Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Elin
Hywel a’r Cyng. Gareth Coj Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Rhys Tudur
(nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1038/41/LL)
ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth
Roberts a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.2 (C22/1020/11/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Stephen
Churchman (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3
(C22/1102/36/AC), ar y rhaglen Amlygodd y Cyng. Gruffydd Williams ei fod wedi derbyn llythyr yn
gwrthwynebu cais C21/1038/41/LL Tŷ'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd.
Cyfeiriodd y llythyr ymlaen i’r Rheolwr Cynllunio. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C21/1038/41/LL Ty'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais, yn groes i’r argymhelliad. Byddai’r bwriad yn
sefydlu safle carafanau teithiol newydd mewn lleoliad ble ceir gormodedd o
safleoedd carafanau teithiol a sefydlog presennol, gan beri niwed i ansawdd
gweledol y dirwedd yn ogystal ac achosi aflonyddwch sŵn a fyddai’n cael
effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau’r cymdogion cyfagos, yn groes i amcanion
polisi TWR 5 a PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Cofnod: Sefydlu maes carafanau teithiol
(19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig Bu i rai Aelodau
ymweld â’r safle a’r ardal o gwmpas Afonwen bore 27ain Chwefror 2023 a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais
ydoedd ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol
i 19 uned, ymestyn adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig
ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 16
Ionawr 2023 er mwyn i’r Aelodau gynnal ymweliad safle. Ers cyflwyno’r cais i
gyfarfod 16 Ionawr 2023, derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad. Nodwyd, gan mai’r
bwriad yw creu safle ar gyfer carafanau teithiol, ystyriwyd y cais o dan Bolisi
TWR 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) sy’n gosod cyfres
o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Mynegwyd bod maen prawf 1 o’r polisi yn
datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel
o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac wedi’i guddio’n dda gan nodweddion
presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd
i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol. Eglurwyd y
byddai’r bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad gyda choed aeddfed
ar y terfynau ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad
atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin
orllewinol newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o
fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig a ni ystyriwyd y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y
dirwedd. Amlygwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o
safbwynt gofod a chyfleusterau - derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol. Ym mhwyllgor
Ionawr 2023, amlygwyd pryderon am yr ‘effaith gronnus’ o ran agosatrwydd y
safle at safleoedd carafanau sefydlog eraill megis Hafan y Môr ac Ocean Heights
a safle teithiol Afon Wen gyferbyn a Sŵn y Môr i’r cefn. Er bod sawl safle
sefydlog a teithiol yn y cyffiniau, ni ystyriwyd yr ardal dan sylw yn esiampl o
leoliad sydd o dan bwysau aruthrol o ran datblygiadau twristiaeth o’r fath.
Mynegwyd, yn wahanol i bolisi TWR 3 sy’n ymwneud a safleoedd carafanau
sefydlog, nid yw effaith gronnus yn ystyriaeth ym meini prawf polisi TWR 5 gan
mai defnydd dros dro yw’r defnydd teithiol gyda llai o effaith na strwythurau
sefydlog. Fodd bynnag, mae’r meini prawf eu hunain yn ymateb i’r effaith
gronnus yn yr ystyr na ddylid caniatáu safleoedd mewn mannau ymwthiol nad ydynt
yn agos i’r prif rwydwaith ffyrdd. Cyfeiriwyd at
baragraff 6.3.81 o’r polisi sydd yn nodi na ddylid caniatáu carafanau mewn
lleoliadau agored ger yr arfordir nac mewn AHNE - y safle yma wedi ei leoli i
ffwrdd o leoliad arfordirol agored a heb unrhyw ddynodiad tirwedd i’r
cyffiniau. Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl nodwyd, ar sail y pellter a natur guddiedig y cae, ni ystyriwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adeiladu ysgol
gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30
lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd
a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen
safle Ysgol Glanadda AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Gareth Roberts, Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd
Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n
ymwneud a'r materion canlynol: 1.
Amser
(5 mlynedd) 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Amod Tir Llygredig 4. Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol 5. Rhaid cwblhau arolwg ffotograffig 6. Sicrhau enw ac arwyddion Cymraeg /
Dwyieithog 7. Rhaid cytuno Cynllun Teithio i'r Ysgol
gyda'r Uned Trafnidiaeth a gweithredu'n unol â gofynion y cynllun hwnnw Nodiadau 1.
Dŵr
Cymru 2.
Cyfoeth
Naturiol Cymru 3.
Uned
Draenio Tir Cofnod: Adeiladu
ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa
20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin
ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer
adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda. a)
Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu
mai cais ydoedd ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer 200 o
ddisgyblion a fyddai'n cynnwys meithrinfa a chylch meithrin. Byddai’r
datblygiad yn galluogi adleoli Ysgol Ein Harglwyddes o'i safle presennol ger y
bont rheilffordd ar Ffordd Caernarfon, Bangor, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu
o fewn adeilad a safle cyfyngedig, sy’n gwneud dysgu ac addysgu dyddiol yn
heriol. Ategwyd bod yr adeilad presennol yn dod at ddiwedd ei oes wasanaethol
ac mae problemau cynnal a chadw parhaus yno. Adroddwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda holl feini prawf Polisi ISA 2, sef
polisi sy’n gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd, ynghyd a Pholisi
ISA 4 sy’n dynodi Llecynnau Agored sydd i'w gwarchod rhag datblygiad (y cae
chwarae ar y safle wedi ei ddiogelu dan y dynodiad hwn). Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad
a fyddai o raddfa a gwedd a fyddai'n addas ar gyfer ei safle dinesig. Mae'r
ffaith y bydd nodweddion o gymeriad yr ysgol bresennol, megis brics Rhiwabon
coch, yn cael eu hymgorffori yn y dyluniad yn pwysleisio'r dilyniant o'r
sefyllfa bresennol. Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd, wrth gynyddu maint yr ysgol ac
annog y defnydd o fannau allanol, y gall bod cynnydd mewn sŵn i drigolion
tai cyfagos. Wedi dweud hynny, dim ond am oriau cyfyngedig bydd yr ysgol yn
agored a’r rhan fwyaf o’r amser hynny bydd y plant yn yr adeilad. Ar y cyfan,
wrth ystyried nad oes newid defnydd i'r safle, ni ystyriwyd bydd y datblygiad
yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r ardal leol na’i thrigolion yn y tymor
hir er, yn anorfod, bydd peth sŵn ac aflonyddwch yn ystod y cyfnod
adeiladu. Wrth drafod materion
priffyrdd nodwyd bod Asesiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda'r cais oedd yn
nodi, er bod y safle wedi gweithredu’n flaenorol fel ysgol sydd â threfniant
mynediad hanesyddol, bod gwelliannau ychwanegol. Derbyniwyd sylwadau oddi wrth
yr Uned Trafnidiaeth oedd yn datgan pryder ynghylch effeithiau posibl y
datblygiad ar lif trafnidiaeth a pharcio yn yr ardal ac ynghylch y llwybrau
cerdded fydd ar gael i blant fynychu'r ysgol. Er hynny, ystyriwyd bod posib
rheoli’r materion hynny os byddai’r Ysgol yn ymrwymo i Gynllun Teithio i'r
Ysgol. Wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio perthnasol, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o
achosi effeithiau andwyol annerbyniol hirdymor i drigolion gerllaw na’r gymuned
yn gyffredinol ac y bydd modd rheoli unrhyw effeithiau byrdymor trwy osod
amodau priodol ar y datblygiad. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau Lleol y
sylwadau canlynol: ·
Eu bod yn gefnogol i’r cais ·
Bod yr hen ysgol mewn lle annifyr a phrysur ·
Bod symud i leoliad agos yn gwneud synnwyr · Bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C22/1102/36/AC Tir i’r de o’r A487 ac i’r dwyrain o’r B4411 Diwygio amod
1 (cyfnod cychwyn gwaith) ar ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL er ymestyn y cyfnod i
ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd bellach AELOD LLEOL:
Cynghorydd Stephen Churchman Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau 1. 5
mlynedd 2.
Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol
â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd yng nghais C17/0772/36/LL ynghyd a’r
cynllun diwygiedig o ran gwyro’r llwybr cyhoeddus ganiatawyd yng nghais
C18/0168/36/LL a’r Adroddiad Gwerthusiad Ecolegol a’r Adroddiad Asesiad
Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd ar y cais cyfredol. 3. Gorffeniad
i'w gytuno (gan gynnwys lliw'r ffens) 4. Cytuno
cynllun i waredu dŵr brwnt a dŵr wyneb 5. Cytuno
cynllun rheoli amgylcheddol adeiladu 6.
Cytuno cynllun rheoli traffig
adeiladu a derbyn cymeradwyaeth Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar faterion
mynediad (ac unrhyw amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i hyn). 7. Cwblhau’r tirweddu o fewn y tymor
plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r bwriad. 8. Sicrhau
gwyro / gwarchod y llwybr. 9. Amodau
Archeolegol. 10. Amser
gweithio. Nodyn Dŵr Cymru ac Uned Dŵr ac
Amgylchedd YGC Cofnod: Diwygio amod 1 (cyfnod cychwyn gwaith) ar
ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL er ymestyn y cyfnod i ddechrau'r gwaith am 5
mlynedd bellach a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu
mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod
C17/0772/36/LL ar gyfer is-orsaf newydd a seilwaith cysylltiedig er mwyn
ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad am 5 mlynedd ychwanegol. Mynegwyd bod angen compownd yr is-orsaf i roi lle i'r
trawsnewidydd trydanol sengl a fyddai'n 'gostwng' foltedd 400kv cylched Pentir
-Trawsfynydd i foltedd o 132kv. Pan
gyflwynwyd cais C17/0772/36/LL roedd y gwaith yn gysylltiedig gyda’r Wylfa
newydd arfaethedig. Pan ddisgynnodd y
cynlluniau ar gyfer Wylfa newydd drwodd ni ymgymerwyd gyda’r gwaith yn
gysylltiedig gyda’r is-orsaf drydan.
Erbyn hyn mae angen yr un gwaith ar gyfer cysylltu i ffermydd gwynt
alltraeth (offshore) fel y gallent gysylltu i’r
rhwydwaith trydan ehangach. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor am ei fod yn ymwneud gyda safle dros 0.5
hectar. Eglurwyd mai cais i ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 flynedd
ychwanegol oedd gerbron, ac nad oedd bwriad newid i’r cynllun. Ategwyd bod
egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn a’i sefydlu eisoes gan yr Awdurdod Cynllunio
Lleol drwy ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyrued felly os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa bolisi
cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais hwn yn wreiddiol. Nodwyd bod polisi
ISA 1 yn berthnasol i’r ddarpariaeth o isadeiledd newydd ac yn datgan bydd
cynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth, yn
cael ei ganiatáu yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl. Ategwyd bod Polisi
Strategol PS5 yn y CDLl cyfredol yn cefnogi cynigion
datblygu lle gellid dangos eu bod yn gyson gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy.
O safbwynt y datblygiad yma, dangoswyd yr angen amlwg am yr is-orsaf
arfaethedig ac er wedi ei lleoli y tu allan i unrhyw derfynau datblygu penodol;
mae'r is-orsaf wedi mynd drwy broses arfarnu dylunio a lleolwyd yr opsiwn a
ffafrir ger bodolaeth llinell drydan uwchben 400kv Pentir - Trawsfynydd. Yng nghyd-destun
materion bioamrywiaeth, llifogydd a draenio, nodwyd na dderbyniwyd
gwrthwynebiadau gan Gyfoeth Naturiol
Cymru, yr Uned Bioamrywiaeth nac Uned Dwr ac Amgylchedd YGC Ni ystyriwyd fod y
bwriad o ymestyn yr amser a roddwyd o dan ganiatâd rhif C17/0772/36/LL er mwyn
cychwyn ar y datblygiad yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a
chenedlaethol perthnasol a bod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol yn
ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol fel y cynhwyswyd o fewn y caniatâdau blaenorol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Bod y cais yn un syml a chlir ·
Bod yr angen am y compownd yn parhau ·
Nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn ·
Ei fod wedi ymgynghori gyda thrigolion lleol yn ystod y cais
gwreiddiol ·
Yr unig ‘effaith’ fydd ger y brif ffordd yn ystod y gwaith adeiladu ·
Dim gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag
amodau 1. 5
mlynedd 2. Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |