Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD *Ethol Cadeirydd
ar gyfer y pwyllgor hwn. Penderfyniad: Ethol Dr Einir Young yn gadeirydd y
pwyllgor hwn. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Dr Einir Young yn
gadeirydd y pwyllgor hwn. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD *Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn. *D.S – mae’r rheoliadau perthnasol yn nodi:- “Dim ond aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a all fod yn gadeirydd
neu is-gadeirydd.” Penderfyniad: Ethol Mr Hywel Eifion Jones
yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Mr Hywel Eifion Jones yn
is-gadeirydd y pwyllgor hwn. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Mr Richard Parry Hughes (Aelod Pwyllgor Cymuned) a Dave
Wareing (Aelod Annibynnol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22
Chwefror, 2021 fel rhai cywir. Mater yn codi o’r
cofnodion Eitem 5 – Hunan
Asesiad a Rhaglen Waith Nododd y Swyddog
Monitro na fu’n bosib’ cyflwyno trosolwg o’r trefniadau hyfforddiant i’r
cyfarfod hwn, ond y bwriedid adrodd ar hynny i’r cyfarfod nesaf. Bwriedid hefyd ail-afael yn yr elfen o’r
cynllun hyfforddi ar gyfer cynghorau cymuned, pan fydd amodau yn caniatáu. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2020/21 Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad
blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i
ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn amgáu drafft o adroddiad
blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2020/21.
Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen. Gofynnwyd i’r aelodau
gysylltu â’r Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) gydag unrhyw
ddiweddariadau i’w bywgraffiadau. Nododd y Swyddog
Monitro fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod
adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau ar sail statudol o’r flwyddyn nesaf
ymlaen. Awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad yn yr
adroddiad blynyddol at fater a godwyd yn y Cyngor llawn droeon ynglŷn â’r
prawf budd cyhoeddus. Mewn ymateb,
eglurodd y Swyddog Monitro fod y Llywodraeth yn gwneud gwaith cychwynnol ar
adolygiad o’r drefn foesegol yn ei chyfanrwydd, a’i bod yn debyg y byddai
trafodaeth ynglŷn â’r prawf budd cyhoeddus yn codi fel rhan o hynny. Ni ddymunai godi gobeithion, oherwydd bod
cymaint o ffactorau yn dylanwadu ar hynny.
Er hynny, efallai bod cyfle trwy gyfrannu at hyn i amlygu sut mae’r
drefn yn gweithio i gynghorau cymuned pan mae’r rhiniog yn cael ei osod ar
lefel cyngor sir, a chytunodd i ddrafftio geiriad o gwmpas hynny ar gyfer y
rhagarweiniad i’r adroddiad blynyddol. Gan gyfeirio at y bwriad dan Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i osod dyletswydd statudol ar
Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn â safonau ymddygiad aelodau,
awgrymwyd y gallai’r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer yr Arweinyddion fod o
gymorth o ran y mater a godwyd droeon yn y Cyngor, oherwydd y gallai’r
Arweinyddion egluro wrth eu haelodau beth yw’r problemau sy’n wynebu’r Pwyllgor
Safonau, pa fath o waith mae’r pwyllgor yn ymdrin ag o, ayb. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r
Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a
rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - NEWIDIADAU I'R FFRAMWAITH FOESEGOL Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) Yn ddarostyngedig
i gyhoeddi arweiniad gan y Llywodraeth, dylid cymryd camau i gynnal
hyfforddiant i Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y gofynion a sut y gellid eu
cyfarch. (2) Y dylai’r
Pwyllgor Safonau sefydlu protocol ar gyfer gweithredu, cyd-weithredu a monitro
gweithrediad y dyletswydd erbyn Rhagfyr 2021, a hynny mewn cyd-drafodaeth gydag
Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion Grwpiau presennol y Cyngor. (3) Dylid gosod yr uchod o fewn Rhaglen Waith y
Pwyllgor. (4) Gwahodd y Swyddog
Monitro i fwrw ymlaen â’r gwaith, a threfnu gweithdy ar bwynt penodol er mwyn
magu’r berthynas rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r Pwyllgor
hwn. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad
y Swyddog Monitro yn manylu ar y newidiadau i’r fframwaith foesegol fel rhan o
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gyfeirio’n benodol at
gyfrifoldeb statudol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol am ymddygiad eu haelodau. Awgrymwyd y byddai’n
fuddiol trefnu gweithdy rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r
pwyllgor hwn, er mwyn magu perthynas weithredol bositif rhyngddynt. PENDERFYNIAD (1) Yn ddarostyngedig i gyhoeddi arweiniad gan y Llywodraeth, dylid
cymryd camau i gynnal hyfforddiant i Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y
gofynion a sut y gellid eu cyfarch. (2) Y dylai’r Pwyllgor Safonau sefydlu protocol ar gyfer gweithredu,
cyd-weithredu a monitro gweithrediad y dyletswydd erbyn Rhagfyr 2021, a hynny
mewn cyd-drafodaeth gydag Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion Grwpiau presennol
y Cyngor. (3) Dylid gosod yr uchod o fewn Rhaglen Waith y Pwyllgor. (4) Gwahodd y Swyddog Monitro i fwrw ymlaen â’r gwaith, a threfnu
gweithdy ar bwynt penodol er mwyn magu’r berthynas rhwng Arweinyddion y Grwpiau
Gwleidyddol ac aelodau’r Pwyllgor hwn. |
|
COFLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD OMBWDSMON Cyflwyno adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn atodi copi o Lyfr Achosion
chwarterol diweddaraf yr Ombwdsmon. Nodwyd y byddai’n
ddiddorol gwybod beth oedd canlyniadau’r achosion hynny a gyfeiriwyd at
Bwyllgor Safonau neu at Banel Dyfarnu Cymru.
Byddai hefyd yn ddiddorol gwybod oedd yna effaith cronnus, e.e. oedd yr
un cwynion yn dod trwodd gan yr un person neu o’r un ardal bob tro, oedd yna
themâu cyffredin, ayb? Nodwyd ei bod yn
ymddangos bod canlyniadau nifer o’r achosion sy’n cael eu cyfeirio at Bwyllgor
Safonau neu at y Panel Dyfarnu yn mynd yn gyhoeddus yn y wasg, ac awgrymwyd y
byddai’n fuddiol i’r pwyllgor hwn gael gwybod amdanynt. Awgrymwyd hefyd, o gofio bod y Coflyfr yn
ddogfen gyhoeddus, y byddai’n fuddiol pe byddai adroddiadau mwy manwl o’r
achosion ar gael ar gyfer aelodau pwyllgorau safonau. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod y
Panel Dyfarnu wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â sut i ddelio ag achosion,
a bod hynny ar gael i’r Pwyllgor Safonau beth bynnag. Eglurodd hefyd fod canlyniadau achosion sy’n
cael eu cyfeirio at Bwyllgorau Safonau a’r Panel Dyfarnu yn cael eu cyhoeddi ar
wefannau’r cyrff dan sylw. Fodd bynnag,
nid oedd cofrestr ganolog o ganlyniadau achosion ar gael, heblaw drwy’r Ombwdsmon,
ac roedd yn anodd mynd ati heb fynd at bob cyngor yn unigol i ofyn am y
canlyniad. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol). Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth a’r bwriad
i drefnu cyfarfod arbennig i ymdrin â chanlyniad ymchwiliad sydd wedi ei
gyfeirio i’r Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch
Gyfreithiwr (Corfforaethol)
yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion
ffurfiol yn erbyn aelodau. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a’r bwriad i
drefnu cyfarfod arbennig i ymdrin
â chanlyniad ymchwiliad sydd wedi ei
gyfeirio i’r Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. |