Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Peredur Jenkins a’r
Cynghorydd Simon Glyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain
o Ionawr 2021, fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2021/22 I ystyried yr adroddiad, mabwysiadu’r strategaeth
a chadarnhau trefniadau cronni Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi gan nodi yn
unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r
Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys,
i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn
Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu
Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2021/22, fel
ei addaswyd i bwrpas y Gronfa
Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2021/22 ei
gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 4 Mawrth
2021. Dymuniad y Pwyllgor Pensiynau oedd caniatáu i
arian dros
ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael
ei gronni gyda balansau ariannol
y Cyngor. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog priodol
i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn.
Amlygwyd bod yr ymarfer yn un
sydd yn cael
ei benderfynu yn flynyddol gan
fod y dychweliadau a dderbynnir yn well gyda’r risgiau wedi ei lleihau
wrth uno’r arian gyda chronfeydd
y Cyngor. Mae’r swm sydd ar
gael i
gronni yn amrywio ac wedi tyfu yn ddiweddar
i oddeutu £20m-£25m. Mewn trafodaethau diweddar yn y Panel Buddsoddi, argymhellwyd i fuddsoddi hyd
at £20m i gronfa ARB PPC- cadarnhaodd y Rheolwr Buddsoddi bod £10m wedi ei fuddsoddi erbyn
hyn. Y math o fuddsoddiadau
sydd ar gael ar y cyd gyda'r Cyngor a welir yn yr
adroddiad ydi Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau eraill, Cronfeydd Marchnad Arian a chronfeydd wedi’i pwlio. Prif fanteision yr ymarfer
yw denu llog
uwch, isafu costau banc ac osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai cadw'r Gronfa
yn ddiogel a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg. Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn
yr argymhellion. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: · Nad oedd pwrpas cael strategaeth wahanol ·
Y trefniant yn gweithio yn
dda PENDERFYNWYD: · Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2021/22 fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn · Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw yn gorff ar wahân), i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1af o Ebrill 2021 ymlaen. |
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo Cynllun Busnes
Partneriaeth Pensiwn Cymru Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn nodi dymuniad
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i bob pwyllgor unigol o fewn y bartneriaeth gymeradwyo eu Cynllun
Busnes. Eglurwyd bod y Cynllun Busnes wedi ei gyflwyno
i’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu am gymeradwyaeth ar y 24ain o Fawrth 2021 lle argymhellwyd dau addasiad - 2 elfen yn ymwneud
a hyfforddiant blynyddol a pholisi datgelu / ‘Canu’r Gloch’. Amlygwyd bod y Cynllun
Busnes yn rhoi trosolwg manwl
ar yr hyn
y mae’r PPC yn ei wneud ynghyd
a sut y maent yn cyflawni eu
nodau. Ategwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei
fonitro yn rheolaidd ac yn cael ei adolygu
a’i gytuno yn flynyddol. Cynigiwyd ac eiliwyd
i gymeradwyo’r Cynllun Busnes ynghyd a’r ychwanegiadau
a argymhellwyd gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru |
|
I ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn, er gwybodaeth, gynnwys y Gofrestr Risg Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr
Buddsoddi a’r Rheolwr Pensiynau y gofrestr risg gyfredol
oedd yn amlygu
risgiau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn.
Amlygwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol,
yn cael ei
hadolygu’n rheolaidd a’i diweddaru mewn
ymateb i unrhyw risgiau sylweddol sydd yn debygol o ddatblygu. Amlygwyd bod y gofrestr,
ers ei ffurfio,
wedi ei chyflwyno
i’r Bwrdd Pensiwn yn rheolaidd
gyda’r Bwrdd yn adolygu’r cynnwys
ac yn cynnig sylwadau ar sgôr
y risgiau a fformat y gofrestr. Ers ei
chyflwyno i’r Bwrdd ym mis
Chwefror 2021, amlygwyd bod
y risgiau oedd wedi dyddio wedi
eu hadolygu, yr asesiadau wedi
eu haddasu a bod y gofrestr yn gyfredol
â’r sefyllfa bresennol. Diolchwyd am y wybodaeth Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: · Croesawu lliwiau i amlygu risg, er ystyriwyd nad oedd piws yn adlewyrchu ‘trychinebus’ · Risg rhif 1.2 – gwrthdaro buddiannau... – angen amlygu’r buddiannau yn glir ·
Risg rhif 2.1 – gwneud penderfyniadau amhriodol o ganlyniad i wybodaeth
annigonol... – angen cynnwys y Bwrdd Pensiwn fel Rheolaeth
Lliniaru i atgyfnerthu’r datganiad – y Bwrdd yn chwarae
rôl bwysig drwy herio a chraffu
gweinyddiaeth a rheolaeth y
Gronfa Bensiwn Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â risg rhif 7.5 - buddion pensiwn yn parhau
i gael
ei dalu i
bensiynwyr sydd wedi marw...’ cadarnhawyd
bod cais yn cael ei wneud
am gopi o’r dystysgrif marwolaeth PENDERFYNWYD, derbyn, er gwybodaeth,
gynnwys y Gofrestr Risg |