Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o
ymddiheuriad. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 130 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023, fel rhai
cywir. |
|
CYFANSODDIAD CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG RHANBARTH Y GOGLEDD PDF 501 KB Adroddiad i’w
gyflwyno gan Iwan G.D. Evans, Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y
Cyfansoddiad: ·
Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig ·
Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau ·
Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol ·
Rheolau Gweithdrefn Contractau 2. Dirprwyo hawl
i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer
eu cyhoeddi. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Swyddog Monitro. PENDERFYNIAD 1. Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y
Cyfansoddiad: ·
Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig ·
Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau ·
Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol ·
Rheolau Gweithdrefn Contractau 2. Dirprwyo hawl
i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer
eu cyhoeddi. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gadarnhau bod angen cyhoeddi cyfansoddiad er mwyn cydymffurfio â
Rheoliadau Cyd Bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Cymru) 2022 a Deddf
Llywodraeth Leol 2000. Nodwyd bod angen sicrhau holl ddogfennaeth er mwyn
sicrhau sylfaen i briodoldeb prosesau. Manyliwyd ar bedair elfen
o’r cyfansoddiad sef: Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig Cyflwynwyd y Côd ymddygiad statudol heb addasiadau. Cadarnhawyd byddai
modd diwygio’r côd hwn yn y dyfodol drwy sefydlu a
chynnal Pwyllgor Safonau i’r Cydbwyllgor Corfforedig. Cylch Gorchwyl Is
Bwyllgor Safonau Nodwyd ei fod yn
synhwyrol i aelodaeth Is-bwyllgor Safonau’r Cydbwyllgor Corfforedig gael eu
hethol o’r aelodau presennol ar bwyllgorau safonau awdurdodau lleol rhanbarth y
gogledd a Parc Cenedlaethol Eryri. Eglurwyd byddai hyn yn lleihau baich
hyfforddi. Cynigiwyd byddai’r Pwyllgor Safonau yn cynnwys 7 aelod - un o Parc
Cenedlaethol Eryri ac un o bob awdurdod lleol sy’n rhan o’r Cyd-Bwyllgor. Rheoliadau
Cytundebau a Materion Cyfreithiol Eglurwyd byddai’r
rheoliadau hyn yn cadarnhau sut bydd cytundebau yn cael eu arwyddo a phwy bydd
gan yr hawliau i wneud hynny. Rheolau
Gweithdrefn Contractau Awgrymwyd
mabwysiadu fframwaith Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd a gellir adolygu’r rheolau er
mwyn bod yn benodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol. |
|
ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2022/23 PDF 516 KB Adroddiad i’w
gyflwyno gan Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a
Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. 2.
Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r
tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi
ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol. 3.
Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn
unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n
briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2). Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Adran 151 a’r Dirprwy Swyddog Adran 151. PENDERFYNIAD 2. Cael
cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r tanwariant yn 2022/23 gael ei
drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau
unwaith ac am byth yn y dyfodol. 3. Cymeradwyo
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23
(amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023.
Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd
fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2). TRAFODAETH Cadarnhawyd bod yr
adroddiad alldro yn cadarnhau gwariant a balansau’r
Cyd-Bwyllgor yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Eglurwyd bod tanwariant o
£238,098 yng nghyllideb y Cyd-Bwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.
Nodwyd bod tanwariant ym mhob agwedd o wariant y Cyd-Bwyllgor gan eithrio
Cefnogaeth Gwasanaethau Cyllid a Chyfreithiol (gan gynnwys y Swyddog Monitro). Eglurwyd bod amcangyfrif
2022 o boblogaethau’r awdurdodau lleol wedi eu defnyddio yn hytrach na
chanlyniadau’r cyfrifiad gan mai dyna oedd wedi ei gytuno wrth osod y gyllideb
wreiddiol. Eglurwyd fod ffigyrau poblogaeth gwahanol yn cael eu defnyddio
ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy i ddyrannu costau’r
swyddogaethau cynllunio o’i gymharu â’r holl gostau eraill, gan fod y costau
cynllunio yn cael eu dyrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y
boblogaeth sy’n byw o fewn ffiniau’r Parc yn hytrach nag i’r cynghorau. |