Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION CYAFARFODYDD A GYNHALIWYD AR 22 TACHWEDD A 13 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol: |
|
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG - TREFNIADAU LLYWODRAETHU A GWEITHREDU Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1 Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl
‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng
Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd. 1.2. Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar
gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn
yr adroddiad. 1.3. Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif
Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu
gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd. 1.4. Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer
Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr
adroddiad. 1.5. Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin
Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid,
Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth
Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i
gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini
prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac
ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /
gwasanaeth. ·
Cymeradwywyd
trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa
Strategaeth Ariannol y Cyngor. ·
Argymhellwyd
mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd
defnyddio: -
yn gyntaf,
Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon,
cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr
ysgolion. -
yn ail,
defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes
Digartrefedd. -
yn olaf,
defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau
ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor. |
|
TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd
tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf. ·
Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef: -
cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca -
cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf -
cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill |
|
CYNLLUN FFLYD WERDD 2023-29 Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn
Atodiad 1) a cytunwyd: ·
bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu,
neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr
Fflyd, a chael ei gydsyniad; ·
bod angen creu system pŵl corfforaethol yn
lle rhai Adrannol; ·
bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o
chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob
Adran. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a
gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd
â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd: ·
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal
cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o
dros 25% o’r capasiti presennol.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET ADDYSG Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn
y papurau i’r cyfarfod. |