Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679870

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod 2021/22.

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd fel Caderiydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod 2021/22.

 

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Judith Humphreys fel Is Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Alan Evans, Y Cynghorydd Eirwyn Williams, ac Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant). 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

6.

COFNODION pdf eicon PDF 321 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 29ain Ebrill, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 29 Ebrill 2021 fel rhai cywir. 

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 442 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Reolwr Busnes, Oedolion, Iechyd a Llesiant ac amlygwyd y camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg.  

 

Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r adran fel a ganlyn: 

·       Integreiddio gwasanaethau wrth gydweithio efo partneriaid megis Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Ategwyd y byddai hyn yn newid y ffordd o weithio gan sicrhau gwell defnydd o adnoddau. 

·       Nodwyd bod staff y Cyngor yn cydymffurfio â Pholisi Iaith y Cyngor, fodd bynnag daw heriau gyda phartneriaid sydd â pholisi iaith wahanol i’r Cyngor. 

·       Amlygwyd rhwystrau a heriau gan nodi enghreifftiau fel defnydd iaith wrth gofnodi nodiadau defnyddwyr. 

·       Er bod sgiliau iaith staff y Cyngor yn cyrraedd y dynodiad angenrheidiol, nid oes gwybodaeth ynghylch sgiliau iaith staff partneriaid. 

·       Amlygwyd bod angen mwy o waith wrth gomisiynu gwasanaethau gan fod yr adran yn dibynnu ar sector annibynnol/ preifat sydd ddim yn atebol i safonau iaith a disgwyliadau'r Cyngor. 

·       Trafodwyd heriau gan gynnwys recriwtio a chadw staff a’r datrysiadau megis gwaith hyrwyddo llwybrau gyrfa o fewn y maes. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd a oedd y ffigwr 79% o staff sy’n cyrraedd y dynodiad iaith yn cael effaith ar drigolion Gwynedd a’u dewis i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg. 

·       Gofynnwyd i ba raddau mae polisi iaith y Bwrdd Iechyd yn rhwystro Cyngor Gwynedd i gynnig darpariaeth ddwyieithog, ar gynffon hyn gofynnwyd a oes dulliau mapio iaith staff y Bwrdd Iechyd. 

·       Mynegwyd balchder bod profiad defnyddwyr yn cael blaenoriaeth o fewn y gwasanaeth. 

·       Holwyd am safbwynt arolygwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â defnydd y Gymraeg o fewn yr adran. 

 

 

Mewn ymateb, nodwyd: 

·       Bod yr her i sicrhau staff sydd â sgiliau iaith Cymraeg yn fwy mewn rhai ardaloedd, fodd bynnag ar y cyfan, isel iawn yw’r ffigwr o staff sydd heb allu yn y Gymraeg o gwbl. 

·       Mai o fewn y swyddfa ac wrth gofnodi nodiadau ar y system mae sicrhau defnydd y Gymraeg yn fwy heriol gan fod y rhain yn cael eu rhannu efo cydweithwyr allanol. 

·       Bod trafodaethau rhwng yr Ymgynghorydd Iaith a’r Bwrdd Iechyd yn digwydd er mwyn gallu mapio sgiliau staff. 

·       Un her ddiweddar oedd sicrhau gwasanaethau cyfarfodydd ar-lein yn y Gymraeg gan nad oedd cyrff eraill yn defnyddio'r un meddalwedd. 

·       Mai cam nesaf i’r adran yw adnabod sgiliau iaith y gweithlu a phwy sydd angen hyfforddiant. Eglurwyd y byddai hyn yn rhoi cyfle i gydweithio efo darparwyr sydd angen cymorth er mwyn sicrhau hyn. 

·       Bod gofyniad i’r adran adrodd yn flynyddol ar sgiliau iaith ac yn ogystal bod y Bwrdd Iechyd hefyd yn casglu data sgiliau iaith a’u diweddaru’n rheolaidd. Fodd bynnag, gan nad yw’r dulliau yn gymharol nid yw’n bosib cymharu setiau data. 

 

8.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PLANT A CEFNOGI TEULU pdf eicon PDF 476 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulu ac amlygwyd y camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg.  

 

Ategwyd bod y gwasanaeth yn cynnwys elfen Gwasanaethau Cymdeithasol, Tîm Cefnogi Teulu, Blynyddoedd Cynnar & Meithrin, ac adran Ieuenctid a Chyfiawnder. Eglurwyd bod gan bob rhan o’r gwasanaeth cyfrifoldebau eang. 

 

Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r adran fel a ganlyn: 

·       Hybu a hyrwyddo gwasanaethau blynyddoedd cynnar wrth gydweithio efo Hunaniaeth. 

·       Annog gweithwyr i ddefnyddio a gwella eu sgiliau iaitha chyflwyno adnoddau a chymorth i ofalwyr plant (childminders). 

·       Cefnogi Cynllun Croesi’r Bont ar gyfer trochi plant meithrin - nodwyd bod 11 cylch y Sir yn derbyn cefnogaeth gan y cynllun hyd hwn. 

·       Darparu cefnogaeth i rieni – sesiynau clwb cwtsh ar lein 35 o unigolion 

·       Darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau bod anghenion iaith bob plentyn wedi ei hystyried. 

·       Eglurwyd er bod Iaith yn ffactor wrth ystyried pecyn gofal a chefnogaeth, mae ambell i blentyn neu blant yn dod i ofal oherwydd risgiau neu anghenion dwys lle bod lleoliad all-sirol yn angenrheidiol. Ategwyd er nad oedd modd i sicrhau dewis iaith yn yr achos yma, bod y Gweithwyr Cymdeithasol yn cyfarch anghenion ieithyddol drwy gadw cyswllt dros y ffon a darparu adnoddau yn eu lleoliad. 

·       Rhannwyd a’r pwyllgor bod 91% o weithwyr adran yn cyrraedd dynodiad iaith a rhoddwyd enghraifft o’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi ymdrechu i ddysgu’r iaith ac erbyn hyn yn rhugl. 

·       Sicrhawyd bod cytundebau trydydd parti yn cynnwys gofynion iaith mewn, ac eithrio rhai cytundebau unigol sy’n ymwneud a lleoliad all-sirol. 

·       Mynegwyd bod heriau recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol sydd yn arwain at recriwtio gweithiwr Di-gymraeg er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth a dyletswyddau statudol diogelu. 

·       Diolchwyd i’r uned gyfieithu am yr holl gefnogaeth yn sicrhau bod cyfarfodydd rhithiol wedi parhau yn y Gymraeg. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Holwyd beth yw cynlluniau’r adran i ymdopi a’r heriau megis recriwtio staff Cymraeg a chynnig dewis iaith ragweithiol. 

·       Gofynnwyd a oes unrhyw beth all yr adran wneud ar y cyd efo’r sector addysg uwchradd i gwrdd â phroblem recriwtio. 

·       Holwyd pa mor gyffredin yw sefyllfa o blentyn Cymraeg yn cael eu lleoli gyda rhieni maeth di-gymraeg? 

·       Gofynnwyd beth yw’meini prawf er mwyn i gylch meithrin cael bod yn rhan yn y cynllun Croesi’r Bont gan mai dim ond 11 o gylchoedd sydd wedi nodi. 

·       Mynegwyd diolch i’r adran am eu holl waith a bod eu hangerdd tuag at ddiogelu plant Gwynedd a’r iaith Gymraeg yn ysbrydoledig. Ychwanegwyd diolch i’r Pennaeth am ddisgrifio’r pwysau a straen sydd wedi bod ar y staff ag am egluro’r sefyllfa ynglŷn â  phrinder gweithwyr cymdeithasol. 

·       Holwyd a oes llai o bobl Cymraeg eu hiaith yn maethu neu fabwysiadu a beth fuasai’r rhwystrau. 

·       Mynegwyd pryder bod plant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

YMGYNGHORIAD POLISI CENEDLAETHOL SEILWAITH IEITHYDDOL Y GYMRAEG pdf eicon PDF 341 KB

I gyflwyno papurau’r Ymgynghoriad er gwybodaeth ac er mwyn gwahodd sylwadau gan yr aelodau fydd yn cyfrannu at ymateb y Cyngor i'r ymgynghoriad.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

 

Cyflwynwyd dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru gan yr Ymgynghorydd Iaith gan nodi bod swyddogion iaith y Cyngor yn paratoi ymateb. Ategwyd bod hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor gynnig sylwadau i fwydo mewn i ymateb y swyddogion. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Gofynnwyd a fydd cysylltiad gydag uned Cynllunio Iaith ym Mhrifysgol Bangor er mwyn derbyn sylwadau gan arbenigwyr byd eang. 

·       Defnydd iaith yw'r flaenoriaeth os meddwl cael miliwn o siaradwyr, pwnc academaidd yw seilwaith 

·       Holwyd a oes cyfeiriad at Ap Geiriaduron o fewn y ddogfen. 

 

Mewn ymateb:-  

·       Nodwyd gan mai dogfen Llywodraeth Cymru yw hon, nid oes lle ar y Cyngor fynd i dderbyn sylwadau gan y Brifysgol. 

·       Eglurwyd bod y ddogfen yn cyfeirio at nifer o adnoddau gan gynnwys yr ap Geiriaduron ac eglurwyd mai un o’r cynigion yw bod un rhyngwyneb yn cael ei greu er mwyn cael mynediad at yr holl adnoddau. 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 348 KB

I gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i'w gymeradwyo gan yr Aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan yr Ymgynghorydd Iaith. Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar gydymffurfiaeth y Cyngor o safonau iaith y Comisiynydd a bod angen derbyn sylwadau ar y ddogfen ddrafft hon. 

 

Aethpwyd ati i egluro beth yn union sydd angen eu cynnwys o fewn y ddogfen megis: 

·       Cwynion 

·       Nifer o staff sy’n meddu ar sgiliau iaith Cymraeg 

·       Nifer y staff sydd wedi mynychu cyrsiau hyfforddiant penodol yn y Gymraeg 

·       Nifer swyddi sydd wedi eu hysbysebu gyda dynodiad Cymraeg yn hanfodol 

 

Eglurwyd bod modd defnyddio hyn fel cyfle i amlygu arferion da'r cyngor a sut y goresgynnwyd heriau sydd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er enghraifft llwyddiannau ym maes cyfieithu sy’n arwain y blaen o ran cyfieithu ar y pryd mewn pwyllgorau rhithiol. 

 

Ategwyd hyn gan Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg gan nodi bod gwersi Cymraeg mor brysur ac erioed ac wedi parhau ar-lein. Cyfeiriwyd unwaith eto at enghraifft o’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi parhau i ddysgu Cymraeg ac o ganlyniad wedi datblygu’i sgiliau’n sylweddol. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Mynegwyd llongyfarch i’r tîm cyfieithu am eu gwaith yn addasu i gyfieithu ar y pryd yn rhithiol. 

·       Rhoddwyd sylw bod angen ysgogi trigolion i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda’r Cyngor drwy newid delwedd y Cyngor o un llai swyddogol. Ategwyd bod pobl yn defnyddio Cymraeg wrth gysylltu â chynghorwyr ond nid efo swyddogion. 

·       Holwyd os mai dim ond pedwar cwyn oedd wedi ei dderbyn ac i egluro pam ei fod yn isel. 

 

Mewn ymateb: 

·       Eglurwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn edrych ar ddefnydd iaith o fewn derbynfeydd a gwasanaethau wyneb i wyneb, fodd bynnag mae’r canolbwynt ar weithrediad mewnol trefniadau staff ac nid os yw’r cyhoedd yn defnyddio’r Gymraeg. 

·       Nodwyd bod y Comisiynydd Iaith yn ceisio gweld sut mae modd annog mwy o ddefnydd ymysg y cyhoedd. 

·       Mewn ymateb, nodwyd mai cwynion yn erbyn safonau neu bolisïau’r Cyngor yn unig sydd wedi adrodd i’r pwyllgor iaith a dyna pam dim ond pedwar sydd i’w nodi. 

 

11.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG A'R GYFUNDREFN ADDYSG DROCHI pdf eicon PDF 310 KB

I ystyried a chynnig sylwadau ar gynnwys y Cynllun Strategol drafft a chynnig sylwadau ar y cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu hwnt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Cofnod:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Eglurwyd bod hyn yn gychwyn ar bennod newydd o safbwynt cynllunio'r Gymraeg mewn addysg ac y bydd y cynllun strategol ar ei newydd wedd yn weithredol o Fedi 2022 ymlaen. Ategwyd mai trochi i’r Gymraeg drwy’r system addysg yw’r model mwyaf dibynadwy ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg sef diben strategaeth y Llywodraeth; Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. 

 

Rhannwyd gweledigaeth yr Aelod Cabinet dros Addysg ynghyd â gweledigaeth Pennaeth yr Adran Addysg. Trafodwyd y 7 deilliant o ran y CSGA newydd am y ddeng mlynedd nesaf yn ogystal â’r amserlen ymgynghori. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Rhoddwyd sylw bod angen ymestyn ffiniau’r Gymraeg tu hwnt i’r byd addysg fel bod plant yn parhau i’w defnyddio a gofynnwyd sut gallai’r Adran Addysg wneud hyn. 

·       Nodwyd bod dau bwnc yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel iawn ac oes cynlluniau i gynyddu hyn. 

·       Mynegwyd bod angen ysgolion dynodedig Gymraeg. 

·       Diolchwyd am y cyflwyniad. Cydnabuwyd bod Gwynedd yn arwain y ffordd mewn darpariaeth addysg Gymraegfodd bynnag mynegwyd pryder bod nifer uchel o blant sy’n dilyn eu haddysg drwy’r Gymraeg yn gostwng yn CA4. 

·       Holodd aelod beth allai’r Cyngor wneud mewn sefyllfa lle nad yw’r corff llywodraethu’n rhannu’r un gwerthoedd o ran darpariaeth addysg? 

 

Mewn ymateb nodwyd: 

·       Bydd y ddogfen yn statudol ym mis Medi 2022. 

·       Yr angen i sicrhau mwy o athrawon syn hyderus i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i atal nifer disgyblion syn  dewis astudio pynciau drwy gyfrwng y Saesneg yn CA4 a thu hwnt. 

·       Mai isafswm yn unig yw’r 2 bwnc mewn ysgolion sy’n gynnig dim o gwbl yn bresennol. 

·       Bod angen hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd ymhlith rhieni di-gymraeg ac nad yw’r Gymraeg ar draul y Saesneg. 

·       Os bydd ysgolion yn cael eu hadnabod fel rhai sy’n achosi pryder o ran darpariaeth y Gymraeg mae camau gweithredol mewn lle i addysgu Llywodraethwyr ar eu darpariaeth. 

·       Ategwyd bod hyn yn cael ei drafod yn rheolaidd mewn cyfarfodydd a rhan o hyfforddiant ein Llywodraethwyr. 

·       Bod gwaith ymchwil i sicrhau gwybod ymlaen llaw pa iaith fydd y cwrs yn cael ei gynnal os ydynt yn symud o CA4 i goleg addysg bellach. 

 

 

 

 

     ii.Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032: Gweledigaeth newydd ar gyfer Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt  

 

 

Cafwyd rhagair gan y Pennaeth Addysg yn nodi ei fod yn croesawu’r cyfle i ddod â’r eitem gerbron y Pwyllgor Iaith o ran ei phwysigrwydd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg gan gyfeirio at weledigaeth yr Aelod Cabinet dros Addysg a chyflwynwyd yr amcanion ar gyfer cyflawni’r weledigaeth. 

 

Aethpwyd ati i egluro i’r pwyllgor beth yn union fydd y ddarpariaeth newydd a fydd yn cael ei gynnig o ran addysg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.