Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines ac Anwen J.
Davies |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda
buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Eryl Jones Williams yn eitem 5 ar y rhaglen oherwydd bod ei wraig yn derbyn gofal gan
Wasanaethau Cyngor Gwynedd. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ·
Y
Cynghorydd Rheinallt Puw yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan fod ei ferch yn gweithio i’r Gwasanaeth Oedolion. Roedd yr Aelod o’r
farn nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni
adawodd y cyfarfod ·
Y
Cynghorydd Gwynfor Owen yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan fod ei fab yn derbyn
gofal allsirol. Roedd yr Aelod o’r farn
nad oedd
yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10fed o Dachwedd, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10
Tachwedd 2022 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD ARCHWILIAD AROLYGAETH GOFAL CYMRU - ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT I ddiweddaru’r Pwyllgor ar ganfyddiadau’r Arolygaeth Gofal a rhaglen
waith yr Adran i ymateb iddynt. Bydd Huw
ap Tegwyn a Myfanwy Moran o Arolygaeth Gofal Cymru yn
mynychu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a
chanfyddiadau’r Arolygaeth Gofal gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y cyfarfod. Derbyn rhaglen waith yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i’r ymateb Cofnod: Amlygodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant
bod Arolygaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolwg ar berfformiad Gwasanaethau
Oedolion y Cyngor yn ystod Medi 2022. Ategodd bod yr Adran yn ymwybodol o’r
materion a gafodd eu hadnabod. Croesawyd Myfanwy Moran a
Huw ap Tegwyn (Arolygaeth Gofal Cymru) i’r cyfarfod. Darparwyd cyflwyniad i’r
Aelodau oedd yn adrodd ar ganfyddiadau Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Gwasanaethau Oedolion Cyngor Gwynedd,
Medi
2022. Cyfeiriwyd at bedwar maes roedd yr arolygaeth
yn eu hymchwilio
ac at gryfderau’r Cyngor wrth
ymateb i’r gofynion hynny. Amlygwyd bod disgwyl
i Gyngor Gwynedd ystyried y meysydd a nodwyd i’w gwella gan gymryd camau
gweithredu priodol i fynd i’r afael â’r meysydd hynny. Bydd AGC yn monitro
cynnydd drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda’r Awdurdod Lleol. Diolchwyd am y
cyflwyniad Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Llongyfarch yr Adran am eu
gwaith ·
Nad oedd dim byd trawiadol wedi
ei ganfod a bod hyn yn galonogol Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau gan
aelodau, nodwyd:- ·
Wrth ymgynghori gyda defnyddwyr a gofalwyr fe adolygwyd sampl
o ffeiliau gan gynnal trafodaethau a grwpiau ffocws oedd yn cynnwys
gweithwyr ym maes gofal, defnyddwyr
y Cyngor a defnyddwyr cwmnïau
preifat. Ategwyd bod llawer wedi cael
ei wneud i geisio cynnwys
llais defnyddwyr. ·
Nad oedd cyfeiriad at Wasanaethau Cefnogol na Gweithwyr Cefnogol a hynny oherwydd natur a ffiniau’r arolwg. Nodwyd bod yr elfen ‘maes’ a ‘lleoliad penodol’ ddim yn
berthnasol i’r arolwg yma gan
mai edrych ar y gwasanaeth yn gyflawn oedd
y gwaith. Yng nghyd-destun elfennau Gwasanaethau Cefnogol byddai hyn wedi ei
gasglu drwy adolygu’r ffeiliau. Ategwyd bod yr Arolygwyr wedi trafod gyda
grwpiau ffocws, Gwasanaethau Cefnogol yn y trydydd sector a’r Cyngor. Mewn ymateb, amlygwyd
os yw Gwasanaethau
Cefnogol y Cyngor yn comisiynu
Gwasanaeth Cefnogol yna dylai
gael ei ymgorffori
fel rhan o’r adroddiad ·
Gyda diffyg mewn capasiti staff a chynnydd yn y galw,
nodwyd bod yr arolwg wedi adnabod y diffyg ac wedi tynnu sylw at y mater fel un sydd angen
ei wella. Ategwyd bod cyllid ychwanegol wedi ei adnabod ar
gyfer 2022/23 i gefnogi’r gwaith ond mai anodd
yw denu gweithwyr
cymwys i weithio contractau tymor byr Er hynny,
derbyniwyd bod angen bod yn fwy creadigol
wrth gyfarch hyn i’r dyfodol. ·
Wrth dderbyn bod llawer o waith recriwtio wedi ei wneud
drwy gyhoeddi fideos a hysbysebion, a bod y broblem recriwtio yn un genedlaethol, gofynnwyd os oedd
yr Arolygaeth wedi gweld llwyddiant recriwtio mewn ardaloedd eraill ynteu arian oedd
yn gyrru’r broblem? Rhoddwyd ymateb drwy nodi bod rhai ardaloedd gyda chynlluniau gwahanol. Awgrymwyd ystyried moderneiddio gwasanethau ac ystyried esiamplau o arfer da gan Awdurdodau eraill - mentrau cymdeithasol yn engraifft dda.. ·
Er nad oedd
sicrwydd bod y sefyllfa recriwtio wedi gwella nodwyd bod adolygiadau yn cael eu gwneud
yn rheolaidd. · I wella a datblygu systemau i sicrhau ansawdd a gwybodaeth am berfformiad ymhellach nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH OEDOLION GWYNEDD Cyflwyno’r Asesiad Anghenion drafft i’w
graffu ac i argeisio cefnogaeth y Pwyllgor i’r Asesiad cyn ei gyflwyno i’r
Cabinet a’r Cyngor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
cyfarfod. Nodyn:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad drafft gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Atgoffwyd yr
Aelodau bod Asesiad Anghenion
Poblogaeth Gogledd Cymru wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod
ar 3 Mawrth 2022. Nodwyd bod yr asesiad hwnnw wedi ei lunio yn unol â gofynion
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mynegwyd bod yr
adroddiad a’r asesiad yn galluogi’r Gwasanaeth i weld y persbectif lleol ar
anghenion gofal a chymorth poblogaeth oedolion Gwynedd. Ategwyd, yn ogystal â’r
agweddau statudol a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad ar Ogledd Cymru, bod yr
asesiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl am anghenion pobl Gwynedd yn
benodol fyddai’n cynorthwyo’r Adran i gynllunio gwasanaethau yn lleol, gwneud
penderfyniadau ar flaenoriaethau, a datblygu a thrawsnewid gwasanaethau i’r
dyfodol Gwaned cais i’r
Pwyllgor gyflwyno sylwadau ar yr asesiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor
i’w gymeradwyo. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:- ·
Er derbyn yr angen i recriwtio
a chynyddu cyflogau gofalwyr, nodwyd mai un rhan o’r
ateb yw cyflogau.. Mae’n rhaid hefyd
ceisio sicrhau patrwm gwaith teg a modd o ddatblygu gyrfa yn y maes.
Cydnabuwyd bod bwlch mawr angen ei
gyfarch gyda rhai o elfennau’r broblem recriwtio tu hwnt i
allu’r Awdurdodau Lleol a bod angen arweiniad a phenderfyniadau ar lefel cenedlaethol. ·
Mewn ymateb i sylw
am gynlluniau i Gartrefi Nyrsio yn Ne Meirionnydd, nodwyd bod bwlch gwelyau nyrsio
yn Ne Meirionnydd a Phenllyn
ond bod cyfleoedd yn codi mewn rhai ardaloedd
i wella’r sefyllfa. Amlygwyd bod De
Meirionnydd yn edrych ar barhau gyda’r
gwasanaeth o addasu gwelyau preswyl ar gyfer gofal
dwys gan ystyried y posibilrwydd o ddarparu gofal nyrsio mewn rhai
unedau i’r dyfodol - Bryn Blodau yn cael ei
ystyried fel un lleoliad. Er nad oedd amserlen bendant
ar gyfer y gwaith, nodwyd bod angen sicrhau bod y gallu i ddarparu
gwasanaeth wedi ei sefydlu mewn
egwyddor ond bod angen cryfhau’r berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd a chwblhau gwaith cyfreithiol sydd ynghlwm. Y bwriad wedi ei
adnabod fel cyfle sydd yn
hyfyw, yn faes blaenoriaeth ac yn gynwysedig yng
Nghynllun y Cyngor – a bod disgwyliadau
felly i gyflawni. ·
Wrth ymgynghori gyda gofalwyr defnyddiwyd y wybodaeth gyfredol o’r gwaith asesu
y mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr y 3ydd
sector yn ei gasglu ynghyd a gwybodaeth gan y Swyddog Materion Gofalwyr. Er derbyn bod y diffiniad ‘gofalwr’ yn un eang ac nad
oedd modd ymgynghori gyda phawb, wedi derbyn
y sylwadau, cyflwynwyd casgliadau’r asesiad gyda’r defnyddwyr am sylwadau pellach. ·
Yng nghyd-destun awtistiaeth, amlygwyd siom nad
oedd Cydlynydd / Swyddog Prosiect wedi ei benodi
ar gyfer datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth er bod bwriad hysbysebu’r swydd yn yr wythnosau nesaf. · Croesawyd y bwriad i sicrhau y dylai bob aelod staff sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ASA, er mai ar lefel gyffredinol oedd hyn. Pwysleisiwyd bod rhaid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2022/23 I’r Pwyllgor flaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod 20 Ebrill 2023 a
mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Addasu’r rhaglen waith er mwyn blaenoriaethu
eitemau ar gyfer cyfarfod Ebrill 2023 o’r Pwyllgor Craffu Gofal a mabwysiadu
rhaglen waith diwygiedig. Cofnod: Darparwyd
adroddiad byr i’r Aelodau yn dangos rhaglen waith diweddaraf y Pwyllgor dros y
misoedd nesaf. Eglurwyd y bydd angen addasu’r rhaglen waith o ganlyniad i
eitemau yn llithro. Gyda thair eitem eisoes wedi eu rhaglennu ar gyfer cyfarfod
mis Ebrill, awgrymwyd bod ‘Recriwtio a chadw staff yn y maes gofal (Adran Plant
a Theuluoedd)’ a ‘Cynllun Gweithredu yn cael eu
hail raglennu ar gyfer Mehefin
2023. PENDERFYNWYD Addasu’r
rhaglen waith er mwyn blaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod Ebrill 2023 o’r
Pwyllgor Craffu Gofal a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig. |