Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2022 - 2023 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Stephen
Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022 / 23 Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y
Pwyllgor hwn ar gyfer 2022 / 23 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer
2022 - 2023 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Ioan Thomas
yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022/23 Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd
y Pwyllgor hwn am 2022/23 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth
2022 fel rhai cywir |
|
CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022 PDF 93 KB I ystyried
yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn Cynllun Archwilio Cyfrifon
Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y flwyddyn 31 Mawrth 2022 (sydd yn cael ei
gwblhau gan Archwilio Cymru). Cofnod: Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd cynllun
Archwilio Cymru ar gyfer 2022 yn nodi’r gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y
flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol.
Cyfeiriwyd at yr angen i archwilio cyfrifon y gronfa bensiwn gyda’r nod o
adnabod camddatganiadau perthnasol ynghyd a’r risgiau sydd ynghlwm i’r
archwiliad ariannol. Cyfeiriwyd at gynnwys y rhaglen archwilio perfformiad gan
gynnig braslun o’r gwaith sydd i’w gyflawni, y ffioedd a’r amserlen bwriadedig ynghyd ag amlygu y bydd Datganiad o
Gyfrifoldebau yn cael ei gyflwyno yn manylu ar faterion ac yn cynnig mwy o
wybodaeth am waith yr Archwilwyr. Adroddwyd bod pandemig covid -19 yn parhau i
gael effaith digynsail ar y Deyrnas Unedig ac ar waith sefydliadau’r sector gyhoeddus
gydag Archwilio Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa gan drafod goblygiadau
unrhyw newidiadau gyda swyddogion. Amlygwyd bod y risgiau a nodwyd yn rai oedd
yn berthnasol i bob cynllun ac nid yn unigryw i Wynedd a bod y cynnydd mewn
ffioedd o ganlyniad i’r angen i fuddsoddi’n barhaus yn ansawdd y gwaith
archwilio mewn ymateb i bwysau cynyddol a chostau. Diolchwyd am yr
adroddiad ac i Yvonne Thomas am fyncyhu’r
cyfarfod. Mynegwyd parodrwydd i gydweithio a gwerthfawrogwyd bod Tîm Archwilio
Cymru yn rhugl yn y Gymraeg a bod hyn i’w groesawu. PENDERFYNWYD: Derbyn
archwiliad cyfrifon Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y
flwyddyn 31 Mawrth 2022 (sydd yn cael ei gwblhau gan Archwilio Cymru). |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 PDF 104 KB Cyflwyno a nodi’r Datganiad
o’r Cyfrifon Drafft Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi Datganiad
Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar
archwiliad) ar gyfer 2021/22 Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau
ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2022.
Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu
gan Archwilio Cymru Adroddwyd bod y
cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n
cael ei gyflwyno yn y cyfrifon. Mynegwyd bod y
flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r gronfa wrth drosglwyddo marchnadoedd
datblygol i Partneriaeth Pensiwn Cymru, gosod targed sero net a monitro effaith
digwyddiadau megis y rhyfel Wcráin. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y gronfa
gan nodi bod y ffigyrau yn eithaf cyson. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli
o’r flwyddyn flaenorol a hynny oherwydd bod ffioedd Partners
bellach wedi sefydlogi. Gyda chynnydd yng
ngwerth farchnad y gronfa o £247 miliwn, daeth gwerth y gronfa i £2.7biliwn. Cymerodd
Cyfarwyddwr y Gronfa y cyfle i ddiolch i’r Tîm Buddsoddi am eu hymroddiad i
sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau o few
yr amserlen. Nododd fod y Pennaeth Cyllid eisoes wedi ardystio’r cyfrifon
drafft ac mai ymarfer da oedd rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi
cyfle i holi / cyflwyno sylwadau. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag eglurhad dros ystyr ‘buddion heb eu hawlio’, nodwyd bod
y term yn cyfeirio at sefyllfaoedd e.e, lle mae
ad-daliad wedi rhewi, methiant i adnabod lleoliad unigolyn neu yn syml fuddion
heb eu hawlio gan gyfranwyr. Mewn ymateb i sylw
am leihad yn y gwerthiannau yn ystod y flwyddyn, nodwyd bod y lleihad yn
cyfeirio at y gweithgareddau ac nid lleihad yn y gwerth. Ategwyd bod y
gweithgaredd o drosglwyddo buddsoddiadau wedi creu effaith (83% o fuddsoddiadau
wedi trosglwyddo i Gronfa Pensiwn Cymru erbyn hyn). Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau (£249.18m ar y
31ain o Fawrth 2022 o gymharu â £596.28m ar y 31ain o Fawrth 2021), nodwyd bod
buddsoddiadau ecwiti marchnadoedd stoc wedi bod yn llewyrchus ers cwymp y pandemig yma Mawrth 2020, ond erbyn hyn wedi sefydlogi -
serch hynny, eglurwyd bod £249.18m o enillion yn amlygu blwyddyn dda. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyfraniadau cyfranwyr yn gyfartal i bawb beth bynnag yw
cyfraniad y cyflogwr, nodwyd bod y cyfraniadau yn amrywio gyda newidiadau yn
cael eu cyflwyno gyda’r prisiad bob tair blynedd. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y
Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad)
ar gyfer 2021/22 |
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 191 KB I ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Busnes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r Cynllun
Busnes Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y
Bartneriaeth. Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol
am gyfnod o dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn
mynd i gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw: • Esbonio cefndir a strwythur
llywodraethu’r PPC • Amlinellu'r blaenoriaethau a’r
amcanion dros y tair blynedd nesaf • Amlinellu'r gyllideb ariannol ar
gyfer cyfnod y Cynllun Busnes • Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion
Perfformiad PPC Ategwyd bod y
cynllun busnes yn cael ei fonitro’n gyson ac yn cael ei adolygu a’i gytuno’n
ffurfiol bob blwyddyn. Nodwyd hefyd bod gofyn i’r 8 Awdurdod sydd yn rhan o’r
Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2021/22 PDF 352 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi bod y Pwyllgor Pensiynau (yng
nghyfarfod Pwyllgor 25/03/21) wedi cytuno pwlio
buddsoddiadau’r Cyngor a Chronfa Bensiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.
Adroddwyd bod y penderfyniad yn cael ei wneud yn flynyddol i ganiatáu i
gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi a llif
arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cymharu gwir
berfformiad yn erbyn y strategaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ac yn
cyflawni dyletswydd gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i
gymryd ystyriaeth o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi
Llywodraeth Cymru. Adroddwyd, yn
ystod y flwyddyn ariannol 2021/22 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o
fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol a derbyniwyd £556,000 o log ar
fuddsoddiadau oedd yn uwch na’r £433,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na
wnaeth unrhyw sefydliad yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda hwy fethu â
thalu. Tynnwyd sylw at y
sefyllfa buddsoddi gan amlygu’r llefydd mae’r Cyngor wedi buddsoddi’r arian
dros y cyfnod (rhestr yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladau, awdurdodau
lleol, cronfeydd marchnad arian, Swyddfa Rheoli Dyledion (DMO) a chronfeydd
wedi’i pwlio). Ategwyd bod y Swyddfa Rheoli Dyledion
yn cael ei ddefnyddio eleni am y tro cyntaf ers tro a hynny oherwydd bod eu
cyfraddau yn gystadleuol iawn ac yn addas ar gyfer buddsoddi lefelau arian y
Cyngor. Adroddwyd hefyd bod y cyfraddau wedi gwella o ganlyniad i gynnydd yn y
gyfradd sylfaenol o fis Rhagfyr 2021 ymlaen.
Yng nghyd-destun
adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau
wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli
Trysorlys y Cyngor – hyn yn newyddion calonogol iawn. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth |
|
POLISI CYNRYCHIOLAETH PDF 460 KB I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r polisi newydd Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r
Polisi Cynrychiolaeth. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ymateb i argymhellion Adolygiad
Llywodraethu Da i awdurdodau sicrhau bod angen i bob cronfa gynhyrchu a
chyhoeddi polisi ar gynrychiolaeth aelodau’r cynllun a chyflogwyr sydd ddim yn
rhan o’r awdurdod gweinyddu ar y Pwyllgorau, gan egluro trefniadau hawliau
pleidleisio pob plaid. Amlygwyd bod y
polisi yn cadarnhau safbwynt y Gronfa mewn perthynas â phenodiadau a hawliau
dirprwyaeth y Pwyllgor, yn ogystal â chyfansoddiad y Bwrdd Pensiwn. Nodwyd bod
copi drafft o’r Polisi wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn (4/4/22) a bod
argymhellion y Bwrdd wedi eu cynnwys yn y fersiwn derfynol. Un o’r argymhellion
oedd i nodi bod Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn eistedd ar Gydbwyllgor
Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ac y byddai gwahoddiad yn ymestyn i’r
Is gadeirydd os na fyddai’r Cadeirydd yn gallu mynychu. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod y polisi yn un syml a chlir ·
Bod y polisi yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes mewn
lle PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Polisi
Cynrychiolaeth. |
|
STRATEGAETH GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 637 KB I ystyried yr
adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r
Strategaeth Gweinyddu Pensiynau Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau oedd eto yn ymateb i ofynion Adolygiad
Llywodraethu Da i bob awdurdod gweinyddu gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth
weinyddol sydd yn hygyrch ac yn cyflawni gofynion y Rheoliadau CPLlL. Eglurwyd, fel rhan
o baratoi ar gyfer y prosiect llywodraethu da, rhannwyd copi drafft o'r
strategaeth gyda Hymans Robertson er mwyn derbyn
adborth. Cadarnhawyd bod y Strategaeth
Weinyddu yn cyffwrdd â’r meysydd priodol ac roeddynt o'r farn ei bod yn
bodloni'r holl ofynion cyfredol a'r gofynion ychwanegol hynny sy'n deillio o'r
adolygiad Llywodraethu Da. Ategwyd bod copi drafft o’r strategaeth hefyd wedi
ei chyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn (17/3/22) a bod argymhellion y Bwrdd wedi eu
cynnwys yn y fersiwn derfynol. Yn dilyn cyflwyniad i’r Bwrdd rhannwyd copi o’r
strategaeth hefyd gyda chyflogwyr y gronfa ond ni dderbyniwyd sylwadau nac
adborth. Ategwyd y byddai’r
strategaeth yn cael ei hadolygu yn flynyddol. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod y strategaeth yn ymateb yn dda i ofynion Rheolaidau CPLlL ·
Bydd y strategaeth o fudd i’r Uned Pensiynau - yn
gosod amserlen, nodi cyfrifoldebau a gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu ·
Bod y strategaeth yn un manwl ·
Yn ddogfen i’w chroesawu PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Strategaeth
Gweinyddu Pensiynau |
|
I ystryried yr adroddiad, nodi a chynnig sylwadau ar yr ymarfer Adran 13 a'r papur a gynhyrchwyd
gan Hymans Robertson. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn gosod cefndir a phwrpas Adran 13 o Ddeddf
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 sydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i
adroddiad gael ei gyhoeddi ar brisiad 91 o gronfeydd Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr bod 3 mlynedd. Amlygwyd bod yr
Adran Lefelu Tai a Chymunedau wedi penodi Adran Actiwari’r
Llywodraeth i gynnal yr ymarfer o graffu canlyniadau prisiadau 2019 ar draws
cronfeydd y DU gan gyhoeddi eu casgliadau Rhagfyr 2021. Ategwyd bod Cronfa
Bensiwn Gwynedd wedi cwrdd â holl feini prawf Prisiad Adran 13 heb unrhyw
faneri ambr na choch wedi eu hamlygu na phryderon oedd angen sylw gan y
Pwyllgor - y newyddion yn gadarnhaol a chalonogol iawn. Gwahoddwyd Malcolm Stanley o gwmni Hymans
Robertson i roi diweddariad annibynnol i’r Pwyllgor ar yr ymarfer a chyflwyno
ac egluro canlyniadau Cronfa Gwynedd. Nododd yn ei gyflwyniad bod Cronfa
Gwynedd mewn sefyllfa dda ac nad oedd pryderon ynglŷn ag ariannu’r
cynllun. Diolchwyd am yr
adroddiad ac i Malcolm Stanley am fynychu Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod y cyflwyniad i egluro’r ffigyrau i’w groesawu ·
Bod y dull o ‘osod safle’
y gronfa yn anghyson - angen ystyried safle uchaf neu isaf ac nid cymysgedd o’r
ddau ·
Bod y canlyniad yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor wrth
symud ymlaen i’r prisiad nesaf PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |