Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021 / 22 Penderfyniad: ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN
HUGHES YN GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 Cofnod: PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN
GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 Diolchwyd i’r Cynghorydd Elfed Williams am ei waith fel
Cadeirydd y Pwyllgor dros y ddwy flynedd
diwethaf a hefyd am ei gefnogaeth i'r
Is-bwyllgorau Trwyddedu. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2021 / 22 Penderfyniad: ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR
OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 Cofnod: PENDERFYNWYD
ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r
Cynghorydd Jason W Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: ·
Bod cais wedi dod
i law gan yr Awdurdod Trwyddedu
Lleol i fabwysiadau
Adran 2 ac Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau amrywiol) 1982 yn dilyn cais i agor
Siop Rhyw yn Abermaw. Bydd angen i’r Cyngor ystyried mabwysiadu hawl i ystyried
y cais gan sicrhau bod trefniadau rheoleiddio pwrpasol yn eu lle. Ategwyd yr
angen i gynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol er mwyn
derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor i ddechrau ymgynghoriad statudol i’r mater. ·
Tynnwyd sylw at sedd Aelod Unigol
sydd wedi bod yn wag ers tro
bellach ar restr Aelodaeth y Pwyllgor. Awgrymwyd i’r mater gael ei gyfeirio at y Grŵp Busnes |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mawrth 15fed 2021 fel rhai cywir |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion o gyfarfod Is bwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol: a) 2 Mawrth 2021 Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgor a gynhaliwyd 2il Mawrth
2021 |