Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Bu i Cyng. Phil Wyn, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ei ethol yn gadeirydd ar gyfer 2020/21. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020-21. Penderfyniad: Bu i
Cyng Meirion Jones, Cyngor Sir Ynys Môn, yn Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 333 KB (ynghlwm). |
|
TREFNIADAU LLYWODRAETHU : ARCHWILIO MEWNOL PDF 280 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno a gofyn am gymeradwyaeth y Cydbwyllgor mewn
perthynas â threfniadau archwilio mewnol. Penderfyniad: Cymeradwywyd y trefniadau fel y’i
nodwyd ym mhwynt 4.1 o’r adroddiad, gan ychwanegu fel eithriad lle’n briodol, y
bydd angen i rai adroddiadau archwilio unigol gael eu cyflwyno i’r Cydbwyllgor
pan fydd angen yn codi, yn hytrach nac aros am yr adroddiad blynyddol. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIADAU MEWNOL PDF 256 KB Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i rannu adroddiadau archwilio perthnasol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol y rhanbarth ar y Grant Datblygu Disgyblion a'r Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiadau gan nodi bod rheolaeth a phrosesau priodol a digonol mewn lle, ac felly ni fydd angen cyflwyno eitemau cyffelyb i’r Cydbwyllgor yn y dyfodol, ar wahân i’w crybwyll yn adroddiad blynyddol Rheolwr Archwilio'r awdurdod lletyol i’r Cydbwyllgor. |
|
Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cydbwyllgor adolygu cynnwys y
gofrestr ac i dderbyn y wybodaeth. |
|
CYLLIDEB - MONITRO AIL CHWARTER PDF 464 KB Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Dafydd L Edwards, Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd i ddiweddaru aelodau’r Cyd-Bwyllgor am yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2020/21. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad. |
|
RHAGLEN TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL PDF 316 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno offeryn hunanasesu i aelodau’r
Cyd-Bwyllgor fydd yn cynorthwyo’r Awdurdodau Lleol i asesu eu parodrwydd ar
gyfer gweithredu'r diwygiadau fel yr amlinellir yng Nghod Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY) Drafft Cymru Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr offeryn hunan asesu a’r
Cynnig Proffesiynol Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd yn cefnogi’r Awdurdodau
Lleol a’r ysgolion i weithredu’r diwygiadau fel yr amlinellir yng Nghod
Anghenion Dysgu Drafft Cymru. Gofynnwyd am adroddiad pellach i’r
cyfarfod nesaf yn nodi sut y bydd yr offeryn hunanasesu yn gweithio ac i nodi
unrhyw oblygiadau ariannol fydd o ganlyniad i’r Cod Anghenion Dysgu drafft. |
|
CANLYNIADAU 2020 - ADOLYGIAD ANNIBYNNOL Y GWEINIDOG ADDYSG PDF 411 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gynnal trafodaeth yn y Cyd-bwyllgor ar yr
Adolygiad Annibynnol o ddyfarnu Cymwysterau yng Nghymru yn 2020 yn dilyn
cyhoeddiad y Gweinidog Addysg ar 10 Tachwedd 2020. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd mai prif flaenoriaeth y rhanbarth dros y cyfnod nesaf fydd
rhoi’r gefnogaeth briodol i’r ysgolion uwchradd i gefnogi dysgwyr CA4 a CA5 i
gael eu hachredu’n deg. Er mwyn
gweithredu hyn, cytunwyd i ddefnyddio refeniw wrth gefn sydd o ganlyniad i’r
tanwariant. Penderfynwyd ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, yn gyntaf i ddiolch am ei
chyhoeddiad ar y 10fed o Dachwedd ar y trefniadau ar gyfer dyfarnu cymwysterau
ar gyfer 2021, ac yn ail i nodi pryderon sydd yn codi o’r cyfarfod. Penderfynwyd ysgrifennu at Geraint Rees, Cadeirydd
y Grŵp Dylunio a Chynllunio, yn amlinellu’r pryderon a nodwyd.. |
|
ADNODDAU DYSGU CYFUNOL PDF 263 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i rannu gwybodaeth ag
aelodau'r Cyd-bwyllgor am y strategaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion
i sicrhau parhad y dysgu. Penderfyniad: Nodwyd a
derbyniwyd yr adroddiad ac i gefnoi’r dull a’r model
rhanbarthol i sicrhau parhad y dysgu yng Ngogledd Cymru. |
|
Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE, i rannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor am y dull rhanbarthol
o gefnogi lles ein
plant a'n gweithlu Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr
adroddiad ac i gefnogi’r dull rhanbarthol o gefnogi lles plant a gweithlu’r rhanbarth.
|
|
ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN PDF 266 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Cyfarwyddwr GwE, i ddiweddaru aelodau’r Cyd-Bwyllgor
ynglŷn ag Adolygiad Thematig Estyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd cynnwys yr
adroddiad a chytunwyd i gynnal trafodaethau pellach yn dilyn cyhoeddi’r
adroddiad. |
|
YSGOLION MEWN CATEGORI PDF 346 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE, i ddiweddaru aelodau'r Cyd-Bwyllgor ar y sefyllfa bresennol
o ran yr ysgolion sydd mewn Categori
Statudol Estyn a Chategori Adolygu gan Estyn. Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd cynnwys yr
adroddiad achytunwyd ar y camau nesaf. Penderfynwyd ysgrifennu at Estyn yn
gofyn am arweiniad ac eglurder buan ynglŷn â’r sefyllfa. |