Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Trevor Edwards, Peredur Jenkins, H. Eifion Jones
(Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn) a Glyn Thomas |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.1.17 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 19eg o Ionawr fel rhai cywir |
|
Ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn unol â
Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth
Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r
trysorlys, i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd
y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2017/18, fel ei addaswyd i bwrpas
y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2017/18 ei gymeradwyo gan y
Cyngor llawn ar 2 Mawrth 2017. Yn ychwanegol,
gofynnwyd i’r Pwyllgor Pensiynau wneud cais i’r Cyngor, i ganiatáu i arian dros
ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol yr
Awdurdod o’r 1af o Ebrill ymlaen. Eglurwyd bod cronni'r llif arian yn denu llog
uwch ac yn isafu costau bancio. Amlygwyd bod yr
arian yma yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â’r DSRhT er mwyn
uchafu dychweliadau. Nodwyd bod cyfraddau llog bellach yn isel iawn ac felly
dulliau creadigol eraill o fuddsoddi yn cael eu hystyried. Cadarnhawyd hefyd
mai cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd
risg. Cynigiwyd ac
eiliwyd i dderbyn yr argymhellion. PENDERFYNWYD - cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r
Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol am 2017/18, fel ei addaswyd i
bwrpas y Gronfa Bensiwn - gofyn i’r Pwyllgor Pensiynau wneud cais i’r Cyngor
(er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn
barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2017
ymlaen. Nodwyd er gwybodaeth, bod cynnig
wedi ei wneud i aelodau mwyaf y Gronfa (Cyngor Môn, Conwy a Gwynedd, Y Parc Cenedlaethol
a Heddlu Goledd Cymru) i dalu’r elfen lwmp swm o’u cyfraniadau (i ariannu’r
diffyg hanesyddol) yn llawn ar ddechrau’r cyfnod tair blynedd. Buasai hyn yn
sicrhau gwell dychweliadau i’r cyflogwyr rheiny nac adnau arian mewn banciau,
ac hefyd yn rhoi llif arian mwy positif i’r Gronfa Bensiwn. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2017/18 - 2019/20 Ystyried
adroddiad y Pennaeth Buddsoddi Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Adroddwyd i’r
Pwyllgor ar yr 19eg o Ionawr 2017, bod gofyn statudol i adolygu a chyhoeddi
Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31.3.2017. Fel rhan o’r adolygiad, rhaid
i’r awdurdod gweinyddol, ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd yn rhan o’r
cynllun, gydag actiwari ac ymgynghorydd y gronfa, ac unrhyw bersonau eraill y
maent yn eu hystyried yn addas. Ar 20fed o Ionawr
2017 anfonwyd llythyr ymgynghorol i bob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, i
actiwari ac ymgynghorydd y Gronfa, ac i gynrychiolwyr Unsain, TGWU (Transport
and General Workers Union) a’r GMB (Undeb Gyffredinol Prydain,) yn ymgynghori
ar y polisïau a gytunwyd arnynt. Roedd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben
28.2.2017. Adroddwyd bod un
ymateb wedi ei dderbyn yn cytuno gyda’r gyfradd cyfraniadau cyflogwyr
arfaethedig ar gyfer y tair blynedd nesaf. Nodwyd bod y Datganiad Strategaeth
Cyllido yn ddi-newid o’r fersiwn a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor 19.1.2017.
Tynnwyd sylw at yr atodiad oedd yn cynnwys manylion cyfraniadau cyflogwyr a bod
y rhagdybiaethau actiwaraidd, wedi’u egluro a’u trafod gyda chyflogwyr yng
nghyfarfod Prisiant y Gronfa ar 10/11/2016. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth
Cyllido (DSC) arfaethedig. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI 2017/18 - 2019/20 Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Datganiad
Strategaeth Buddsoddi (sydd yn cymryd lle, mewn enw yn unig, y Datganiad o
Egwyddorion Buddsoddi - yn unol â gofynion deddfwriaeth newydd).Ymgynghorwyd a
phartïon a diddordeb ond ni chafwyd yr un ymateb o fewn y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd nad oedd
cyfyngiadau mewn buddsoddiadau penodol yn y ddeddfwriaeth newydd ac felly nid
oedd angen codi cyfyngiadau yn swyddogol. Yn dilyn cyfarfod gyda’r Panel
Buddsoddi penderfynwyd ceisio osgoi
costau symud asedau drwy sefyll y risg o beidio di -risigio am y flwyddyn yn
wyneb sefydlu Pwl Cymru. Nodwyd bod y drafodaeth gyda’r Panel Buddsoddi wedi
bod yn un fanwl, dechnegol a petai sefyllfa yn codi o ddi-risg o fewn y tair
blynedd nesaf byddai modd ail gyflwyno'r mater i’r Pwyllgor. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r posibilrwydd o lefelau staffio yn lleihau i’r dyfodol ac o
ganlyniad, cyfraniadau i’r Gronfa yn lleihau, awgrymwyd y byddai’n werthfawr
cael rhagolwg syml o’r sefyllfa drwy gynnig ystadegau yn yr Adroddiad Blynyddol PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth
Buddsoddi arfaethedig. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelodau a’r swyddogion am y wybodaeth a’u cefnogaeth dros y
cyfnod a dymunwyd pob dymuniad da i’r Cynghorydd Margaret Lyon sydd yn sefyll i
lawr gyda Chyngor Bwrdeistrefol Conwy. |