Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom / Zoom Virtual Meeting
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Myfyrdod
tawel neu weddi Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Mr
Eurfryn Davies. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cyng. Dewi Roberts, Heledd Jones (NEU), Anest G Frazer (Yr Eglwys yng
Nghymru), Garem Jackson (Pennaeth yr Adran Addysg), Cemlyn R Williams (Aelod
Cabinet Addysg) a Sion Huws (Adran Gyfreithiol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd
fel y gellir eu hystyried.. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Bu i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod
o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020 fel rhai cywir, a’u llofnodi. |
|
GWAHODDIAD GAN CYSAGAU Gwahoddiad i enwebu 4 cynrychiolydd i fynychu Cynhadledd Wanwyn CYSAGAU – sydd i’w chynnal 23 Mawrth 2021, drwy Zoom. Penderfyniad: Derbyn yr enwebiadau
ar gyfer mynychu y gynhadledd : Dashu Cynghorydd Paul
Rowlinson Eurfryn Davies Cynghorydd Selwyn
Griffiths Cofnod: Cyfeiriwyd at y gwahoddiad gan CYSAGAU Cymru i hyd at 4 aelod o CYSAG
Gwynedd fynychu eu Cynhadledd Wanwyn, yn rhithiol, ar 23 Mawrth 2021. Penderfynwyd : Derbyn yr enwebiadau
ar gyfer mynychu y gynhadledd: Dashu Cynghorydd Paul
Rowlinson Eurfryn Davies Cynghorydd Selwyn
Griffiths |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL CYSAG Diweddariad
ar y Cynnydd gyda Adroddiadau Blynyddol CYSAG ar gyfer 2018-2019 a 2019-2020 Penderfyniad: Derbyn y sefyllfa, ond annog y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG yn cysylltu gyda Bethan James ar fyrder i symud y mater ymlaen. Cofnod: Nodwyd pryder nad oes Adroddiad Blynyddol
wedi ei chwblhau ar gyfer y cyfnod 2018-2019 na 2019-20 er ei fod yn ofyn
statudol. Penderfynwyd : Derbyn y sefyllfa, ond annog y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG i gysylltu gyda Bethan James ar fyrder i
symud y mater ymlaen. |
|
YMATEB GAN BRIFYSGOL BANGOR YNGLYN A DYFODOL AG I dderbyn a thrafod yr ymateb a dderbyniwyd
gan Brifysgol Bangor ynglyn a Dyfodol Canolfan AG Prifysgol Bangor, a Dyfodol
AG ym Mhrifysgol Bangor Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at y Dirprwy Is-Ganghellor gan
gynnig iddo wahodd darlithydd o’r Brifysgol i fynychu cyfarfod nesaf CYSAG i
roi cyflwyniad ar yr heriau sydd yn wynebu Addysg Grefyddol o fewn y Cwricwlwm
newydd o fewn y dyniaethau Cofnod: Atgoffwyd y Grŵp bod pryder wedi ei
godi yn y cyfarfod diwethaf ynglŷn â dyfodol AG ym Mhrifysgol Bangor a bod
y Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Brifysgol i nodi y pryder hwn. Rhannwyd yr ymateb gyda CYSAG a theimlwyd y
byddai yn fuddiol gwahodd darlithydd o’r Adran i roi cyflwyniad ar yr heriau yn
sgil y cwricwlwm newydd. Penderfynwyd : Derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at y Dirprwy Is-Ganghellor gan gynnig iddo wahodd darlithydd o’r Brifysgol i fynychu cyfarfod nesaf CYSAG i roi cyflwyniad ar yr heriau sydd yn wynebu Addysg Grefyddol o fewn y Cwricwlwm newydd o fewn y dyniaethau |
|
ADDOLI AR Y CYD I drafod addoli ar
y cyd mewn Ysgolion Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi bod llawer o adnoddau ar gael - nid yn unig
yr adnoddau a gyfeirir atynt gan CYSAGAU Cymru eu hunain ond yn y gymuned yn
lleol. Cytunwyd i gasglu yr holl
bwyntiau cyswllt at ei gilydd cyn anfon llythyr atgoffa at yr ysgolion yn
amlygu yr adnoddau hyn, a’u hannog i
ystyried addoli ar y cyd. Cofnod: Atgoffwyd y Grŵp o’r llythyr oedd wedi
ei dderbyn gan CYSAGAU Cymru ynglŷn ag addoli ar y cyd tra mae ysgolion ar
gau. Nodwyd y farn bod addoli ar y cyd
yn rhan werthfawr o fywyd ysgol ond na ddylai fod yn rhoi pwysau ychwanegol ar
athrawon yn y cyfnod anodd hwn. Nodwyd
bod llythyr CYSAGAU Cymru yn cynnig adnoddau ac yn rhoi syniadau i’r
perwyl. Nododd y Cadeirydd bod
dyletswydd ar CYSAG i fonitro addoli ar y cyd ac ystyried a oes unrhyw beth
arall y gallai CYSAG ei wneud i helpu? Cyfeiriwyd at brofiadau aelodau o’r Pwyllgor
a nodwyd bod ysgolion yn dod o hyd i’w traed erbyn hyn, ond eu bod o dan bwysau
mawr o ran TGAU. Serch hynny, efallai ei
bod yn amser nawr i geisio hyrwyddo normalrwydd. Nodwyd efallai fod y platfform yn ei le i
athrawon allu ymateb i hyn? Nodwyd bod
rhai asiantaethau wedi creu pethau, ar lefel leol yn barod allai fod o gymorth
o bosib? Nodwyd pryder bod disgyblion yn treulio
llawer o amser ar y sgrin, ac efallai y byddai gwasanaeth byw yn creu straen
ychwanegol ormodol, a chadarnhawyd mai y peth diwethaf oedd CYSAG eisiau ei
wneud oedd creu straen a phwysau ychwanegol. Cyfeiriwyd hefyd at argaeledd gwasanaethau
rhithiol a chwestiynwyd oni fyddai modd gyrru cyswllt rhithiol i un gwasanaeth,
fyddai ar gael i bob ysgol? Byddai hyn
yn lleihau straen ar athrawon ac yn caniatáu i gael mynediad at amrywiol
grefyddau ar yr un pryd. Soniwyd am un ysgol ble mae y Gweinidog
lleol wedi paratoi gwasanaeth ar adegau penodol megis y Nadolig, ond wrth gwrs
bod materion diogelu i’w hystyried cyn gallu cael presenoldeb y Gweinidog yn yr
ysgol ei hun. Penderfynwyd : Derbyn yr adroddiad a nodi bod llawer o
adnoddau ar gael - nid yn unig yr adnoddau a gyfeirir atynt gan CYSAGAU Cymru
eu hunain ond yn y gymuned yn lleol.
Cytunwyd i gasglu yr holl bwyntiau cyswllt at ei gilydd cyn anfon
llythyr atgoffa at yr ysgolion yn amlygu yr adnoddau hyn, a’u hannog i ystyried
addoli ar y cyd. |