Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2017/18 Cofnod: Penderfynwyd ail ethol y Cynghorydd Stephen
Churchman yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
ETHOL IS GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2017/18 Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn
2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peter Read. Nodwyd nad oedd
cynrychiolaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy wedi ei gadarnhau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Eglurwyd nad oedd angen i bawb ddatgan buddiant fel rhai oedd yn derbyn
/ cyfrannu at y Gronfa Bensiwn |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.3.2017 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 16 o Fawrth fel rhai cywir. |
|
PWL BUDDSODDI CYMRU I ystyried
adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Y Pennaeth Cyllid yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am ddatblygiad
Pŵl Buddsoddi Cymru fydd yn gerbyd i fuddsoddi asedau’r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng
Nghymru. Rhoddwyd
cyflwyniad byr ar gefndir datblygu’r Pŵl ac yng nghyd-destun trefniadau
llywodraethu, amlygwyd y byddai’r Cydbwyllgor Llywodraethu yn cyfarfod yn
ffurfiol ddiwedd Mehefin. O ran cynrychiolaeth Cronfa Gwynedd, argymhellwyd yr
angen i gynllunio cynrychiolaeth briodol ar y Cydbwyllgor, ac awgrymwyd mai
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau fuasai’r cynrychiolydd tebygol, ynghyd a’r
Pennaeth Cyllid. Yn absenoldeb y Cadeirydd, awgrymwyd y byddai’r Is-gadeirydd
yn mynychu. Eglurwyd mai cam
cyntaf y Cydbwyllgor fydd derbyn adroddiadau ar y broses caffael ar gyfer
penodi Gweithredwr ar gyfer y Cerbyd Buddsoddiadau Cyfunol, gan argymell
apwyntio’r cynigydd gorau fyddai’n cyrraedd gofynion y fanyleb. Ategwyd bod 8
Gweithredwr wedi ymateb i’r Holiadur Dethol, gyda 6 ohonynt yn cael gwahoddiad
i dendro. Er mai’r bwriad yw dewis Gweithredwr yn ystod Haf 2017, ni fydd yn
gweithredu tan Ebrill 2018. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â pherthynas y Pwyllgor Pensiynau gyda’r Gweithredwr yng
nghyd-destun cynnal trafodaethau a chyfathrebu, nodwyd y byddai angen efallai,
i’r Gweithredwr gynnig manylion o’u trefniadau ymgysylltu a chyfathrebu i’r
wyth gronfa. Mewn ymateb i’r sylw awgrymwyd i’r Cadeirydd, yng nghyfarfod nesaf
y Cydbwyllgor, cynnig y mater yma fel eitem benodol ar raglen y Cydbwyllgor. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chostau cosb torri cytundeb gyda rheolwyr mandadau
presennol Cronfa Gwynedd, nodwyd y byddai costau trosiannol posib. Ategwyd bod
darn o waith ymchwil ar y gweill i ystyried rhannu costau ymysg yr wyth gronfa
(ar sail gwarchodaeth). PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad cynnydd. PENDERFYNWYD mai Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau
fyddai yn cynrychioli Gwynedd ar y Cydbwyllgor Llywodraethu, gyda'r
Is-gadeirydd yn mynychu yn ei absenoldeb. |
|
CYNHADLEDDAU PENSIYNAU I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r aelodau enwebu unigolion i fynychu
cynadleddau ar ran Cronfa Gwynedd. Amlygwyd bod y Pwyllgor yn arfer anfon
cynrychiolwyr ar sail rota i nifer o gynadleddau yn
ystod y flwyddyn, er mwyn cynnal a gwella sgiliau a gwybodaeth aelodau a
swyddogion. PENDERFYNWYD ar yr enwebiadau canlynol ar
gyfer cynadleddau 2017 ·
Cynhadledd Ymddiriedolwyr
CPLlL, Bournemouth –
Cynghorydd Aled Wyn Jones, Cynghorydd Peter Read (Cynghorydd Seimon Glyn fel
eilydd i’r Cynghorydd Peter Read) ·
Cynhadledd Copa
Buddsoddi LGC, Casnewydd – Cynghorydd Peredur Jenkins, Cynghorydd John Pughe
Roberts (Cynghorydd John Brynmor Hughes fel eilydd) ·
Cynhadledd
Flynyddol LAPFF, Bournemouth – Cynghorydd Stephen Churchman |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD PENSIYNAU I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y
Pennaeth Cyllid yn rhannu dyddiadau cyfarfodydd Pensiynau er mwyn galluogi i’r
Aelodau gynllunio’n briodol. Amlygwyd, er mai'r Pwyllgor Pensiynau yw’r corff
sydd yn gwneud y penderfyniadau ar gyfer y Gronfa Bensiwn bod y Bwrdd Pensiwn,
Y Panel Buddsoddi a'r Cydbwyllgor Pŵl Cymru yn cyfrannu at drefniadau megis,
rhoi trosolwg ar reolaeth a gweithrediad y Gronfa Bensiwn, craffu perfformiad
buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn a llywodraethu pŵlio
buddsoddiadau dros yr wyth gronfa Gymreig. Mewn ymateb i’r adroddiad nodwyd
bod y wybodaeth yn fuddiol a gofynnwyd i’r aelodau nodi'r dyddiadau yn eu
dyddiaduron. Cytunwyd i gylchredeg dyddiadau’r “hyfforddiant sylfaenol i
ymddiriedolwyr” ar gyfer aelodau newydd y Pwyllgor, unwaith daw’r wybodaeth i
law. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth |