Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins, |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: i. Canllawiau cenedlaethol ar gyfer trefniadau
‘pŵlio’ buddsoddiadau’r
C.P.Ll.L. Adroddwyd bod y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a
Llywodraeth Leol yn cynnal ymgynghoriad ar ganllawiau rheoli a gweinyddu ‘pŵlio’ buddsoddiadau cronfeydd C.P.Ll.L.. Amlygwyd bod ymateb Partneriaeth Pensiynau Cymru
yn cael ei baratoi ac i’w drafod
yn derfynol yng nghyfarfod nesaf Cyd-Bwyllgor Partneriaeth Cymru ar y 27ain o Fawrth. Awgrymwyd rhannu’r ymateb drafft terfynol
Partneriaeth Cymru gyda holl aelodau
Pwyllgor Pensiynau Gwynedd, fel byddai modd derbyn eu sylwadau arno. Ategwyd byddai’r Pennaeth Cyllid, y Rheolwr Buddsoddi a Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau
yn mynychu cyfarfod Cyd-Bwyllgor Partneriaeth Cymru ar y 27ain o Fawrth. ii. Buddsoddi Egni Gwyrdd Er gwybodaeth adroddwyd bod rheolwyr aasedau
isadeiledd y Gronfa, ‘Partners Group’, wedi cadarnhau
bod buddsoddiad “financing
for the Greenlink Interconnector” yn mynd i ddod o’r
Direct Infrastructure 2015 Fund y mae Cronfa Gwynedd yn buddsoddi ynddo. Ategwyd bod yr Interconnector yn
brosiect o drosglwyddo trydan o dan y môr rhwng Iwerddon
a Sir Benfro. Nodwyd fod newyddion
am fuddsoddiad o’r fath hyn
i’w groesawu. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
21.01.2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
yr 21ain o Ionawr 2019 fel rhai cywir. |
|
I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth
Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor,
fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth
Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd
(y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2019/20, fel ei addaswyd i bwrpas
y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am
2018/19 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 7 Mawrth 2019. Dymuniad y Pwyllgor Pensiynau oedd caniatáu i arian
dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda balansau
ariannol y Cyngor fyddai o ganlyniad yn denu llog uwch, isafu costau banc ac
osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai cadw'r Gronfa yn saff a
gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg. Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion. ·
Penderfynwyd cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r
Strategaeth Buddsoddi Blynyddol atodol am 2019/20, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. ·
Penderfynwyd gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n
gorff ar wahân) i ganiatáu
i arian dros
ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael
ei gronni a’I gyd-fuddsoddi gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill
2019 ymlaen. |
|
PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU: BUDDSODDIADAU ECWITI I ystyried adoddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r aelodau am
drosglwyddiad portffolio ecwiti Cronfa Gwynedd i gronfeydd newydd Partneriaeth
Cymru. Trosglwyddwyd symiau cyfartal i ddwy gronfa yn mis Ionawr 2019, ·
LF Wales PP Global Growth Fund (Class A Income) (Baillie Gifford, Veritas a Pzena) ·
LF Wales PP Global Opportunities Equity Fund (Class
A Income) (Morgan Stanley,
Numeric, Sanders, Jacobs Levy, SW Mitchell, NWG ac Oaktree) Ategwyd bod yr ymarfer wedi bod yn rhwydd gyda
buddsoddiadau i’r ddwy gronfa wedi cadw eu gwerth yn ystod y trosglwyddiad. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygu’r
ffioedd, perfformiad a gwerth y trosglwyddiad, nodwyd ei fod yn gynamserol i
ddyfalu am drefniadau manwl, fyddai trefniadau
yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd dilynol Partneriaeth Pensiynau Cymru gyda ‘Link Fund Solutions’ a ‘Russell Investments’. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen y
trosglwyddiadau, nodwyd mai’r categori asedau ‘Incwm Sefydlog’ fydd yn
trosglwyddo nesaf gan Gronfa Gwynedd yn ystod
Haf 2019. Ategwyd bod trafodaethau
eisoes wedi eu cynnal yn y Panel Buddsoddi am
y trosglwyddiadau hyn a bod diddordeb mewn cyfuniad o reolwyr asedau, gan gynnwys
dau enw cyfarwydd yma yng Nghronfa Gwynedd. Yng nghyd-destun asedau ecwiti mewn rhanbarthau
penodol, eglurwyd nad oedd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd fuddsoddiadau yn y
rhanbarthau dan sylw yn gyntaf, ond y byddai ein asedau ecwiti mewn rhanbarthau
marchnadoedd datblygol yn debygol o drosglwyddo
yn hwyr yn y flwyddyn 2019. Ystyriwyd bod oddeutu 70% o’r buddsoddiadau wedi eu
trosglwyddo hyd yma, ac y byddai asedau incwm sefydlog yn ychwanegu tua 15% at
hyn. Anodd fyddai rhagweld trosglwyddiad 100%,
oherwydd natur rhai buddsoddiadau a’r anhawster gyda’u trosglwyddo oherwydd
cytundebau hir dymor. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |