Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor
Bwrdeistref Conwy) ac Aled Wyn Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29
Gorffennaf 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29 Gorffennaf 2019 fel rhai
cywir. |
|
COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN Cyflwyno, er
gwybodaeth gofnodion cyfarfod Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd a gynhaliwyd 24ain
o Hydref 2019 Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion cyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn a
gynhaliwyd 24ain o Hydref 2019 |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB 2020/21 I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymwneud a chais i’r
Pwyllgor gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020–2021, ar gyfer
yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi. Tynnwyd sylw at rai addasiadau i’r gyllideb ynghyd a chais am gynnydd i
gyllideb hyfforddiant a chostau meddalwedd i’r Uned Gweinyddu Pensiynau. Cymeradwywyd addasiadau cyllideb o £140,940 a
daw hyn a cyfanswm cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau i £1,015,700 ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020/21. Yn yr un modd, tynnwyd sylw at gais i addasu
oriau gwaith a graddfeydd cyflogau swyddogion sydd wedi rhannu eu horiau rhwng
Cronfa Bensiwn Gwynedd a Chyngor Gwynedd o fewn yr Uned Buddsoddi. Cymeradwywyd
addasiadau cyllideb o £21,240, a daw hyn a cyfanswm cyllideb yr Uned Buddsoddi
a ariannir gan y Gronfa Bensiwn i £110,460 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os oedd yr addasiadau yn cyfiawnhau
ymrwymiad o’r gronfa, nodwyd eu bod yn cael eu cynnwys fel ‘adnodd ychwanegol’. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cyllideb blwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau ac Uned
Buddsoddi gan gynnwys yr adnoddau ychwanegol. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir
weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 30ain 2019 bod gweithgarwch
benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad
oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu.
Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn rhagori ar incwm
disgwyliedig cyllideb 2019 / 20. Eglurwyd bod
ychydig o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol
sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn
llai o ystyriaeth. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy incwm refeniw
rheolaidd a sefydlogrwydd prisiau hirdymor. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2020/21-2023/24 I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn
gwneud cais i’r Pwyllgor gadarnhau tybiaethau a pholisïau yn y Datganiad
Strategaeth Cyllido drafft cyn ymgynghori a’r holl gyflogwyr. Adroddwyd i’r
Pwyllgor bod gofyn statudol i adolygu a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido
tair-blynyddol erbyn 31.3.2020. Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r awdurdod
gweinyddol, ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari
ac ymgynghorwyr y gronfa, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn
addas. Eglurwyd bod
prisiad actiwaraidd tair-blynyddol y Gronfa wrthi yn cael ei baratoi ac fe
roddodd yr Actwari Hymans Robertson gyflwyniad o’r
broses a’r canlyniadau i’r Cyflogwyr mewn cyfarfod yng Nghaernarfon 24/10/2019.
Amlygwyd bod y rhagdybiaethau wedi eu cytuno gyda’r cyfnodau adfer diffyg ar
gyfer y gwahanol gategorïau o gyflogwr yn ddarbodus ac yn gyson gyda’r prisiad
blaenorol (2016). Trafodwyd y Datganiad Strategaeth Cyllido Drafft
(oedd wedi ei baratoi gan Hymans) a tynnwyd sylw at rai materion – cyfeiriwyd
yn benodol at adran 3 o’r adroddiad. ·
Cyfrifon cyfran asedau - amlygwyd bod y Gronfa wedi
mabwysiadu dull llif arian ar gyfer olrhain asedau cyflogwyr unigol. Ategwyd
bod gofyn cyflwyno’r wybodaeth yn fisol a bod ystyriaethau i’r gofyn ychwanegol
hwn wedi ei gynnwys yng nghyllideb yr
Uned. ·
Premiwm Risg Ecwiti - amlygwyd wrth i'r gwahaniaeth
tybiedig rhwng yr adenillion disgwyliedig gynyddu, mae’r risg yn cynyddu a’r
sail ariannu yn mynd yn llai darbodus. Nodwyd bod yr enillion dros ben a
ragwelir o’r tybiaethau ecwiti ar gyfer 2019 yn 1.7% ·
Cyfnodau
Adfer Diffyg wedi eu cyflwyno ar gyfer prisiad 2019 ·
Casglu Diffyg - bydd y diffyg yn cael ei gasglu fel
canran o dal yn hytrach na chyfandaliad blynyddol (oedd yn cael ei dalu mewn 12
rhandaliad misol) ·
Cyflogwr
Sefydlog – bod rhaid i bob cyflogwr sefydlog dalu cyfradd sylfaenol fel
lleiafswm dros y tair blynedd nesaf. Amrywiadau posib wedi eu nodi yn yr
adroddiad ·
Cyflogwyr
Ansefydlog - mae'r cyfraddau cyfrannu ar
gyfer cyflogwyr, sydd ar gau i newydd-ddyfodiaid, ac sy’n anelu tuag at
ddarfyddiad, wedi cael eu gosod yn gyfartal â chyfraddau sylfaenol y cyflogwyr ·
Cyfnod
Graddol o Gynyddu Cyfraniad – bydd y rheoliadau’n caniatáu i’r holl gyflogwyr
gynyddu eu cyfraniadau’n raddol – ar gyfer prisiad 2019 gall y cynnydd gael ei
rannu dros 3 blynedd PENDERFYNWYD ·
derbyn y rhagdybiaethau a’r Polisïau ·
yn dilyn y broses ymgynghori, derbyn Datganiad
Strategaeth Cyllido (DSC) derfynol i’w mabwysiadu erbyn 31 Mawrth 2020. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau allan y wasg ar cyhoedd o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Er bod budd cyhoeddus mewn cael dealltwriaeth
o weithredu’r gronfa bensiwn mae’r adroddiad
yma ynglŷn â graddfeydd arfaethedig sydd yn cael
eu rhannu fel rhag rhybudd
gyda Cyflogwyr y Cynllun. Nid yw’r
wybodaeth yma wedi ei rannu
o fewn cyfundrefnau rheolaethol pob un o’r Cyflogwyr
yma a gall ei gyhoeddi ar y pwynt
yma gael ardrawiad ar fuddiannau’r
Cyflogwyr drwy danseilio eu trefniadau
adrodd a pharatoi cyllid. Ar falans,
mae’r Swyddog Monitro yn fodlon
nad yw’r
budd cyhoeddus yn cefnogi cyhoeddi
yr adroddiad yma. Cofnod: PENDERFYNWYD cau allan y wasg
ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12,
Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Er bod budd cyhoeddus mewn
cael dealltwriaeth o weithredu’r gronfa bensiwn mae’r adroddiad yma ynglŷn
â graddfeydd arfaethedig sydd yn cael eu rhannu fel rhag rhybudd gyda
Chyflogwyr y Cynllun. Nid yw’r wybodaeth yma wedi ei rannu o fewn cyfundrefnau
rheolaethol pob un o’r Cyflogwyr yma a gall ei gyhoeddi ar y pwynt yma gael
ardrawiad ar fuddiannau’r Cyflogwyr drwy danseilio eu trefniadau adrodd a
pharatoi cyllid. Ar falans, roedd y Swyddog Monitro yn fodlon nad yw’r budd
cyhoeddus yn cefnogi cyhoeddi'r adroddiad yma. |
|
CANLYNIADAU PRISIANT Y GRONFA BENSIWN I ystyried yr adroddiad (copi arwahan i aelodau’r
Pwyllgor yn unig) Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu canlyniad prisiant y Gronfa
Bensiwn. Nodwyd bod gwellhad yn sefyllfa’r Gronfa gyda’r lefel cyllido wedi
cynyddu o 91% ar 31 Mawrth 2016 i 108% yn 31 Mawrth 2019. Nodwyd bod hyn yn
newyddion da iawn. Tynnwyd sylw at yr atodiad oedd yn cynnwys manylion
cyfraniadau cyflogwyr. Nodwyd bod pob cyflogwr sydd yn rhan o’r gronfa yn
ymwybodol o’u canlyniad unigol a bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda hwy.
Mynegwyd bod y sefyllfa yn un galonogol iawn. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglyn a hawliau’r cyflogwyr i herio’r cyfraniadau / rhagdybiaethau,
nodwyd bod gan y cyflogwyr hawl i herio egwyddorion y Gronfa fel rhan o’r
ymgynghoriad, ond y Gronfa, gyda chyngor a chefnogaeth yr Actiwari, Hymans
Robertson, sydd yn penderfynu ar y cyfraniadau terfynol. Cynigiwyd bod
datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau, pan yn amserol, yn amlygu’r newyddion. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth |