Lleoliad: Hybrid - Hybrid. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Nia Jeffreys a’r Cynghorydd Elwyn Jones
(Cadeirydd y Cyngor) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022
fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o
blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Penderfyniad: Penodi Mr Ian
Jones i’r swydd Pennaeth Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol Cofnod: a)
Cadarnhawyd trefn y
diwrnod gyda’r Aelodau. b)
Cyfwelwyd dau ymgeisydd
ar gyfer y swydd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. c) Gwahoddwyd
yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun, ‘Sut y byddech chi, yn eich rôl
fel Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, yn mynd ati yn ymarferol i
gyflwyno a chyflawni eich gweledigaeth?’ Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd
gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig, ynghyd a chwestiynau dilynol gan
yr Aelodau. Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i
gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn canolfan asesu
allanol a gynhaliwyd 24/10/24 gan gwmni Edgecombe;
ynghyd ag adborth o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn canolfan asesiad mewnol
a chyfweliad proffesiynol gyda chefnogaeth Mr Dylan Owen (Cyfarwyddwr
Corfforaethol) ch) Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei
chynnig i Mr Ian Jones PENDERFYNWYD
penodi Mr Ian Jones i’r swydd PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH
GORFFORAETHOL |