Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Beca Roberts (Cynrychiolydd
Cyflogwr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried COFNODION: a) TREFNIADAU STATUDOL O AIL-ETHOL AELODAU I’R BWRDD Hysbyswyd yr
aelodau bod Mr Huw Trainor wedi derbyn swydd newydd gyda Grŵp Llandrillo
Menai ac o ganlyniad byddai angen ethol cynrychiolydd cyflogwr newydd i’r
Bwrdd. Diolchwyd i Huw am ei ymroddiad i waith y Bwrdd ers ei sefydlu yn 2015 a
dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd. Yn unol â threfn
statudol o ethol aelodau i’r Bwrdd, amlygwyd bod tymor cyntaf rhai o aelodau’r
Bwrdd yn dod i ben, ac er gellir ail-benodi unrhyw gynrychiolydd am gyfnod
pellach yn y swydd, yn amodol ar eu hail-enwebu yn ôl yr angen, bod angen
gwneud hynny yn ffurfiol. Yn sgil cyhoeddiad Mr Huw Trainor, ystyriwyd mai
amserol fyddai dechrau’r broses o ail benodi yn ehangach yn Chwefror 2023.
Ategwyd y byddai’r aelodau presennol yn cael eu hysbysu o drefniadau’r broses
gyhoeddus ac o’r bwriad i benodi pum aelod (nodwyd eithriad i gynrychiolydd
Cyngor Gwynedd gan fod y penodiad yn un diweddar iawn ac wedi ei warchod). b) DIGWYDDIADAU 2023 Cynhadledd Carden Park, 30-31 Mawrth 2023 Enwebwyd Sioned
Parry i fynychu ar ran y Bwrdd |
|
COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 3ydd o Hydref 2022 fel rhai cywir |
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU A MATERION YN CODI ·
Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2022. ·
Materion yn codi o’r Pwyllgor Pensiynau ar 21
Tachwedd 2022 Nodi'r wybodaeth a'r penderfyniadau a wnaed Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau 21 Tachwedd 2022 Materion yn codi o’r Pwyllgor. Adroddwyd bod nifer o benderfyniadau arwyddocaol wedi
eu gwneud yn y Pwyllgor fyddai’n effeithio’r Gronfa i’r dyfodol. Gofynnwyd i’r
Bwrdd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, craffu’r penderfyniadau a chynnig sylwadau |
|
PWYLLGOR PENSIYNAU YMGYNGHORIAD TCFD I nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyflwynwyd ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i
ymgynghoriad Llywodraeth San Steffan ar gynigion ar ofynion newydd ar
awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
Nodwyd bod yr ymateb wedi ei baratoi gyda mewnbwn Hymans
Robertson (ymgynghorwyr y Gronfa) ac wedi ei lunio mewn modd adeiladol. Yn ôl y
disgwyl, bydd y cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddol y CPLlL asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau sy’n ymwneud â’r
hinsawdd, yn unol ag argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol
Cysylltiedig â’r Hinsawdd (‘TCFD’). Disgwylir i’r rheoliadau ddod i rym erbyn
Ebrill 2023. |
|
RHAGFANTOLI ARIAN CYFRED I nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Gwnaed
penderfyniad yn y Pwyllgor i ragfantoli arian cyfred
dros dro a grymuso swyddogion ac ymgynghorydd y Gronfa i sefydlu trefniadau rhagfantoli arian mewn perthynas â chronfeydd ecwiti
byd-eang Gwynedd gyda Black Rock. Roedd y
penderfyniad yn un oedd yn ymateb i gyfle i amddiffyn rhai enillion diweddar
rhag cynnydd yng ngwerth Sterling yn y dyfodol. Ategwyd mai’r bwriad fyddai
manteisio ar gwymp y bunt yn erbyn y ddoler, ond dileu’r warchodaeth (hedging) pan fydd y Sterling yn symud o fewn efallai 20%
o'i gyfradd gyfnewid gyfartalog hirdymor. Nodwyd, ers pryd
trafodwyd y cynnig yn y Pwyllgor a pharatoi’r cyfleuster, roedd y gyfradd wedi
cynyddu ac felly’r posibilrwydd o weithredu yn ormod o risg, a’r cyfle wedi ei
golli am y tro. Er hynny, ategwyd bod trefn bellach yn ei lle fel bod modd
ymateb a gweithredu ar fyr rybudd pe bai cyfle eto. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod trefn yn ei lle ar gyfer ymateb i gyfle yn y
dyfodol ·
Bod y drafodaeth yn y Pwyllgor wedi bod yn fuddiol
a’r Pwyllgor wedi sefydlu trefn Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r amser y byddai yn cymryd i ddadfuddsoddi
arian cyfred petai'r farchnad yn gyfnewidiol, nodwyd, gyda phrotocol a threfniadau
rhagfantoli gyda chronfeydd Black Rock
bellach wedi eu sefydlu, bod posib gweithredu mewn un diwrnod. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod
buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i
wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am
y rhesymau hyn mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth
ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd parti ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa.
Byddai hyn yn groes i’r
budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian
a’r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
PROSIECT YNNI GLAN YNG NGHYMRU (PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU) Copi i’r Aelodau yn unig COFNODION: Gwnaed
penderfyniad yn y Pwyllgor i gymeradwyo dyraniad ariannol (o oddeutu £9m -
£10m) i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glan uniongyrchol yng Nghymru, gan nodi
bwriad Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i gynnal diwydrwydd dyledus. Mewn
ymateb, nododd y Bwrdd eu bod yn deall rhesymeg a chefnogaeth y Pwyllgor i’r
prosiect ynni glan ac yn unol â sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor bod cyfle da yma
i fuddsoddi yng Nghymru mewn menter sydd yn cyd-fynd a pholisi buddsoddi
cyfrifol y Gronfa. Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â chefndir hanesyddol y cwmni dan sylw, nodwyd bod y
Pwyllgor wedi amlygu pryderon ac wedi gofyn am wybodaeth bellach. Ategwyd bod
yr ymateb i’r pryderon wedi bod yn ffafriol, bod mwy o waith paratoi i’w
gwblhau gan PPC, ond bod cefnogaeth y Pwyllgor i’r prosiect wedi ei sefydlu. |
|
ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD Copi i’r Aelodau yn unig COFNODION: Amlygwyd
bod cymeradwyo dyraniad strategol diwygiedig y Gronfa yn un o benderfyniadau
pwysicaf y Pwyllgor am y tair blynedd nesaf. Comisiynwyd Hymans
Robertson i gyflwyno opsiynau ac fe gymeradwywyd opsiwn 2 fel un i symud y
strategaeth fuddsoddi ymlaen. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â phwy sydd yn dewis y bondiau corfforaethol ac os oedd
polisi yn ei le i reoli’r drefn, nodwyd mai rheolwyr is-gronfeydd PPC (Russell
Investment a Fidelity) fydd yn dewis y cwmnïau, ond
bod cymwysterau a ffactorau sy’n ymwneud ag elfennau Amgylcheddol, Cymdeithasol
a Llywodraethu (ESG) bellach yn cael eu hystyried ymhob sefyllfa. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod y Bwrdd
yn derbyn cyfeiriad y Pwyllgor ·
Eu bod yn croesawu’r
elfennau ESG ·
Yn diolch i’r swyddogion am eu gwaith PENDERFYNWYD
nodi’r holl wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Pensiynau. |
|
AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahodd yn ôl
i’r cyfarfod COFNODION: PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd |
|
ADRODDIAD ARCHWILIO CYMRU Y GRONFA BENSIWN I ystyried a nodi
adroddiad yr archwilwyr Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o Ddatganiad o
Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2021/22 wedi ei gyflwyno yng nghyfarfod
Gorffennaf 2022, lle adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid, yn ei rôl fel Swyddog
Cyllidol Cyfrifol, wedi ardystio’r cyfrifon drafft a’u bod yn destun
archwiliad. Adroddwyd bod y
cyfrifon bellach wedi cael eu harchwilio gan
Archwilio Cymru a bod yr adroddiad
‘ISA260’ yn manylu ar ddarganfyddiadau'r archwiliad. Amlygwyd na chanfuwyd unrhyw gamddatganiadau perthnasol na hepgoriadau ac felly nid oedd unrhyw newid i’r cyfrifon a
gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2022. Cymeradwywyd y cyfrifon
gan y Pwyllgor Pensiynau ar yr 21ain o Dachwedd 2022. Diolchwyd
am yr adroddiad a llongyfarchwyd y tîm am gyflwyno cyfrifon glan a hynny o fewn
amserlen heriol PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi sylwadau’r
Archwilwyr. |
|
DIWEDDARIAD ACHOS MCCLOUD I ystyried
yr adroddiad COFNODION: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn diweddaru’r Bwrdd ar y gwaith sydd yn cael
ei wneud mewn ymateb i achos McCloud. Atgoffwyd yr
Aelodau, pan ddiwygiwyd cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn 2014 a 2015,
cyflwynwyd mesurau diogelu ar gyfer aelodau hŷn i sicrhau na fyddai’r
diwygiadau’n creu effaith negyddol ar eu pensiwn. Er hynny yn Rhagfyr 2018, dyfarnodd
y Llys Apêl bod rhai aelodau wedi dioddef anffafriaeth oherwydd nad oedd yr
amddiffyniadau yn berthnasol iddynt hwy. O ganlyniad, roedd rhaid i'r
Llywodraeth ystyried rhoi amddiffyniad i aelodau iau sy'n gyfartal â'r
amddiffyniad sylfaenol a ddarperir i aelodau hŷn er mwyn dileu'r
anffafriaeth. Cyfeirir
at y gwaith o ddileu’r ‘anffafriaeth’ fel Prosiect McCloud
ac er yn derbyn y bydd yn brosiect sylweddol i’r Gronfa a’r cyflogwyr, gydag
ychydig iawn o newid i werth buddion aelodau ar ddiwedd y prosiect, bod cyfle
gwych yma i sicrhau bod data cywir a chyfredol, yn cael ei gofnodi ar gyfer y Dashfwrdd Pensiynau. Wrth
gydweithio gyda Hymans Robertson adroddwyd bod
oddeutu 11,500 o aelodau’r Gronfa wedi eu heffeithio gan achos Mc Cloud ac y bydd angen gweithredu
rhyw fath o adolygiad arnynt. Yn dilyn
cais am wybodaeth gan 22 o gyflogwyr y Gronfa, adroddwyd bod y wybodaeth oedd
eisoes wedi dod i law mewn cyflwr da. Ategwyd
bod y gwaith yn un arbenigol a bod angen staff profiadol i ymgymryd â’r gwaith
er cywirdeb. Yn Ionawr 2022 cymeradwywyd gwariant ar gyfer 3 swydd dros dro i
gynorthwyo gyda’r gwaith, ond gyda recriwtio staff yn her i gronfeydd ledled y
DU, nodwyd bod dwy o’r swyddi heb eu llenwi. Er hynny, yn dilyn ail-hysbysebu
diweddar adroddwyd bod 12 cais wedi eu derbyn â bod hynny yn galonogol. Er
gwaethaf y sefyllfa gyda’r swyddi, adroddwyd bod y gwaith wedi dechrau’n dda a
bod yr Adran Pensiynau yn hyderus, gyda chydweithrediad y cyflogwyr, y gellid
cwblhau’r gwaith yn llwyddiannus, unwaith y bydd tîm llawn yn ei le. Diolchwyd
am yr adroddiad Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol ·
Croesawu nifer y ceisiadau am swydd ·
Diolch i’r tîm am eu gwaith - er yr ymroddiad
clodwiw, ni fydd y gwaith ar brosiect McCloud yn debygol
o ddod a budd i lawer PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
RHAGLEN DASHFYRDDAU PENSIYNAU I ystyried
yr adroddiad COFNODION: Cyflwynwyd
adroddiad oedd yn manylu ar y gwaith sydd angen ei wneud mewn ymateb i lansiad
Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau sy’n cael ei arwain gan
y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Bwriad y Rhaglen Dashfyrddau
Pensiynau yw cynnig gwasanaeth digidol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chynorthwyo
aelodau i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad gan gael mynediad at wybodaeth
ddiogel mewn un lle. Ategwyd y byddai darparwyr dashfwrdd
lluosog yn y farchnad yn rhoi cyfle i unigolion ddewis dashfwrdd
a chyflwyno cais i weld gwybodaeth am eu pensiwn. Bydd rhaid i gynlluniau’r
gwasanaethau cyhoeddus gysylltu â dashfwrdd erbyn
Medi 30 2024. Adroddwyd
y byddai rhaid i weinyddwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd, ·
benodi Darparwr Gwasanaeth Integredig (ISP) i
gysylltu ag ecosystem y dashfwrdd pensiynau. Nodwyd
bod Heywood Pensions
Technologies (darparwr meddalwedd) wrthi yn datblygu ISP fyddai hefyd yn
gweithio gyda phrosesau cyfredol y Cyngor. ·
ymateb i’r her o sicrhau bod y data sydd ar y
system yn gywir. Er yn sgorio’n uchel yn sgorau data cyffredin a chynllun
penodol y Rheoleiddiwr Pensiynau, bydd rhaid
cydymffurfio â safon newydd, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd mewn perthynas
â’r rhaglen dashfwrdd pensiynau. ·
gomisiynu darparwr meddalwedd i ddarparu adroddiad
Asesiad Parodrwydd Dashfyrddau Pensiynau - bwriad yr
ymarfer yw derbyn canlyniadau cryno i geisio deall ansawdd y data a pha gamau y
bydd angen eu cymryd i baratoi ar gyfer Dashfyrddau
Pensiynau. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar amserlen, nodwyd
bod cynlluniau’r cronfeydd i'w cofrestru ar
amseroedd nodedig. Ategwyd mai amserlen
nodedig Cronfa Gwynedd oedd rhwng Mawrth
2023 a Medi 2024. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymateb cronfeydd eraill i’r gwaith,
nodwyd bod pawb mewn sefyllfa debyg
iawn, ac er fod gofynion yn
gymhleth nad oedd problemau unigryw wedi codi.
Ategwyd bod y gwaith yn cael ei
drafod mewn fforymau gweinyddwyr pensiwn a bod rhannu ymarfer da a chynnig cefnogaeth yn rhan
o’r trafodaethau hynny. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad Diolchodd
Cadeirydd y Bwrdd i’r Pwyllgor Pensiynau am eu gwaith, gan ategu bod y Bwrdd yn
gefnogol i’r penderfyniadau pwysig a wnaethpwyd yn ddiweddar. Mewn ymateb, nododd Cadeirydd y Pwyllgor
Pensiynau bod y penderfyniadau yn ychwanegu gwerth i’r gwaith ac i’r Gronfa,
a’u bod yn ymateb i wybodaeth dda gan swyddogion ac ymgynghorwyr |