Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy) a John
Brynmor Hughes. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
08.11.2018 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 8fed o Dachwedd 2018 fel rhai cywir |
|
IS GRONFA INCWM SEFYDLOG I ofyn i’r
Pwyllgor Pensiynau ystyried a phenderfynu
cytuno gyda’r opsiynau incwm sefydlog ar gyfer
Cronfa Pensiwn Gwynedd yn Pŵl Cymru Mae atodiad A ar wahân ar
gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig Mae’r ddogfen yn
eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol ( yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn
â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Mae’r atodiad ynglŷn â threfniadau buddsoddi sydd yn fasnachol sensitif
a chyfrinachol i’r cwmni dan sylw.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
tanseilio hyder darparwyr i ddod
a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn
llwyddiannus. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn, mae’r
mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried is-gronfeydd ar gyfer asedau ‘incwm sefydlog’
fel opsiynau er mwyn i Gronfa Bensiwn Gwynedd fuddsoddi drwy Bartneriaeth Pensiynau
Cymru. Eglurwyd, fel mesur wrth gefn, fod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd fynediad at asedau ‘incwm sefydlog’
goddefol drwy’r cytundeb buddsoddiadau goddefol. Nodwyd, mewn
cyfarfod o’r Panel Buddsoddi ar 15/11/2018 cyflwynwyd gwybodaeth ac arweiniad i
aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ynglŷn ag is-gronfeydd Partneriaeth Pensiynau
Cymru ar gyfer asedau ‘incwm sefydlog’ a thrafodwyd yr opsiynau posib. Awgrymwyd
y byddai cyfle i drosglwyddo asedau i bortffolios gweithredol y Bartneriaeth ar
ddechrau Haf 2019. Gyda dewis posib o
ddosbarthu asedau rhwng pedwar math o is-gronfa incwm sefydlog, casgliad
aelodau’r Panel Buddsoddi oedd y byddai’r Gronfa Dychweliadau Absoliwt a Chronfa
Credyd Aml Ased o ddiddordeb i Wynedd ar adeg lansio’r is-gronfeydd Partneriaeth
Pensiynau Cymru. Cyflwynwyd crynodeb
o’r opsiynau posib fel atodiad eithriedig i’r adroddiad ac felly, fel bod modd
i’r aelodau eu trafod mewn manylder, penderfynwyd, CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD oherwydd bod budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
fasnachol heb ei gyhoeddi. Roedd
yr atodiad ynglŷn â threfniadau buddsoddi sydd yn fasnachol
sensitif a chyfrinachol i’r cwmni dan
sylw. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau
ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i fuddsoddi
yn llwyddiannus. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd
gorau. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth; ·
Roedd aelodau’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi barn swyddogion ac arbenigwyr Hymans a
Russell yn y maes, ac am ddilyn yr awgrym
gyflwynwyd. ·
Roedd aelodau’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle i weithio
gyda rheolwyr newydd, ynghyd a’r posibilrwydd o gadw asedau gydag
un o reolwyr cyfredol Cronfa Gwynedd. ·
Er nad oes bwriad
i Gronfa Gwynedd drosglwyddo asedau i Gronfa Credyd
Byd Eang, gofynwyd i’r Cadeirydd
amlygu egwyddorion buddsoddi cyfrifol perthnasol yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Partneriaeth
Pensiynau Cymru. PENDERFYNWYD – a)
Yn unol â’r cynnig, yn gyffredinol i ail-fuddsoddi
asedau incwm sefydlog cyfredol Cronfa Gwynedd yn is-gronfa Dychweliadau Absoliwt
Partneriaeth
Pensiynau Cymru, ac i ail-fuddsoddi asedau ecwiti neilltuwyd am y tro er mwyn
lleihau risg yn is-gronfa Credyd Aml Ased Partneriaeth Pensiynau Cymru. b)
Gan nad oedd holl reolwyr buddsoddi is-gronfeydd
Partneriaeth Pensiynau Cymru wedi eu cadarnhau’n derfynol eto, dirprwyo’r grym
i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i benderfynu
ar y dyraniadau terfynol rhwng yr is-gronfeydd, gan dilyn barn ac arweiniad pellach gan
arbenigwyr, fel bo angen. Gwahoddwyd y wasg ar cyhoedd yn ôl i’r
cyfarfod |
|
I ofyn i’r Pwyllgor Pensiynau ystyried a phenderfynu cytuno i fenthyg
gwarantau yn Pŵl Cymru. Mae atodiad B ar wahân ar gyfer
aelodau’r Pwyllgor yn unig Mae’r ddogfen yn eithriedig o dan Paragraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol ( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal
y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir
fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod
angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r atodiad ynglŷn â
threfniadau buddsoddi sydd yn fasnachol sensitif a chyfrinachol i’r cwmni dan
sylw. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly
gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y
rhesymau hyn, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno i Bartneriaeth Pensiynau Cymru gytuno i
fenthyg gwarant fel cyfle i gynyddu incwm o ecwiti yn y cronfeydd. Amlygwyd byddai
raid i bob cronfa Cymreig sydd yn rhan o Bartneriaeth Pensiynau Cymru gytuno
i’r cynnig cyn gweithredu. Cyfeiriwyd at
ddogfen gan Hymans Robertson oedd ynghlwm â’r
adroddiad, yn rhoi trosolwg ac eglurhad o’r broses, pam y byddai buddsoddwyr yn
benthyg stoc, a’r risgiau sydd
ynghlwm â hynny Nododd yr aelodau
bod y cynnig yn gyfle diddorol gyda risg isel, yn fodd o dderbyn ychydig o
enillion i’r gronfa tra’n lleddfu’r risg drwy warant. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyfyngu swm buddsoddiad perthnasol y Gronfa, ac os oes uchafswm wedi ei osod, nodwyd y
byddai modd gofyn y cwestiwn yng nghyfarfod nesaf Cydbwyllgor Partneriaeth
Pensiynau Cymru. PENDERFYNWYD, bod Cronfa Bensiynau Gwynedd yn
cytuno i Bartneriaeth Pensiynau Cymru fenthyg stociau o’r is gronfeydd. |
|
BWRDD YMGYNGHOROL Y CYNLLUN: RHEOLI COSTAU I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, adroddiad yn crynhoi argymhellion arfaethedig Bwrdd Cynghori’r
Cynllun fyddai’n dychwelyd cyfanswm cost y cynllun at ei darged gost o 19.5%
(amcangyfrifir mai 19.0% yw gwir gost y cynllun ar hyn o bryd). Nodwyd bod
rhaid gwneud newidiadau i fuddion os
am gyrraedd 19.5% a chyflwynwyd pecyn o argymhellion
i’r Ysgrifennydd Gwladol ym mis Tachwedd 2018. Ategwyd bod cyngor cyfreithiol a
barn Actiwari’r Llywodraeth wedi ei ystyried gan y
Bwrdd cenedlaethol. Amlygwyd y prif
newidiadau a thynnwyd sylw at effeithiau ariannol y pecyn. Byddai’r penderfyniad
terfynol ar y pecyn o welliannau yn cael ei wneud gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, gydag
ymgynghoriad byr yn debygol o gael ei’ gynnal ar ddechrau’r Gwanwyn, er mwyn
i’r gwelliannau fod yn effeithiol erbyn Ebrill 2019. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gosodiad targed o 19.5%, nodwyd bod y targed wedi ei osod
gan Lywodraeth San Steffan mewn cytundeb cenedlaethol gydag Undebau llafur perthnasol. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth; ·
Er y gost i’r gronfa ac i’r cyflogwyr, byddai’r
addasiadau o fudd i’r cyfranwyr. ·
Pryder am yr effaith ar gyflogwyr bychain. ·
Pryder na all cyflogwyr bychain fforddio’r
newidiadau, ac felly yn cael eu rhoi dan bwysau i ganfod cynllun gwahanol. ·
Pryder y byddai’r gronfa yn colli aelodau. ·
Derbyn mai arweiniad cenedlaethol sydd yma, ond
rhaid pwyso a mesur yn ofalus. PENDERFYNWYD
gwneud cais i’r Pennaeth Cyllid a’r Cadeirydd gyflwyno
sylwadau am bryderon yr aelodau i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth
Leol yn Llywodraeth San Steffan ac i’r Bwrdd Cynghori cenedlaethol ar gyfer y
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, pryd bydd ymgynghoriad ar hyn. |
|
STAFFIO UNED GWEINYDDU PENSIYNAU Cymeradwyo adnoddau
ychwanegol i alluogi'r Adran Gyllid i sefydlu
strwythur staff mwy gwydn ar gyfer
yr Uned Bensiynau Cofnod: Ymneilltuodd
Meirion Jones (Uwch Swyddog Cyfathrebu (Pensiynau) o’r ystafell yn ystod y
drafodaeth ganlynol. Cyflwynwyd
adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo adnoddau ychwanegol i alluogi’r Uned
Gyllid i sefydlu strwythur staff gwydn ar gyfer yr Uned Bensiynau mewn ymateb i
ofynion cynyddol i weinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ategwyd bod y
strwythur arfaethedig yn cyd-fynd gyda strwythur rheolaethol y Cyngor a bod y
swyddi wedi eu harfarnu. Nodwyd bod canran staff yr Uned yn hŷn a bod
angen sefydlu cynllun dilyniant. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth; ·
Bod graddfeydd cyflog yr Uned yn is na rhai
cronfeydd eraill. ·
Bod y tîm yn llai na’r hyn sydd gan gronfeydd
eraill. ·
Bod y strwythur presennol yn un hanesyddol. ·
O ran rheoli risg, rhaid cynllunio dilyniant. PENDERFYNWYD, ·
Cymeradwyo’r cynnydd mewn gwariant a gyllidwyd er
mwyn galluogi’r Adran Gyllid i sefydlu strwythur staff mwy cadarn ar gyfer yr
Uned Bensiynau ar gost ychwanegol o £121,120. ·
Gofyn i’r Pennaeth Cyllid weithredu strwythur
staffio diwygiedig priodol ar gyfer yr Uned Bensiynau cyn gynted â phosib sy’n
ymarferol, er mwyn rheoli risgiau busnes a phwysau gwaith. |