Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Hydref 2020 fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020 fel rhai cywir. |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB 2021/22 I gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi. Penderfyniad: Cymeradwyo Cyllideb ar
gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r
Uned Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymwneud a chais
i’r Pwyllgor gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2021–2022, ar gyfer yr Uned
Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi. Amlygwyd mai 2019/2020 oedd y tro cyntaf i’r
gyllideb ar gyfer yr Unedau
gael ei
chyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau am gymeradwyaeth a bod bwriad erbyn hyn i
gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol. Addaswyd
cyllideb 2019 /20 yn unol ag addasiadau
i strwythur staff yr Uned Gweinyddu
Pensiynau a’r Uned Buddsoddi - man addasiadau yn unig
oedd i gyllideb
2021/22 gyda chyllidebau sylfaenol yn parhau'r
un fath. PENDERFYNWYD cymeradwyo Cyllideb ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2020/21 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad
yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn
ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod
y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 30ain 2020 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau
a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau
lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian
wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr
amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn is nag incwm disgwyliedig cyllideb 2020/ 21. Yng ngoleuni’r argyfwng pandemig a’r tebygolrwydd
o alwadau annisgwyl ar y llif arian, amlygwyd bod y
Cyngor wedi cadw mwy o arian parod
ar fyr rybudd
nag sy’n arferol. Cafodd arian
parod hylif ei arallgyfeirio dros sawl gwrth
bartïon a Chronfeydd Marchnad Arian i reoli risgiau credyd
a hylifedd. Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol
sydd yn cael
eu rheoli yn allanol lle
mae diogelwch
a hylifedd tymor byr yn llai
o ystyriaeth. O ganlyniad gwireddir yr amcanion
drwy incwm refeniw rheolaidd a sefydlogrwydd prisiau hirdymor. Adroddwyd bod y Cyngor yn mesur perfformiad ariannol ei weithgareddau rheoli
trysorlys o ran ei effaith ar y gyllideb refeniw a’i berthynas â meincnod
cyfraddau llog. Nodwyd bod Cyfradd Banc, a oedd yn 0.75% ym mis Chwefror, bellach yn 0.1%, ond bydd y
llog a enillir o farchnadoedd arian dyddiedig byr yn sylweddol is. Tynnwyd sylw
at y dangosyddion cyfraddau llog ac amlygwyd nad oedd y dangosydd risg ‘y terfyn uchaf ar effaith refeniw blwyddyn
o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog’ yn cydymffurfio oherwydd effaith
cyfraddau llog gwael. Gyda rhagolygon gwan ac
ansefydlog, adroddwyd bod y Cyngor yn buddsoddi
cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol; yn parhau i wneud eu gorau i
geisio enillion drwy wasgaru risg, ond hefyd yn gweithredu yn ofalus yn unol â
chyngor Arlingclose. Diolchwyd am yr
adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r rhagolygon, amlygwyd bod yr adroddiad wedi
ei ysgrifennu ym mis Medi
2020 PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad er gwybodaeth |
|
CRONFA BAILLIE GIFFORD GLOBAL ALPHA PARIS ALIGNED FUND Gofyn i’r Pwyllgor Pensiynau gytuno i symud cronfa graidd Baillie Gifford i gronfa Baillie Gifford Global Alpha Paris Aligned. Penderfyniad: Cymeradwyo symud taliadau cyfredol Cronfa Graidd Baillie Gifford i Gronfa
Alpha Paris Aligned Baillie Gifford sydd yn rhan o Gronfa Global Growth
Partneriaeth Cymru yn unol â’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi ddiweddaraf Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi i geisio cymeradwyaeth
y Pwyllgor i gytuno i symud
cronfa graidd Baillie
Gifford i gronfa Baillie
Gifford Global Alpha Paris Aligned. Atgoffwyd yr Aelodau bod Baillie Gifford wedi
cyflwyno gwybodaeth ar y Gronfa Alpha Paris Aligned mewn cyfarfod o’r
Panel Buddsoddi 14 Hydref
2020. Eglurwyd bod y Gronfa
Global Alpha Paris Aligned yn amrywiad
carbon isel o’r model craidd ac yn cyd-fynd
ag amcanion Cytundeb Paris ac egwyddorion buddsoddi Cronfa Bensiwn Gwynedd. Ategwyd y byddai rhaid i’r
holl gronfeydd pensiwn cyfansoddol sydd yn rhan
o’r Gronfa Global Growth gytuno i’r trosglwyddiad.
Unwaith bydd y cronfeydd wedi gwneud eu penderfyniad
yn lleol, bydd penderfyniad swyddogol yn cael
ei wneud gan y Cyd- bwyllgor.
Adroddwyd bod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen ac y byddai mwy o wybodaeth i ddilyn am welliannau
pellach. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD cymeradwyo
symud taliadau cyfredol Cronfa Graidd Baillie Gifford i Gronfa Alpha Paris Aligned Baillie Gifford sydd yn rhan o Gronfa Global
Growth Partneriaeth Cymru yn unol â’r drafodaeth yn y
Panel Buddsoddi ddiweddaraf |
|
GOSOD AMCANION I YMGYNGHORWYR BUDDSODDI Adrodd ar gynnydd yn erbyn amcanion cyfredol ac adolygu amcanion y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’n ffurfiol amcanion osodwyd eisoes ar gyfer ymgynghorwyr
buddsoddi’r Gronfa. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn
erbyn yr amcanion cyfredol ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r
amcanion ar gyfer 2020/21. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd
ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr
buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt. Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr
amcanion hynny yn ystod 2019/20. Amlygwyd bod yr amcanion wedi bod yn
weithredol ers Rhagfyr 2019, ond nad oeddynt wedi eu derbyn yn ffurfiol gan y
Pwyllgor er i’r datganiad cydymffurfio fod wedi ei lofnodi gan Gadeirydd y
Pwyllgor erbyn y dyddiad cau gofynnol (7fed o Ionawr 2021). Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith
da, yn darparu adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli
buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol,
ymatebion a gohebiaeth amserol ac yn perfformio yn unol
â’r amcanion. Diolchwyd am yr adroddiad a gwnaed sylw y bydd
disgwyl i’r amcanion gael
eu cyflwyno yn flynyddol i’r
Pwyllgor Pensiynau yn unol â gofynion
y Ddeddf. Cymerwyd y cyfle i ddiolch
i Mr Paul Potter o gwmni
Hymans am ei gyngor a’i gefnogaeth i’r Gronfa Bensiwn
dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Dymunwyd ymddeoliad hapus iddo. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
a chymeradwyo’n ffurfiol amcanion a osodwyd
eisoes ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa. |
|
RHEOLIADAU TALIADAU YMADAEL Y SECTOR CYHOEDDUS 2020 I ystyried
adroddiad y Rheolwr Pensiynau Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad, er gwybodaeth gan
y Rheolwr Pensiynau yn rhoi diweddariad
ar y rheoliadau cyfyngu taliadau ymadael a ddaeth i rym ar
y 4ydd o Dachwedd 2020. Tynnwyd
sylw yn yr
adroddiad at effaith yr addasiadau diweddar
ar weithwyr y sector gyhoeddus ac at ddiwygiadau (drafft) pellach mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi eu
cynnig bydd yn debygol o ddod
i rym Gwanwyn
2021. Amlygwyd bod yr addasiadau yn
creu dryswch a phwysau gwaith ychwanegol ac mewn ymateb i’r ffactorau
cenedlaethol hyn bod darparwr meddalwedd weinyddol y Gronfa yn gorfod
diweddaru’r system i gyfrifo’r opsiynau newydd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod rheoliadau taliadau ymadael yn faes
cymhleth a thechnegol iawn ·
Bod y penderfyniad allan o ddwylo’r Awdurdod ac felly dim dewis ar y mater Mewn ymateb i
sylw, na
fydd y cap talu ymadael yn gysylltiedig
â mynegai, a fydd y cap
felly yn debygol o gael ei adolygu,
nodwyd na fydd unrhyw addasiad
nag adolygiad pellach i hyn. Mewn ymateb i
gwestiwn a fydd modd defnyddio cyfandaliad i osgoi
terfyn y cap, nodwyd petai newidiadau pellach i’r rheoliadau
yna bydd posib defnyddio’r cyfandaliad i dderbyn
lleihad budd-dal PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |
|
DATGANIAD POLISI CYFATHREBU NEWYDD I dderbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor i fabwysiadu y Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo mabwysiadu'r
Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau
yn gofyn i’r pwyllgor gymeradwyo
Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd. Eglurwyd bod rhaid i'r
Gronfa ddarparu, cynnal a chyhoeddi Datganiad Polisi Cyfathrebu yn unol
â Rheoliad 67 o Reoliadau Gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Ategwyd
bod rhaid i'r polisi cyfathrebu gael ei adolygu a'i ailgyhoeddi
yn dilyn unrhyw newid mewn
polisi. Yn dilyn amryw o newidiadau
i ddulliau cyfathrebu diweddar diwygiwyd y datganiad i gynnwys dulliau
cyfathrebu cyfredol gan ychwanegu defnydd
Microsoft Teams, I-Connect a’r adnodd
Hunanwasanaeth. Nodwyd nad oedd
polisi Gwynedd wedi ei ddiweddaru ers
2010. Cyflwynwyd y datganiad
polisi i’r Bwrdd Pensiwn 23.11.20 ac fe addaswyd
y polisi yn unol â’u sylwadau. Mewn ymateb i
sylw ynglŷn â chyfathrebu gyda darpar Aelodau, nodwyd mai mater i bob cyflogwr fyddai nodi bod ymaelodi gyda’r cynllun yn un o fuddion
y swydd. Mewn ymateb i
gwestiwn, cadarnhawyd bod y
datganiad polisi cyfathrebu yn gyson
â chanllawiau Polisi Iaith Cyngor Gwynedd Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylw canlynol: ·
Angen rhoi ystyriaeth
i ddulliau cyfathrebu gyda darpar gyflogwyr PENDERFYNWYD cymeradwyo mabwysiadu'r Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd |