Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Iwan Huws

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 124 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 27 Tachwedd 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er budd y cyhoedd.

Cofnod:

RESOLVED to exclude the press and public from the meeting during the discussion on the following items due to the likely disclosure of exempt information as defined in paragraph 14, Schedule 12A of the Local Government Act 1972 - Information about the financial or business transactions of any specific person (including the authority that retains that information). There was an acknowledged public interest in openness in relation to the use of public resources and related financial issues. However, it was also acknowledged that there were occasions, in order to protect public financial interests, where commercial information must be discussed without being publicised.  The reports related specifically to a proposed procurement process. Publicising such commercially sensitive information could be detrimental to the interests of the Council and its partners by undermining competition.  This would be contrary to the wider public interest of securing the best overall outcome. For these reasons, the matter was closed in the public interest.

 

6.

CAFFAEL SYSTEM WEINYDDOL

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion

 

(copi i Aelodau yn unig)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Cymeradwyo dyfarnu cytundeb, yn unol â Rheoliad 32 o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, ar gyfer cytundeb Meddalwedd Gweinyddu Pensiynau am dymor cytundeb o 5 mlynedd
  • Cymeradwyo taliad unwaith am byth mewn perthynas â ffi’r drwydded yn y flwyddyn dreth gyfredol (2023/24)
  • Cymeradwyo taliad mewn perthynas â chostau cefnogaeth flynyddol a chynnal a chadw am gytundeb 5 mlynedd
  • Dirprwyo hawl i’r Rheolwr Pensiynau i gytuno i delerau terfynol y cytundeb gyda’r cwmni ac awdurdodi gweithredu’r cytundeb hwnnw gan Cyngor Gwynedd

 

Nodyn:

I negodi cost am arwain ar yr elfen Gymraeg

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi gwybodaeth am y cynnig i ddyfarnu cytundeb ar gyfer System Gweinyddu Pensiynau.

 

Adroddwyd bod gan Cyngor Gwynedd fel Awdurdod Gweinyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd, gyfrifoldeb statudol i ddarparu gweinyddiad cywir o’r CPLlL ar gyfer holl aelodau Cronfa Bensiwn Gwynedd. Byddai hyn yn cynnwys dehongli newidiadau deddfwriaethol gan sicrhau bod system gweinyddu pensiynau cadarn ac effeithlon ar waith, un sy’n mynd i’r afael â chymhlethdodau diwygio pensiynau hanesyddol a diweddar ac sy’n barod ar gyfer unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Ategwyd ei bod yn hanfodol i'r Cyngor, wrth gyflawni rhwymedigaethau statudol, ddefnyddio system rheoli pensiynau sy'n gallu ymdrin â chymhlethdodau cyfrifo buddion aelodau'r cynllun yn gywir yn ogystal â chadw data perthnasol fel system Rheoli Dogfennau a Chofnodion Electronig.

 

Gwnaed cais i’r Aelodau ystyried cytundeb ar gyfer darparwr meddalwedd Gweinyddu Pensiynau i sicrhau parhad Gwasanaeth fel bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau cynllun pensiwn statudol pan ddaw'r trefniadau presennol i ben.

 

Trafodwyd perfformiad y darparwr presennol, costau arfaethedig y cytundeb ynghyd a gweithredu dyfarniad uniongyrchol (yn ddelfrydol byddai ymarfer tendro wedi’i gychwyn o leiaf 18 mis cyn i’r cytundeb presennol ddod i ben, ond gan nad oedd hyn wedi digwydd roedd yn angenrheidiol gweithredu datrysiad).

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod Dyfarniad Uniongyrchol yn cael ei roi i’r cyflenwr presennol am gyfnod pellach o bum mlynedd (17 Medi 2024 - 16 Medi 2029).

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Bod y gost yn eithaf sefydlog

·         Bod elfennau newydd yn cael eu cynnig gyda’r cytundeb newydd

·         Bod y gwasanaeth yn gyson

·         Bod cydweithio da

·         Gwneud defnydd da o’r Gymraeg - awgrym negodi cost bod Gwynedd wedi arwain ar yr elfen Gymraeg

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dewis peidio cwblhau proses gomisiynu / proses tendro i brofi’r farchnad ac os mai penderfyniad doeth oedd hyn, nododd y Pennaeth Cyllid bod y broses wedi ei chwblhau yn unol â threfn benodol o fewn rheoliadau caffael.

 

Penderfynwyd:

 

·         Cymeradwyo dyfarnu cytundeb, yn unol â Rheoliad 32 o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, ar gyfer cytundeb Meddalwedd Gweinyddu Pensiynau am dymor cytundeb o 5 mlynedd

·         Cymeradwyo taliad unwaith am byth mewn perthynas â ffi’r drwydded yn y flwyddyn dreth gyfredol (2023/24)

·         Cymeradwyo taliad mewn perthynas â chostau cefnogaeth flynyddol a chynnal a chadw am gytundeb 5 mlynedd

·         Dirprwyo hawl i’r Rheolwr Pensiynau i gytuno i delerau terfynol y cytundeb gyda’r cwmni ac awdurdodi gweithredu’r cytundeb hwnnw gan Cyngor Gwynedd

 

Nodyn:

I negodi cost am arwain ar yr elfen Gymraeg

 

 

7.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.07.2023 - 30.09.2023

I ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad

(copi i’r Aelodau yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu Partneriaeth Pensiwn Cymru) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu.

 

Adroddwyd bod Robeco yn cynnig lefelau gwahanol o ymgysylltu, ac fe gyflwynwyd ystadegau manwl o’r pynciau trafod, y nifer cwmnïau, nifer y gweithgareddau a manylion pellach am yr ymgysylltu oedd wedi ei gwblhau yn ystod y chwarter diwethaf. Ategwyd eu bod hefyd yn dewis thema ymgysylltu pob chwarter ac mai Allyriadau Carbon Sero net a wnaed dros y cyfnod diwethaf.

 

Amlygwyd bod bwriad gwahodd Robeco i sesiynau hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru yn y dyfodol ac y bydd gwahoddiad i’r Aelodau fynychu’r sesiynau hyn.

 

Sylw yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Bod angen ystyried sut i ddefnyddio / gwneud mwy gyda’r wybodaeth sydd yn cael ei gasglu

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

 

8.

AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd

 

9.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 106 KB

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi sydd bellach yn un sy’n ymddangos yn rheolaidd ar raglen y Pwyllgor Pensiynau fel modd o sicrhau bod yr Aelodau yn derbyn gwybodaeth gyfredol a diweddar o waith PPC. Cyfeiriwyd at grynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu (sef corff sydd yn gwneud penderfyniadau’r Bartneriaeth) a gynhaliwyd 13 Rhagfyr 2023 gan dynnu sylw penodol at adolygiad o’r Cynllun Busnes ar gyfer 2023/24.

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariad y gweithredwr Waystone (Link yn flaenorol) sy’n darparu gwasanaethau rheoleiddio ynghyd a gwybodaeth am yr holl gronfeydd sydd wedi eu sefydlu gan y Bartneriaeth (Gwynedd yn rhan o 8 ohonynt, gyda 83% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio gyda'r Bartneriaeth) ac at gofnod o berfformiad y cronfeydd hynny.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y cronfeydd, ac at ddadansoddiad a pherfformiad pob is-gronfa gan amlygu, yng nghyd-destun ecwitïau yn benodol, bod y cyfnod wedi bod yn un heriol gyda’r cyfraddau llog yn aros yn uwch am gyfnod hirach, ac i bris olew achosi chwyddiant barhau i fod yn uchel.

 

Yng nghyd-destun datblygiadau i’r dyfodol, adroddwyd bydd gwaith yn cael ei wneud gyda’r Bartneriaeth i ystyried a datblygu opsiynau pwlio eiddo gyda’r broses tendr eisoes ar y gweill ar gyfer canfod darparwr. Nodwyd hefyd bod ymuno gyda’r is gronfa Isadeiledd Penagored a Mandad Ecwiti Preifat gyda Schroders yn parhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’r portffolio eiddo presennol ac os bydd yn trosglwyddo i’r gronfa newydd, nodwyd y bydd hyn yn rhan o’r drafodaeth gyda’r darparwr newydd gyda’r angen i ddarparu'r hyn sydd orau i Wynedd. Bydd yr opsiynau yn cynnwys, trosglwyddo'r portffolio presennol i gronfa newydd neu sefydlu cronfa newydd ar gyfer arian newydd a cadw’r arian presennol gyda’r rheolwyr presennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Cymru

 

10.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2023-24 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 226 KB

I ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Yn unol â Chod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Rheoli Trysorlys (Cod TM CIPFA) mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau adrodd ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys o leiaf ddwywaith y flwyddyn (canol y flwyddyn a diwedd y flwyddyn).

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Pensiynau ym Mawrth 2023 penderfynwyd caniatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn gael ei gronni a’i gyd-fuddsoddi â llif arian cyffredinol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2023 nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2023/ 24.

 

Tynnwyd sylw at y cefndir economaidd, y marchnadoedd arian a’r adolygiadau credyd ar gyfer y cyfnod. Yn nhermau gweithgareddau buddsoddi, cyfeiriwyd at y mathau o fuddsoddiadau y buddsoddir ynddynt sydd, yn unol ar arfer, yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, cronfeydd cyfun a’r swyddfa rheoli dyledion.

 

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod wedi cydymffurfio’n llawn gyda chyfyngiadau buddsoddi Cod Ymarfer CIPFA. Amlygwyd mai’r unig ddangosydd gyda diffyg cydymffurfiaeth oedd ‘Datguddiad Cyfraddau Llog’ ac fe eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod pan roedd amodau llog is ar ddechrau 2023, ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol. Ategwyd mai newyddion da yw bod yr incwm llog yn sylweddol uwch.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chynghorau Birmingham a Warrington ac os oedd y Cyngor wedi benthyca arian iddynt, nodwyd bod y Cyngor wedi benthyg arian i Gyngor Birmingham, ond bod yr arian wedi cael ei dalu yn ôl. Ategwyd bod Arlingclose yn cadw golwg ar sefyllfa bresennol y Cynghorau ac yn rhannu rhestr o‘r Cynghorau hynny sydd yn dderbyniol buddsoddi ynddynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r dangosydd cyfradd llog ac os dylid pryderu amdano neu ei gywiro, nodwyd nad oedd Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ddibynnol ar yr incwm llog yma ac mai bonws yn unig ydoedd, er hynny nodwyd pwysigrwydd cadw llygad ar y sefyllfa oherwydd bod cyfraddau llog yn debygol o ddisgyn.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

11.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2024/25 pdf eicon PDF 137 KB

I ystyried a chymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol  2024 / 25 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor i gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi am y flwyddyn ariannol 2024–2025. Adroddwyd bod y gyllideb bellach yn cael ei chymeradwyo yn flynyddol gan y Pwyllgor Pensiynau. 

 

Cyfeiriwyd at gyllideb yr Uned Gweinyddu, gan adrodd bod 24 aelod o staff yn gyflogedig ynghyd a chostau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog. Nodwdy bod y costau yn gyson ar wahân i ffigwr chwyddiant, gydag addasiad o £28,600 ar gyfer cynnydd yn y gost flynyddol am ffioedd meddalwedd.  Cyfeiriwyd ar gostau'r Uned Buddsoddi sydd yn cael eu rhannu rhwng y Gronfa a Chyngor Gwynedd gan fod yr Uned hefyd yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys.

 

Nododd y Rheolwr Buddsoddi bod costau ymgynghorwyr a chostau rheolwyr buddsoddi yn rhan o’i chyfrifoldeb ond bod y rhain yn amrywio yn ddibynnol ar berfformiad y buddsoddiadau a’r gwaith sydd angen ei gyflawni gan yr ymgynghorwyr. Ystyriwyd na fyddai gosod cyllideb fanwl ar gyfer costau ymgynghorwyr o fudd gan fod y gwariant yn newidiol, er hynny ategwyd bod y gwariant yn cael ei adrodd yn llawn o fewn y cyfrifon terfynol ac yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol  2024 / 25 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi

 

12.

ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA pdf eicon PDF 97 KB

I ystyried yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn amcanion cyfredol a nodi amcanion y dyfodol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol, ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a nodi amcanion ar gyfer 2024. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da a dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn cydweithio a darparu cyngor ar y Dyraniad Asedau Strategol wrth ail asesu’r lefel cyllido yn ddiweddar; wedi cynorthwyo gyda phenderfynu ar y lefel priodol o ymrwymiadau i’r marchnadoedd preifat a sicrhau bod llif arian digonol gan y Gronfa i dalu’r pensiynwyr yn fisol. Ategwyd bod Hymans hefyd wedi cyd weithio gyda’r swyddogion wrth adolygu polisïau mewnol a sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw reoliadau pensiwn perthnasol.

Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd, bod hyfforddiant amserol ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Er derbyn hefyd bod y ffioedd yn uchel (sydd yn wir hefyd am rai cwmnïau eraill yn y farchnad), bod Hymans wedi cydweithio yn dda drwy’r flwyddyn gyda’r holl bartneriaid e.e. yr actiwari a Phartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2023 ynghyd ar amcanion ar gyfer 2024. Nodwyd bod prif amcanion 2023  wedi eu cyfuno i 10 amcan allweddol ar gyfer 2024. Cyfeiriwyd hefyd at y prosiectau sydd y debygol o ddigwydd yn 2024 ar gefnogaeth fydd ei angen gan yr ymgynghorwyr buddsoddi i’w gweithredu.

 

Adroddwyd bod Hymans wedi bod yn rhoi gwasanaeth i’r Cyngor ers blynyddoedd, ond yn ystod y 6 mis nesaf bydd y Cyngor yn cyhoeddi tendr am y gwaith ymgynghorol gan sefydlu cytundeb penodol (fydd hefyd yn cynnwys cyfnod trosiannol). Ategwyd bod hwn yn gam priodol i’w gymryd a byddai’n gyfle i edrych beth sydd gan y farchnad i’w gynnig ac yn ychwanegu elfen gystadleuol. 

Diolchwyd am yr adroddiad.

PENDERFYNWYD

 

           Derbyn a nodi’r wybodaeth

           Derbyn y cynnydd a wnaed ar amcanion yr ymgynghorwyr yn ystod 2023

 

13.

GWYDDONIAETH HINSAWDD A MODELU ECONOMAIDD pdf eicon PDF 129 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried unrhyw risgiau cysylltiedig

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymateb i sut mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi ystyried yr hinsawdd wrth osod ei strategaeth ariannu a buddsoddi, a sut byddai hyn yn datblygu i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod nifer o erthyglau diweddar wedi'u cyhoeddi yn nodi nad yw'r cyngor y mae cronfeydd pensiwn yn ei dderbyn yn dilyn gwyddoniaeth hinsawdd ac felly'n peryglu'r buddsoddiadau (hyn, yn bennaf, yn seiliedig ar adroddiad gan Carbon Tracker (Gorff 2023). Nodwyd bod rhai o aelodau’r Bwrdd Pensiwn wedi tynnu sylw swyddogion at yr erthyglau gan rannu eu pryderon. Mewn ymateb i’r pryderon hynny penderfynwyd ymchwilio i sut mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cymryd yr hinsawdd i ystyriaeth wrth osod y strategaethau ariannu a buddsoddi, a sut y bydd hyn yn esblygu yn y dyfodol.

 

Prif neges Carbon Tracker, cwmni dielw sy’n archwilio risg hinsawdd, yw bod papurau economaidd yn anwybyddu ‘pwyntiau tyngedfennol’ hinsawdd sy’n golygu bod newidiadau yn yr effaith economaidd o gynhesu byd-eang yn “llawer mwy tebygol o fod yn amharhaol ac yn sydyn, yn hytrach nag yn barhaus ac yn gymharol raddol”.

 

Nodwyd bod y pryderon wedi eu rhannu gyda Hymans Robertson, ymgynghorwyr buddsoddi'r Gronfa oedd, yn cytuno bod yr adroddiad yn codi pwyntiau dilys, ond bod yr agweddau roeddynt yn cyfeirio atynt wedi eu hystyried wrth osod strategaeth buddsoddi'r Gronfa. Ystyriwyd y materion hyn drwy ddefnyddio ‘dadansoddiad senario’ gydag enghreifftiau o’r sefyllfaoedd hynny wedi eu rhannu gyda’r Aelodau. Cydnabuwyd bod angen esblygu’r agwedd wrth i ddealltwriaeth o risg hinsawdd ddatblygu, ac y bydd Hymans yn ymchwilio i senarios manylach a mwy eithafol. Ategwyd y bydd mesur amlygiad i beryglon hinsawdd a datblygu cynllun gweithredu pontio hinsawdd yn gamau nesaf allweddol i’r Gronfa fynd i’r afael a hwy ynghyd a gweithredu gofynion TCFD (sef datgelu trefniadau llywodraethu’r Gronfa yng nghyd-destun risgiau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r hinsawdd).

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r Bwrdd Pensiwn am dynnu sylw at y mater

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd Cronfa Gwynedd o’r tri senario ac os oeddynt yn defnyddio’r tri opsiwn, nodwdy mai senario gymharol byddai Cronfa Gwynedd yn ei ddefnyddio (nid eithafol) gyda’r sefyllfa yn cael ei hasesu pob tair blynedd (oni bai bod newid syfrdanol ac y byddai’r Pwyllgor yn dewis addasu).

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

14.

CYNHADLEDD LAPFF 2023 pdf eicon PDF 52 KB

I dderbyn adborth a gwybodaeth berthnasol am y gynhadledd

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Nodyn: Bod Aelodau i rannu gwybodaeth o gynadleddau a fynychwyd, yn eitem reolaidd ar y rhaglen

 

Cofnod:

Yn dilyn mynychu Cynhadledd LAPFF yn Bournemouth,  6 Rhagfyr 2023, cyflwynodd y Cadeirydd wybodaeth ar lafar o’r hyn a drafodwyd yno. Nododd mai teitl y gynhadledd eleni oedd “Impact - Stewardship in a time of Global Crisis”, gyda materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu wrth wraidd cyflwyniadau a sesiynau’r gynhadledd. Ategodd mai bwriad y cyflwyniadau a’r sesiynau oedd canolbwyntio meddwl y mynychwyr ar faterion a themâu mawr y dydd ynghyd a gofyn iddynt ystyried, wrth ddefnyddio eu safle a’u cyfrifoldebau fel buddsoddwyr, sut yw’r ffordd orau o symud y materion hyn ymlaen a chael effaith. Rhoddwyd crynodeb byr o’r wybodaeth a’r esiamplau a gafwyd o’r sesiynau unigol.

 

Nododd bod y gynhadledd yn un dda ac wedi cynnwys materion dyrys. Ategodd bod gwerth mewn rhannu gwybodaeth o’r cynadleddau a’i fwriad oedd cynnig eitem reolaidd ar raglen y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Nodyn: Bod Aelodau i rannu gwybodaeth o gynadleddau a fynychwyd, yn eitem reolaidd ar y rhaglen