Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Myfyrdod distaw neu weddi Cofnod: Agorwyd
y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Selwyn E Griffiths. |
|
GWEDDI I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/2022 Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/2022 Penderfyniad: Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Menna Baines yn
Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Is-Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Eirian Bradley Roberts (Yr Eglwys Gatholig),
Dashu (Bwdïaeth), Cathryn Davey (UCAC), Garem Jackson
(Pennaeth yr Adran Addysg), Heledd Jones (NEU) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater
brys |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 214 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir Cofnod: Bu i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod
o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 fel rhai cywir, a’u
llofnodi. |
|
DYFODOL CANOLFAN ADDYSG GREFYDDOL PRIFYSGOL BANGOR PDF 244 KB Cyflwyniad gan Dr Gareth Evans Jones, Darlithydd Astudiaethau Crefyddol, Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor Penderfyniad: Croesawu y
diweddariad gan Yr Athro G Evans Jones a
cytuno i gydweithio pellach rhwng CYSAG Gwynedd, Adran Addysg Cyngor
Gwynedd a Prifysgol Bangor Cofnod: Croesawyd
Dr Gareth
Evans Jones, Darlithydd Astudiaethau Crefyddol, Ysgol Hanes, Athroniaeth a
Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd fwriad yr Adran, mewn
trafodaethau gyda’r Llyfrgell, i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am y Ganolfan,
gan ei huno gyda phrosiect newydd o’r enw ‘Ail-gysylltu’. Cadarnhaodd fanteision bod yn perthyn i Adran
draws-ddisgyblaethol sydd yn annog rhannu modiwlau. Manylodd am y
prosiect fydd yn creu adnodd newydd ysgrifenedig i athrawon Addysg Grefyddol
Lefel A. Nododd bod y Brifysgol yn y
broses o drafod llwybrau newydd Addysg Grefyddol oddi fewn i’r cwrs gradd, gan
annog myfyrwyr, fel rhan o’r cwrs i ddilyn llwybr Addysg Grefyddol. Ategwyd y sylw drwy gadarnhau bod yr Adran
Addysg hefyd yn cynnig modiwl newydd addysg i gynnwys Addysg Grefyddol sydd yn
rhoi blas ar ddysgu ac addysgu. Nododd y Pwyllgor
eu bod yn falch o glywed am y llwybr Addysg Grefyddol, yn enwedig yn sgil y
datblygiadau gyda’r cwricwlwm newydd, a’r angen i sicrhau bod athrawon cymwys
sydd â gwybodaeth arbenigol am Addysg Grefyddol. Gofynnwyd tybed
fyddai modd cynnwys deunydd ar gyfer TGAU, gan y teimlwyd mai ar y lefel hon
oedd eisiau dal diddordeb y disgyblion, gan efallai bontio wedyn i ddangos y
cyfleoedd. Nodwyd ei fod yn gyfle gwych
nawr i wneud hyn, er mai y targed oedd disgyblion Lefel A. Amlygwyd yr heriau
megis cysylltu gydag ysgolion yn ystod y cyfnod diweddar. Nododd hefyd y diffyg adnoddau cyfrwng
Cymraeg, ond bod y broblem hon wedi ei goresgyn drwy addasu deunyddiau Saesneg
yn hytrach na dim ond eu cyfieithu, gan ychwanegu gwedd Gymreig iddynt. O ran Safon Uwch
yn Arfon yn benodol, gan fod y niferoedd sydd yn dewis gwneud y pwnc yn isel,
onid dysgu o bell fyddai un ateb? Cadarnhawyd
y byddai yr Adran yn gallu bod o gymorth gyda hyn gan mai cydweithio yw y
flaenoriaeth. Ategwyd y sylw gan nodi
bod modiwl blas ar addysgu yn cael ei gynnig gan yr Adran Addysg, gyda lle i
brosiect rhyngweithiol. Cadarnhawyd y bydd
y newyddlen Newyddion Addysg Grefyddol yn cael ei hatgyfodi a’i rhyddhau cyn
diwedd y flwyddyn. PENDERFYNWYD
croesawu y diweddariad gan Yr Athro G Evans Jones a chytuno i gydweithio
pellach rhwng CYSAG Gwynedd, Adran Addysg Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG PDF 999 KB I gymeradwyo, yn ddarostynedig i fan newidiadau, yr Adroddiad Blynyddol Penderfyniad: Mabwysiadu yr Adroddiad ar gyfer y cyfnod Medi 2019 i Awst 2020. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad drafft ar gyfer y cyfnod Medi 2019 - Awst 2020 i’r Panel. Codwyd pryder gan yr awdur bod cefnogaeth GwE
wedi dod i ben erbyn hyn, ac o ganlyniad bod y trosolwg a’r dadansoddi
arbenigedd pwnc wedi eu colli yn yr Adroddiad.
Nodwyd mai sgil effaith arall o golli y gefnogaeth oedd nad oedd y
Cynllun Gweithredu mor gynhwysfawr â’r blynyddoedd a fu. Diolchwyd am yr
adroddiad a nodwyd y sylwadau, gan gytuno mabwysiadu yr adroddiad ar gyfer y
cyfnod Medi 2019 i Awst 2020. |
|
CYFETHOL DISGYBLION AR BWYLLGOR CYSAG I ystyried
cyfethol disgyblion ar Bwyllgor CYSAG Penderfyniad: Llunio Gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau o ran
cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG i gynnwys Y Cyng. Dewi W Roberts, Miriam
Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams. Cofnod: Atgoffwyd pawb bod
y mater uchod wedi ei drafod rai blynyddoedd yn ôl, ac mai un o’r anawsterau ar
y pryd oedd materion ymarferol yn ymwneud â gallu disgyblion i deithio i
Gaernarfon i fynychu cyfarfodydd. Nodwyd
na fyddai teithio yn broblem erbyn hyn gan fod y cyfarfodydd yn cael eu cynnal
yn rhithiol. Cafwyd trafodaeth
a nodwyd pryderon megis cyfrinachedd adroddiadau a tybed fyddai yn addas i
ddisgybl fod yn rhan o’r math hwn o drafodaeth? Nodwyd, fodd bynnag, bod
cyfarfodydd CYSAG yn gyfarfodydd cyhoeddus.
Nodwyd bod yn rhaid cael pwrpas clir i’r disgybl fod yn bresennol yn y
cyfarfod, gyda rôl a chyfraniad clir i’w wneud.
Cwestiynwyd beth fyddai y sefyllfa o ran angen y disgybl i ddatgan
buddiant? Awgrymwyd y gellid
ystyried derbyn mewnbwn gan athro a disgybl wrth i athro sôn am ddarn arbennig
o waith a’r plentyn yn ei drafod o ogwydd y disgybl? Atgoffwyd y Pwyllgor bod y mater o gynnwys
disgyblion ym mhwyllgorau y Cyngor wedi ei drafod mewn pwyllgorau eraill.
Teimlodd y Pwyllgor, o ganlyniad i newid mewn rheolau pleidleisio ar gyfer pobl
ifanc, a’r gwaith o hybu yr ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, y
byddai yn ddefnyddiol i’r Cadeirydd wneud ymholiadau pellach. Cwestiynwyd efallai y byddai yn well trafod
gyda phobl ifanc yn y lle cyntaf gan egluro beth yw CYSAG a holi tybed a
fyddent yn teimlo bod rôl ganddynt?
Nodwyd ei bod yn bwysig bod yn glir beth fyddai rôl y disgybl yn y
cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai angen
ystyried sut i ddewis plant o ran oedran, lleoliad, faint o blant, ayyb. Penderfynwyd, yn
ddarostyngedig ar y sylwadau a ddaw i law yn dilyn sgwrs rhwng y Cadeirydd a’r
Swyddog priodol, derbyn y cynnig i lunio gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau
o ran cyfethol disgyblion ar bwyllgor
CYSAG. Cytunwyd y byddai angen adrodd
yn ôl i’r Pwyllgor llawn maes o law o dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Dewi W
Roberts, gyda Miriam Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams yn aelodau. |
|
I ystyried ymateb i’r Ymgynghoriad gan Llywodraeth Cymru Penderfyniad: Ymateb
i’r ymgynghoriad gan gadarnhau : 1. Bodlonrwydd gyda cynnwys yr ymgynghoriad 2. Bod sgiliau pwnc
Addysg Grefyddol yn allweddol o ran yr elfen arbenigol wrth addysgu’r cwricwlwm newydd. 3. Bod angen i Lywodraeth Cymru oedi am o leiaf
blwyddyn cyn cyflwyno y cwricwlwm newydd, er mwyn i ysgolion gael cyfle i
ail-sefydlogi Cofnod: Derbyniwyd yr
adroddiad, gan nodi y bydd angen trefnu cynhadledd rhwng Rhagfyr 2021 a’r Haf
2022 fel mae pethau yn sefyllfa ar hyn o bryd. Cafwyd trafodaeth
a nodwyd y gobaith na fydd unrhyw newid cyn 2023 er mwyn ei wneud yn iawn, gan
y bydd hon yn ffordd wahanol o roi gwersi.
Cadarnhawyd bod yr Undebau wedi ymgynghori llawer gan gynnal llawer o
drafodaethau. Nodwyd bod y ddogfen yn
edrych yn dda, ond bod pryder o ran faint o oriau sydd wedi eu clustnodi i
Addysg Grefyddol, a’r angen i weithio yn galed i gadw statws Addysg Grefyddol
gan ei fod wedi bod yn bwnc unigol hyd yn hyn.
Cadarnhawyd bod ESTYN eisoes wedi bod yn holi sut y bwriedir cadw
arbenigedd y pwnc. Penderfynwyd
dangos bodlonrwydd gyda chynnwys yr ymgynghoriad, gan nodi bod sgiliau pwnc
Addysg Grefyddol yn allweddol o ran yr elfen arbenigol wrth addysgu’r cwricwlwm
newydd. Nodwyd bod angen i Lywodraeth
Cymru oedi am o leiaf blwyddyn cyn cyflwyno y cwricwlwm newydd, er mwyn i
ysgolion gael cyfle i ail-sefydlogi. |
|
a) Cofnodion y Cyfarfod a Gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021 I dderbyn cofnodion
y cyfarfod b) Enwebiad i’r Pwyllgor Gwaith I drafod yr
enwebiad i’r Pwyllgor Gwaith c)
Dyddiad
y Cyfarfod Nesaf a Chynrychiolaeth i’r CCYSAGAU I
nodi dyddiad cyfarfod nesaf CCYSAGAU a chadarnhau y cynrychiolwyr Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a)
Derbyn y cofnodion b)
Derbyn yr enwebiad i’r Pwyllgor Gwaith c)
Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf ac enwebu
Eurfryn Davies, Cyng. Paul Rowlinson a’r Cyng. Dewi W Roberts i gynrychioli
CYSAG Gwynedd yn y cyfarfod Cofnod: a)
Derbyniwyd Cofnodion y
Cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021 b) Cefnogwyd Enwebiad Kathy Riddick
i’r Pwyllgor Gwaith c) Nodwyd Dyddiad y Cyfarfod Nesaf a chynigiwyd enwau Eurfryn Davies,
Y Cynghorydd Dewi W Roberts a’r Cynghorydd Paul Rowlinson fel Cynrychiolaeth
i’r CCYSAGAU y tro hwn. |