Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
19.06.2018 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 19eg o Fehefin 2018 fel rhai cywir |
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi
Diwygiedig. Nodwyd bod y Pwyllgor Pensiynau eisoes wedi mabwysiadu’r Datganiad
ym mis Mawrth 2017 yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd. Amlygwyd bod y datganiad
bellach yn cynnwys yr egwyddorion buddsoddi yr oedd y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau
wedi eu trafod a chytuno mewn cyfarfodydd blaenorol, yn sgil y sesiwn datblygol
gydag ymgynghorwyr Hymans Robertson. Ategwyd bod yr egwyddorion yn amlygu dyheadau’r
Gronfa yn glir, fydd y eu tro yn gosod arweiniad i Reolwyr Asedau’r Gronfa, yn
ogystal â gosod cyfeiriad i drafodaethau gyda chydymarferwr
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mewn ymateb i
gwestiwn cadarnhawyd, yn unol â’r ail egwyddor yn y papur, y byddai’r Gronfa yn
edrych i fuddsoddi o fewn ardal Cymru pan fydd buddiannau anariannol yn deillio
o hynny, yn amodol ar fodloni gofynion y dyletswydd ymddiriedol. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth
Buddsoddi. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN 2018-2019 I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn
ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o
Ebrill a 30 Medi 30ain 2018 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn
cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y
Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
CYSONI ISAFSWM PENSIYNAU GWARANTEDIG I ystyried
adroddiad y Rheolwr Pensiynau Cofnod: Cyflwynwyd er
gwybodaeth, ddiweddariad i’r Pwyllgor o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud i gysoni’r Isafswm Pensiwn
Gwarantedig. Atgoffwyd yr aelodau bod tîm o dri wedi ei sefydlu yn Ionawr 2016
o dan arweiniad y cyn Reolwr Pensiynau Mr Gareth Jones. Gyda’r broses yn dod i ben Rhagfyr 2018,
hysbyswyd y Pwyllgor bod sefyllfa Gwynedd yn un cymharol dda a chanmolwyd y tîm
am eu gwaith da. Nodwyd bod arbenigedd y cyn Reolwr wedi sicrhau arbediad
sylweddol i’r Cyngor o ddeall bod cronfeydd pensiwn eraill yn cyflogi
ymgynghorwyr arbenigol drud yn y maes, neu heb weithredu o gwbl ac felly yn agored
i risg ariannol. Edliw'r sefyllfa
bresennol bod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd 119 o achosion a ddynodir fel stalemate lle mae’r Cyngor ac Adran Cyllid a Thollau
EM (CThEM) yn anghytuno gyda’r wybodaeth sydd wedi ei
gyflwyno. Cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau nad oedd gan CThEM
unrhyw sail i herio gwybodaeth y Cyngor a bod y Cyngor yn gwbl bendant bod eu
gwybodaeth yn gywir gyda thystiolaeth i brofi hynny. Cadarnhaodd y swyddogion
bydd stalemates Gwynedd yn cael eu datrys yn
2019 - 2020, ond fod y sefyllfa
gyffredinol gydag Isafswm Pensiwn Gwarantedig a stalemates
ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan Lywodraeth San Steffan. Gyda’r broses
ffurfiol yn dod i ben 31 Rhagfyr 2018, nodwyd y byddai unrhyw waith sydd heb ei
ddatrys yn trosglwyddo i waith dydd i ddydd yr Adran Bensiynau. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ac awgrymwyd anfon
llythyr ar ran y Pwyllgor i ddiolch i Mr
Gareth Jones am waith arwrol y Tîm Cysoni. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a derbyn
cynnig penodol ar gyfer cost trwydded meddalwedd sydd yn wybodaeth fasnachol
sensitive. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
tanseilio hyder darparwyr i ddod a prisiau ymlaen gerbron y Cyngor a felly
gallu’r Cyngor i gaffael yn llwyddianus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau
yma ystyri’r y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus Cofnod: Penderfynwyd
bod budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabuwyd fodd bynnag fod adegau, er gwarchod
buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â derbyn
cynnig penodol ar gyfer cost trwydded meddalwedd sydd yn wybodaeth fasnachol
sensitif. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r
Cyngor i gaffael yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau
yma ystyriwyd y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
SYSTEM HUNAN WASANAETH AR GYFER AELODAU'R CYNLLUN PENSIYNAU I ysytired adroddiad y Rheolwr Pensiynau (Copiau arwahan i aelodau’r Pwyllgor
yn unig) Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn gwneud cais i’r Pwyllgor gymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer
gweithredu a rhedeg system newydd Hunan Wasanaeth Aelodau. Amlygwyd y prif resymau dros yr angen i ddiweddaru’r
system a cafwyd cyflwyniad byr yn cymharu'r hen a’r newydd, a nodwyd byddai
Gwynedd yn dewis llwyfannu’r meddalwedd newydd ar galedwedd o fewn y Cyngor.
Ategwyd bod negodi gyda’r darparwr yn parhau er mwyn isafu’r pris. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol cytunwyd y byddai system newydd yn cynnig gwerth am arian
ac yn cyfarch gofynion Polisi Iaith y Cyngor. Anogwyd y swyddogion i barhau i negodi’r
pris a pwyso i gael rhedeg y system ar weinydd y Cyngor. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyllid hyd at y cyfanswm
nodwyd yn yr adroddiad |