Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
ETHOL IS GADEIRYDD Ethol is gadeirydd i’r pwyllgor hwn ar gyfer 2020-21. Cofnod: PENDERFYNWYD:
Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2020/21. |
|||
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Linda Ann Jones. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|||
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd yn faterion brys yn nhyb y Cadeirydd er mwyn eu hystyried. Cofnod:
|
|||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion cyfarfod diwethaf y
pwyllgor hwn yn cael eu harwyddo fel cofnod cywir o’r cyfarfod. Cofnod: Derbyniwyd
fod y cofnodion o’r pwyllgor blaenorol yn gywir. |
|||
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG Gofyn am sylwadau’r Pwyllgor
ar gyfer ymateb i Adroddiad (drafft) Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: (a) Derbyn yr adroddiad. (b) Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr
aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio. Rhesymau: Nodwyd yn yr
adroddiad fod y niferoedd sy’n hawlio’r ad-daliad am gostau personol neu gostau
gofal yn parhau i fod yn isel iawn ac felly mae angen i’r Pwyllgor hybu'r
ddarpariaeth. Cofnod: PENDERFYNIAD (a) Derbyn yr adroddiad. (b) Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr
aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio. Cyflwynodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ei hadroddiad gan ofyn am sylwadau gan
aelodau’r pwyllgor er mwyn ffurfio ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 23ain o
Dachwedd. Rhoddwyd trosolwg o’r
cynnydd arfaethedig mewn cyflogau sylfaenol ac uwch gyflogau aelodau etholedig.
Nododd os byddai aelodau’n dymuno peidio ei dderbyn y bydd angen iddynt roi
nodyn ysgrifenedig yn ôl y drefn arferol. Tynnwyd sylw at y prif
fater i drafod sef y gofid sy’n parhau ynghylch y gyfradd isel o aelodau sy’n
hawlio’r ad-daliad tuag at ofal angenrheidiol ar gyfer plant ac oedolion
dibynnol. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gyfradd yn
isel ar draws Cymru, ac felly bod gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
drafod dulliau hyrwyddo’r ad-daliad ymysg aelodau. Nodwyd bod cam eisoes wedi
ei gymryd wrth ddiddymu y gofyn
blaenorol i gyhoeddi enwau’r sawl oedd yn hawlio’r ad-daliad. Mynegwyd
bod y diddymiad yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth yn y gobaith y byddai mwy
o bobl o gefndiroedd amrywiol yn sefyll fel cynghorwyr. Cododd
y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth: -
Awgrymwyd i dynnu sylw aelodau newydd at yr ad-daliad yn sydyn wedi eu
penodiad, ac atgoffa’r aelodau presennol drwy anfon llythyr. -
Trafodwyd y posibilrwydd bod stigma yn gysylltiedig ag hawlio’r
ad-daliad, felly bod angen pwysleisio fod y sawl sy’n hawlio yn aros yn anhysbys . -
Nodwyd bod angen normaleiddio hawlio’r ad-daliad drwy ei hyrwyddo ar
lefel genedlaethol. -
Codwyd pryder bod aelodau presennol sydd
yn gymwys i hawlio ddim yn gwneud hynny, ac awgrymwyd bod angen rhoi
apêl allan iddynt ei hawlio. |
|||
ABSENOLDEB MABWYSIADU Trafod yr ymgynghoriad i’r newidiadau i absenoldeb mabwysiadu ar gyfer
Cynghorwyr Awdurdodau Lleol. Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad. Rhesymau: Nodwyd y byddai hyn yn sicrhau bod aelodau etholedig yn
derbyn yr un hawliau a swyddogion. Awgrymwyd y byddai hyn yn hybu amrywiaeth
mewn democratiaeth. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad. Yn ymgynghoriad gan
Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac
Iaith ar ymestyn hyd absenoldeb mabwysiadu o bythefnos i 26 wythnos. Nododd y byddai hynny’n
sicrhau y byddai aelodau etholedig yn derbyn yr un hawliau a swyddogion.
Ategwyd bod yr ymestyniad yma hefyd yn annog amrywiaeth mewn democratiaeth wrth
i bobl o gefndiroedd amrywiol weld yr hyblygrwydd sydd ynghlwm a sefyll fel
cynghorydd. Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth: - Gofynnwyd am eglurder
ynghylch hawliau absenoldeb beichiogrwydd i aelodau, ac mewn ymateb nododd y
Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod y rhain yr un fath i aelodau ag
ydynt i Swyddogion. |
|||
DATBLYGIADAU A CHEFNOGAETH I AELODAU DROS Y CYFNOD COVID AC I'R DYFODOL. Cyflwyno diweddariad i’r
aelodau o’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn y cefndir dros y cyfnod a fu. Penderfyniad: PENDERFYNIAD (a) Derbyn yr adroddiad. (b) Cytunwyd bod angen trafodaethau ymhellach ar y ffordd ymlaen
wedi i'r aelodau leisio eu barn ar ffurf
cyfarfodydd y dyfodol. Rhesymau: Yn dilyn trafodaeth ar ddulliau cyfarfod
presennol ac ar gyfer y dyfodol, mynegwyd dymuniadau i weld rhai pwyllgorau
arbennig yn cwrdd wyneb i
wyneb fel bo angen. Ystyriwyd
bod y dull presennol yn gyfleus mewn sawl
ffordd wrth arbed amser teithio
a chostau,
fodd bynnag roedd teimlad ei
bod yn hanfodol cwrdd yn gorfforol
mewn rhai achosion. Derbyniwyd y sylwadau o'r drafodaeth
agoriadol a bydd y sylwadau yn cael
eu cyflwyno i drafodaethau mewnol pellach. Cofnod: PENDERFYNIAD (a)
Derbyn yr
adroddiad. (b)
Cytunwyd bod
angen trafodaethau pellach ar y ffordd ymlaen wedi i’r aelodau leisio eu barn
ar ffurf cyfarfodydd y dyfodol. Adroddodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ar y datblygiadau a chefnogaeth sydd wedi
bod i aelodau yn ystod y cyfnod Covid-19. Dywedodd fod newid mawr wedi wynebu
aelodau ynghyd a staff y Cyngor o ganlyniad i Covid-19 a chyfyngiadau ddaeth yn
sgil y cyfnod clo. Nodwyd bod gofynion uchel wedi bod ar aelodau yn ystod y
cyfnod diweddaraf. Pwysleisiwyd pwysigrwydd hunan les a hunan ofal yn sgil y
gofynion yma. Cyflwynwyd crynodeb
gan Arweinydd Tîm Democratiaeth yn
amlinellu'r amryw ddatblygiadau sydd wedi bod. Nodwyd bod sawl aelod o staff y
tîm wedi trosglwyddo i’r rheng flaen yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fodd bynnag
erbyn hyn roeddent wedi ail ymuno a’r tîm democratiaeth. Ymhelaethwyd gan nodi
bod ffyrdd o weithio’r tîm wedi addasu’n gyfan gwbl er mwyn hwyluso gweithio o
bell a chynnal cyfarfodydd a phwyllgorau yn rhithiol. Wrth ymhelaethu, nododd bod nifer uchel o
gyfarfodydd rhithiol wedi digwydd. Cynhaliwyd 28 o bwyllgorau ffurfiol yn y
cyfnod hyd ddiwedd Hydref, 30 o gyfarfodydd anffurfiol gydag aelodau etholedig,
a 23 o sesiynau hyfforddiant rhithiol gydag aelodau. Yn ogystal ag hynny,
nodwyd erbyn hyn bod pob aelod etholedig wedi mynychu cyfarfod rhithiol. Dywedodd fod ambell i nodyn
positif wedi ymddangos ers y datblygiad o gyfarfod yn rhithiol, gan bwysleisio
bod presenoldeb aelodau wedi cynyddu
ynghyd a'u parodrwydd i gyfarfod. Rhoddwyd mwy o wybodaeth
ynghylch trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol gan y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol. Soniwyd bod trafodaethau mewnol eisoes wedi bod ar waith a
rhannwyd y pwyntiau canlynol ynghylch trefniadau’r dyfodol ar gyfer swyddogion; - Sefydlwyd rhagdybiaeth ymysg
swyddogion y byddant yn cynnal cyfarfodydd mewnol yn rhithiol yn y dyfodol. - Cydnabuwyd y bydd rhaid i
gyfarfodydd wyneb i wyneb ddigwydd yn achlysurol, er enghraifft ar benodiad
swyddogion newydd neu ar gyfer sgwrs anodd. - Nodwyd fod cyfarfodydd
‘hybrid’ yn cael eu hystyried yn llai ffafriol am ei fod yn gallu bod yn
brofiad eilradd i’r rhai sydd yn ymuno o bell.
Agorwyd
y drafodaeth i aelodau’r pwyllgor leisio eu barn ar sefyllfa’r dyfodol i
aelodau. Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth: - Nodwyd bod angen cael
cydbwysedd rhwng cyfarfodydd rhithiol a chorfforol. Awgrymwyd rhoi ystyriaeth i
flaenoriaethu pa gyfarfodydd sydd wir angen bod yn digwydd yn gorfforol. - Awgrymwyd bod angen gosod
rheolau ynghylch yr amser mae aelodau yn treulio o flaen sgrin o ganlyniad i
gyfarfodydd rhithiol. Nodwyd bod angen trefniadau clir ynghylch amser, osgo, a
gosodiad y cyfrifiadur er lles aelodau. - Canmolwyd y drefn rithiol
ymysg aelodau sy’n byw yn bell o Gaernarfon gan eu bod yn arbed amser teithio,
yn well i’r amgylchedd ac yn arbed arian costau teithio i’r Cyngor. Dywedwyd
bod y drefn rithiol yn caniatáu iddynt gyflawni mwy mewn diwrnod gan nad ydynt
yn teithio am gyfnod hir. - Awgrymwyd bod y drefn rithiol yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth gan ei bod yn haws i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU Rhoi trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau. Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad. Rhesymau: Oherwydd yr
argyfwng Covid-19, ni fu’n bosib cynnal hyfforddiant yn y ffordd ‘draddodiadol’
ers peth amser, a bu’n anorfod datblygu dulliau amgen e.e. hyfforddiant
rhithiol (‘o bell’) ar gyfer y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg, lluniwyd rhaglen hyfforddiant ar gyfer 2020/21, gan
ymdrechu i gynnal amrywiaeth o deitlau perthnasol o ansawdd uchel. Nodwyd
bod nifer o’r aelodau presennol wedi bod ar y cyrsiau hyfforddiant ac yn
croesawu’r dull newydd o’u gweithredu’n rhithiol. Ategwyd bod mwy o aelodau yn
mynychu oherwydd y natur hwylus o dderbyn hyfforddiant o bell. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad. Cyflwynodd y Rheolwr Dysgu
a Datblygu’r Sefydliad ei adroddiad ar y ddarpariaeth sesiynau hyfforddiant o
bell. Rhoddwyd trosolwg o’r
ddarpariaeth, gan amlygu llwyddiannau, heriau a datblygiadau sydd wedi bod gan
y gwasanaeth o ganlyniad i gyfyngiadau
Covid-19. Nodwyd bod y ddarpariaeth yn cynnwys pecynnau adnoddau, darpariaeth o
fideos hyfforddiant a hyfforddi unigol. Nodwyd bod y diwylliant o
ddarparu hyfforddiant wedi newid cryn dipyn dros y misoedd diweddaraf a bod yr
hen ddulliau yn amherthnasol erbyn hyn. Dywedwyd bod mwy o aelodau wedi
ymgymryd â sesiynau hyfforddiant gan eu bod yn digwydd yn rhithiol, ac yn
ogystal bod mwy yn cyfrannu yn ystod y
sesiynau. Gofynnwyd i’r aelodau ar y
pwyllgor ystyried cynnwys y pecyn hyfforddiant newydd a rhoi adborth ar y dull
o gynnig hyfforddiant yn rhithiol. Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth: - Dywedwyd bod mwy o gyfle i
gymryd rhan wedi bod ers dyfodiad hyfforddiant rhithiol. Ategwyd ei bod yn
syniad da i gynnal y sesiynau yn rhithiol gan ei bod yn fwy hwylus i fynychu
heb fod gorfod teithio iddynt. Nodwyd y
dylid ystyried cynnal rhai sesiynau gyda’r nos. - Nodwyd bod mwy o aelodau i
weld yn mynychu’r sesiynau rhithiol o gymharu ag rhai sydd angen teithio
iddynt. - Mynegwyd sylwadau ar y
rhaglen newydd gan nodi ei bod yn ddiddorol ac yn cynnig hyblygrwydd. |
|||
AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH Cyflwyno diweddariad o’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma a chynlluniau’r dyfodol. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Derbyn yr adroddiad a chefnogi cyfeiriad y rhaglen waith. Rhesymau: Sefydlwyd
Is-grŵp amrywiaeth er mwyn ymdrechu
i geisio hybu mwy o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd
i sefyll etholiad ar gyfer Llywodraeth Leol. Gyda newid
deddfwriaethol yn golygu y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd
Cymru o 2021 ymlaen ac etholiadau Llywodraeth Leol o 2022 ymlaen. Mae’r newid
deddfwriaethol wedi dod a chyfleoedd yn ei sgil. Nodwyd bod y cyfnod
presennol yn adlewyrchu’r angen i gael aelodau o wahanol gefndiroedd fel eu bod
yn gallu ymateb mewn dulliau amrywiol i’r heriau sy’n codi o fewn y gymuned. Cofnod: PENDERFYNIAD: Derbyn
yr adroddiad a chefnogi cyfeiriad y rhaglen waith. Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith amlinelliad o’r camau a’r datblygiadau sydd
wedi digwydd hyd yn hyn ac sydd ar y gweill er mwyn hybu amrywiaeth mewn
democratiaeth. Nodwyd bod y pwyllgor
heddiw wedi cyfeirio at sawl agwedd oedd yn berthnasol er mwyn hybu amrywiaeth,
er enghraifft wrth drafod ad-daliadau gofal a chyfarfodydd rhithiol. Cyfeiriwyd at un o’r
meysydd targed sef hyrwyddo democratiaeth ymysg ieuenctid drwy sefydlu prosiect
i annog pobl ifanc 16 i 17 oed i gofrestru i bleidleisio. Ategwyd at hyn gan
nodi bod y cyfnod presennol wedi amlygu bod wir angen amrywiaeth fel bod
aelodau yn medru ymateb i wahanol amgylchiadau sy’n codi o fewn y gymuned. Dywedwyd bod angen bwrw ymlaen gyda’u hymgais i ddenu
mwy o ferched, pobl ifanc a phobl anabl i gymryd rhan mewn etholiadau ac i
sefyll mewn etholiadau. Ar y nodyn yma, gofynnwyd am ganiatâd y pwyllgor i
gychwyn paratoadau ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol 2022 ac am gefnogaeth i
gyfeiriad y rhaglen waith. Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth: - Rhannwyd nifer o ddulliau o
sut i gyfathrebu a hyrwyddo cyfranogiad ymysg y grwpiau targed. - Mynegwyd bod y newid
deddfwriaethol hefyd yn caniatáu dinasyddion o wledydd eraill i bleidleisio
mewn etholiadau. - Dywed fod posibilrwydd edrych
ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r her o hyrwyddo’r etholiad yn
etholiadau Senedd Cymru yn 2021. Yn dilyn hynny, gall y Cyngor fabwysiadu’r un
dulliau ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol. - Cynigwyd bod angen amlygu ei fod yn bosib
gwneud swydd cynghorydd ac ymgymryd â dyletswyddau teuluol neu barhau i weithio
mewn swydd ar yr un pryd. |