Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023 fel rhai cywir |
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI PDF 179 KB I ystyried
a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth
Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a mabwysiadu’r
Datganiad Strategaeth Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol y Pwyllgor i
fabwysiadu’r Strategaeth Buddsoddi. Amlygwyd ei bod yn ofynnol i’r Gronfa
gyhoeddi’r Datganiad Strategaeth a bod bwriad gwneud hynny ynghyd a gosod
dyraniad asedau strategol newydd yn dilyn y prisiad teirblynyddod.
Ategwyd bod Kenny Taylor o Hymans Robertson
eisoes wedi cyflwyno’r strategaeth i’r Pwyllgor mewn manylder mewn cyfarfod o’r
Panel Buddsoddi diweddar gan amlinellu bod y strategaeth yn tanlinellu’r
cydbwysedd rhwng risg a dychweliadau y mae’r gronfa ei hangen. Cyfeiriwyd at
wybodaeth am Bartneriaeth Pensiwn Cymru, Buddsoddi Cyfrifol, hawliau
pleidleisio ac ymgysylltu - elfennau pwysig
yng ngweithrediad y Gronfa. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth
Buddsoddi |
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO PDF 181 KB I ystyried
a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth
Cyllido Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a mabwysiadu’r
Datganiad Strategaeth Cyllido Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan
y Rheolwr Buddsoddi yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad
Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol. Y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth
Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023. Amlygwyd mai prif bwrpas y datganiad yw adlewyrchu
ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd
i’r cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hirdymor y Gronfa. Nodwyd
bod y Datganiad yn ddogfen faith a thechnegol, ac wedi ei pharatoi mewn
ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y Gronfa.
Cyfeiriwyd at y datganiad ynghyd â nifer o bolisïau ategol. Eglurwyd bod y
polisïau ategol, yn flaenorol wedi eu hymgorffori yn y ddogfen, ond erbyn hyn,
y Strategaeth yn cyfeirio at y polisïau fel
atodiadau. Bydd hyn yn eu gwneud yn haws i’w canfod / addasu, pryd bydd
angen cyrraedd at wybodaeth neu ddiweddaru’r polisïau, heb orfod addasu’r Strategaeth
i gyd. Eglurwyd,
fel rhan o’r adolygiad, bod rhaid i’r awdurdod gweinyddol ymgynghori gyda phob
cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari, ymgynghorwyr y gronfa ac
unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn addas. Yn unol â’r gofyn,
cyflwynwyd y Datganiad (drafft) i’r Bwrdd Pensiwn ac i holl gyflogwyr y Gronfa.
Adroddwyd y bu ymatebion positif gan y Bwrdd a gan sawl cyflogwr, gydag ambell
un yn gwerthfawrogi fod Cronfa Pensiwn Gwynedd yn cymryd golwg hir dymor ar
fuddsoddi er mwyn sicrhau cyfraniadau sefydlog ac yn cefnogi’r strategaeth. Yn
dilyn un awgrym gan y Bwrdd, cadarnhawyd fod buddsoddi cyfrifol bellach wedi’i
amlygu o fewn y strategaethau. Nodwyd
nad oedd addasiadau pellach i’r hyn a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yng nghyfarfod
18ain o Ionawr 2023. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau ·
Bod sylwadau’r Bwrdd i’w croesawu ·
Bod mynychu cyrsiau gwybodaeth a
sgiliau sylfaenol am weinyddu pensiynau yn hanfodol fel bod aelodau yn deall
pwysigrwydd y gwahanol strategaethau i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. ·
Bod y
ddogfen yn un gwerthfawr ·
Croesawu ymateb gan rai o gyflogwyr mwyaf y Gronfa - GwE, Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a
Chyngor Sir Ynys Môn PENDERFYNWYD Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido |
|
I adolygu’r gofrestr risg Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd adolygiad manwl
o’r gofrestr PENDERFYNWYD:
Derbyn
a nodi’r wybodaeth |
|
ADRODDIAD PRISIAD Y GRONFA BENSIWN PDF 251 KB I ystyried
a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd er
gwybodaeth, adroddiad prisiad (drafft). Comisiynwyd Hymans
Robertson i gynnal prisiad o Gronfa Bensiwn Gwynedd ar 31 Mawrth 2022. Eglurwyd
mai pwrpas y prisiad, sydd yn cael ei gynnal bob tair blynedd, yw sicrhau bod
gan y Gronfa gynllun cyfrannu a strategaeth fuddsoddi a fydd yn cyflawni
amcanion y Datganiad Strategaeth Gyllido. Amlygwyd
bodlonrwydd bod y Gronfa yn cymryd golwg hir dymor ar fuddsoddi gan leihau
lefel cyfraniadau ond dim yn peryglu lefelau i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at lefelau
cyfraddau pob cyflogwr sydd yn amrywio fesul cyflogwr - y gyfradd gyfrannu yn
adlewyrchu aelodaeth a phrofiadau cyflogwyr. Nododd Cyfarwyddwr
y Gronfa bod yr adroddiadau yn cadarnhau bod y sefyllfa yn un gadarn a
chalonogol, ac yn gosod sylfaen dda i’r tair blynedd nesaf. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau ·
Llawer o waith wedi ei gwblhau mewn cyfnod heriol ·
Gwaith craidd wedi bod yn sail i adroddiad manwl a
chlir ·
Yr adroddiad wedi ei gyflwyno yn dda ·
Bod penderfyniadau doeth wedi cael effaith
gadarnhaol ar y sefyllfa ·
Ategu diolch i actiwari y Gronfa, Hymans Robertson am
eu cyfraniad PENDERFYNWYD
·
Diolch i
swyddogion am gyflwyno gwybodaeth mewn cyfnod heriol. ·
Diolch i Hymans Robertson am eu cyngor a’u cefnogaeth ·
Derbyn a nodi’r
wybodaeth |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2023/24 PDF 187 KB ·
I fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth
Trysorlys atodol am 2023/24, fel
ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn (Atodiad A) ·
I gadarnhau’r
cais i’r Cyngor i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei
gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a mabwysiadu’r
strategaeth a chadarnhau trefniadau cronni Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi
yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau
Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth
reoli’r trysorlys, baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da,
ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd
am 2023/24, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2023/24 ei gymeradwyo gan y Cyngor
llawn ar 2 Mawrth 2023. Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod yr holl arian sydd dros ben
yn y Gronfa yn cael ei gronni gyda balansau ariannol
Cyngor Gwynedd ac yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion
yn unol â Strategaeth Rheolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol, bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Nodwyd, yn unol
â chyngor cyfreithiol, mai buddiol yw cymeradwyo’r ymarfer yn flynyddol gan
geisio dychweliadau o fewn ffiniau diogel a lleihau risgiau wrth uno’r arian
gyda chronfeydd y Cyngor. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau ·
Bod yr adroddiad bellach yn eitem
gyson ar raglen waith y Pwyllgor ·
Bod y trefniant eisoes wedi ei
gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ·
Mai annoeth fyddai cadw arian ar
wahân - gwneud synnwyr cadw at y trefniant PENDERFYNWYD: ·
Derbyn a nodi’r wybodaeth ·
Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys
am 2023/24, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn ·
Gwneud cais i’r Cyngor i ganiatáu i arian dros ben y
Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1
Ebrill 2023 ymlaen. |
|
ADRODDIAD RHAGAMCANION MODELU LLIF ARIAN PDF 261 KB I nodi’r cynnwys a
derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa
dros gyfnod hirdymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net
y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant. Tynnwyd
sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y
Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn amlygu
sefyllfa bositif. Cyfeiriwyd
at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson yn
asesu’r sefyllfa ynghyd a scenario analysis yr oeddynt wedi ei wneud i ganfod pryd
byddai’r Gronfa’n debygol o fod mewn sefyllfa llif arian negyddol. Ystyriwyd
tair sefyllfa wahanol, a daethpwyd i’r canlyniad mai'r flwyddyn gyntaf y gall y
Gronfa wynebu sefyllfa negyddol yw 2029 a hynny pe byddai chwyddiant yn parhau
ar lefel uchel iawn. Nodwyd bod hyn yn well sefyllfa na mwyafrif o gronfeydd
eraill CPLlL ac yn newyddion da i’r Gronfa, er yn
llwyr ymwybodol bod rhaid bod yn wyliadwrus o’r risgiau (megis monitro newid
mewn aelodaeth, ystyried chwyddiant a chadw’r llif arian mewn cof wrth ystyried
y strategaeth fuddsoddi). Diolchwyd
am yr adroddiad a gwerthfawrogwyd yr ymarferiad gan Hymans
Robertson. PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa
dros gyfnod hirdymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net
y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant. Tynnwyd
sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y
Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn amlygu
sefyllfa bositif. Cyfeiriwyd
at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson yn
asesu’r sefyllfa ynghyd a scenario analysis yr oeddynt wedi ei wneud i ganfod pryd
byddai’r Gronfa’n debygol o fod mewn sefyllfa llif arian negyddol. Ystyriwyd
tair sefyllfa wahanol, a daethpwyd i’r canlyniad mai'r flwyddyn gyntaf y gall y
Gronfa wynebu sefyllfa negyddol yw 2029 a hynny pe byddai chwyddiant yn parhau
ar lefel uchel iawn. Nodwyd bod hyn yn well sefyllfa na mwyafrif o gronfeydd
eraill CPLlL ac yn newyddion da i’r Gronfa, er yn
llwyr ymwybodol bod rhaid bod yn wyliadwrus o’r risgiau (megis monitro newid
mewn aelodaeth, ystyried chwyddiant a chadw’r llif arian mewn cof wrth ystyried
y strategaeth fuddsoddi). Diolchwyd
am yr adroddiad a gwerthfawrogwyd yr ymarferiad gan Hymans
Robertson. PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth |
|
POLISI ADRODD AM DOR-CYFRAITH PDF 161 KB I ystyried
a chymeradwyo’r Polisi Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a chymeradwyo’r
Polisi Adrodd ar Dor-Cyfraith Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr
Pensiynau yn mynegi, fel rhan o'r prosiect Llywodraethu Da, ei
bod yn ofynnol i'r Gronfa gynhyrchu polisi mewn perthynas â Chofnodi Torri'r
Gyfraith (ym maes pensiynau yn unig). Nodwyd bod y polisi wedi’i ddrafftio gan Hymans Robertson ar y cyd gyda swyddogion y Gronfa, a bu ymgynghoriad
gyda Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd. Ategwyd bod y Bwrdd Pensiwn hefyd wedi
craffu cynnwys y polisi ac wedi cynnig mân sylwadau. Amlygwyd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am y polisi a’r gweithdrefnau ar gyfer darganfod, monitro a,
lle bo’n briodol, adrodd am achosion o dorri’r gyfraith fel sy’n ofynnol yn
Neddf Pensiynau 2004 ac y manylir arnynt yng Nghod Ymarfer Rhif 14 y Rheoleiddiwr Pensiynau - Llywodraethu a gweinyddu
cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus. Er nad oedd achos o bryder, nodwyd
bod y polisi yn rhan o’r gwaith paratoi i
sicrhau trefn a sicrwydd mewn unrhyw sefyllfa o dor-cyfraith pensiynau. Diolchwyd
am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau ·
Bod y polisi yn amlygu’r prif swyddogaethau
a’r cyfrifoldebau yn glir ·
Bod swyddogaethau Cynghorwyr
hefyd wedi cael ei nodi ·
Bod y ddogfen yn amlinellu
cyfrifoldebau mewn modd deallus ·
Croesawu bod y Swyddog Monitro a’r
Bwrdd Pensiwn yn cymeradwyo’r polisi PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo’r Polisi Adrodd ar Dor-Cyfraith |
|
CYNLLUN HYFFORDDIANT PDF 175 KB I dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo
Cynllun Hyfforddiant 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn diweddariad am
lwyddiant Rhaglen Hyfforddiant 2022 /23 a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant
2023/24 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Buddsoddi yn rhoi crynodeb o’r hyfforddiant a gyflwynwyd i’r Aelodau yn
ystod 2022/23 ynghyd a chais i gymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023/24 ar gyfer
Cronfa Bensiwn Gwynedd. Ystyriwyd bod
Cynllun Hyfforddiant 2022/23 wedi bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau
am fynychu’r amryw gynadleddau a sesiynau hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC) - ystyriwyd bod yr holl sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol ac amserol iawn.
Ategwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2023/24 yn dilyn yr un drefn a’r flwyddyn
flaenorol ac y bydd pob ymgais yn cael ei wneud i adnabod anghenion hyfforddi
perthnasol a phriodol - gwahoddiadau i’w hanfon allan i Aelodau yn fuan. Diolchwyd am yr
adroddiad a nododd y Cadeirydd bod sesiynau PPC wedi bod yn dda iawn ac yn
agored i unrhyw Aelod - yn werth cymryd rhan ynddynt. PENDERFYNWYD Derbyn diweddariad am lwyddiant Rhaglen Hyfforddiant 2022 /23
a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023/24 |