Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Peter Read a Robin
Williams (Cyngor Ynys Môn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: ·
Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL,
Gwesty’r Principal, York 23 – 24 Ionawr 2020 Nodwyd nad oedd y Cynghorydd Peredur Jenkins ar
gael i fynychu’r gynhadledd yn York. Enwebwyd y Cynghorydd Aled Wyn Jones i
fynychu yn ei le. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Mai
2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16
Mai 2019 fel rhai cywir. |
|
I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth gyfrifon terfynol cronfa
bensiwn Gwynedd. Nodwyd bod y datganiad yn cynnwys manylion gweithgareddau
ariannol y Gronfa am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2019. Ynghyd a’r
cyfrifon, fuodd yn destun archwiliad gan gwmni Deloitte, cyflwynwyd adroddiad
ISA260 ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn manylu ar ddarganfyddiadau’r
archwilwyr. Adroddwyd bod y cyfrifon wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu a’r llythyr cynrychiolaeth wedi ei awdurdodi gan
Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pennaeth Cyllid yng
nghyfarfod o’r Pwyllgor 29ain Gorffennaf 2019. Cyfeiriwyd at ddau
o strategaethau allweddol y Gronfa, y datganiad strategaeth cyllido a’r
datganiad strategaeth buddsoddi. Tynnwyd sylw at
gyfrif y Gronfa, oedd yn nodi gwerth y Gronfa fel ag yr oedd 31 Mawrth 2019.
Gwelwyd cynnydd o £143 miliwn yn yr asedau net dros y flwyddyn 2018-2019 oedd
yn dod a gwerth y Gronfa i dros £2biliwn. Eglurwyd y cynnydd
mewn gwariant ar ffioedd rheoli asedau, ac mewn ymateb i sylw, eglurwyd y
gostyngiad mewn cyfraniadau rhwng 2017-2018 a 2018-2019, oherwydd bod 2017-2018
wedi bod yn flwyddyn pryd talwyd gwerth 3 blynedd o gyfraniadau adfer diffyg
(cyfeiriwyd at nodyn 7 yn yr adroddiad). PENDERFYNWYD derbyn - Y Datganiad o’r
Cyfrifon 2018 -19 (ôl archwiliad) - Yr Adroddiad
‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd - Y Llythyr Cynrychiolaeth |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2018/19 I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd
yn darparu adolygiad o’r flwyddyn 2018–2019, adroddiad rheoli a manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa. Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod amserlen
archwilio’r cyfrifon wedi newid ac o ganlyniad wedi rhoi cyfle i gwblhau’r
adroddiad yn gynt na’r arfer. Roedd hyn yn rhoi cyfle i’r aelodau gynnig
sylwadau cyn cyflwyno yn ffurfiol i’r holl gyflogwyr yng Nghyfarfod Cyffredinol
Blynyddol y Gronfa Bensiwn 24.10.2019. Pwysleisiwyd bod y cyfrifon eisoes wedi
eu cymeradwyo ac felly dim modd eu haddasu. Amlygwyd bod gwerth y gronfa ar y 31ain o Fawrth 2019, bellach yn fwy na £2
biliwn a bod cynnydd cyson wedi bod i werth y gronfa ers 2000. Cyfeiriwyd at
ystadegau aelodaeth, gan adrodd bod nifer y pensiynwyr ynghyd a nifer y
cyfranwyr wedi cynyddu. Mewn ymateb i sylw bod hyn efallai yn groes i
ystyriaeth yng nghyd-destun niferoedd staff o ystyried yr hinsawdd bresennol,
awgrymwyd bod cytundebau gwaith rhan amser v llawn amser yn un esboniad. Dros y 12 mis diwethaf, eglurwyd bod perthynas gyda chyflogwyr y gronfa
wedi gwella, gyda gweithdai hyfforddi wedi ei cynnal i sicrhau bod data yn cael ei dderbyn yn gywir ac
amserol ar gyfer y cyfrifon. Diolchwyd i’r
staff am eu gwaith a chyfeiriwyd at y gydnabyddiaeth a dderbyniwyd yn adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru am safon y gwaith. Cymerodd y Pennaeth Cyllid y cyfle i gyhoeddi bydd Caroline Roberts
(Rheolwr Buddsoddi) a Nicholas Hopkins (Rheolwr Pensiynau) yn ymddeol cyn diwedd
y flwyddyn. Diolchwyd i’r ddau am eu gwaith caled dros y blynyddoedd. PENDEFYNWYD derbyn yr
adroddiad |
|
BUDDSODDIAD YN Y BARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn
nodi’r angen i’r Pwyllgor wneud penderfyniad swyddogol i drosglwyddo’r Gronfa
Bond Dychweliad Absoliwt Insight sydd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd. Adroddwyd bod
Hymans Robertson, mewn cyfarfod diweddar o’r Panel Buddsoddi (16 Mai 2019) wedi
cyflwyno a thrafod yr opsiynau ac mai
barn y panel oedd trosglwyddo’r holl asedau o Insight i Gronfa Bond Dychweliad
Absoliwt Partneriaeth Pensiwn Cymru. Eglurwyd hefyd, pan drosglwyddwyd ecwiti i’r
Bartneriaeth Pensiwn Cymru, daliwyd cyfran o asedau yn ôl, er mwyn lleihau’r
risg trwy ei fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Aml-Asedau Partneriaeth Pensiwn
Cymru. Ategwyd y byddai’r trosglwyddiad yma o Fidelity yn digwydd yn yr un
cyfnod â’r trosglwyddiad o Insight. PENDERFYNWYD, yn
unol â barn y Panel Buddsoddi, gadarnhau’r buddsoddiadau yng nghronfeydd
canlynol Partneriaeth Pensiwn Cymru: - Cronfa Bond Dychweliad Absoliwt (holl asedau o Insight). - Cronfa Credyd Aml-Asedau (asedau ecwiti byd-eang o Fidelity). |
|
BUDDSODDIAD ECWITI CARBON ISEL I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr
Buddsoddi yn nodi’r angen i’r Pwyllgor gadarnhau buddsoddiadau carbon isel.
Mewn cyfarfod diweddar o’r Panel gyda Hymans Robertson trafodwyd yr opsiynau
posib ar gyfer buddsoddiad carbon isel er mwyn cyrraedd y meincnod strategol o
12% sydd o fewn y dyraniad o 29% o'r ecwiti goddefol cyfredol sydd gan Gronfa
Gwynedd. Barn y Panel oedd buddsoddi 12% o gyfanswm y gronfa yng nghronfa
ecwiti Carbon Isel y Byd BlackRock. Gan fod cronfeydd BlackRock yn rhan o
broses o gaffaeliad ecwiti goddefol 2016 a gynhaliwyd gan Gronfeydd Pensiwn
Cymru, eglurwyd nad oedd angen mynd trwy broses gaffael ffurfiol. Ategwyd bod y buddsoddiad yma yn un
cyfrifol ac yn ymateb i ofynion y Cyngor ynghyd ag egwyddorion buddsoddi'r
Pwyllgor Pensiynau. PENDERFYNWYD, yn
unol â barn y Panel Buddsoddi, bod 12% o Gronfa Bensiwn Gwynedd yn symud o’r
dyraniad ecwiti goddefol cyffredinol cyfredol gyda BlackRock i gronfa ecwiti
goddefol carbon isel gyda BlackRock. |
|
PRISIAD ACTIWARAIDD TEIR-BLYNYDDOL 2019 I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth
Cyllid yn darparu gwybodaeth gyffredinol a throsolwg o’r broses prisio gyfredol
ar gyfer cynnal prisiad actiwaraidd teir-blynyddol, ynghyd ag amserlen
arfaethedig. Eglurwyd bod
data’r prisiant wedi ei gyflwyno i’r actwari ar y 16eg o Orffennaf a bod gwaith
eisoes wedi ei ddechau ar yr ymateb i ymholiadau pellach a gafwyd gan Hymans. Nodwyd mai cyfrifoldeb
y cyflogwyr yw cyflwyno gwybodaeth gywir ac amserol i swyddogion yr Uned
Pensiynau. Adroddwyd bod ansawdd y data eleni yn dderbyniol ar yr olwg cyntaf,
a bod pob cyflogwr wedi cwrdd gyda’r gofynion amser. Gwerthfawrogwyd gwaith y
cyflogwyr a staff yr Uned Pensiynau. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
RHAGDYBIAETHAU PRISIAD 2019 I ystyried
adroddiad y Penaneth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo
rhagdybiaethau arfaethedig er mwyn gosod targed ariannu ar gyfer prisiad
teir-blynyddol cyfredol y Gronfa fel ar 31 Mawrth 2019. Cyfeiriwyd at fanylion
llawn y rhagdybiaethau mewn adroddiad a dderbyniwyd gan Actwari’r Gronfa oedd
wedi ei gynnwys fel atodiad i’r adroddiad. Amlygwyd nad oedd rhagdybiaethau
wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor o’r blaen ac ystyriwyd mai priodol fyddai
rhannu’r wybodaeth er mwyn sicrhau tryloywder. Ategwyd mai prif flaenoriaeth y
Pwyllgor yw sicrhau bod buddiannau'r gronfa yn saff, ond bod gwaith hefyd yn
cael ei wneud i gadw balans buddiannau cronfa bensiwn yn erbyn costau cyflogwr. Adroddwyd mai un newid yn unig oedd i’r
rhagdybiaethau, sef rhagdybiaeth codiadau cyflog. Yn dilyn cyngor gan Hymans
penderfynwyd addasu’r ffigwr i CPI +0.3% fyddai’n ymateb i ddisgwyliadau
codiadau cyflog tymor byr uwch, gan adlewyrchu’r tueddiad diweddar. Bydd ymgynghoriad
ffurfiol gyda’r cyflogwyr ar y rhagdybiaethau ynghyd â diwygiadau eraill i’r
Datganiad Strategaeth Gyllido o brisiad 2019 yn cael ei gynnal yn ddiweddarach
yn y flwyddyn. Mewn ymateb i sylw
y gall gormod o wybodaeth fod yn gymhleth ac mai gweld gwerth yn unig yw dyhead
y trethdalwr, nodwyd bod rhannu’r wybodaeth yn briodol a bod eisiau amlygu'r
angen am gynigion o’r newydd i geisio gwell buddiannau i’r gronfa. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhagdybiaethau arfaethedig er mwyn gosod y targed
ariannu ar gyfer prisiad teir-blynyddol cyfredol y Gronfa fel ar 31 Mawrth
2019. |