Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc :https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/588927
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 6 GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021, fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys and Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau
Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid
a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau
Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid
a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn gais am adnoddau i alluogi mynychu cyfarfodydd
o bell. Amlygwyd fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet a Cyngor Llawn
diwethaf yn amlinellu gofynion newydd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, yn benodol yr angen i sicrhau mynediad o bell i
aelodau a sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Bu i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn
fabwysiadu trefniadau interim gan barhau i gynnal Cyfarfodydd yn rhithiol ar hyn
o bryd. Eglurwyd y bydd yn ofynnol sicrhau darpariaeth hybrid i’r
dyfodol gyda rhai aelodau yn Siambr gydag eraill yn mynychu o bell. Mynegwyd y
bydd hyn yn debygol o fod yn rhan o’r normal newydd ac o ganlyniad y bydd angen
iddo fod yn syml ac yn rhedeg yn llyfn i Aelodau a swyddogion ble bynnag y
byddant y cysylltu. Amlygwyd y buddion o gynnig y ddarpariaeth â oedd yn
cynnwys lleihau ôl troed carbon a sicrhau gwell defnydd o amser unigolion. Nodwyd fod angen y gefnogaeth ariannol er
mwyn uwchraddio’r dechnoleg. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Dangoswyd cefnogaeth i ariannu’r cynlluniau er mwyn nid yn unig lleihau ôl
troed carbon ond i ddenu mwy o amrywiaeth i ymgeisio fel Cynghorwyr yn yr
etholiad y flwyddyn nesaf. ¾
Cefnogwyd y cais am arian gan fod cymaint wedi arfer defnyddio technoleg yn
dilyn y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod y swm yn edrych yn uchel ond fod costau
teithio cynghorwyr wedi lleihau o ganlyniad i ddefnydd o’r dechnoleg. ¾
Amlygwyd yr angen am gadeirio cadarn os cyfarfodydd hybrid yn cael eu
cynnal er mwyn sicrhau tegwch. ¾ Holwyd os y bydd y dechnoleg i’w
gweld yn y siambrau yn unig, nodwyd y bydd ystafelloedd cyfarfod ym mhrif
swyddfeydd y Cyngor yn Cae Penarlag, Ffordd Y Cob,
Penrhyndeudraeth, Penrallt a’r Pencadlys yn cael eu huwchraddio, gan
ddefnyddio’r un dechnoleg ymhob lleoliad, a fydd yn hwyluso mynediad o bell
ynghyd a rhoi hyblygrwydd. Awdur: Geraint Owen |
|
UNED 2A PARC BUSNES ERYRI, PENRHYNDEUDRAETH Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i
wireddu addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er
mwyn hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu
‘Siop Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i wireddu
addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er mwyn
hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu ‘Siop
Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn am fuddsoddiad o £83,000 o’r
gronfa Drawsffurfiol Busnes i wireddu addasiadau i’r adeilad ym Mhenrhyndeudraeth. Mynegwyd yr angen i addasu’r adeilad er
mwyn hwyluso’r cyswllt rhwng y Cyngor a thriolion. Eglurwyd
cyn y pandemig, fod y nifer o staff a oedd wedi ei
lleoli yn swyddfa Galw Gwynedd wedi lleihau, a bellach mai dim ond uchafswm o
12 o staff ac Arweinydd Tîm fyddai wedi eu lleoli yn y ganolfan ar un adeg.
Amlygwyd o ganlyniad i’r newid hwn mae cyfle i wneud gwell drefnydd o’r adeilad
sydd mewn lleoliad defnyddiol i staff sy’n gwasanaethau Eifionydd. Nodwyd y
bydd Siop Gwynedd yn cael ei sefydlu yno ynghyd a lleoliad swyddfa i staff yr
Adran Oedolion sy’n cyd-weithio’n agos gyda’r gwasanaeth iechyd a fyddai o fewn
pellter rhesymol o Ysbyty Alltwen. Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod
gwneud yr addasiadau yma yn llenwi bwlch o yn y ddarpariaeth yn yr ardal ac yn
rhoi cyfle i staff gofal a’r gwasanaeth iechyd i gydweithio mewn un lleoliad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ¾
Nodwyd fod addasu’r adeilad yn rhoi cyfle i gynnig gwell gwasanaeth i
drigolion Gwynedd ac i annog cyd-weithio gwell rhwng yr Adran Oedolion a’r maes
Iechyd. ¾ Holwyd gan fod y swyddfeydd am
fod yn integredig rhwng Iechyd ar adran Oedolion holwyd os bydd y Bwrdd Iechyd
yn cyfrannu at y costau. Eglurwyd fod lleoliadau yn y Gwasanaeth Iechyd y maes
staff integredig y Cyngor yn gweithio ohonynt felly ni fydd angen gofyn am
unrhyw gyfraniad. Awdur: Geraint Owen |
|
CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG 2022-2032 Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2022-2032 i fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn nhymor yr Hydref 2021. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNWYD Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2022-2032 i fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn nhymor yr Hydref 2021. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser
cyflwyno’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Eglurwyd y bydd y cynllun yn
dod i rym ym Medi 2022 ac yn parhau am 10 mlynedd. Pwysleisiwyd y bydd y
cynllun yn gosod cyfeiriad ac ymrwymiad clir i’r Cyngor i addysg Gymraeg. Amlygwyd mai dyma’r ail gynllun gan yr Adran Addysg sydd
yn ail edrych ar y ddarpariaeth o addysg Gymraeg dros yr wythnosau diwethaf ac
amlygwyd fod y Cyngor yn arwain drwy Gymru ar y defnydd o Gymraeg mewn addysg
ynghyd a cyfundrefn addysg drochi. Nododd y Pennaeth Adran fod plethiad amlwg rhwng
weledigaeth ar gyfer y gyfundrefn drochi a’r cynllun uchelgeisiol hwn.
Pwysleisiwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol a heriol ac yn gosod targedau
pendant. Nodwyd y bydd hyblygrwydd y
gyfundrefn drochi yn galluogi’r adran i gyrraedd y targedau. Tywysodd y Swyddog Addysg Uwchradd drwy’r cyflwyniad gan
amlinellu deilliannau’r strategaeth. Tynnwyd sylw at y cama fydd yn cael ei
gwneud eu mwyn cyflawni’r strategaeth gyda’r rhan ddeiliad a oedd yn cynnwys
diffinio categorïau ieithyddol ysgolion, ail-gyflwyno’r siarter iaith a sefydlu
Fforwm Iaith i sicrhau trefn atebolrwydd ac gadw golwg ar y targedau. Amlygwyd
yr amserlen y cyfnod ymgynghori ffurfiol. Amlygodd yr Aelod Cabinet fod gwaith arbennig o dda yn y
sir ac cydnabod y gwaith da sydd yn cael ei wneud gan ysgolion y sir. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod trochi yn digwydd yn
ysgolion Gwynedd gan fod 100% o addysg yn gynnal drwy’r Gymraeg ac amlygwyd fod
y Cyngor yn arwain drwy Gymru ar hyn. Pwysleisiwyd ei bod yn angenrheidiol fod
pob plentyn yn cael ei addysgu drwy’r Gymraeg. ¾ Mynegwyd fod gwaith arbennig yn
cael ei wneud drwy’r ysgolion ond holwyd os oes cefnogaeth ar gael i’r rheini
sydd yn awyddus i addysgu o adref. Eglurwyd fod cynnydd wedi bod yn nifer y
plant sydd yn cael eu addysgu o adref, ond fod y cynllun strategol yn edrych yn
benodol ar ysgolion gan mai dyma gylch gwaith ynghyd a grym yr adran. Eglurwyd
fod dewis gan rieni i dderbyn pecyn cefnogaeth os yn awyddus i hyrwyddo’r
Gymraeg pan yn Dysgu o adref. ¾
Holwyd os yw’n orfodol i ysgolion ddefnyddio’r strategaeth, nodwyd fod
angen bellach i ysgolion ddangos eu bod yn symud ac yn datblygu eu dynodiadau
iaith. Awdur: Rhian Parry Jones |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2020/21 yn y meysydd
gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth
Ranbarthol Gogledd Cymru Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNWYD Nodwyd y
gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2020/21 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn
ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofyniad statudol i gyflwyno adroddiad blynyddol
i’r Llywodraeth am waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn yn unol a Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurwyd fod y
flwyddyn hwn wedi bod yn wahanol ond fod ymroddiad y staff ar draws y rhanbarth
wedi bod yn eithriadol. Amlygwyd fod y flwyddyn wedi bod yn heriol o ganlyniad
i Covid 19. Nodwyd fod y bwrdd yn canolbwyntio ar
bobl, yn gleifion staff a sicrhau cynnal cefnogaeth di-dor. Pwysleisiwyd fod
pawb yn arwain at yr un nod sef i wneud gwahaniaeth i’r unigolion. Eglurwyd fod
angen edrych ymlaen ar adfer yn dilyn covid 19. Nodwyd fod
y Llywodraeth yn dyrannu cyfran o’i harian drwy’r Byrddau Rhanbarthol, ac fod y
partneriaid yn cytuno ar yr arian ar y cyd. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Amlygwyd bellach fod nifer o byrddau rhanbarthol, a nodwyd pryder o beth
fydd rôl Cynghorwyr Lleol mewn materion sydd yn effeithio trigolion eu sir.
Pwysleisiwyd nad oes llawer o wybodaeth lawn o fewn yr adroddiadau a nodwyd yr
angen am wybodaeth ychwanegol am brosiectau sydd a gwariant o dros £19miliwn. ¾ Pwysleisiwyd fod gwaith da yn
cael ei wneud yn y bwrdd Rhanbarthol, amlygwyd pryder am ranbartholi
rhai gwasanaethau gan fod gwahaniaethau mawr ar draws y sir. Eglurwyd fod y
gweithredu yn gorfod digwydd ar lefel leol ac nid yn rhanbarthol. Awdur: Morwena Edwards |
|
GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS : RHEOLI CŴN Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus
mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig
a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd. Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â
£67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol un
tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.
Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch
blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw
parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23. Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd
â chyflwyno’r GDMC. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager. PENDERFYNWYD Cymeradwywyd
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn
ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn
fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd. Cymeradwywyd
costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o
gyllideb refeniw ychwanegol un tro eleni o’r Gronfa
Trawsffurfio. Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r
gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid'
am £75,620
o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23. Awdurdodwyd y
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi yn ôl ym mis ai y bu i’r Cabinet gytuno i fynd i
ymgynghoriad statudol ar y broseso o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau
Cyhoeddus mewn perthynas o rheoli cŵn. Eglurwyd bellach fod yr
ymgynghoriad wedi cau ac fod dros 1300 o ymatebion wedi eu derbyn. Diolchwyd i
bob unigolyn a gymerodd amser i ymateb a bod yn rhan o’r ymgynghoriad. Tynnwyd
sylw at y prif sylwadau o’r ymgynghoriad a oedd yn cynnwys 95% o blaid gwahardd
cŵn o lefydd chwarae plant, 93% o blaid gwahardd cŵn o feysydd
chwarae a 99% yn credo y dylai perchnogion lanhau ar ôl i’w ci faeddu mewn
mannau cyhoeddus, a’i waredu mewn ffordd gyfrifol. Eglurwyd
mai cais i symud ymlaen gyda cyflwyno y GDMC oedd yr adroddiad hwn ond eglurwyd
fod yr adran yn awyddus i fynd gam ymhellach. Amlygwyd fod yr ymgynghoriad wedi
amlygu fod 80% o’r ymatebwyr yn credu fod baw ci yn broblem o fewn eu cymunedau
ac eglurwyd fod hyn yn tystiolaethu beth mae mwyafrif o Gynghorwyd yn clywed ar
lawr gwlad. Pwysleisiwyd yr angen i weithredu felly eglurwyd fod yr adroddiad
yn gofyn am adnoddau ychwanegol i wella arwyddion, darparu mwy o finiau ac i
benodi dau swyddog a fydd yn cael ei cyflogi i fynd i wraidd y broblem.
Eglurwyd fod rhain ym awgrymiadau gan drigolion ac felly fod yr ymgynghoriad
wedi cynorthwyo i lunio’r rhaglen waith. Nododd y
Rheolwr Gwasanaethau Stryd fod baw ci yn broblem Genedlaethol ac y bydd llawer
o waith yn cael ei wneud ar godi ymwybyddiaeth yn benodol ym mis Hydref. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Datganwyd gefnogaeth i’r adroddiad gan amlygu fod y problem wedi cynyddu yn
ystod y cyfnod clo. Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu 10 cynghorydd a
ymatebodd i’r ymgynghoriad, nodwyd eu bod yn gobeithio fod y niferoedd yn uwch
ond heb glicio’r bocs cynghorydd. ¾
Pwysleisiwyd mai problem perchnogion anghyfrifol ydi hwn ac nid y cŵn
nac y Cyngor ond unigolion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid. ¾ Holwyd sut mae’r adran am ddal yr unigolion, eglurwyd y bydd y swyddogion yn mynd allan i’r cymunedau tu hwnt i oriau arferol gwaith, pwysleisiwyd yn ogystal bwysigrwydd newid ymddygiad drwy ymgyrchoedd gyda mudiadau megis Cadw Cymru’n Daclus. Eglurwyd y bydd yn anodd ond nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Steffan Jones |