o fewn y flwyddyn er bod amserlen wedi ei addasu a dull
gweithio wedi newid. Amlygwyd fod addasiadau i’r pum amcan ac amlygwyd y pum
amcan. Eglurwyd y bydd angen ail edrych ar amcanion a’i haddasu yn ôl yr angen
yn dilyn y pandemig. Pwysleisiwyd fod cydraddoldeb yn
ddyletswydd i bawb o fewn y Cyngor a bod angen gwreiddio’r egwyddorion yng
ngwaith bob dydd y Cyngor. Mynegwyd balchder yn y cynllun a nodwyd hyder i
wneud mwy ‘na dim ond ticio'r bocs. Amlygwyd boddhad o yrru'r gwaith hwn yn ei
flaen. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Tynnwyd sylw ar amcan 3 :
Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i wreiddio Asesiadau Effaith
Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell penderfyniadau gan nodi'r angen i edrych
ar yr asesiadau sydd yn cael eu gwneud gan hyfforddi staff a Chynghorwyr i
herio’r asesiadau yn ogystal. ¾
Nodwyd balchder yn yr
adroddiad ynghyd a gwaith y Cyngor. ¾
Amlygwyd fod rhai newidiadau
bellach yn cael eu gweld yn benodol yn ein meysydd gwrywaidd fod mwy o ferched
yn camu i mewn i rolau a fydd yn annog mwy o ferched i’r dyfodol. ¾
Pwysleisiwyd fod yr adroddiad
yn hawdd i’w ddarllen a bod cydraddoldeb wedi gwreiddio yn sydyn i mewn i
benderfyniadau’r Cyngor. ¾
Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am
ei arweiniad yn y flwyddyn ac amlygwyd fod y pandemig
wedi amlygu cydraddoldeb a bod angen parhau i feddwl am gydraddoldeb wrth symud
ymlaen.ity moving
forward. Awdur: Delyth Williams |
|
POLISI CYDRADDOLDEB A CHYNHWYSIANT Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
y Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiant. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
polisi yn gosod egwyddorion i sicrhau cydraddoldeb ar draws y Cyngor. Eglurwyd
fod y Polisi hwn yn cymryd lle'r Polisi Cydraddoldeb / Cyfle Cyfartal a’r
Polisi Mynediad sydd bellach wedi dyddio. Pwysleisiwyd nad yw’n orfodol i gael
polisi ond ei fod yn rhoi arweiniad ar sut bydd y Cyngor yn sicrhau fod cymaint
o bobl a phosib yn cael mynediad llawn at wasanaethau’r Cyngor a hynny gyda
pharch ac urddas. Eglurwyd y bydd y polisi yn cael gwared o unrhyw rwystrau i
unigolion cyn meddwl am gael gwasanaeth. Esboniwyd fod y Polisi, yn unol â Ddeddf
Cydraddoldeb 2010, yn rhoi arweiniad ar sut i roi sylw i ddiddymu gwahaniaethau
a bod y Cyngor yn gweithio i feithrin cyfleoedd cyfartal. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod y gwaith
mae’r Aelod Cabinet yn ei wneud yn sicrhau fod cydraddoldeb ar frig yr agenda
ac yn sail ac yn rhan o bopeth mae’r Cyngor yn wneud. Awdur: Delyth Williams |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 Cyflwynwyd gan: Cllr. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd trefniadau a’r Protocol ar gyfer parhau i
gyfarfod yn rhithiol hyn eu hadolygir yn unol â’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd
trefniadau a’r Protocol ar gyfer parhau i gyfarfod yn rhithiol hyn eu hadolygir
yn unol â’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Adran 47 o
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn sefydlu trefniadau i
ganiatáu i aelodau fynychu o bell. Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn amlygu’r
trefniadau rhithiol y Cabinet o ran mynychu o bell. Tynnwyd sylw fod yr adroddiad yn amlygu mynediad
i’r cyhoedd, addasiadau i’r cyfansoddiad ynghyd â chydymffurfio gyda’r Ddeddf
Cydraddoldeb 2010. Amlygwyd yn y cyfnod interim y bydd y Cabinet yn parhau i
gynnal cyfarfod rhithiol yn unig o fis Mai 2021 ymlaen oni nodir yn wahanol.
Eglurwyd fod gwaith i ddatblygu trefniadau i gynnal cyfarfodydd hybid yn parhau
ac y bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu yn gyson. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd yr angen i fynychu o bell wedi bod yn
hanfodol eleni, ac wedi lleihau amser teithio ynghyd a mireinio'r gwe ddarlledu
i sicrhau fod y cyhoedd yn gallu gweld y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud.
¾ Mynegwyd y trefniadau yma yn adlewyrchu’r realiti
ar hyn o bryd a sut y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol.
Pwysleisiwyd o ran cyfarfodydd hybrid y bydd angen gweld sut mae’n gweithio. ¾ Pwysleisiwyd mai penderfyniad yr aelodau fydd y
drefn pwyllgorau i’r dyfodol ond fod golwg ar hyn o bryd i ddarparu opsiwn
hybrid erbyn yr Hydref. ¾
Nodwyd
manteision o gael cyfarfodydd wyneb i wyneb ond fod budd o fod rhwydd,
effeithiol ac yn torri i lawr ar deithio a drwy hyn yn edrych ar ôl yr
amgylchedd. Awdur: Geraint Owen a Iwan Evans |
|
CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI TUA AT 2032 A THU HWNT Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd gweledigaeth “Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at
2032 a thu hwnt”, ynghyd a’i weithredu, i fuddsoddi £1.1 miliwn o arian cyfalaf
addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd
yn Nhywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog yn
unol â’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Cymeradwywyd gweledigaeth “Cyfundrefn Addysg Drochi tuag
at 2032 a thu hwnt”, ynghyd a’i weithredu, i fuddsoddi £1.1 miliwn o arian
cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r
newydd yn Nhywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym
Mhorthmadog yn unol â’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi pleser yn cyflwyno’r weledigaeth. Eglurwyd fod Canolfannau Iaith wedi
bod mewn bodolaeth ers yr 1980au yng Ngwynedd a'u bod yn arloesol yn ôl yr adeg
honno. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth sydd yn cael ei chyflwyno heddiw'r un mor arloesol ac yn adeiladau ar waith da'r
Canolfannau. Tynnwyd sylw i fygythiad cyllidol oedd i’w gweld dwy flynedd yn
ôl, ond fod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfle i ail
edrych ar y ddarpariaeth. Eglurwyd fod gofyn heddiw
i’r Cabinet fuddsoddi £1.1miliwn i ehangu ar safleoedd ym Mangor ac yn Nhywyn.
Pwysleisiwyd fod y weledigaeth yn amlygu darpariaeth gyfoes a hyblyg. Mynegwyd
fod y Gyfundrefn wedi bod yn y Pwyllgor Iaith ac yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi a bod cefnogaeth unfrydol ganddynt. Nodwyd fod cyfarfod wedi ei gynnal
gyda’r Gweinidog Addysg Newydd a bod y Gweinidog wedi uniaethu gyda’r cynllun
ac yn awyddus i genhadu’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yma yng Ngwynedd.
Pwysleisiwyd ei bod yn galonogol fod cefnogaeth i’r Cynllun. Ychwanegodd y Pennaeth
Addysg fod ychwanegu dau leoliad newydd ar gyfer y Canolfannau Iaith yn hynod
gyffroes. Nodwyd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llwyddiannus a bod y
gwasanaeth ei wedi ei ail bwrpasu gan nad oedd modd cyfarfod wyneb yn wyneb.
Eglurwyd fod yr ail bwrpasu wedi sicrhau fod mwy o blant wedi cael cefnogaeth
gan nodi fod hyn wedi amlygu fod technoleg yn allweddol i’r dyfodol. Tynnwyd
sylw fod y model newydd yn edrych yn debyg i’r model Ysgol Ganol gyda phlant
blwyddyn 5 i flwyddyn 9 yn cael ei addysgu gyda’i gilydd. Pwysleisiwyd yn
ogystal fod lles plant yn ganolog gyda’r model newydd yn sicrhau fod plant yn
mynychu eu hysgol ddiwrnod yr wythnos fel eu bod yn parhau i ddatblygu
perthynas gyda’r cyfoedion. Nododd y Rheolwr
Gwasanaethau Corfforaethol Addysg fod
anghenion y dysgwyr yn gwbl ganolog i’r gyfundrefn ynghyd a chodi ymwybyddiaeth
o bwysigrwydd addysg Gymraeg. Eglurwyd y bydd y gyfundrefn newydd yn gweithio
mewn partneriaeth gyda’r ysgolion i gyd-ddarparu. Pwysleisiwyd fod y diwrnod yn
yr ysgol i ddisgyblion o fewn y gyfundrefn drochi yn gyfle i’r disgyblion
ymdoddi n ôl i’r ysgol ar ôl y cyfnod drochi. Diolchwyd i bawb am fod yn rhan
o’r drafodaeth gan gynnwys y dysgwyr eu hunain. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: ¾ Diolchwyd i’r adran am eu gwaith yn arwain y gwaith ar draws Gwynedd a nodwyd os siroedd eraill yn dilyn bydd angen gofyn i’r Llywodraeth i’w ariannu gan fod angen yr ymrwymiad er mwyn cynnal y gwariant. Holwyd beth a fydd yn digwydd o ran y staff, nodwyd fod mwy o ganolfannau yn golygu’r agen am fwy o staff felly y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Debbie Anne Williams Jones |
|
PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD, ARBENNIG A DILYNOL MEDI 2021 Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i beidio cynyddu pris cinio Ysgol mewn Ysgolion
Cynradd, Arbennig a Dilynol ym Medi 2021.
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Cytunwyd i beidio cynyddu
pris cinio Ysgol mewn Ysgolion Cynradd, Arbennig a Dilynol ym Medi 2021. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi eu bod yn gofyn am ganiatâd i beidio codi pris cinio ysgol ym Medi 2021.
Nodwyd yn flynyddol fod targed incwm ysgolion yn codi yn unol â chwyddiant.
Cymharwyd y sefyllfa gyda siroedd eraill yng Nghymru a nodwyd os yn codi bydd
Gwynedd yn y siroedd uchaf o ran pris cinio ysgol. Nodwyd y bydd bwlch ariannol
ac y bydd angen i’r cyfarch y bwlch hwn. Nododd Pennaeth Cynorthwyol – Refeniw
a Risg fod y posibilrwydd o beidio cynyddu pris cinio wedi ei gyfarch wrth osod
cyllideb y flwyddyn. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Nodwyd fod y swm hwn yn un bychan ond yn rhan bwysig o gefnogi teuluoedd
bregus. ¾ Eglurwyd fod nifer o deuluoedd wedi cael amser caled eleni ac efallai ddim
yn gymwys i gael cinio am ddim ac felly fod angen gwneud y mwyaf i gefnogi
teuluoedd ac i gadw’r pris mor isel â phosib. Awdur: Owen Owens |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran o
flaen y gad gyda'r drefn herio perfformiad newydd. Eglurwyd fod yr amserlen
wedi bod yn gwbl heriol ond diolchwyd i’r swyddogion am eu mewnbwn. Mynegwyd
fod yr adran wedi sicrhau fod gwaith yn mynd yn ei blaen a bod sgyrsiau cyson
am y mesurau. Ychwanegwyd fod blaenoriaethu gwellaf bellach yn sail i’r
gofrestr risg. Tynnwyd sylw at y prosiectau sydd yng Nghynllun y
Cyngor gan nodi fod y gwaith yn symud ymlaen gyda’r Strategaeth Cadw Teuluoedd
gyda’i Gilydd fel y rhagwelwyd. Ychwanegwyd y bydd yn cael ei gyflwyno i’r
Cabinet yn fuan. O ran cefnogi Llesiant Pobl eglurwyd ei bod wedi bod yn anodd
dros y cyfnod pandemig ond fod gwaith wedi ailgydio
bellach i ganolbwyntio ar ymateb i heriau a sgil effeithiau’r pandemig. Eglurwyd o ran sicrhau fod teuluoedd â phlant
gydag awtistiaeth yn cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei arnynt bellach wedi
tynnu Cynllun Awtistiaeth drafft ynghyd a nodwyd pryder gyda’r rhestr aros am
asesiadau. O ran pryderon yr adran mynegwyd fod capasiti y gweithlu yn flaenoriaeth gyda diffyg niferoedd o
weithwyr cymdeithasol. Pwysleisiwyd yn ogystal fod pryder ynghylch y system
wybodaeth WCCIS sy’n dal cofnodion achosion teuluoedd yr adran, gan egluro fod
y mater yn cael ei drafod ar lefel genedlaethol. O ran mesurau nododd yr Aelod
Cabinet ei fod yn gwbl hapus gyda pherfformiad yr adran yn benodol fod 45% o’r
plant sy’n agored i’r adran yn byw gyda rheini / teulu neu ffrindiau sy’n cyd-fynd
ar un o brosiectau blaenoriaeth yr adran. Nodwyd fod yr adan yn edrych ar gadw o fewn y
gyllideb eleni ond pwysleisiwyd nad oedd yr adran yn ymwybodol o bwy fydd angen
cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod nifer o
swyddogion yn teimlo’r pwysau o ganlyniad i capasiti’r
adran. Ychwanegwyd fod niferoedd o blant yn aros adref neu gyda theulu neu
ffrindiau yn golygu llai o angen am leoliadau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ¾ Diolchwyd am yr
adroddiad gan groesawu datblygu strategaeth Awtistiaeth gan fod heriau i’w
gweld yn amlwg gyda’r rhestrau aros ar yr effaith cymdeithasol ac iechyd meddwl
sydd i’r bobl ifanc yma. Amlygwyd yr angen i sicrhau cydraddoldeb a chefnogaeth
gyfartal i’r unigolion. ¾ Diolchwyd am yr adroddiad
gan nodi fod yn amlygu gwaith dydd i ddydd y Cyngor a nodwyd llongyfarchiadau
i’r adran am eu gwaith. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT Cyflwynwyd gan: Cyng Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod y pandemig wedi taflu llawer o heriau
tuag at yr adran a bellach ei bod yn braf gallu eistedd ac edrych ar ble mae’r
adran arni o ran eu gwaith pellach. Tynnwyd sylw at y cynlluniau yng nghynllun
y Cyngor. Yn gyntaf amlygwyd fod
cynllun Darpariaeth Gofal Addas a Chynaliadwy yn parhau i fynd yn ei blaen ac
amlygwyd yr angen am gartrefi nyrsio yn Llyn. Eglurwyd fod cynlluniau ar y
gweill ar gyfer Safle Penrhos. Yr ail gynllun oedd Ail Ddylunio eu Gwasanaethau
Gofal. Pwysleisiwyd fod y gwaith yn mynd rhagddo er mwyn creu Gwasanaeth hyblyg
wedi ei deilwra i unigolion ac edrych ar sut y bydd modd cynorthwyo unigolion i
barhau adref gymaint â phosib. Y trydydd oedd Gweithlu a Recriwtio yn y maes
Gofal ag eglurwyd fod gwaith yn parhau gyda’r cynllun hwn sydd yn her gyson i’r
adran. Tynnwyd sylw at lwyddiannau sydd wedi ei gweld yn Nhywyn drwy addasu
patrymau gwaith gan sicrhau oriau mwy sefydlog i unigolion sydd wedi arwain at
lai o drosiant staff a Gwasanaeth gwell i unigolion. Nodwyd o ran perfformiad
fod symudiad ar droed i ddefnyddio system i edrych yn fwy cyson ar y mesurau.
Mynegwyd er ei bod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nodwyd os bydd lithriad yn
rhai cynlluniau arbedon bydd yr adran yn
edrych ar y cynlluniau ac yn chwilio am gynlluniau amgen. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol fod yr adran wedi bod yn gweithio ar gynllun integredig gyda’r
Bwrdd Iechyd. Eglurwyd nad yw hi wedi bod yn hawdd er yr awydd i weithio gyda’i
gilydd ynghyd a rhannu’r un weledigaeth. Mynegwyd fod trafodaeth wedi bod gyda
Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd a eglurwyd ei bod yn gefnogol iawn i’r cynllun
ac os yn dangos canlyniadau gwell i staff fwrw ymlaen gyda’r gwaith. Diolchwyd
i’r staff am eu holl waith dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r cyfnod wedi
amlygu ffyrdd i weithio i’r dyfodol. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ¾ Diolchwyd i’r staff rheng flaen am ei gwaith dros y
misoedd diwethaf. ¾ Mynegwyd o ran lles trigolion fod derbyn Gwasanaeth
drwy’r Gymraeg yn holl bwysig, a holwyd faint o bwyslais sydd i’r Gymraeg wrth
recriwtio. Eglurwyd fod recriwtio yn her barhaus ond eglurwyd fod penodi staff
iaith Gymraeg yn rhai rhannau o’r sir yn fwy o her. Nodwyd yn ogystal fod nifer
o staff di-gymraeg yn ymgeisio am swyddi yn codi, gan bwysleisio eu bod yn
unigolion gyda’r awydd i ddysgu’r iaith ac yn gyffroes am y ffordd newydd mae’r
adran yn gweithio. Awdur: Morwena Edwards |