Lleoliad: Rhithiol
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Etholwyd
y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2022/23. COFNODION: Etholwyd y
Cynghorydd Hefin Underwood yn Gadeirydd y cyfarfod hwn am y cyfnod 2022/23 |
|||
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Etholwyd
Y Cynghorydd Elin Hywel fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli
ar gyfer y flwyddyn 2022/23. COFNODION: Etholwyd y
Cynghorydd Elin Hywel yn Is-Gadeirydd y cyfarfod hwn am y cyfnod 2022/23 |
|||
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Richard
G Roberts a’r Cynghorydd Nia Jeffreys |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||
MATERION BRYS Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Penderfyniad: Yn sgil pryderon am
faterion yn ymwneud a Safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, y dylid anfon llythyr
o bryder yn enw’r Pwyllgor. COFNODION: Daeth Y Cynghorydd Elin Hywel a mater brys i
sylw y Pwyllgor, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ynglŷn â dyfodol safle
Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle. Nododd pwysigrwydd ymateb i’r gyfundrefn
ymgynghorol fel Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli. PENDERFYNIAD Yn sgil pryderon am faterion yn ymwneud a
Safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, y dylid anfon llythyr o bryder yn enw’r
Pwyllgor. |
|||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022, fel rhai cywir. Gofynnodd Jenny Moss i’r rhaglen adlewyrchu
yn glir ei bod yn Cynrychioli Cymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli ar
y Pwyllgor. |
|||
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR Cyflwyno Adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli Diweddariad
ar Faterion Rheolaethol yr Harbwr Ystadegan
Hafan a Harbwr Pwllheli Adroddiad
Cyllidol 2022 – 2023 Herio Perfformiad Hafan a Harbwr Pwllheli 2022 Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad COFNODION: Cyflwynodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ei hun yn
ffurfiol i’r Pwyllgor gan gyfeirio at y papur oedd yn rhoi diweddariad ar
Faterion Rheolaethol a Gweithredol yr Harbwr a Hafan. Ehangodd ar rai materion fel a ganlyn 1.1
Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd Cadarnhawyd bod y Swyddog Harbyrau yn edrych mewn manylder ar y Cod
Diogelwch. O ran y Deilydd Dyletswydd,
cadarnhawyd ei fod nawr wedi ei drosglwyddo i’r Cynghorydd Nia Jeffreys fel y
deilydd portffolio Economi a Chymuned a’i bod eisoes wedi ymweld. Cadarnhawyd bod cwynion ynglŷn â diogelwch wedi dod i law, yn
cynnwys · Dim Harbwr
Feistr ym Mhwllheli · Dim
rheolaeth o fadau personol, a’r pryder y bydd rhywun yn cael niwed Mewn ymateb, nodwyd bod newidiadau staffio wedi eu gwneud gan gynnwys
apwyntio Harbwr Feistr Cynorthwyol, a bod y tîm yn gyflawn ar hyn o bryd. Hefyd
cadarnhawyd fod Is-Reolwr Harbwr, Will Williams, yn Harbwr Feistr Pwllheli Cadarnhawyd bod y Meistr Hafan ac Angori wedi bod allan i geisio arafu y
badau personol a bod gwaith i roi uwch-seinydd ar adeilad yr harbwr feistr, a
fydd yn barod erbyn tymor yr haf blwyddyn nesaf. Cyfeiriwyd at y gwaith o hyrwyddo a hysbysu y
cyflymder a chadarnhawyd bod cwch yr Heddlu wedi bod ar y dŵr am
bythefnos. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r bwriad i roi rhifau adnabod ar
fadau personol, cadarnhawyd eu bod i fod i gael rhifau erbyn hyn, ac er tegwch
bod y niferoedd helaethaf gyda.
Cadarnhawyd bod y Masnachwyr Morwrol yn rhannu y neges ddiogelwch ond
bod rheoli mynediad yn gallu bod yn broblemus. Cadarnhawyd bod camerâu cylch cyfyng wedi eu gosod ar y llithrfa a bod
gwaith monitro y Cwmnïau Parcio a Lansio yn digwydd er mwyn ceisio sicrhau
diogelwch i bawb. Nodwyd bod y camera yn
pigo i fyny rhifau, yn enwedig wrth y cei tanwydd, ac yn ychwanegol bod pobl yn
rhannu fideos a lluniau personol gyda y Cyngor.
Cadarnhawyd bod y camerâu wedi eu gosod o geg y Marina er mwyn ceisio
cael llygaid ym mhobman. Cwestiynwyd a oes erlyniad wedi bod yn dilyn rhai o’r pethau gwirion mae
pobl yn ei wneud, ond nodwyd er bod damweiniau wedi bod nad oedd erlyniadau
wedi dod o hyn, yn bennaf gan nad oedd badau personol yn cael eu cynnwys fel
llongau. Nodwyd nad oes modd rheoli yr
arfordir i gyd yn anffodus. 1.2 Carthu’r
Sianel Cadarnhawyd bod y gwaith hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn ym mis Mai,
ac y bydd yr un ymdrech yn cael ei roi ar ddechrau 2023, yr amseriad penodol yn
ddibynnol ar amseru y dŵr isel.
Cadarnhawyd bod trafodaeth wedi digwydd gyda Dŵr Cymru ynglŷn
â phrynu neu brydles ar y tir. Her arall
yw gwagio basn y marina, ond adroddwyd bod gwaith ar y cyd gyda Ymgynghoriaeth
Gwynedd ar y gweill i weithio ar raglen tymor hir, er y nifer heriau. Holiwyd am dystiolaeth bod y grwyn newydd yn gwneud ei waith a chadarnhawyd bod yr arolwg ... view the full COFNODION text for item 7. |
|||
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y
canlynol – a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog Penderfyniad: Etholwyd
Stephen Tudor yn Sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi, Abermaw
a Porthmadog. COFNODION: PENDERFYNWYD : Etholwyd Stephen Tudor yn Sylwedydd ar Bwyllgorau
Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. |
|||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli
ar Ddydd Mawrth 14eg o Fawrth, 2023. COFNODION: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal ar 14eg Mawrth, 2023 am 6pm.
Nododd y Pwyllgor ei ddymuniad i gyfarfod wyneb yn wyneb pan fydd y
Cyngor yn agor hyn allan i ragor o bwyllgorau.
|