Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 - 2020 Cofnod: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd John Pughe Roberts yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2019 - 20 Cofnod: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd Peredur Jenkins yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy) a Simon
Glyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 14 Mawrth 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
yr 14 Mawrth 2019 fel rhai cywir. |
|
BUDDSODDIADAU ISADEILEDD I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Yn dilyn
cyflwyniad a thrafodaeth yng nghyfarfod chwarterol Panel Buddsoddi Cronfa Bensiwn Gwynedd ar yr 21ain o Chwefror 2019,
amlygwyd yr angen i’r Pwyllgor gadarnhau buddsoddiad uniongyrchol gyda Partners
Group Global Infrastructure 2018 Fund, yn unol â barn y Panel Buddsoddi, er
mwyn ffurfioli’r cytundeb. Barn y Panel oedd buddsoddi £25 miliwn mewn cronfa
uniongyrchol ecwiti gyda Partners Group. PENDERFYNWYD
buddsoddi £25miliwn mewn cronfa uniongyrchol ecwiti gyda Partners Group Global
Infrastructure 2018 Fund. |
|
POLISI AMGYLCHEDDOL, CYMDEITHASOL A LLYWODRAETHOL (ESG) I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd cais
gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru i bob Cronfa o fewn y bartneriaeth ystyried a chymeradwyo cynnwys eu Polisi
Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol drafft arfaethedig. Amlygwyd bod
Cronfa Gwynedd wedi mabwysiadu egwyddorion sylfaenol ynghylch buddsoddi
cyfrifol gan bwysleisio y dylai ffactorau
‘ESG’ gael eu mewnblannu ym mhrosesau buddsoddi a phrosesau penderfynu rheolwyr
y Gronfa. O safbwynt Gwynedd, nodwyd bod y polisi arfaethedig wedi ei ddrafftio
wedi i Wynedd fabwysiadau eu hegwyddorion eu hunain. Ategwyd bod y polisi yn
cynnwys materion sydd yn unol â pholisi Gwynedd. PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys Polisi Amgylcheddol,
Cymdeithasol a Llywodraethol Partneriaeth Pensiynau Cymru |
|
CAP AR DALIADAU YMADAEL Y SECTOR CYHOEDDUS I ystyried adroddiad y
Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad yn amlygu bod Llywodraeth San Steffan yn
ymgynghori ar gyfyngu taliadau ymadael yn y sector gyhoeddus – gweithredu cap
taliad ymadael o £95k. Nodwyd bod
manylion bwriad Llywodraeth San Steffan ychydig yn amwys, gyda mwy o gwestiynau
nac atebion yn amlygu eu hunain ar hyn o bryd, ac nid oedd Llywodraeth Cymru
wedi rhannu eu safbwynt ar y mater. Amlygwyd bod gan Weinidogion Cymru bwerau i
lacio’r cyfyngiadau, ac un awgrym o fewn llywodraeth leol Cymru yw na ddylai
‘cap ymadael’ ar gyfer Cymru gynnwys ‘straen’ pensiwn. Nodwyd gall Llywodraeth
Cymru lacio’r gofyn yn briodol, gan hefyd ystyried lleihau'r trothwy £95k. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar y 3ydd o Orffennaf 2019. PENDERFYNWYD annog
cyflogwyr Cronfa Gwynedd i ymateb i’r ymgynghoriad. |
|
I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad yn amlygu bod Polisi’r Weinyddiaeth Tai,
Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn cynnal ymgynghoriad - Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol: Newidiadau i’r cylch prisio lleol a pholisi rheolaeth risg cyflogwyr.
Amlygwyd bod Llywodraeth San Steffan yn ceisio diwygio rheolau fel bod
diwygiadau i brisiadau’r gronfa leol yn newid o gylch tai blynedd i gylch
pedair blynedd. Adroddwyd bod cylch tair blynedd yn addas ar gyfer cynlluniau cronnol fel
Cronfa Gwynedd a mynegwyd mai’r ddadl gychwynnol yw mai esgeulus fyddai newid i
gyfnod 4 blynedd, oherwydd rhesymau cyfleustra a chysoni trefniadau gweithredol
ar lefel genedlaethol. Ategwyd nad oedd rhesymau clir dros y cynnig ac nad oedd
cynllun busnes wedi ei gynnwys. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar y 31ain o Orffennaf 2019 ac y
byddai’r swyddogion yn ceisio arweiniad gan actiwari’r Gronfa a chyrff
proffesiynol eraill. Nodwyd mai’r bwriad yw paratoi ymateb drafft mewn
ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a chyflwyno’r ymateb hwnnw
i’r Pwyllgor Pensiynau ei gymeradwyo ar y 29ain o Orffennaf 2019. Yn y
cyfamser, anogwyd yr aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau at y Pennaeth Cyllid. PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth a chefnogi’r swyddogion yn eu hymateb i’r ymgynghoriad |
|
PRESENOLDEB MEWN CYNADLEDDAU I ddewis cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Pensiynau
i fynychu digwyddiadau Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn hysbysu’r aelodau am gynadleddau a digwyddiadau perthnasol er mwyn
ceisio enwebiadau ar gyfer mynychu ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd. Adroddwyd bod
digwyddiad ychwanegol, nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, i’w fynychu
yng Nghaeredin ar y 10fed o Hydref 2019. PENDERFYNWYD: ·
Summit Buddsoddi’r LGC, Celtic
Manor Resort, Casnewydd 4 – 6 Mehefin 2019 Cynghorwyr John P
Roberts a John Brynmor Hughes ·
Summit blynyddol Russel
Investments, Portland Place, Llundain 13 Tachwedd 2019 Cynghorwyr John Pughe Roberts, Stephen Churchman a Robin Williams ·
Cynhadledd Flynyddol LAPFF,
Gwesty’r Hilton, Bournemouth 4 – 6 Rhagfyr 2019 Cynghorydd Stephen
Churchman ·
Cynhadledd Llywodraethu’r
CPLlL, Gwesty’r Principal, York 23 – 24 Ionawr 2020 Cynghorwyr Peredur
Jenkins a John Brynmor Hughes ·
‘LAPF Strategic Investment
Forum’, The Grove, Hertfordshire 2 – 4 Gorffennaf 2019 Cynghorwyr John Pughe
Roberts ac Aled Wyn Jones ·
‘LGC Investment Seminar’, Carden Park, Swydd Gaer 27 – 28 Chwefror 2020 Cynghorwyr Robin
Williams, Peter Read a John Brynmor Hughes ·
Cynhadledd Baillie Gifford,
Caeredin 10 Hydref 2019 Y Cynghorwyr John Pughe
Roberts a Stephen Churchman |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD PENSIYNAU I
ystyried gwybodaeth i’r aelodau o ddyddiadau perthnasol ar gyfer cyfarfodydd Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth ddyddiadau cyfarfodydd
Pensiynau hyd at Fai 2020 er mwyn galluogi’r aelodau i gynllunio’n briodol. Tynnwyd sylw at addasiad i un o’r dyddiadau.
Adroddwyd bod posibilrwydd byddai Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru
bellach yn cyfarfod ar y 4ydd o Fedi 2019 yn wahanol i’r 20fed o Fedi a nodwyd
yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth. |