Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL Gweddi neu
Fyfyrdod Tawel Cofnod: Agorwyd
y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Paul Rowlinson a chymerwyd y cyfle am fyfyrdod
tawel. |
|
ETHOL CADEIRYDD I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Hwn am y Flwyddyn 2022/2023 Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2022/23 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am y cyfnod
2022/23. Diolchwyd i’r Cynghorydd Paul Rowlinson
am Gadeirio CYSAG dros y pum mlynedd
diwethaf. |
|
ETHOL IS GADEIRYDD I Ethol Is Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y Flwyddyn 2022/2023 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2022/23 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Meryl Roberts yn Is Gadeirydd y pwyllgor hwn am y cyfnod
2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU I Dderbyn Unrhyw Ymddiheuriadau am Absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cathryn Davey, Y
Cynghorydd Elin Walker Jones a Gwawr M Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I Dderbyn Unrhyw Ddatganiad o Fuddiant Personol Cofnod: |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth Penderfyniad: Yn dilyn y gynhadledd i drafod yr uchod, ac er
mwyn arbed llithriad pellach, bod yr Adran Addysg yn paratoi adroddiad ar gyfer
sylw y Cabinet yn eu cyfarfod nesaf, yn argymell derbyn y ddau faes llafur cytunedig a
argymhellwyd gan y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a gynhaliwyd ar 15 Chwefror
2022. Ymddiheurwyd na fyddai
modd rhyddhau y maes llafur yn ffurfiol i Ysgolion, nes derbyn cymeradwyaeth y
Cabinet. Cofnod: Cytunodd y Cadeirydd i gais i drafod yr uchod fel mater brys. Nodwyd siom, er bod y Gynhadledd Cytunedig
wedi ei chynnal ers 15 Chwefror, 2022, oedd mewn da bryd ar gyfer y tymor
newydd, nad oedd yr Awdurdod wedi gallu symud materion ymlaen. Yn ychwanegol,
nodwyd pryder am y diffyg arweiniad gyda y camau nesaf. Cadarnhawyd bod cyngor wedi dod i law erbyn
hyn, a’i bod yn ymddangos bod angen cymeradwyaeth y Cabinet cyn gallu symud
ymlaen a rhyddhau y maes llafur cytunedig yn ffurfiol i Ysgolion. Nodwyd yr angen i’r Adroddiad fynd gerbron y
Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Medi yn cynnig argymell derbyn y ddau faes llafur
cytunedig. Nodwyd pryder bod nifer o
ysgolion yn cychwyn y tymor newydd heb arweiniad, yn enwedig yr ysgolion sydd
yn cyflwyno i Flwyddyn 7 ym mis Medi, gan mai argymell parhau gyda yr un
presennol i Flwyddyn 8 ymlaen oedd yr argymhelliad. Cadarnhawyd bod arolygiadau Estyn yn
ail-gychwyn hefyd a nodwyd effaith yr uchod ar arolygiadau Estyn. PENDERFYNWYD, yn dilyn y
gynhadledd, trafod yr uchod, ac er mwyn arbed
llithriad pellach, bod yr Adran Addysg yn paratoi adroddiad ar gyfer sylw y
Cabinet cyn gynted â phosib, yn argymell derbyn y ddau faes llafur cytunedig a argymhellwyd gan y Gynhadledd
Maes Llafur Cytunedig a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022. Ymddiheurwyd na fyddai modd rhyddhau y maes llafur yn ffurfiol i
Ysgolion, nes derbyn cymeradwyaeth y Cabinet. |
|
COFNODION Y CYFARFODYDD DIWETHAF Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r
Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021, 23 Tachwedd 2021 a 1 Chwefror 2022
yn cael eu harwyddo fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y tri chyfarfod o’r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021, 23 Tachwedd 2021 ac 1 Chwefror 202210 Chwefror,
2021 fel rhai cywir, a bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. Nodwyd
y pryder nad oedd modd i lawer o weithgareddau arferol CYSAG gymryd lle, nid yn
unig oherwydd y sefyllfa Covid, ond oherwydd y sefyllfa o ran diffyg quorum yn
y tri cyfarfod diwethaf. |
|
AELODAETH CYSAG I Ystyried Ehangu Aelodaeth Presennol CYSAG Penderfyniad: 1. Yn dilyn y gwaith ail-edrych ar Gyfansoddiad CYSAG yn
2019, ble ychwanegwyd at y crefyddau,
mewn ymateb i’r pryder bod nifer o seddi gwag ar CYSAG, penderfynwyd bod
angen gofyn i’r Cabinet ail-edrych ar yr Aelodaeth eto. 2.
Paratoi adroddiad i’r Cabinet, yn argymell addasu y
Cyfansoddiad i gynnwys pump sedd addysg, i gynnwys y Prif Undebau a
cynrychiolwyr o GYDGA a GCSU. 3.
Ail
holi am aelodau i gynrychioli’r Eglwys Fethodistaidd a’r Annibynwyr a’r crefyddau eraill
nad ydynt wedi enwebu cynrychiolwyr
eto Cofnod: Cadarnhawyd bod nifer o
seddi gwag ar CYSAG er bod gwahoddiadau wedi eu hymestyn i’r enwadau, yn dilyn
ail-edrych ar y Cyfansoddiad yn 2019.
Amlygwyd yr angen i ail-edrych ymhellach ar y Cyfansoddiad o ran seddi
gwag y cynrychiolwyr athrawon.
Cadarnhawyd, yn sgil uno undebau a’r nifer cynyddol o aelodau yn y tair
prif Undeb erbyn hyn, bod angen llenwi pum sedd athrawon yn y Cyfansoddiad. Awgrymwyd y byddai yn fuddiol cynnig sedd yr
un i gynrychiolwyr y tair prif undeb, ynghyd â
cheisio cynrychiolydd o GYDGA a GCSU.
Cytunwyd bod hon yn ffordd dda o lenwi y seddi, ac y byddai yn ffordd o
annog cydweithio da rhwng Undebau, cynrychiolydd o’r sector uwchradd a
chynrychiolydd o’r sector gynradd. O ran yr enwadau crefyddol, nodwyd bod y
Cabinet wedi penderfynu ymestyn y cynrychiolwyr i gynnwys Iddewon a Mwslemiaid,
ac er ei bod yn ymddangos bod swyddogion wedi ceisio cael cynrychiolwyr, nad
oeddynt wedi llwyddo, ond nodwyd bod angen parhau i geisio cael cynrychiolwyr. PENDERFYNWYD: 1. Yn dilyn y gwaith ail-edrych ar
Gyfansoddiad CYSAG yn 2019, ble ychwanegwyd at y crefyddau, mewn ymateb i’r pryder bod nifer o seddi gwag
ar CYSAG, penderfynwyd bod angen gofyn i’r Cabinet ail-edrych ar yr Aelodaeth
eto. 2.
Paratoi adroddiad
i’r Cabinet, yn argymell addasu y Cyfansoddiad i gynnwys pum sedd addysg, i
gynnwys y Prif Undebau a chynrychiolwyr o GYDGA a GCSU. 3. Ail holi am aelodau i gynrychioli’r Eglwys
Fethodistaidd a’r Annibynwyr a’r crefyddau eraill nad ydynt wedi enwebu
cynrychiolwyr eto |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020-2021 I Dderbyn Adroddiad Blynyddol CYSAG ar gyfer 2020 - 2021 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
Adroddiad, a chytuno i ail-ymweld a’r Holiadur Addysg Grefyddol sydd yn cael ei
ddosbarthu i ysgolion, gan ystyried ei addasrwydd yn ei ffurf bresennol. Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad, a chytuno i ail-ymweld â’r Holiadur
Addysg Grefyddol sydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion, gan ystyried ei
addasrwydd yn ei ffurf bresennol. |
|
I nodi y
cyfathrebu sydd wedi ei dderbyn gan CYSAGau Diweddariad
: Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig 2022 Cwestiynau
a Ofynnir yn Aml (FAQs) – Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig 2022 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr
Ohebiaeth Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn yr
ohebiaeth. Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 4.20 p.m. CADEIRYDD. |