Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Gethin Glyn Williams (Aelod Lleol), Mrs W Lawrence, Susan Wattis, Helen
Charlton, Jenny Wilson, Salmon Williams, Cyng. Judith
Humphreys, Veronica Roberts, Wendy Cleaver, Carol
Jones, Jan Clark, Norma Stockford, June Davies, Victor Perham, Tom Dobson a
Marilyn Whitehouse (ymatebwyr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Mater o drefn: Amlygodd yr
ymgeisydd bod ganddo bryderon ynglŷn â threfniadau’r gwrandawiad ac y
dylai’r Is-bwyllgor ystyried y canlynol cyn parhau gyda’r gwrandawiad. Gwrthdroi
achos cyfiawnder Cyfreithlondeb
y broses Camgymeriadau
yn y rhaglen Dehongliad
o'r gyfraith Amlygodd: ·
bod rhai ymatebion yn awgrymu bod
yr ymgeiswyr wedi ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gysylltu â'r rhai a wrthwynebodd
y cais. Roedd yr ymgeisydd yn gwrthbrofi'r honiad hwn yn gryf ac yn teimlo
mai’r ymatebwyr hyn oedd yn gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy wneud honiadau ffug. ·
bod y Cyngor
wedi cynnwys / cyhoeddi’r cyhuddiadau enllibus hyn ac wrth wneud hynny yn cydoddef
a chefnogi'r datganiadau. Gwnaed cais i’r Cyngor gyflwyno tystiolaeth a’u
darbwyllodd fod y datganiadau hyn yn ffeithiol gywir cyn eu cyhoeddi ·
Y dylid gwrthod unrhyw ymateb na
ymatebwyd i lythyr diweddar gan y Cyngor yn gwirio bod y sawl oedd yn cyflwyno’r
ymateb yn parhau i’r ymateb hwnnw gael ei ystyried. Dadleuwyd bod yr ymatebion
hyn yn disgyn tu allan i’r gyfraith, ond yn parhau i fod yn rhan o’r raglen yr Isbwyllgor. ·
Bod rhai ymatebion yn cynnwys nifer o
ffeithiau a sylwadau ffug am y cwmni a heriodd y Cyngor pam nad oeddynt wedi
ymchwilio i’r sylwadau ffug yma cyn cyhoeddi rhaglen. Ystyriwyd bod y sylwadau
yn gamarweiniol ac yn debygol o gamarwain aelodau’r is-bwyllgor pan fyddant yn
dod i benderfyniad Yn dilyn cyngor
cyfreithiol gan Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor nodwyd bod y cais
gerbron wedi ei gyflwyno cyn i’r Ddeddfwriaeth gael ei mabwysiadu gan Cyngor
Gwynedd. Ategwyd bod y pwerau bellach yn eu lle a bod modd parhau gyda’r
gwrandawiad ac i’r is-bwyllgor ystyried y sylwadau wrth ddod i benderfyniad. |
|
CAIS AM DRWYDDED SIOP RHYW I ystyried cais Eva Amour, 6th St Anne Square, Stryd Fawr, Abermaw, LL42 1DL Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD GWRTHOD Y
CAIS AR Y SAIL NAD YW'N CYD-FYND Â CHYMERIAD YR ARDAL GYFAGOS A BOD LLEOLIAD
ARFAETHEDIG YR EIDDO YN AGOS I EIDDO A FYNYCHIR GAN BLANT AC OEDOLION BREGUS. Cofnod: Ymgeisydd: Mr David Powley a
Mr Daniel Millar (ar ran DD Trading (NW) Ltd) Ymatebwyr: Mr a Mrs D Hooper,
Mr Trevor Parry, Parchedig Dawn Robinson, Cyng Rob Triggs (Cyngor Tref
Abermaw), Cyng Katie Price (Cyngor Tref Abermaw) a Katie Pattison Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
siop rhyw ar gyfer Eva Amour,
6, Sgwar Santes Anne, Stryd Fawr, Abermaw. Eglurwyd bod unrhyw unigolyn sy'n dymuno rhedeg Sefydliad Rhyw yn unol â
diffiniad Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)
1982 angen trwydded sefydliad rhyw, oni bai bod yr awdurdod priodol wedi hepgor
y gofyn am drwydded. Gan fod darpariaethau'r Ddeddf wedi eu mabwysiadu'n llawn
7fed o Hydref 2021, ni all unrhyw fusnes o'r fath weithredu yn ardal Gwynedd
heb drwydded ddilys. Er hynny, gan fod y busnes yma wedi ymgeisio am drwydded
ym mis Chwefror 2021, cyn mabwysiadu'r system drwyddedu i holl ardal Gwynedd,
nid oedd gan y Cyngor unrhyw bwerau i atal y busnes rhag agor heb drwydded ar y
pryd a nodwyd bod y busnes wedi bod yn masnachu ers Rhagfyr 2021. Cyfeiriwyd at y broses o reoleiddio sefydliadau rhyw a'r broses
drwyddedu gan amlygu bod pum rheswm gorfodol am wrthod cais - os yw'r ymgeisydd
• Yn iau na 18 mlwydd oed • Ar hyn o bryd wedi cael
ei wahardd rhag dal trwydded sefydliad rhyw • Ddim
yn gorff corfforedig ac nad yw'n byw neu nad yw wedi byw yn y DU am y chwe mis
cyn dyddiad y cais hwn • Yn gorff corfforedig
sydd ddim wedi'i ymgorffori yn y DU • Yn
y 12 mis cyn dyddiad y cais hwn wedi cael gwrthod caniatâd neu gais i adnewyddu
trwydded ar gyfer yr eiddo sy'n destun y cais hwn, oni bai bod y gwrthodiad
wedi cael ei wyrdroi mewn apêl Ategwyd, nad oedd
unrhyw un o'r rhesymau gorfodol hyn dros wrthod yn berthnasol yn yr achos hwn
ond cyfeiriwyd at y rhesymau dewisol - • Os
yw'r ymgeisydd yn anaddas ar gyfer dal y drwydded am ei fod wedi derbyn collfarn
am drosedd • Pe
bai'r busnes yn cael ei reoli neu ei weithredu er budd trydydd parti fyddai
ddim yn derbyn trwydded eu hunain • Bod
nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal leol neu o'r math penodol hwn yn yr ardal
leol gyfartal neu'n uwch na'r nifer yr ystyrir yn briodol • Yn amhriodol o ran: i. Cymeriad
yr ardal leol berthnasol - yn fater i'r aelodau, yn seiliedig ar ffeithiau'r
cais. Nodwyd nad oedd rhaid diffinio'r ardal leol berthnasol yn glir, ac fe all
yr aelodau benderfynu bod yr ardal leol yn yr achos yma yn cyfeirio at yr ardal
sy'n amgylchynu'r eiddo ar/neu wrth ymyl Sgwâr Santes Anne, ar y Stryd Fawr yn
Abermaw yn yr achos yma. ii. Defnydd yr eiddo yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |