Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Alan Jones Evans a’r Cyng. Hefin Underwood |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DIRPRWYO HAWLIAU I BENDERFYNU AR GEISIADAU TRWYDDEDAU TACSI I gymeradwyo diwygio’r drefn
dirprwyo penderfyniadau i’r Is Bwyllgor yn unol a’r drefn a argymhellir yn yr
adroddiad . Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo
diwygio’r drefn dirprwyo penderfyniadau i’r Is-bwyllgor. Hawliau Dirprwyedig Pennaeth Amgylchedd: adolygu cymal 11.3.5
fel a ganlyn- Gweithredu pwerau’r Cyngor ym maes trwyddedu cerbydau hacni a
cherbydau hur preifat ag eithrio’r materion canlynol sydd yn gyfrifoldeb i’r
Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol. ·
Penderfynu ar gais am
drwydded gyrrwr hacni/hurio preifat pan fydd adroddiad o'r Biwro Cofnodion
Troseddol yn dangos collfarn neu rybudd heddlu,
a phan fydd y cais yn groes i bolisi’r Awdurdod. ·
Penderfynu ar gais am
drwydded cerbyd hacni/hurio preifat pan na fydd y cerbyd yn cydymffurfio â
pholisi'r awdurdod. ·
Penderfynu ar gais am
drwydded gweithredwr hurio preifat pan fydd adroddiad o'r Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd yn dangos collfarn neu rybudd heddlu , a phan fydd y cais yn groes i
bolisi’r Awdurdod. ·
Y drefn i sicrhau fod y
penderfyniad wedi ei ddirprwyo i swyddog mewn amgylchiadau lle nad yw hanes
troseddol yr unigolyn, neu unrhyw fater i’w ystyried, yn groes i bolisi. ·
Bod gan y Pennaeth
ddisgresiwn o dan y Cynllun Dirprwyo i gyfeirio unrhyw gais am wrandawiad Is
Bwyllgor lle mae amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud hynny: ni fydd y newidiadau
yn effeithio ar yr hawl hynny. Cyflwyno’r diwygiadau i’r Swyddog Monitro fel y gall eu
cynnwys fel rhan o adroddiad ‘Adolygu’r Cyfansoddiad’ fydd yn cael ei gyflwyno
i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo yn derfynnol. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r opsiynau ar gyfer addasu trefniadau’r cynllun dirprwyo cyfredol.
Eglurwyd bod gan y Cyngor, fel Awdurdod Trwyddedu, ddyletswydd o dan y Ddeddf
Cymalau Heddluoedd Trefol 1847 a’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976 i drwyddedu gyrwyr a cherbydau hurio preifat a hacni, a
gweithredwyr. Ategwyd ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod sicrhau bod y sawl sydd yn
ymgeisio am drwydded gyrrwr/ gweithredwr, neu’n ymgeisio i adnewyddu trwydded
o’r fath, yn unigolyn ‘addas a phriodol’ i ddal y drwydded honno. Atgoffwyd yr
Aelodau mai prif bwrpas trwyddedu cerbydau, gweithredwyr a gyrwyr yw diogelu
iechyd y cyhoedd. Dyma’r flaenoriaeth mae’r Cyngor wedi ei ystyried wrth
fabwysiadau trefn bwrpasol i geisio cyfarch hyn. Tynnwyd sylw at
eiriad cyfredol y Cyfansoddiad sydd yn gosod trefn benodol o ran pa
benderfyniadau sydd wedi eu dirprwyo i swyddogion; a pha benderfyniadau sydd yn
disgyn o dan gyfrifoldebau’r Is-bwyllgor. Atgoffwyd yr Aelodau bod adroddiad
wedi ei gyflwyno i bwyllgor Rhagfyr 2019 yn amlinellu’r trefniadau gydag
opsiynau cychwynnol o ran adolygu’r trefniadau o ddirprwyo penderfyniadau. Yn y
Pwyllgor hwnnw cytunodd yr Aelodau y dylai’r Is-bwyllgorau Trwyddedu
Cyffredinol barhau i allu dyfarnu penderfyniad mewn modd gwrthrychol a
rhesymegol lle mae ceisiadau o ran eu natur yn cyfiawnhau penderfyniad gan yr
Is-bwyllgor. Rhoddwyd hawl i’r Gwasanaeth Cyfreithiol a'r Gwasanaeth Trwyddedu
ymchwilio ymhellach i gyfarch anfanteision y drefn bresennol gan sicrhau bod
unrhyw addasiadau yn parhau i fod yn wydn, yn deg a thryloyw. Adroddwyd bod
trefniadau dirprwyo penderfyniadau yn amrywio o Gyngor i Gyngor a bod hyn hefyd
wedi cael ei ystyried wrth adolygu’r drefn. O safbwynt Cyngor Gwynedd,
ystyriwyd bod rôl bwysig gan yr Is bwyllgor i ystyried a phenderfynu car
geisiadau sydd yn groes i unrhyw bolisi sydd yn weithredol ar y pryd; megis
y polisi presennol sydd yn rhoi
arweiniad o ran penderfynu os yw unigolyn yn addas a phriodol i ddal trwydded
gyrru tacsi (Polisi Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr).
Nodwyd hefyd bod angen pendantrwydd clir o ran diffinio’r amgylchiadau lle
dylid cyfeirio cais i’r Is bwyllgor. Nodwyd, os bydd y
Pwyllgor yn cymeradwyo’r addasiadau byddant yn cael eu cyflwyno am
gymeradwyaeth derfynol gan y Cyngor Llawn fel rhan o adroddiad gan y Swyddog
Monitro ar Adolygu’r Cyfansoddiad. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau: · Croesawu’r newid –
dim pwynt cyflwyno cais i is-bwyllgor heb fod angen – byddai hyn yn ysgafnhau
llwyth gwaith diangen i’r is-bwyllgor ac i’r swyddogion · Bod angen sicrhau
proses desg ac agored · Bod angen sicrhau
bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’i hawl i apelio - angen amlygu hyn yn glir
ynghyd ag amgylchiadau beth fydd yn cael ei gyfeirio at is-bwyllgor · Bod y newidiadau
yn ymateb i’r angen yn gynt – yn osgoi oediad yn y broses o aros am
benderfyniad i geisiadau · Derbyn y byddai’r
Is-bwyllgor yn delio gyda’r ceisiadau mwyaf cynhennus · Bod cydweithio gyda’r Heddlu yn allweddol i’r broses, yn arbennig yng nghyd-destun gwybodaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |