Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679870

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr Elwyn Jones, Kevin M Jones, John Pughe Roberts ac Eirwyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 336 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2021 fel rhai cywir (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22 Mehefin 2021 fel rhai cywir yn amodol ar ychwanegu ym mhwynt 11.2 bod aelod wedi mynegi siom nad yw’r ysgolion yn medru cynnal y Canolfannau Iaith.

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL pdf eicon PDF 470 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd her o allu staff rheng flaen i ymateb i’r arolwg staff hunanasesiad iaith Gymraeg oherwydd nad oes ganddynt fynediad rhwydd i gyfrifiaduron personol. Ategwyd fod yr adran yn gweithio a’r Swyddog Dysgu a Datblygu i geisio dod o hyd i ffyrdd addas i wella’r ymateb.

 

Tynnwyd sylw yn ogystal i’r prif bwyntiau canlynol:

-          Nodwyd fod yr holl brentisiaethau yn yr adran yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg a bod hysbysiadau Cymraeg ar gyfer y cyfleodd hyn bellach i’w gweld ar y teledu.

-          Mynegwyd awydd i ddatblygu mwy o derminoleg Cymraeg o fewn yr adran ac i sicrhau defnydd ohonynt yn y gweithlu yn ogystal â chynnal hyfforddiant iaith i’r staff. 

-          Gobeithir annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ymysg y staff, yn enwedig yn yr ardaloedd ble mae llai o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio megis Meirionnydd. Pwysleisiwyd fod hyn yn flaenoriaeth fel gall staff rheng-flaen roi'r argraff gorau o ddefnydd yr iaith i drigolion Gwynedd. 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor i holi cwestiynau-

-          Holwyd pa mor gynrychiadol oedd y cyfranogwyr a ymatebodd i'r holiadur dynodiadau iaith. Nododd fod trefniadau i edrych ar yr holiadur i sicrhau ei fod yn syml, a drwy hyn gobeithir y bydd cyfranogiad ehangach.  Holwyd hefyd pa mor debygol oedd o fod unigolion Cymraeg wedi ei lenwi’n Saesneg. Eglurodd nad oedd modd o wirio hyn.

-          Gofynnwyd pa mor aml mae pethau’n cael eu cyfieithu’n allanol. Mynegwyd nad oedd angen defnyddio cwmnïau allanol gan eu bod yn defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu mewnol o fewn y Cyngor a nodwyd yr her o gael mwy o ddefnydd o derminoleg Cymraeg gan staff.

-          Holwyd beth oedd y drefn arferol pe bai rhaid cyflogi rhywun di-gymraeg. Cadarnhawyd y byddai hyfforddiant addas yn cael ei gynnig. Eglurwyd hefyd fod cefnogaeth a hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r staff presennol sydd ddim yn hyderus efo’u Cymraeg.

 PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: AMGYCLHEDD pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Amgylchedd i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran Amgylchedd. Nododd addasiad i’r adroddiad sef bod 67.8% o’r adran wedi llenwi’r holiadur hunanasesiad iaith Gymraeg a bod 93% o’r rhai ymatebodd yn cyrraedd gofynion iaith eu swyddi. Cyfeiriodd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad:

-          Nodwyd ei bod yn anodd cael unigolion gyda’r arbenigedd cywir i ddod i weithio yn y maes cynllunio a gwarchod y cyhoedd. Eglurodd bod cyrsiau cynhwyso yn cael eu trefnu i gynorthwyo gyda hyn. 

-          Mynegodd bod y gallu i weithredu’n rhithiol wedi newid systemau gweithiol yr adran a bod nifer o staff wedi gadael yr adran i geisio swyddi mewn lleoliadau eraill. Fodd bynnag, nodwyd hefyd bod gweithio’n rhithiol yn golygu y gall y Cyngor annog unigolion i ddod i weithio gyda nhw. Adnabuwyd bod angen hyfforddi a buddsoddi yn y swyddogion er mwyn eu hannog i aros yn eu swyddi.

-          Nodwyd angen i ddatblygu’r maes recriwtio ac i greu a chynnal cyswllt ysgolion a cholegau yn ôl i’r arfer ar ôl cyfnod COVID

-          Eglurwyd bod cyfyngiadau ieithyddol wrth greu dogfennau rhwng yr adran a chwmnïau allanol a bod sicrhau nad oes cam  camddehongli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

-          Pwysleisiwyd fod llawer o gwmnïau yn gweithredu yn wirfoddol ar argymhellion yr adran i enwi datblygiadau yn Gymraeg er nad oes deddfwriaeth i'w gorfodi

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau pellach -

-          Holwyd pam fod nifer wedi gadael yr adran ac os oedd rheswm dros hyn. Gofynnwyd, yn ogystal, am ddiweddariad am y newidiadau yn yr adran. Nodwyd eu bod yn buddsoddi mewn hyfforddi staff yr adran er mwyn eu datblygu ymhellach. Ychwanegodd fod cyfnod hir o sefydlogrwydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn dilyn newid mewn ffordd o weithio dros y pandemig fod hyn wedi rhoi mwy o gyfleon tu hwnt i’r Cyngor i unigolion 

-          Gofynnwyd a oedd bwriad cael cyswllt gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc ymrwymo i'r swyddi sydd ar gael efo Cyngor Gwynedd. Amlygwyd yr angen i ddatblygu’r maes recriwtio, ac yn anffodus fod cynlluniau oedd ganddynt wedi ei dal yn ôl gan y pandemig ond eu bod yn gobeithio ailgychwyn yn fuan. Er hyn, eglurwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i hyrwyddo swyddi yn lleol. 

-          Holwyd a oedd bwriad i ddatblygu terminoleg Cymraeg o fewn yr adran. Eglurwyd fod y derminoleg yn un anodd a’i bod yn ofynnol i’r gwasanaeth gynnig gwahoddiad tendro’n ddwyieithog. Nodwyd yr angen i fod yn ofalus efo’r cytundebau a chontractau ac nad oes camddehongli i’w weld rhwng y ddwy iaith. O ganlyniad i hyn, y cyngor cyfreithiol mae’r adran wedi ei dderbyn yw cyflwyno cytundebau a chontractau mewn un iaith, a bod yr iaith felly’n amrywio o gwmni i gwmni.

-          Mynegwyd siom nad oedd Deddf i sicrhau fod enwau gwreiddiol Cymraeg sydd yn cael ei defnyddio yn lleol yn cael eu blaenoriaethu, ond pwysleisiwyd fod yr adran yn annog defnydd o’r Gymraeg gyda chanran uchel o gwmnïau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: CYLLID pdf eicon PDF 195 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid a chyfeiriodd yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Datblygiad yn yr adran dros y blynyddoedd o fod yn bennaf Saesneg o ran arferion gwaith, i fod gyda chanran uchel o staff yn meddu ar sgiliau iaith Gymraeg.

-          Nodwyd fod yr adran yn unigryw yn y modd ei mae’n cynhyrchu cyfrifon drwy gyfrwng y Gymraeg a'u cyfieithu i'r Saesneg, yn annhebyg i unrhyw Gyngor arall.

-          Cyfeiriwyd at y staff rheng flaen sy’n cyfathrebu a’r cyhoedd o fewn yr adran a’u bod yn cwrdd â’r gofynion ieithyddol.

-          Manteisiwyd ar ddeunydd Cymraeg Clir er mwyn symleiddio’r eirfa a ddefnyddiwyd o fewn gwaith yr adran fel bod pobl gyffredin yn eu deall. Ategodd y Pennaeth bod cynghorau eraill yn efelychu’r gwaith hwn ar gyfer safoni terminoleg gan fod yr adran wedi gweithio efo Canolfan Bedwyr i sicrhau defnydd o ffurf geiriau cywir.

-          Ategwyd bod yr adran wedi arloesi gyda’u defnydd o Zoom ar gyfer hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd allanol er enghraifft i sicrhau bod ansawdd a gweithrediad dwyieithog yng nghyfarfodydd gronfa bensiwn. Ychwanegodd bod egwyddorion Ffordd Gwynedd yn cael eu hallforio drwy hyn.

-          Nododd bod y systemau rhithiol wedi amddiffyn y drefn ddwyieithog a bod yr adran wedi lobïo Microsoft drwy ysgrifennu llythyr atynt i fabwysiadu system sy’n caniatáu cyfieithu ar y pryd. Fodd bynnag yn absenoldeb hyn mae Zoom wedi caniatáu hyn ddigwydd yn rhwydd.

-          Ategodd Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth mwy o wybodaeth am y systemau gwe iaith a ddefnyddiwyd mewn ysgolion yn llwyddiannus yn y gorffennol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-

-          Diolchwyd am yr adroddiad difyr a holwyd pa mor debygol yw’r ddarpariaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd ar y cyd gyda sefydliadau allanol.

-          Nododd aelod ei fod yn synnu nad oes cyfieithu ar Teams gan fod Microsoft yn gwmni byd-eang a holwyd a oes rheswm pam nad yw’n cael ei gynnig.

-          Gofynnwyd a oes gan Gyngor Gwynedd le i fynnu bod darpariaeth a chyfleuster cyfieithu fel bod mwy o ddefnydd o Gymraeg mewn cyfarfodydd.

-          Holwyd os daeth unrhyw ateb o’r llythyr a ysgrifennwyd at Microsoft.

-          Croesawyd y trafodaethau efo’r adrannau, gan ei fod yn gyfle da iddynt hunan-arfarnu am sefyllfa’r iaith Gymraeg wrth lunio eu hadroddiadau. Ategodd bod heriau adrannol yn cael eu hamlygu wrth iddynt adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Iaith.

-          Gofynnwyd a yw’n amser i edrych ar flaenoriaethau’r Pwyllgor iaith ar gyfer y dyfodol.

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid:

-          Nad oes llawer o Gymraeg o fewn y cyfarfodydd gyda swyddogion ar draws Cymru. Fodd bynnag o fewn cyfarfodydd cyhoeddus mae cyfleuster cyfieithu ar gael bob tro.

-          Bod Microsoft wedi canolbwyntio ar gyfieithu mecanyddol a heb rannu eu sianel sain yn Teams yn ddwy i alluogi cyfieithu ar y pryd fel mae Zoom wedi ei wneud. Ategodd bod Microsoft yn y broses o newid hyn.

-          Nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod y mater cyfieithu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAMU YMLAEN: ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD Y GYMRAEG pdf eicon PDF 963 KB

Eitem er gwybodaeth yn unig.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth gan yr Ymgynghorydd Iaith. Nodwyd fod yr adroddiad yn adrodd  ar ganfyddiadau’r Comisiynydd o’r arferion ieithyddol yn Genedlaethol dros y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn Covid.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

9.

PROSIECT GWARCHOD ENWAU LLEOEDD CYNHENID pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Prosiect yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am waith y prosiect newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Prosiect  a’r Ymgynghorydd Iaith.

 

Nodwyd yn ôl yn 2018, fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Iaith, oedd yn amlinellu cyfrifoldebau a phwerau’r Cyngor yn y maes enwi lleoedd. Eglurwyd fod yr adroddiad yn ffrwyth gwaith ymchwil ac wedi ei greu mewn ymateb i bryderon gan aelodau’r Pwyllgor ar y pryd am Seisnigeiddio enwau neu fathu enwau newydd ar nodweddion daearyddol a thai. Eglurwyd o ganlyniad i rwystrau megis Covid nad oedd modd symud y prosiect yn ei flaen nes mis Medi eleni ble penodwyd Swyddog Prosiect i ddechrau ar y gwaith. Bellach, nodwyd fod y cynllun hwn yn un o flaenoriaethau gwella'r Cyngor, ac o ganlyniad wedi derbyn arian ychwanegol i wthio’r cynllun yn ei blaen.

 

Mynegwyd nad oedd eglurdeb ar y drefn o newid enwau ac ail enwi tai a strydoedd. Pwysleisiwyd fod hyn yn bennaf oherwydd yr angen i foderneiddio deddfau a pholisïau i sicrhau fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar enwau tai a busnesau.

Eglurwyd fod cyfle gyda’r cynllun hwn i adrannau o fewn y Cyngor gydweithio gyda’i gilydd a bod cyfarfod cychwynnol i sefydlu Grŵp Prosiect wedi ei gynnal. Nodwyd y bydd modd bwrw ymlaen gweithdrefnau pendant ac sydd yn ateb yr angen am eglurdeb yn y maes. Nodwyd y bydd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion a’r cyhoedd i ennyn diddordeb hirdymor i’r cynllun.

 

Adnabuwyd fod lle i gydweithio efo Cynghorau Cymuned a Chynghorau Tref i weld camau maent wedi ei wneud yn flaenorol neu beth sydd angen ei wneud yn y cymunedau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach-

-          Holwyd pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â chyfathrebu efo busnesau a chymdeithasau tai. Nodwyd eu bod yn y broses o ddatblygu ffurflen wybodaeth i fusnesau a chymdeithasau tai fydd yn rhoi gwybodaeth glir o’r broses o enwi tai a busnesau. Mynegwyd nad oedd gan y Cyngor lawer o ddylanwad yn y maes y trydydd sector ond nodwyd awydd i ddatblygu perthynas o fewn y maes a drwy hyn y gallu i ddylanwadu ymhellach.

-          Tynnwyd sylw at lwyddiant mae Cyngor Plwyf Llanystumdwy wedi cael i roi arwyddion enwau ar bontydd a ger afonydd o fewn eu hardal, a gofynnwyd a oes modd datblygu’r cynllun gyda’r adran Amgylchedd. Cytunwyd fod angen trafodaeth gyda’r adran a bod angen parhau gyda chynlluniau o’r math hwn.

-          Gofynnwyd pa rôl sydd gan Gynghorwyr i gefnogi’r cynllun hwn, nodwyd y bydd cyfarfodydd cyson yn cael ei gynnal gyda’r Cynghorwyr ac y bydd diweddariadau yn cael ei rannu. Nodwyd y bydd hyn yn gyfle i Gynghorwyr i herio perfformiad y cynllun ynghyd a rhannu eu syniadau hwythau.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.