Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020/2021 Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd i’r Pwyllgor
hwn am y flwyddyn 2020
/2021 Diolchwyd i’r Cynghorydd John Pughe Roberts am ei
waith fel Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau 2018 / 20. Gydag ychwanegiadau i
gyfrifoldebau’r swydd yn rhanbarthol a chenedlaethol, diolchwyd iddo am ei
ymroddiad i’r swydd a hynny mewn cyfnod heriol ac anodd iddo. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2020/2021 Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2020 / 21 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Amlygodd yr Aelodau fuddiant nad oedd yn rhagfarnu
oherwydd eu bod yn Aelodau o’r Gronfa Bensiwn |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23
Gorffennaf 2020 fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2019/20 - CRONFA BENSIWN GWYNEDD a) Cyflwyno’r datganiadau
ariannol statudol diwygiedig b) Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” y Gronfa Bensiwn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd
er gwybodaeth
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2019/20 (ôl archwiliad), gan y Pennaeth Cyllid yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon
wedi eu cyflwyno
i gyfarfod 23ain Gorffennaf 2020 ac er nad oedd
y ffigyrau wedi newid, tynnwyd sylw at rai addasiadau i’r naratif yn
dilyn archwiliad gan gwmni Deloitte. Cyfeiriwyd at adroddiad ISA260 ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru yn manylu ar
eu darganfyddiadau. Ategwyd mai’r Pwyllgor
Archwilio sydd â chyfrifoldeb i dderbyn y cyfrifon yn ffurfiol ac y byddent yn cael
eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
ar y 15fed o Hydref ar gyfer cymeradwyaeth. Cyfeiriwyd at ychwanegiadau gan yr Archwilwyr i
Nodyn 4 ac 5 lle nodi’r gwybodaeth ar brisiadau’r gronfa eiddo. Yn
dilyn atal masnachu ar gronfeydd
eiddo fis Mawrth, adroddwyd bod y cronfeydd eiddo bellach wedi ail ddechrau masnachu a’r ataliad wedi
ei godi ers
dechrau mis Medi. Er bod y swm presennol ychydig
yn is na’r hyn a amlygwyd
ddiwedd Mawrth 2020, yn ôl Hymans, nid
oedd yn sylweddol
is na’r hyn oedd yn rhesymol.
O ystyried bod y portffolio
yn un eang, adroddwyd bod y portffolio wedi dal ei dir
yn eithaf ac y byddai modd cynnal
trafodaeth ac amlygu unrhyw bryderon gyda’r Rheolwyr sydd yn
buddsoddi ar ran y Gronfa yng nghyfarfod
y Panel mis Tachwedd. Adroddwyd er nad oedd yr Archwilwyr
wedi amlygu un mater penodol i Gronfa
Bensiwn Gwynedd, eu bod wedi nodi tri achos
fyddai’n debygol o gael effaith ar
y Gronfa. -
Cydraddoli GMP -
Achos McCloud -
Achos Goodwin Ategwyd bod yr achosion hyn
yn gyffredin ar draws yr holl
gronfeydd pensiwn a bod
Gwynedd eisoes wedi dechrau cydweithio gyda’r actiwari yn achos Mc Cloud a Goodwin. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol: ·
Gyda symudiad mewn buddsoddiadau eiddo a gwerthoedd i ffwrdd o’r
stryd fawr i mewn i
ystordai, dylid ystyried newidiadau i arferion gwaith
yn y tymor hir. Rhaid bod yn agored i
gyfleoedd ac ymateb i’r newidiadau hyn. Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi
a’r tîm am baratoi’r gwaith. Adroddwyd bod Marina Parry
Owen (Swyddog Pensiynau a Buddsoddiadau) yn dioddef o Glefyd Addisons. Dymuniad y Pwyllgor oedd anfon
eu dymuniadau gorau at Marina gan ddiolch iddi am ei gwaith yn
yr Uned Pensiynau
a Buddsoddi. PENDERFYNWYD: Derbyn, er gwybodaeth ·
Y Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl archwiliad) ·
Yr adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar
gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd ·
Y Llythyr Cynrychiolaeth |
|
DIWEDDARIAD INCWM SEFYDLOG PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyniwyd
y wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad, er gwybodaeth,
gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi
diweddariad ar y gronfa Incwm Sefydlog.
Adroddwyd bod buddsoddiad o
£166,119,549.08 gyda Fidelity Global Equity wedi ei drosglwyddo
yn llwyddiannus ar y 27ain o Orffennaf 2020 i’r Multi Asset Credit Fund. Yn ychwanegol, nodwyd bod bwriad lansio Cronfa
Abolute Return Bond yng Ngorffennaf 2020 ond darganfuwyd nad
oedd buddsoddiadau presennol yn gymwys
i’r strwythur ACS. Yn dilyn gwaith
ymchwil pellach gan Paul Potter - Hymans Robertson, a thrafodaeth
yn y Panel Buddsoddi ym mis Medi,
lansiwyd yr Absolute Return
Bond Fund ar y 1af o Hydref
gyda’r buddsoddiad gyda Insight o £291,238,172.22 erbyn
hyn wedi trosglwyddo yn llwyddiannus i’r gronfa. PENDERFYNWYD nodi’r
wybodaeth |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r
adroddiad yn benodol ynglyn a dyfarnu contractau ac yn cynnwys manylion am y
cynnigioin ynghyd a statws a busnes y darpar gyflewnyr. . Byddai cyhoeddi
gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i
ddod a prisiau ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i gaffael yn
llwyddianus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth
am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y
mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw
berson penodol( yn cynnwys yr
awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen
trafod gwybodaeth fasnachol heb ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol
ynglŷn â dyfarnu contractau ac yn cynnwys manylion am y cynigion ynghyd a statws a busnes y darpar gyflenwyr. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
tanseilio hyder darparwyr i ddod
a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r
Cyngor i gaffael yn llwyddiannus. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd
gorau .
Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod
y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
IS-GRONFA ECWITI MARCHNADOEDD DATBLYGOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (Copi i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad: Penderfynwyd
cymeradwyo strwythur yr Is-gronfa Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gwneud cais
i’r Pwyllgor gytuno i strwythur
yr Is-gronfa Marchnadoedd Datblygol Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod yr opsiynau wedi
ei cyflwyno i’r Bartneriaeth ac eisoes wedi eu
cymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu ar y 12fed o Fawrth 2020. Bydd disgwyl i’r
Is-gronfa gael
ei lansio yng Ngwanwyn 2021. . PENDERFYNWYD cymeradwyo
strwythur yr Is-gronfa |
|
AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig ail agor y cyfarfod ar gyfer y wasg a’r cyhoedd Cofnod: PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg a'r
cyhoedd |
|
CRONFA CARBON ISEL BLACK ROCK I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Penderfynwyd
cymeradwyo symud y gronfa bresennol yn yr ACS World Low Carbon Equity Tracker
Fund (MSCI World Low Carbon Target i’r -
ACS World Low Carbon Equity Tracker Fund (MSCI World Low Carbon
Target ex Fossil Fuels Index) yn unol
a’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi diweddaraf Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno i
drosglwyddo cronfa bresennol carbon isel Black Rock
i’r ACS World Low Carbon Equity Tracker Fund. Atgoffwyd yr Aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud
yng nghyfarfod mis Gorffennaf i drosglwyddo swm
o gronfa bresennol Black
Rock, ond ers hynny bod Black Rock wedi datblygu cronfa newydd gyda ffocws
bellach ar leihau carbon o gymharu â’r gronfa bresennol.
Amlygwyd bod y gronfa newydd yn
cynnwys y newidiadau canlynol; - sgriniau tanwydd ffosil cyn yr optimeiddio carbon isel - ar gyfer cynnydd mewn gwall olrhain o 0.30% i 0.50%, bydd carbon yn cael ei
leihau 44% class=WordSection2> Nodwyd bod trafodaeth ar y gronfa newydd wedi ei
gynnal yn y Panel Buddsoddi diweddar a bod yr ymgynghorwyr wedi cytuno y
byddai’n fuddiol trosglwyddo i’r gronfa newydd. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
bod y penderfyniad i fuddsoddi mewn
cronfeydd sydd yn lleihau carbon yn gydnaws a daliadau’r
strategaeth buddsoddi a gymeradwywyd ym misTachwedd 2019 ·
nad oedd costau mawr i
drosglwyddo PENDERFYNWYD cymeradwyo symud y gronfa bresennol yn yr ACS World
Low Carbon Equity Tracker Fund (MSCI World Low Carbon Target i’r ACS WORLD LOW CARBON EQUITY TRACKER FUND (MSCI
WORLD LOW CARBON TARGET EX FOSSIL FUELS INDEX)
yn unol a’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi diweddaraf. |
|
GWEINYDDIAETH PENSIYNAU I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Penderfynwyd
derbyn y wybodaeth Cofnod: Derbyniwyd adroddiad gan y
Rheolwr Pensiynau yn adrodd ar ymateb y Gwasanaeth i weithio drwy pandemig covid 19. Adroddwyd bod
y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio o adref yn llwyddiannus ers 25/03/2020.
Amlygwyd nad oedd y gwasanaeth wedi dioddef oherwydd y newid i
batrwm gwaith ac er yr heriau
o fod yn hyblyg gyda rhai
staff ac eraill yn trosglwyddo i adrannau
eraill, ymddengys bod y newid wedi bod yn llesol i’r
adran weinyddol. Blaenoriaethwyd y gwaith a gwnaed defnydd o’r cyfrwng Teams i gyfathrebu a chadw cysylltiad yn lleol ac yn
rhanbarthol. Nodwyd bod cynnydd
yn nefnydd system hunanwasanaeth Aelodau a bod yr argyfwng wedi annog
y tîm i weithio
yn ddi-bapur (hyn yn fwy
effeithiol, yn gynt ac yn rhatach).
Ategwyd bod amryw o dasgau a phrosiectau angen sylw a rheiny
wedi cael ei hamserlennu ar gyfer y misoedd
nesaf. Diolchwyd am yr adroddiad
cadarnhaol ac am weithredu’r
pensiynau mor
effeithiol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â thaliadau staff ar ffyrlo ac, os yr
oeddynt ar eu colled, a
oedd yr Undebau
wedi tynnu sylw at y mater? nodwyd
bod y sefyllfa yn ddibynnol ar y cyflogwr yn talu'r
20% ychwanegol. Awgrymwyd
bod y cwmnïau mwyaf yn fwy tebygol
o dalu’r ychwanegiad. Eglurwyd, os na fyddai’r ychwanegiad yn cael ei dalu,
yna byddai’r cyfranddaliadau yn cael eu tynnu
oddi ar yr
80% ac o ganlyniad, bydd y
staff ar eu colled. Ategwyd bod y cyfranddaliadau yn unol â'r pensiwn
ac y byddai’r Undebau yn debygol o herio’r
Cyflogwyr yn hytrach na’r Gronfa.
Nodwyd hefyd bod ychydig o anfantais i’r rhai hynny
sydd ar ffyrlo
ac yn ymddeol eleni gan fod
rhaid edrych dros y tair blynedd
ddiwethaf i ganfod y tal
terfynol i sicrhau tegwch. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â lleihau’r nifer o lythyrau papur sydd yn cael
eu postio yn wythnosol, nodwyd
nad oedd
hyn yn ymarferol
bosib bob tro gan fod rhai
pobl yn dymuno
cael llythyr papur a bod angen ymateb i rai llythyrau
gyda llofnod. Er hynny, nodwyd
bod defnyddio argraffdy
Cyngor Gwynedd neu gwmni preifat i ddosbarthu’r
llythyrau yn fwy effeithiol wedi cael ei
ystyried ynghyd a sicrhau bod pob ymgais yn cael
ei wneud i ddefnyddio e-byst pan yn bosib. PENDERFYNWYD
nodi’r wybodaeth |