Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am
2022/23. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y
pwyllgor hwn am 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn
am 2022/23. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y
pwyllgor hwn am 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y
Cynghorwyr Gareth Tudor Jones a Sasha Williams a Manon Williams (Cynrychiolydd
Rhieni / Llywodraethwyr Arfon). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2022 fel rhai cywir. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD Enwebu aelodau o’r Pwyllgor i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad
fesul maes gwaith fel a nodir isod:-
Cofnod: Gwahoddwyd y pwyllgor i enwebu dau aelod i
gynrychioli’r pwyllgor yn y cyfarfodydd herio perfformiad fesul maes gwaith. PENDERFYNWYD enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad fesul maes gwaith fel a nodir isod:- ·
Addysg – Y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Beth Lawton a Gwynfor Owen
(unrhyw 2 o’r 3 i fynychu pob cyfarfod) ·
Economi a Chymuned – Y Cynghorwyr Iwan Huws a Dewi Owen (gyda’r Cynghorydd Jina
Gwyrfai wrth gefn) ·
Cefnogaeth Gorfforaethol – Y Cynghorwyr Huw Rowlands a Paul Rowlinson ·
Cyllid – Y Cynghorwyr Beth Lawton ac Elin Hywel |