Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, John Griffith (Cynrychiolydd Cyngor
Sir Ynys Môn), John Brynmor Hughes a Peredur Jenkins, |
||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: i.
Trefniadau Buddsoddiadau Ecwiti Preifat / Dyraniad
Asedau rhwng Cronfeydd Eglurwyd bod y dewis rhwng wahanol gronfeydd a
gynigir gan Partners Group fel arfer yn cael eu cyflwyno i dderbyn sêl bendith
y Pwyllgor, ond gan nad oedd y wybodaeth gerbron y pwyllgor, awgrymwyd i’r
Pwyllgor gymeradwyo i ddirprwyo grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad
gyda’r Cadeirydd, wneud y penderfyniad ac adrodd yn ôl ar hynny i’r Pwyllgor yn
mis Tachwedd. Penderfynwyd dirprwyo grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r
Cadeirydd, wneud y penderfyniad ac adrodd yn ôl ar hynny i’r Pwyllgor yn mis
Tachwedd. ii. Proses Caffael
Gweithredwr Adroddwyd bod Partneriaeth Pensiynau Cymru yn y
broses o benodi Gweithredwr, ond gan fod y broses caffael cymhleth wedi cymryd
amser, adroddwyd nad oedd y cyd-bwyllgor wedi cyfarfod i wneud yr argymhelliad
i’r Cynghorau unigol, am y tro. Derbyniwyd y wybodaeth iii. Cynrychiolydd newydd ar Fwrdd
Cynghori Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol Yn dilyn ymddeoliad Mary Barnett, o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol adroddwyd bod y Gymdeithas bellach wedi enwebu Clive Lloyd (Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe) i gynrychioli Cymru (yr 8 gronfa yng Nghymru) ar Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun.
Derbyniwyd y wybodaeth
|
||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12.6.17 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 12 o Fehefin 2017 fel rhai cywir. |
||
MARKETS IN FINANCIAL INSTRUMENTS DIRECTIVE II (MiFID II) I’r pwyllgor ethol am statws cleient proffesiynol a cymeradwyo cais gyda’r holl sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau gellir parhau i weithredu strategaeth buddsoddi effeithiol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Eglurwyd bod awdurdodau
lleol o dan y Ddeddf gyfredol yn y Deyrnas Unedig yn cael eu categoreiddio yn awtomatig
fel cleientiaid ‘proffeshiynol per se’
o ran busnesau nad ydynt o fewn sgôp MiFID. Maent hefyd yn cael eu
categoreiddio fel cleientiaid ‘proffeshiynol
per se’ o ran busnes o fewn sgôp MiFID os ydynt yn bodloni prawf Large
Undertakings MiFID. Yn unol a chyflwyniad gan MiFID, o Ionawr y 3ydd 2018, ni
fydd modd i gwmnïau gategoreiddio awdurdod cyhoeddus lleol nad ydyw yn rheoli
dyled gyhoeddus fel ‘cleient proffesiynol
per se’ ac felly bydd angen dosbarthu pob awdurdod lleol fel cleientiaid
manwerthu oni bai bod cwmnïau yn symud i fyny i statws proffesiynol detholus. I symud i fyny i statws
cleient detholus gall awdurdodau lleol, lle nad ydynt yn bodloni’r Large
Undertaking MiFID, ddewis gwneud hynny drwy gwblhau ‘meini prawf symud i fyny’
penodol. Adroddwyd bod MiFID yn
caniatáu i gleientiaid manwerthu sy’n dewis cael eu trin fel cleientiaid
proffeshiynol fodloni dau brawf wrth gael eu hasesu – prawf meintiol a phrawf
ansoddol. Er mwyn i Cyngor Gwynedd
gael eu trin fel corff proffesiynol a ‘symud i fyny’ bydd angen cwblhau camau
priodol erbyn y 3ydd o Ionawr. Bydd angen cwblhau holiadur safonol meintiol ac
ansoddol i’r diwydiant ynghyd a llythyru pob cwmni a rheolwr buddsoddi. Ategwyd bod y broses yn
ffurfioli y drefn bresennol a bod cyfathrach broffesiynol eisoes yn bodoli
rhwng y Gronfa a’r cwmnïau. Byddai peidio ‘symud i fyny’ yn debygol o greu problemau masnach. PENDERFYNWYD i)
Nodi'r effaith bosib ar y strategaeth fuddsoddi o ddod yn gleient manwerthu
o 3 Ionawr 2018 ymlaen. ii)
Cymeradwyo bwrw ati yn syth i wneud cais am statws cleient proffesiynol
detholus gyda'r holl sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau y gall barhau i
weithredu strategaeth fuddsoddi effeithiol. iii)
Wrth ymgeisio am statws
cleient proffesiynol, bod y pwyllgor yn cydnabod ac yn cymeradwyo ei fod yn
ildio'r warchodaeth sydd ar gael i gleientiaid manwerthu. iv)
Dirprwyo i'r Swyddog Adran 151 y caniatâd perthnasol er dibenion cwblhau'r
ceisiadau a phenderfynu ar y seiliau priodol ar gyfer y cais hwnnw. |
||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd er
gwybodaeth ddatganiad o gyfrifon y Gronfa Bensiwn ôl-Archwiliad ynghyd ag
adroddiad ISA260 gan Deloitte. Amlygwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu
eisoes wedi cymeradwyo'r cyfrifon yn eu cyfarfod ar y 28ain o Fedi a bellach
wedi eu hardystio yn derfynol. Nodwyd mai arfer dda fyddai cyflwyno'r wybodaeth
i’r Pwyllgor Pensiynau. Tynnwyd sylw at
Adroddiad Deloitte (Swyddfa Archwilio Cymru) gan nodi bod yr Archwilydd yn
bwriadu cyhoeddi adroddiad diamod ar y datganiadau ariannol yn amodol ar ddatrys
mân faterion oedd heb eu cwblhau. Nodwyd bod partner cwmni Deloitte wedi datgan
bodlonrwydd ynghylch y materion hyn a bod dogfennau perthnasol bellach wedi ei
lofnodi yn sgil y drafodaeth yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Mewn ymateb i’r
adroddiadau, nododd yr Aelodau eu diolch i’r tîm am eu gwaith calonogol. PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad o Gyfrifon
ac Adroddiad Deloitte / Swyddfa Archwilio Cymru |
||
RHEOLAETH TRYSORLYS 2017/18 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN Ystyried adroddiad Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth yr adolygiad canol blwyddyn sef agweddau
perthnasol i’r Gronfa Bensiwn o’r adroddiad oedd eisoes wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 28ain o Fedi 2017. Amlygwyd bod Cod Ymarfer y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Rheoli
Trysorlys (Cod TM CIPFA) yn ei gwneud yn ofynnol bod cynghorau yn adrodd ar
berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys wrth osod y strategaeth (mis Mawrth
yn y flwyddyn ariannol flaenorol), ar ôl y flwyddyn (mis Mai yn y flwyddyn
ariannol ganlynol), ac ar ganol y flwyddyn (ym mis Medi eleni). Amlygwyd yn yr adroddiad ar weithgareddau’r trysorlys, ynghyd â’r monitro
risg a rheolaeth risg gysylltiedig. Nodwyd, bod yr hyblygrwydd yn cael ei reoli
ac mai’r flaenoriaeth yw cadw arian y gronfa yn saff, a bod ceisio'r llog gorau
yn eilradd i’r diogelwch. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerth y bunt Brydeinig yn sgil
trafodaethau Brexit, nodwyd bod pryderon wedi codi, ond bod ymateb y marchnadoedd yn dilyn canlyniad yr etholiad
wedi bod yn ddistaw gyda hyder busnes yn ddibynnol ar gynnydd (neu ddim)
trafodaethau Brexit. Nodwyd bod buddsoddiadau wedi perfformio yn well yn
nhermau'r bunt, ond fod gwerth buddsoddiadau yn ddibynnol ar berfformiad asedau
mewn gwledydd byd eang. PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth |