Lleoliad: Yn Rhithiol Drwy Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL Cyfle am weddi neu fyfyrdod tawel Cofnod: |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Miriam Amlyn
(NAS/UWT), Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg), Garem Jackson (Pennaeth
Addysg), Heledd Jones (NEU), Edward Pari-Jones (Dyneiddiwr) a Gwawr M Williams
(Eglwys Bresbyteraidd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Gadair ar gyfer ystyriaeth Cofnod: |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Gadair yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion
y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022, fel rhai cywir a
bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. Rhoddwyd diweddariad
ynglŷn â Eitem 7 : Sut Gall CYSAG Fonitro Safonau o Fewn Ysgolion Gwynedd
o 2022?, gan gadarnhau nad oes bwriad ymweld ag ysgolion ar hyn o bryd, ond y
byddai y mater yn cael ystyriaeth bellach mewn cyfarfod yn y dyfodol yn dilyn
derbyn arweiniad gan CCYSAGauC. |
|
Diweddariad ynglŷn a Chynllun Cyngor Gwynedd mewn perthynas a’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Penderfyniad: Cymeradwyo
Cynllun Cyngor Gwynedd. Cofnod: Cadarnhawyd bod Cabinet Cyngor
Gwynedd wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod blaenorol,
ond bod Gwynedd angen creu ei Chynllun
ei hun, yn seiliedig ar y Canllawiau. Cadarnhawyd unwaith byddai y Cynllun yn derbyn sêl bendith
CYSAG y byddai yn dod yn Gynllun Terfynol. Nodwyd y gobaith bod gan ysgolion yr adnoddau
angenrheidiol, yn enwedig
yn y Gymraeg, er mwyn i’r Cynllun lwyddo. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd. |
|
CANLLAWIAU ADDOLI AR Y CYD Trafodaeth
ac y Canllawiau Addoli ar y Cyd Presennol
Penderfyniad: Gan fod y Canllawiau wedi dyddio erbyn hyn, cytunwyd bod angen diweddaru y
Canllawiau. Penderfynwyd sefydlu
Gweithgor, i gynnwys cynrychiolwyr o’r Crefyddau, Cynghorwyr ac Athrawon i
edrych ar ddiweddaru y Canllawiau.
Derbyniwyd cynnig Y Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Parchedig Nick
Sissons i fod yn rhan o’r Gweithgor a chytunwyd i holi am ragor o aelodau, y tu
allan i’r cyfarfod. Cofnod: Nodwyd yr
ymdeimlad bod angen diweddaru y Canllawiau o ran : Mynd i’r Afael â’r
Anghydbwysedd yn y Canllawiau : Angen
enghreifftiau newydd gan fod llawer o sôn am y calendr Cristnogol, ynghyd â
chynnig enghreifftiau Cristnogol, a fawr o sôn am ffydd na chalendrau megis Mwslemiaeth,
Bwdhaeth, Hindŵaeth na Iddewiaeth
Nodwyd pryder am yr anghydbwysedd a’r gwerth sydd yn cael ei golli o
beidio â dysgu am grefyddau eraill. Sylwadau neu eirfa
wedi Dyddio : e.e. .”rhaid
cynnal addoliad pob dydd” a theimlwyd bod y gofyn i gynnal yn parhau ond nid yn
yr un ffordd. Defnydd cyson o’r
gair “addoliad” a’r angen am ddiffiniad o’r term Iaith y Canllawiau
ddim yn adlewyrchu y byd presennol erbyn hyn, megis yr angen am gyfeiriad at
ymdawelu ac ystyried materion iechyd meddwl a lles ysbrydol. Efallai byddai
rhai athrawon yn fwy bodlon arwain ar fyfyrdod yn hytrach na addoli. Y Ffordd Ymlaen Awgrymwyd y byddai
sefydlu Panel/Is-Bwyllgor/Gweithgor yn ffordd ymlaen i gynnwys cynrychiolwyr
o’r grwpiau ffydd ac addysg. Nodwyd
hefyd y byddai hyn yn ffordd i ddod a gwahanol gyfryngau ynghyd . PENDERFYNWYD : Gan fod y Canllawiau wedi dyddio erbyn hyn, cytunwyd bod
angen diweddaru’r Canllawiau.
Penderfynwyd sefydlu Gweithgor, i gynnwys cynrychiolwyr o’r Crefyddau,
Cynghorwyr ac Athrawon i edrych ar ddiweddaru y Canllawiau. Derbyniwyd
cynnig Y Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Parchedig Nick Sissons i fod yn rhan
o’r Gweithgor a chytunwyd i holi am ragor o aelodau, y tu allan i’r cyfarfod. |
|
i.
Llythyr
gan Gadeirydd CCYSAGauC ii.
Enwebiadau
ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC iii.
Dyddiad
i’r Dyddiadur : Cyfarfod Gwanwyn
CCYSAGauC Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: i.
Llythyru CCYSAGauC i ddiolch am eu cefnogaeth yn
ystod y cyfnod cynhyrchu y Maes Llafur Cytunedig Newydd ar gyfer Crefydd
Gwerthoedd a Moeseg. ii.
Gan na ddaeth enwebiadau i law yn ystod
y cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, penderfynwyd ail-holi y tu allan i’r
cyfarfod. iii.
Nodwyd dyddiad Cyfarfod Gwanwyn CCYSAGauC Cofnod: Materion CCYSAGauC i.
Llythyr gan Gadeirydd CCYSAGauC ii.
Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor
Gwaith CCYSAGauC iii.
Nodi dyddiad Cyfarfod Gwanwyn
CCYSAGauC PENDERFYNWYD : i.
Llythyru
CCYSAGauC
i ddiolch am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod cynhyrchu’r
Maes Llafur Cytunedig Newydd ar gyfer Crefydd Gwerthoedd
a Moeseg. ii.
Gan na ddaeth
enwebiadau i law yn ystod y cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor
Gwaith, penderfynwyd ail-holi
y tu allan i’r cyfarfod. iii.
Nodi dyddiad Cyfarfod Gwanwyn CCYSAGauC. Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 4.25 p.m. CADEIRYDD. |