Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2022 fel rhai cywir. |
|
Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn cadarnhau fod
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa Bensiwn
Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. |
|
CYLLIDEB 2023/24 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog
Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm
£764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll
berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B. |
|
DATGANIAD CYFRIFON CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AR GYFER 2021/22 Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp
y CBC i gyflwyno’r datganiad Cyfrifon statudol ar gyfer blwyddyn ariannol
2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Datganiad Cyfrifon
statudol Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG AR GYFER 2023/24 I gytuno ar ddyddiadau arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Penderfyniad: Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24 ac addasiad i
ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023. Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y
CBC drefnu cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y
ffordd ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. |