Lleoliad: Cyfarfod Rhithriol
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON GwE 2022-2023 - ALLDRO REFENIW I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23. Mae yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr
amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol
gyflawn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol
cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol
sylweddol. |
|
CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG I gyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diwygiedig i'r Cyd-Bwyllgor ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)
diwygiedig. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-23 GwE Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 gan ystyried cynnal gweithdy i
drafod materion penodol mewn mwy o fanylder. |
|
CYMERADWYO CYNLLUN BUSNES GwE 2023-2026 Cyflwyno Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026 i aelodau'r Cyd-bwyllgor. Penderfyniad: Cymeradwyo
y Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026 |
|
ADOLYGU'R GOFRESTR RISG Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Penderfyniad: Derbyn yr addasiadau diweddaraf
i’r Gofrestr
Risg. |
|
ADOLYGU'R TREFNIADAU GWEITHREDU A'R STRWYTHUR STAFFIO PRESENNOL I gyflwyno cylch
gorchwyl drafft i aelodau’r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â Adolygu trefniadau
gweithredu GwE a'r strwythur staffio presennol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio yr Eitem a thrafod cyn gynted â phosib ar ôl Mehefin 7fed, 2023 |
|
I rannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth sydd wedi ei rannu ag aelodau'r
Cyd-bwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill. |
|
DIWRNOD DATHLU Y DAITH DDIWYGIO - 22/06/2023 Cyflwyno
gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor am y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i
Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd
yma. Penderfyniad: Croesawu y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr
ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue
Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma |