Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc: https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/home
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021, fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Catrin Wager PENDERFYNWYD Nodi a
derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn edrych yn ôl dros gyfnod cofid a
diolchwyd yn fawr i’r staff am eu gwaith. Eglurwyd bellach fod yn adran yn
edrych i symud yn ôl i weithio ar gynlluniau strategol ac amlygwyd y cynlluniau
sydd i’w gweld yng nghynllun y Cyngor. Tynnwyd
sylw at gynllun Cymunedau Glan a Thaclus gan amlygu fod y cynllun cyffroes hwn
yn cydweithio a thrigolion a chymunedau i ddatblygu Cynllun Gwireddu.
Pwysleisiwyd yr angen i weithio gyda unigolion a grwpiau sydd yn awyddus i
chwarae rhan megis grwpiau codi ysbwriel neu grwpiau plannu blodau fel bod modd
cydweithio i uchafu’r cymunedau. Amlygwyd y pedwar ffrwd gwaith sy’n rhan o’r cynllun gan nodi mae’r cam cyntaf
fydd i ymgysylltu a rhan ddeiliaid a thrigolion Gwynedd a gychwynnwyd y gwaith
yn ôl yn Gorffennaf 2021. Eglurwyd
fod Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn un o flaenoriaethau eraill yr adran
sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Mynegwyd ei bod yn hynod bwysig fod y
trigolion yn hyderus yng ngwasanaethau’r adran ac fod pryderon ac ymholiadau yn
cael ei trin yn effeithiol. Nodwyd fod
y gwaith o newid goleuadau stryd ac arwyddion i dechnegol LED yn parhau.
Eglurwyd fod y lampau stryd yn pylu yn ystod y nos ac fod hyn yn gymorth i
fywyd gwyllt yn ogystal gan nad oes pryfaid a gwyfynod yn hedfan tuag atynt.
Amlygwyd fod prosiect adolygu rheolaeth fflyd y Cyngor yn parhau ac nodwyd fod
yr adran wedi ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon.
Eglurwyd fod yr adran newydd archebu
cerbyd casglu ysbwriel cyntaf trydan a fydd yn cyrraedd cyn diwedd y flwyddyn
ariannol a fydd yn gam mawr tuag at leihau carbon yn y gwasanaeth. Nodwyd fod gwaith yn yr Adran Ymgynghoriaeth
yn mynd yn ei flaen. Amlygwyd fod gwaith yr adran gyda llifogydd yn cynyddu yn
ei bwysigrwydd gan fod amddiffyn trigolion Gwynedd yn holl bwysig. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod yr adran yn denu
llawer o arian ar gyfer cadw safonau y ffyrdd a nodwyd fod yr arian hwn yn dod
i ben a holwyd beth fyddai’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod yr adran yn
manteisio ar yr arian grant ac ei fod yn aml yn ariannu gwelliannau i Ffyrdd
Dosbarth 1 a 2 ac felly fod arian yr adran yn ariannu gwaith ar ffyrdd Dosbarth
3 a di-ddosbarth. Eglurwyd y bydd safonau dosbarth 2 a di-ddosbarth yn disgyn
os arian grant yn dod i ben ond fod yr adran yn y broses o lunio cynllun asedau
ffyrdd a fydd yn rhoi syniad o safon a blaenoriaethau’r adran. ¾ Pwysleisiwyd yr angen i fyw mewn
cymunedau glan a thaclus, ac yn dilyn blynyddoedd o doriadau ac arbedion ei bod
yn braf gweld datblygiad yn yr adran. ¾ Holwyd ble yn union mae gwastraff o fewn y sir yn mynd gan fod mwy o sôn bellach am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Steffan Jones a Huw Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS ADRAN AMGYLCHEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith. PENDERFYNWYD Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlygu beth mae’r adran yn ei wneud a
peth yw’r prif heriau sydd yn eu wynebu. Diolchwyd i’r staff am eu holl waith yn
ystod y cyfnod gan fod pwysau ychwanegol wedi rhoi ar rai adrannau yn benodol.
Tynnwyd sylw fod gwaith Cynllun Prosiect Newid Hinsawdd yn mynd rhagddo ac y
bydd adroddiad yn mynd i’r pwyllgor craffu yn fuan. O ran
cynlluniau eraill eglurwyd fod adroddiad am y cynnydd mewn niferoedd o Gartrefi
Modur yn ymweld ar sir yn dod i’r Cabinet maes o law. Tynnwyd sylw at y
Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd a weithiodd yn ddiwyd i greu’r papur
am ail gartrefi a gyflwynwyd yn ôl ym
mis Rhagfyr. Eglurwyd yn dilyn ei anfon at Lywodraeth Cymru eu bod wedi
comisiynu adroddiad gan Dr Simon Brooks a oedd yn edrych ar y sefyllfa.
Eglurwyd fod yr adran yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth i ddelio ar
materion, ond nad oedd llawer mwy a gall y Cyngor ei wneud. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ¾ Amlygwyd fod llawer o’r adran
wedi bod yn gweithio i sicrhau gwasanaeth ddigonol dros gyfnod y pandemig. Nodwyd mai dim ond cymal bach iawn sydd i’w weld
am waith y Tîm Olrhain a Diogelu ond fod eu gwasanaeth yn fawr iawn. Eglurwyd
fod heriau sylweddol i’r gwasanaeth yn benodol heddiw gan fod niferoedd yn codi
a nifer o bobl ddim yn awyddus i gael eu galwad. Pwysleisiwyd fod arian ar gael
i’r tîm olrhain tan ddiwedd Mawrth. ¾ Holwyd gyda nifer sy’n defnyddio
cludiant cyhoeddus yn lleihau os y bydd risg i’r gwasanaeth i’r dyfodol.
Eglurwyd ei bod yn her gan fod y Llywodraeth yn awyddus i weld lleihad
mewn nifer yn defnyddio ceir, ond fod y
flwyddyn diwethaf wedi gweld gostyngiad mewn hyder unigolion yn ei ddefnyddio.
Ychwanegwyd fod prinder gyrwyr yn her ychwanegol ond fod cefnogaeth lawn i
sicrhau cludiant gyhoeddus. ¾
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith a nodwyd fod yr adran dan
bwysau ac fod effaith 10 mlynedd o doriadau i’r gweld. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn
y papurau i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod. |