Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021/ 22 Penderfyniad: Ail – ethol y Cynghorydd Peredur
Jenkins yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021 / 22 Cofnod: Penderfynwyd ail –
ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021 /
22 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2021 / 22 Penderfyniad: Ail-ethol y Cynghorydd Stephen
Churchman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22 Cofnod: Penderfynwyd ail-ethol
y Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Aled Wyn Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
25ain Mawrth 2021 fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021 fel rhai cywir |
|
I ystyried yr
adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a mabwysiadu’r trefniadau newydd Penderfyniad: Derbyn –
Bensiwn
Gwynedd
Cofnod: Eglurwyd, fel
mater o drefn, mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yw ystyried a mabwysiadu
Trefniadau Gweithredu
i adlewyrchu’r gofynion statudol ar awdurdodau lleol, yn
ei gyfarfod cyntaf o gyngor newydd ar ôl etholiad. (Mabwysiadwyd y fersiwn
gyfredol gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 6/06/2017). Yn dilyn cyfnod o adolygu trefniadau llywodraethu materion ariannol y Gronfa Bensiwn, cyflwynwyd addasiadau i’r Trefniadau sy’n angenrheidiol ar gyfer ymdrin
â chyfrifon 2020/21 Cronfa Bensiwn Gwynedd. Amlygwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi bod yn derbyn a chymeradwyo
cyfrifon Cyngor Gwynedd a Chronfa
Bensiwn Gwynedd, fel rhan o’i rôl
fel y “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu”. Wedi ystyried
y canllawiau a’r rheoliadau diweddaraf, ac adolygu’r trefniadau llywodraethu ymddengys yn gynyddol glir
mai’r Pwyllgor Pensiynau, ac nid y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, yw’r corff priodol i
dderbyn a chymeradwyo datganiadau o gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd. Nid yn unig
mae’r gofyn cyfreithiol iddynt gael eu cynnwys
gyda chyfrifon y Cyngor wedi cael ei
ddiddymu, ond mae’r bwrdd cenedlaethol
sy’n cynghori Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol hefyd yn argymell
y dylai’r Pwyllgor Pensiynau ystyried y cyfrifon. Tynnwyd sylw
at y rheoliadau perthnasol ynghyd a’r trefniadau
gweithredu drafft newydd sydd yn
parhau i fod yn gyson
a gofynion Mesur Llywodraeth Leol a’r Canllawiau Statudol. Adroddwyd nad oes anghysondeb gydag Adran 81 Mesur 2011, gan nad yw
materion ariannol y Gronfa Bensiwn yn rhan o faterion
ariannol Cyngor Gwynedd – mae
arian y ddau endid yn gwbl
ar wahân i’w gilydd. Amlygwyd bod adroddiad cyfatebol wedi
ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu 27 Mai 2021 lle cymeradwywyd addasiadau i’r trefniadau gweithredu er mwyn caniatáu
i’r Pwyllgor Pensiynau dderbyn a chymeradwyo datganiadau o gyfrifon y gronfa bensiwn, ynghyd ag adroddiad perthnasol yr archwiliwr allanol.
Ategwyd yn y Pwyllgor bod trefniadau a phenderfyniadau sydd yn ymwneud a phensiynau
yn cael eu
rheoli gan y Pwyllgor Pensiynau sydd yn eu
tro yn cael
eu craffu yn fanwl gan
y Bwrdd Pensiwn. O ganlyniad, ystyriwyd bod yr addasiad yn
un synhwyrol. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â phenderfyniad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, cadarnhawyd bod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud
(27/5/21) PENDERFYNWYD: Derbyn, ·
Cynllun gwaith yr archwiliwr
allanol ar Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd. ·
Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn
Gwynedd, wedi iddynt gael eu hardystio gan y Pennaeth Cyllid ond yn
ddarostyngedig i archwiliad, a chyfle i herio eu cynnwys ·
Adroddiad blynyddol gan yr
archwiliwr ariannol ar Ddatganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ·
Y fersiwn derfynol
ôl-archwiliad o Ddatganiadau Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (cyn diwedd mis
Tachwedd yn 2021), a chyfle i herio cynnwys adroddiad
perthnasol yr archwiliwr allanol, sef Archwilio Cymru |
|
CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2021 I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y cynllun Cofnod: Croesawyd Yvonne Thomas a
Garmon Williams i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd cynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2021 yn
nodi’r gwaith y bwriedir ei gwblhau
yn ystod y flwyddyn yn unol
â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt
fel archwilwyr allanol. Cyfeiriwyd at yr angen i
archwilio cyfrifon y gronfa bensiwn gyda’r nod o adnabod camddatganiadau perthnasol ynghyd a’r risgiau
sydd ynghlwm i’r archwiliad ariannol megis effaith covid-19. Cyfeiriwyd at gynnwys y rhaglen archwilio perfformiad gan gynnig braslun o’r gwaith sydd
i’w gyflawni, y ffioedd a’r amserlen
bwriadedig. Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd parodrwydd i gydweithio. Gwerthfawrogwyd
bod Tîm Archwilio Cymru yn rhugl
yn y Gymraeg a bod hyn i’w groesawu. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag os oedd Archwilio Cymru wedi ystyried
protocolau diogelwch siber gan awgrymu
y gall materion diogelwch amlygu eu hunain
i staff sydd yn gweithio o adre
gan fod y wybodaeth ‘bosib ar gael’, nodwyd
y bydd angen gwneud ymholiadau pellach i ganfod
ymateb trylwyr ac y bydd Archwilio Cymru yn ymateb
yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Churchman. PENDERFYNWYD:
Derbyn y
cynllun |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 Ystyried yr adroddiad, derbyn a nodi Datganiad o’r Cyfrifon drafft Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon
y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2020/21 Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun
archwiliad sy’n cael ei weithredu
gan Archwilio Cymru Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn
ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth
sy’n cael ei gyflwyno yn
y cyfrifon. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon y llynedd, wedi eu
harwyddo gyda pharagraff ‘emphasis of matter’ oherwydd
yr ansicrwydd gyda phrisiadau eiddo. Amlygwyd bod y 4 Rheolwr Eiddo wedi
datgan nad
oes ansicrwydd eleni. Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi
blwyddyn arferol i gyfraniadau a buddion heb newid
sylweddol. Er hynny, adroddwyd newid sylweddol mewn costau rheoli
a cyfeiriwyd at nodyn 12a sy’n egluro mai
cynnydd yn ffioedd perfformiad Ecwiti Preifat (Partners) oedd yn gyfrifol
am y newid gyda pherfformiad cryf mewn 3 cronfa yn
benodol. (Derbyniwyd eglurhad llawn gan y Rheolwyr pan heriwyd eu ffioedd). Cyfeiriwyd at y cynnydd yn yr
Incwm Buddsoddi (nodyn 13) o ganlyniad i incwm o fuddsoddiadau
Ecwiti wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddechrau
talu incwm a enillwyd ers
sefydlu ar holl is-gronfeydd y Bartneriaeth y mae’r gronfa wedi buddsoddi
ynddynt. Cyfeiriwyd hefyd at y ffigwr o £565.5 miliwn sef y cynnydd
yng ngwerth yr asedau ar
y farchnad yn dilyn blwyddyn lewyrchus iawn (nodyn 14a). Yng nghyd-destun y datganiad asedau net, tynnwyd sylw at y newid yn yr asedau
buddsoddi (Nodyn 14a) sydd bellach wedi
cyrraedd £2.5 biliwn gyda chynnydd sylweddol
ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru wedi
i gyfran o Fidelity ac
Insight drosglwyddo i’r cronfeydd incwm sefydlog yn y flwyddyn. Cymerodd y Pennaeth Cyllid y cyfle i ddiolch
i’r Tîm Buddsoddi
am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad
Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau
o few yr amserlen. Nododd ei fod
eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer
da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi
cyfle i holi
/ cyflwyno sylwadau. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn
a fydd treuliau ariannol yn ymddangos
yn gyson ymhen 2 flynedd
(hynny yw ffioedd yn adlewyrchu
nifer treuliau), nodwyd, gan fod
nifer o gyfuniadau prynu a gwerthu anodd fyddai cymharu
blwyddyn v blwyddyn, ond disgwylir gweld
cysondeb yn y tymor hir. Mewn ymateb i gynnydd
sylweddol net o 0.6 biliwn, gofynnwyd petai modd adolygu’r
strategaeth i ystyried pecynnau / buddion atyniadol i staff e.e., ymddeol
yn gynnar. Nododd y Pennaeth Cyllid nad
oedd hawl gan y Gronfa na’r
Cyflogwr i addasu’r buddion gan eu bod wedi
eu gosod yn unol â chyflogau
a nifer blynyddoedd gwaith. Ategwyd, yn Ebrill 2022 bydd gwaith yn
dechrau ar adolygu’r prisiad teirblynyddol nesaf lle bydd modd,
yn ddibynnol ar y canlyniad, addasu cyfranddaliadau cyflogwyr. Mewn ymateb i sylw bod y llywodraeth yn addasu oed ymddeol gyda phobl yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2020/21 I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi bod penderfyniad
blynyddol yn cael ei wneud
i ganiatáu i gronfeydd dros
ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi
a llif arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd
bod yr adroddiad yn cymharu gwir
berfformiad yn erbyn y strategaeth ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2012/21 ac yn cyflawni dyletswydd
gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gymryd
ystyriaeth o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi Llywodraeth Cymru. Adroddwyd, yn ystod y flwyddyn
ariannol 2020/21 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn
wreiddiol a derbyniwyd
£422,000 o log ar fuddsoddiadau
oedd yn uwch
na’r £400,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na
wnaeth unrhyw sefydliad yr oedd
y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda hwy
fethu â thalu. Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod cydymffurfio llawn wedi digwydd
ar wahân i’r datguddiad cyfraddau llog. Amlygwyd bod y datguddiad yma yna dangos
effaith refeniw un flwyddyn o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog gan amlygu
effaith difrifol y mae’r pandemig wedi ei gael
ar enillion buddsoddiadau o gymharu ar hyn a ragwelwyd
ddechrau Mawrth 2020 pan osodwyd lefel y cyfyngiad - cyn pandemig Covid
19. Ategwyd
bod dychweliadau ar y cronfeydd wedi’i pwlio wedi adfer
y gollyngiad llog. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |
|
I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Datganiad ac i’r
Cadeirydd lofnodi’r Datganiad Cofnod: Amlygodd y Pennaeth Cyllid bod etholwyr ym Môn, Conwy a Gwynedd wedi
cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor yn ymwneud a buddsoddi cyfrifol. Croesawyd
derbyn y cwestiynau ymlaen llaw a gwerthfawrogwyd presenoldeb yr etholwyr yn y
cyfarfod. Penderfynwyd ymateb i’r cwestiynau cyn trafod yr adroddiad. 1.
Pa dystiolaeth
sydd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd bod eu polisi ymgysylltu mewn gwirionedd wedi
newid ymddygiad y cwmnïau maent yn gyfranddalwyr ynddynt? Eglurwyd,
fel Cronfa, y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr y gronfa gan dderbyn
adroddiadau cynnydd ar eu gweithgareddau ymgysylltu. Nodwyd bod rheolwyr y
gronfa yn weithgar iawn a’r cynnydd diweddar wedi bod yn foddhaol iawn gyda
thrafodaethau agored yn cael eu cynnal ynglŷn â strategaeth hinsawdd rhai
cronfeydd. Amlygwyd bod gan Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) Ddarparwr
Pleidleisio ac Ymgysylltu sy’n cynorthwyo gyda’r broses ymgysylltu. Cyfeiriwyd
at yr enghreifftiau canlynol o addasiadau ystyriol gan gwmnïau sydd o fewn
portffolios y Bartneriaeth. a)
Archer Daniels Midland (ADM). Gwelwyd diffygion ym
mholisïau ADM oedd yn cyfrannu at ddatgoedwigo parhaus a diffyg amddiffyn
llystyfiant brodorol. Nodwyd bod Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu)
wedi cynnal trafodaethau gydag ADM ers 2020 ac wedi cyflwyno cynnig ar ran y
cyfranddalwyr ynglŷn â’u cyfraniad at ddatgoedwigo a chlirio llystyfiant
brodorol yn Ne America. Ym mis Mawrth 2021, tynnwyd y cynnig yn ôl gan fod y
cwmni wedi ymrwymo i: ·
osod ymrwymiadau â therfyn amser i ddileu
datgoedwigo erbyn 2030 ·
olrhain y gadwyn gyflenwi soi yn llawn erbyn 2022 ·
gynnwys llystyfiant brodorol yn eu Polisi Dim
Datgoedwigo ·
gyhoeddi protocol ymgysylltu â chyflenwyr b)
Enel Spa. Adroddwyd bod Enel Spa (cwmni ynni
rhyngwladol o'r Eidal) yn weithgar yn y sectorau cynhyrchu a dosbarthu trydan.
Wrth arwain ar ymgysylltu cydweithredol o dan y fenter Climate Action 100+,
nodwyd bod Robeco wedi ymgysylltu sawl gwaith â rheolwyr gweithredol ac
anweithredol y cwmni sydd wedi arwain at ddatblygu strategaeth uchelgeisiol i
ddatblygu egni adnewyddol a digideiddio rhwydweithiau dosbarthu. Fel rhan o’r
ymdrechion i gryfhau llywodraethiant cwmnïau ar faterion hinsawdd, llwyddodd
Robeco i enwebu cyn Prif Swyddog Gweithredol Wind Power yn DONG Energy, i Fwrdd
Enel, ynghyd â grŵp o fuddsoddwyr sefydliadol. Bydd y camau nesaf yn eu trafodaethau
ymgysylltu yn ceisio mynd i’r afael ar fwriad y cwmni i gyflawni targed
net-sero erbyn 2050, a gosod targed tymor hir ar gyfer Allyriadau Scope 3 c)
ING. Adroddwyd bod Banc ING (darparwr gwasanaethau
ariannol yn yr Iseldiroedd), yn gosod ffocws cryf ar wasanaethau digidol ar
gyfer gwasanaethau bancio safonol. Nodwyd, yn 2018 y cyhoeddodd ING setliad
dirwy o 775 miliwn euro oherwydd eu methiant i ganfod materion gwyngalchu arian rhwng 2012 a 2016, ac yn gynharach yn y flwyddyn
diddymodd y bwrdd goruchwylio eu cynnig i gynyddu lefelau tâl gweithredol ar ôl
pwysau cymdeithasol. Amlygwyd bod Robeco wedi cynnal cyfarfodydd gyda
Chadeirydd y Bwrdd i asesu cryfderau a gwendidau ING ac wedi cysylltu gyda’r
Buddsoddwyr i geisio adolygu fframwaith rheoli risg. Awgrymwyd penodi
cyfarwyddwr annibynnol i’r Bwrdd yn 2019, a pharhau i ganolbwyntio ar
oruchwyliaeth annibynnol bellach. Yn ogystal, nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn diweddaru’r Aelodau ar waith y Bartneriaeth,
perfformiad y Gronfa ynghyd a datblygiadau sydd ar y gweill
ers sefydlu yn 2017. Erbyn 31ain Mawrth 2021, adroddwyd bod 81% o gronfa Gwynedd wedi ei bwlio
gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru - 54% drwy’r prif gronfeydd
a 27% drwy’r buddsoddiadau goddefol. Adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd drwy Teams yn caniatáu i
faterion gael
eu trafod yn amserol ac ymddengys
hyn yn effeithiol
gyda phethau yn symud ymlaen
yn gynt. Adroddwyd bod y trosglwyddiadau rhwydd wedi eu
gweithredu a gwaith bellach yn cael
ei wneud ar faterion sy’n
ymddangos yn fwy heriol, megis
Marchnadoedd Preifat. Ategwyd bod cefnogaeth i’r gwaith o gyfuno
asedau yn y categori yma yn
cael ei wneud
gan Hymans gyda thrafodaethau busnes parhaus yn cael
eu trefnu i benderfynu ar
y strwythur a’r mecanwaith priodol i fuddsoddi ynddo. Tynnwyd sylw at y drafodaeth ynglŷn â phroses penodi cynrychiolydd Aelodau ar gyfer y Cydbwyllgor Llywodraethu. Amlygwyd mai’r argymhelliad a gynigwyd mewn adroddiad
i’r Cydbwyllgor (24ain o Fawrth 2021) oedd y dylai pob Bwrdd
Pensiwn lleol enwebu un cynrychiolydd
aelodau'r cynllun a fyddai'n cyfarch gofynion y swydd ddisgrifiad. Byddai'r broses penodi yn cael
ei chynnal gan is-grŵp a fyddai'n argymell enwebiad i'w gymeradwyo
gan y Cydbwyllgor Llywodraethu. Mynegodd y Pennaeth Cyllid y byddai yn cefnogi
achos Osian Richards (Cadeirydd
Bwrdd Pensiwn Gwynedd) fel aelod ar
y Cydbwyllgor. Nodwyd y bydd y broses penodi yn cymryd
hyd at chwech i ddeuddeg mis
gan fod angen
cymeradwyaeth Cyngor Llawn pob awdurdod cyfansoddiadol. Diolchwyd am yr adroddiad.
Nododd y Cadeirydd bod sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi
bod yn llwyddiannus iawn gydag elfen
dychweliadau a chydweithio
da yn ennyn buddion i’r Gronfa.
Mynegodd falchder bod yn rhan o’r
Gronfa. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |
|
DIWYGIADAU I'R DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO I ystyried yr adroddiad, cymeradwyo diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth
Cyllido yn dilyn newidiadau i Reoliadau CPLlL 2013 a’u diweddaru o Achos Llys
Goodwin Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu’r angen
i’r Pwyllgor gymeradwyo diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth
Cyllido yn dilyn newidiadau i Reoliadau CPLlL 2013 a diweddariad achos Llys Goodwin. Daw'r argymhelliad gan actiwari’r Gronfa sef Hymans Robertson oedd wedi awgrymu’r
newidiadau. Amlygwyd bod newidiadau mewn tri rhan o’r datganiad -
Adolygiad
cyfraniad - yr addasiad yn caniatáu i’r Gronfa ail
gyfrifo cyfraniadau tu allan i’r prisiad ffurfiol o dan yr amgylchiadau
canlynol: os bu newid i ymrwymiadau (liabilities) y
cyflogwr, bu newid i gyfamod (guarantee) y cyflogwr;
neu ar gais y cyflogwr -
Trefniadau
ymadael – yr addasiad yn caniatáu mwy o hyblygrwydd pan
fydd cyflogwr eisiau gadael y gronfa. Os yw’r cyflogwr mewn diffyg, mae’r
opsiynau wedi ei ffurfioli e.e, lledaenu’r taliad dros
nifer o flynyddoedd neu ymrwymo i Gytundeb Dyled Gohiriedig (Deferred Debt Agreement).
-
Achos Llys Goodwin - ble roedd aelodau neu
oroeswyr yn destun gwahaniaethu oherwydd eu cyfeiriadedd
rhywiol. Disgwylir i'r effaith ar
Achos Goodwin fod yn fach iawn
ar ymrwymiadau’r Gronfa ac yn fater
gweinyddol i raddau helaeth. Er hynny, noder
yr addasiad yn y strategaeth er eglurder. Diolchwyd am yr
adroddiad ac am arweiniad Hymans Robertson mewn maes
technegol iawn. Derbyniwyd bod yr ymateb hefyd yn un technegol ac efallai
uwchlaw dealltwriaeth rhai o’r Aelodau, ond gyda disgwyliad bod y swyddogion yn
gweithredu yn gywir. Nodwyd hefyd bod defnydd lliwiau yn yr adroddiad
yn fodd effeithiol iawn o amlygu’r newidiadau. PENDERFYNWYD • Cymeradwyo’r
diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth Cyllido yn dilyn newidiadau i Reoliadau CPLlL 2013 a’u diweddaru o Achos Llys Goodwin • Mabwysiadu’r Datganiad
Strategaeth Cyllido Diwygiedig |