Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Yn dilyn cyhoeddi ymgynghoriad gan y Trysorlys, adroddwyd bod yr MHCLG wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mewn ymateb i’r farn yn achos McCloud. Adroddwyd y byddai’r Pennaeth Cyllid, y Rheolwr Pensiynau a'r Rheolwr Buddsoddi yn llunio ymateb drafft mewn ymgynghoriad gyda Chadeiryddion y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn (dyddiad cau 11eg Hydref 2020). Ategwyd bod y Rheolwr Pensiynau yn cydweithio gyda Hymans i geisio’r nifer o gofnodion fydd angen eu diwygio. Er nad oes amserlen wedi ei rhyddhau, nodwyd bod y gwaith yn waith gweinyddol ychwanegol sylweddol ac y byddai’n cael ei weithredu yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad a derbyn y gorchymyn. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Mawrth 2020 fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2020 fel rhai cywir |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun
archwiliad a bod yr archwiliad yn cael
ei weithredu gan gwmni Deloitte. Yn dilyn penderfyniad
gan Archwilio Cymru bod cyfrifon yn agored i
archwiliad cyhoeddus hyd ddechrau Medi, bydd y cyfrifon terfynol yn cael
eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu ar y 14eg o Fedi 2020. Adroddwyd bod gwerth
y Gronfa i lawr £143m ar y 31ain o Fawrth a hynny oherwydd goblygiadau pandemig covid 19. Nodwyd bod cwymp sylweddol yng ngwerth
y farchnad yn cael ei adlewyrchu
ddiwedd Mawrth ond bellach y gwerthoedd
wedi codi ac yn parhau yn
sefydlog. Cyfeiriwyd at Nodyn
12, 13 ac 14 lle nodi’r gwybodaeth ehangach ar gostau buddsoddi
oherwydd ymglymiad Cronfa Gwynedd a threfniant pwlio buddsoddiadau cyfunol Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mewn ymateb i gwestiynnau ynglŷn â chostau Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) a’r Awdurdod Lletya
- nodyn 13 (£70k), a oes arbediad yn y gostyngiad
ffioedd o gymharu â chostau Cronfa Cyngor Gwynedd, a sut mae modd
sicrhau gwerth am arian, nodwyd bod y sefyllfa yn un anodd iawn i
brofi ac mai’r dychweliadau sydd yn bwysig yn
hytrach na swm y ffioedd. Ystyriwyd bod, bod yn rhan o’r PPC yn
dychwelyd manteision maint sydd wedi
gostwng ffioedd a bod mwy o wytnwch o fod yn rhan
o gronfa fwy. Ategwyd nad
oedd y swm wedi ei gynnwys
ar gyfer 2018/2019, a hynny mewn camgymeriad. Mewn ymateb
i sylw ynglŷn
â chwymp sylweddol mewn difidendau ecwiti (Nodyn 15) nodwyd bod yr holl
ddifidendau yn cael ei ail fuddsoddi
yn ôl yn
awtomatig i’w cronfeydd perthnasol ac ni chant eu dosbarthu
fel incwm buddsoddi. Bydd gwerth y gronfa a’r newid yng
ngwerth y farchnad ar y cronfeydd hyn yn adlewyrchu
gwerthfawrogiad / dibrisiant
cyfalaf ynghyd ag incwm buddsoddi
wedi’i ail-fuddsoddi. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
er gwybodaeth gan y Rheolwr Buddsoddi.
Adroddwyd bod y datganiad yn cael ei
adolygu bob 3 mlynedd yn dilyn
y prisiant a’i fod wedi ei
drafod gyda’r Panel Buddsoddi ym mis
Mai 2020 Tynnwyd sylw
yn benodol at ddyraniad y Gronfa sydd yn adlewyrchu
trosglwyddiad o ecwiti byd-eang i gronfa
Credyd Aml Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - sydd erbyn hyn
yn ffurfio rhan sylweddol o fuddsoddiadau Cronfa Gwynedd. Tynnwyd sylw
at awgrym a wnaed gan Aelodau’r Bwrdd
Pensiwn (20/07/20) nad oedd y datganiad yn amlygu’r
risgiau / gwersi a ddysgwyd o effaith pandemig covid 19 a digwyddiadau diweddar yn Tsiena. Awgrymwyd
yn y cyfarfod hwnnw y dylid ychwanegu
brawddeg i baragraff Rheolwyr (tud 57) i adlewyrchu
bod yr ymateb wedi bod yn bositif.
Cynigiwyd brawddeg a luniwyd gyda Paul Potter (Hymans
Robertson) i gyfleu bod y Rheolwyr wedi bod yn rhagweithiol a phositif yn ystod
y pandemig covid 19. Er yn derbyn y rhesymeg, ystyriwyd mai dyma
gwaith dyddiol unrhyw Reolwr ac yn aml iawn
mae’n rhy hwyr i newid
ar ôl sioc
annisgwyl - y gamp yw rhagweld unrhyw newidiadau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd
y datganiad yn ceisio disgrifio’r hyn y mae’r Rheolwyr
Asedau eisoes yn ei wneud,
ac nad yw’n bwriadu newid eu
‘briff’. Ategwyd bod Rheolwyr yn gyffredinol, wedi ymateb i’r
newid a bod heriau gan y Bwrdd Pensiwn
yn hybu tryloywder PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi
ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i
nerth gyda swyddogion yn cyfarfod
yn aml. Yn
ystod cyfnod pandemig covid 19,
nodwyd bod swyddogion
wedi bod yn cyfarfod pob pythefnos
ar gyfrwng Teams gyda chyfarfod llawn wedi ei
raglennu ar gyfer 24ain o Orffennaf 2020. Tynnwyd sylw
at berfformiad y Gronfa, ac
er gwaethaf y pandemig ymddengys bod y farchnad wedi adfer
yn dda iawn.
Cyfeiriwyd at berfformiad Pzena oedd wedi
cyfrannu at danberfformiad Cronfa Twf Byd
Eang hyd at 31ain Mawrth 2020 ond sydd erbyn hyn
yn gyfrifol am y cynnydd yn y gronfa
oherwydd eu dulliau buddsoddi. Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog oedd i’w
drosglwyddo diwedd Ebrill ond sydd
erbyn hyn i’w drosglwyddo ddiwedd mis Gorffennaf
2020. Yng nghyd-destun Marchnadoedd Datblygol, nodwyd bod y gwaith wedi bod yn ddistaw
dros y pandemig ond yn faes
blaenoriaeth ar gyfer y 6 mis nesaf
gyda strwythur Rheolwyr Buddsoddi i’w benderfynu i’r gronfa newydd
yma. Adroddwydd, ym maes Marchandoedd Preifat, bod grŵp wedi ei sefydlu i
edrych ar opsiynau posib o gyfuno asedau i’r
categori yma. Ategwyd bod Russell Investments yn
arwain ar y gwaith o ddadansoddi’r hyn sydd ar
gael gyda’r
portffolio cyfredol a datblygu a rheoli cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru i’r
dyfodol. Nodwyd bod angen trafodaethau unigol gyda pob
Cronfa i geisio ffordd ymlaen
ym maes
‘eiddo’. Er yn fodlon gyda’r
portffolio presennol, amlygwyd bod cyfle i fuddsoddi yn
ehangach gydag eiddo ecwiti byd
eang. Gyda dyraniad posib o 10% mewn eiddo, nodwyd
mai 9% sydd yn cael ei
ddefnyddio ar hyn o bryd gydag
awgrym i gynyddu i’r 10% llawn. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: • Rhagwelir sefyllfa eiddo byd eang yn
gwaethygu o effeithiau covid 19 gyda llai
o alw am eiddo busnes. Er hynny,
rheswm da i symud ymlaen gan
ddefnyddio arian
sydd yn weddill,
ond i fod
yn bwyllog o ran ‘gwerthu’ • Bod angen cymryd camau
gofalus – pandemig covid 19 wedi cael
effaith ar y ac
felly angen ystyried y mathau o fuddsoddiadau yn ofalus cyn
trosglwyddo. Mewn ymateb
i’w sylwadau, nodwyd bod yr argyfwng
wedi prysuro tuedd o’r hyn
oedd angen ei weithredu. Ategwyd
bod 80% o Gronfa Gwynedd eisoes wedi ei
drosglwyddo i Gronfa PPC. Nid oedd bwriad rhuthro
i wneud trosglwyddiadau
pellach, ond bod cyfleoedd yn codi
a bod modd manteisio ar hynny, er
engraifft, edrych efallai ar y posibilrwydd
o fuddsoddi yn isadeiledd Cymru. Derbyniwyd y wybodaeth |
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu
dymuniad Partneriaeth Pensiwn Cymru i
bob Pwyllgor unigol o fewn y Bartneriaeth gymeradwyo eu Cynllun
Busnes. Adroddwyd bod y Cynllun Busnes yn cynnwys manylion
ynghylch blaenoriaethau’r Bartneriaeth ar fodd y bydd yn
cyflawni’r amcanion ar gyfer 2020 / 2023. Mae trefniadau llywodraethu, polisïau a chynlluniau ynghyd a gwybodaeth am eu safbwynt marchnata,
cyllidebau ariannol a chrynodeb o fuddsoddiadau ac amcanion perfformiad y Bartneriaeth hefyd wedi eu cynnwys. Nodwyd bod cyfarfodydd
yn cael eu
cynnal bob pythefnos gyda Swyddogion, Hymans a’r Awdurdod Lletya
(Caerfyrddin) i rannu diweddariadau, gwybodaeth a chael mewnbwn i ddogfennau.
Ategwyd bod nifer o bolisïau wedi eu
ffurfioli dros y cyfnod clo a bod rhain ar gael ar wefan
y Bartneriaeth. Tynnwyd sylw at y cynllun hyfforddi sydd yn trafod nifer
o bynciau fel bod Aelodau yn meddu ar
wybodaeth a dealltwriaeth briodol – bydd rhain yn sesiynau
buddiol ac hyblyg i Aelodau’r Pwyllgor
a’r Bwrdd Pensiwn ac yn debygol
o gael eu
cynnal dros y We. Mewn ymateb
i sylw blaenorol
at gostau Partneriaeth Pensiwn Cymru (£70k) amlygwyd bod yr Awdurdod Lletya yn dygymod a gwaith
ychwanegol / sylweddol ac nad oedd
y gyllideb i weld yn ddigonol. Ategodd
y Rheolwr Buddsoddi bod un swyddog ychwanegol
wedi ei benodi
a bod swyddogion presennol yr Awdurdod yn
derbyn cyfrifoldebau ychwanegol. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod y swm yn rhesymol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Busnes |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi
bod penderfyniad blynyddol
yn cael ei
wneud i ganiatáu
i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu
cyfuno a’u cyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cymharu
gwir berfformiad yn erbyn y strategaeth
ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 ac yn cyflawni
dyletswydd gyfreithiol y
Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gymryd ystyriaeth
o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi Llywodraeth Cymru. Adroddwyd, yn
ystod y flwyddyn ariannol 2019/20 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn
wreiddiol a derbyniwyd
£546,000 o log ar fuddsoddiadau
oedd yn uwch
na’r £406,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na
wnaeth unrhyw fanc yr oedd
y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda, fethu
â thalu, a chyrhaeddwyd pob dangosydd darbodus. Er bod gostyngiad
yng werth y buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn 31/03/20 yn amlygu effaith
negyddol o ganlyniad i bandemig covid
19, adroddwyd mai buddsoddiadau tymor canolig oedd dan
sylw ac felly cyfle i adfer / adennill
y golled. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |