Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Goronwy Edwards (Cyngor Sir
Bwrdeistrefol Conwy) Simon Glyn a John Brynmor Hughes |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24 Mehefin
2021 fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin
2021 fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD POLISI LLYWODRAETHU I ystyried yr adroddiad a mabwysiadu’r polisïau newydd Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r Datganiad
Polisi Llywodraethu yn ddarostyngedig i gynnwys yr addasiadau canlynol
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu’r gofyn i’r Gronfa gyhoeddi
Datganiad Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad 55 Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol 2013 (fel y’i diwygiwyd) gan adolygu’r datganiad hwnnw yn
barhaus. Bwriad y datganiad yw nodi Strwythur Llywodraethu'r Gronfa, y cynllun
dirprwyo, a'r cylch gorchwyl ar gyfer ei Chyrff Llywodraethol, y Pwyllgor
Pensiynau a'r Bwrdd Pensiynau Lleol. Amlygwyd bod y
datganiad cyfredol mewn grym ers 2008 ac wrth baratoi ar gyfer Prosiect
Llywodraethu Da Bwrdd Cynghori’r Cynllun a ddaw i rym Ebrill 2022, nodwyd bod y
gwasanaeth wedi bod yn adolygu a diweddaru’r datganiad. Eglurwyd bod y prif
newidiadau yn cynnwys darparu mwy o wybodaeth am swyddogaethau a chyfrifoldebau
staff y gronfa bensiwn ynghyd a chyflwyno rhan newydd i’r polisi mewn perthynas
â rôl a chyfrifoldebau'r Bwrdd Pensiwn. Nodwyd bod y Datganiad wedi ei gyflwyno
i’r Bwrdd Pensiwn Gorffennaf 2021 a bod y Bwrdd wedi cyflwyno sylwadau. Diolchwyd am yr
adroddiad a chytunwyd bod angen cydymffurfio gyda’r Rheoliadau ac adrodd ar y
sefyllfa bresennol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Y dylid cynnwys gwybodaeth am Bartneriaeth Pensiwn
Cymru o ystyried eu bod yn gyfrifol am weithgaredd Cronfa Gwynedd ·
Bod angen diweddaru cyfrifoldebau’r Pennaeth Cyllid ·
Bod y gair ‘rhai’ yn y frawddeg ‘gwneud rhai
penderfyniadau yng nghyswllt gweinyddu pensiynau’ yn amwys - angen geiriad sydd
yn egluro yn well ·
Bod cyfeiriad at hyfforddiant ar gyfer aelodau’r
Bwrdd Pensiwn ond dim ar gyfer y Pwyllgor Pensiynau Mewn ymateb i sylw
bod y geiriad ‘cydymffurfio yn rhannol’ yn ddatganiad amwys, nodwyd nad oedd y
strwythur cyfredol yn caniatáu cydymffurfiaeth lawn. Ategwyd bod Partneriaeth
Pensiwn Cymru wedi ystyried y sefyllfa gan adrodd bod modd ail ymweld a’r
strwythur ar drothwy Etholiad 2022 ynghyd a chyflwyno rheoliadau newydd
tebygol. Awgrymwyd, cadw’r geriad ‘cydymffurfio yn rhannol’ gan adolygu os daw
newid PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r Datganiad Polisi
Llywodraethu yn ddarostyngedig i gynnwys yr addasiadau canlynol ·
Ychwanegu paragraff yn amlygu
grymoedd wedi’u dirprwyo gan y Cyngor i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ·
Addasu brawddeg 4 (Prif
gyfrifoldebau’r Pwyllgor) i nodi Gwneud
rhai penderfyniadau yng nghyswllt gweinyddu pensiynau, mewn eithriadau e.e.,
apeliadau ·
Diweddaru cyfrifoldebau’r Prif
Swyddog Cyllid i amlygu’r trefniant dros dro ar gyfer y cyfnod o 01/01/22 ·
Ychwanegu nodyn yn amlygu gofynion
hyfforddiant aelodau'r Pwyllgor Pensiynau (fel sydd eisoes wedi ei amlygu ar
gyfer aelodau’r Bwrdd Pensiwn) ·
Parhau gyda’r datganiad ‘cydymffurfio’n
rhannol’ gan adolygu’r datganiad os daw newid i strwythur y drefn
reolaethol |
|
AMSERLEN PRISIANT 2022 I ystyried yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gosod amserlen ar gyfer prisio’r Gronfa
Bensiwn fydd yn seiliedig ar yr aelodaeth ar 31 Mawrth 2022 gyda chyfraddau
cyfraniadau cyflogwyr newydd yn dod i rym ar y 1af o Ebrill 2022. Pwrpas prisiad
yw asesu sefyllfa ariannol y Gronfa, nodi'r rhagdybiaethau ar gyfer chwyddiant
ac enillion buddsoddiad yn y dyfodol ac adolygu cyfraddau cyfraniadau
cyflogwyr. Yn dilyn
trafodaeth mewn cyfarfod rhagarweiniol gydag Hymans
Robertson penderfynwyd ar y dyddiau arfaethedig. Gyda’r ymarferiad yn un sydd
yn cymryd lle dros gyfnod hir, penderfynwyd gosod amserlen. Cyfeiriwyd at y
gwahanol gamau sydd angen eu gweithredu gan awgrymu dau ddyddiad o hyfforddiant
gydag Hymans fel bod modd i'r Aelodau dderbyn gwybodaeth
dechnegol llawn. Nodwyd bod y
cyfnod yn un heriol a phrysur i’r Gwasanaeth Pensiwn gyda gwaith ychwanegol i’w
gwblhau o baratoi a chyflwyno gwybodaeth lân a chywir i sicrhau bod
canlyniadau’r prisiant mor gywir â phosib i bob cyflogwr. Er hynny ystyriwyd
bod yr amserlen yn gyraeddadwy. Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod gosod amserlen yn crynhoi’r drefn yn effeithiol ·
Bod cynnal hyfforddiant i’w groesawu a bod yr
awgrym o gynnal hyfforddiant ar ddiwrnod y prisiad yn ddefnyddiol o ystyried
bod y wybodaeth mor dechnegol ·
Diolch i’r staff am eu hagwedd broffesiynol a’r
gwaith clodwiw maent yn cyflawni Mewn ymateb,
nododd y Pennaeth Cyllid bod bwriad cynnal un sesiwn hyfforddiant yn dilyn cwblhau’r
rhagdybiaethau terfynol (Ionawr 2022) a sesiwn ym mis Hydref 2022 wrth gyhoeddi
canlyniadau’r cyflogwyr a diweddaru’r Datganiad Strategaeth Cyllido. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried
yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o
nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 ac erbyn Mawrth 31ain 2021 bod 81% o
gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC. Nodwyd bod y perfformiad yn un ‘safonol
iawn' gyda nifer o ddatblygiadau ar y gweill sydd yn cynnwys trosglwyddo cyfran
Marchnadoedd Datblygol o Fidelity i’r gronfa PPC.
Bydd hyn yn dod a chyfanswm pwlio Gwynedd i 83%. Nodwyd bod y
Gronfa yn perfformio’n sylweddol uwch na’r meincnod yn gyson; bod cyfarfodydd
Panel Buddsoddi yn gyfle da i holi a herio Rheolwyr; ac er bod sefyllfa covid wedi bod yn argyfyngus ar draws y byd bod
marchnadoedd yn perfformio’n gryf. Camau nesaf yn y
broses fydd edrych ar yr opsiynau o gyfuno asedau i’r categori Marchnadoedd
Preifat sydd yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Hymans
Robertson gyda thrafodaethau parhaus i benderfynu'r strwythur a’r mecanwaith
priodol i fuddsoddi ynddo. Adroddwyd bod cynghorydd apwyntio arbenigol wedi ei
apwyntio i gynorthwyo’r PPC i apwyntio rheolwyr buddsoddi addas i reoli’r
dyraniad marchnadoedd preifat a bod tendr bellach wedi ei ryddhau i benodi
rheolwr addas ar gyfer isadeladwaith a dyled preifat. Yng nghyd-destun
cynrychiolydd aelodau ar y Cyd bwyllgor Llywodraethu, nodwyd bod pob awdurdod
cyfansoddiadol ar hyn o bryd yn cyflwyno addasiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod sydd angen cymeradwyaeth pob Cyngor Llawn -
cymeradwywyd yr addasiadau gan Cyngor Gwynedd ar y 7fed o Hydref 2021. Diolchwyd am yr
adroddiad ac i’r holl staff oedd yn gysylltiedig â'r gwaith Nododd y Cadeirydd
fod PPC yn gronfa lwyddiannus ac effeithiol gyda dychweliadau derbyniol iawn.
Ategwyd bod sefyllfa cronfa Cymru, o gymharu ag eraill ar draws y DU yn un cryf
iawn a bod cydweithio da yn rhan amlwg o’r llwyddiant. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod yr adroddiad yn nodi perfformiad ‘safonol iawn’
yn y fersiwn Gymraeg, ond yn nodi ‘very satisfactory’ yn y
Saesneg sydd yn ymddangos yn well disgrifiad o’r sefyllfa / perfformiad – angen
ail ystyried yr ymadrodd Cymraeg. ·
Bod y trosglwyddiadau hyd yma wedi bod yn galonogol
iawn – y trosglwyddiadau sydd yn weddill fydd yn gosod yr heriau mwyaf Derbyn a nodi’r wybodaeth |