Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I nodi
unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y canlynol; Annwen Morgan (Prif
Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn, Rhys Howard Hughes (Cyngor Sir Ynys
Môn), Ian Roberts (Cyngor Sir y
Fflint). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
brys i’w hystyried ym marn
y Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd
unrhyw fater brys. |
|
(amgaeëdig) Cofnod: Cadarnhawyd fod y cofnod a
gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 26ain o Fai, 2021 yn gywir. |
|
DATGANIAD O'R CYFRIFON 2020/21 PDF 314 KB I gyflwyno
Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio, ond yn amodol ar
archwiliad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am flwyddyn 2020/21. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd y Datganiad
o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio gan y Swyddog Cyllid Statudol i’r Cydbwyllgor er gwybodaeth Cyfeiriwyd at y ffigyrau yr adroddwyd yn y Cydbwyllgor blaenorol
ynglŷn â thanwariant a’r cyfansymiau ym mhob colofn. Eglurwyd sefyllfa ariannol
GwE gan nodi bod £811,000 i’w gweld yn y gronfa. Ategwyd mai er gwybodaeth
yw’r cyfrifon yma a byddai fersiwn ôl-archwiliad yn dod gerbron y Cydbwyllgor
yn yr Hydref er mwyn i’r cydbwyllgor eu derbyn a’u fabwysiadu. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:- -
Diolchwyd
am broffesiynoldeb y tîm am gyflwyno’r cyfrifon mewn amser priodol. -
Gofynnwyd
a oedd gan yr aelodau unrhyw beth i’w boeni amdano o safbwynt y cyfrifon. -
Diolchodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i’r Pennaeth Cyllid a’r Cyfrifwyr am eu gwaith
technegol i gefnogi GwE. Ategwyd y diolch i’r Rheolwr Busnes a’r Tîm Busnes
sydd wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn unioni’r gyllideb o un flwyddyn i’r
llall. Mewn ymateb,
nododd y Pennaeth Cyllid: - Nad oedd unrhyw
beth i boeni amdano, a bod tystiolaeth o reolaeth gadarn gydag unrhyw danwariant neu orwariant o fewn
ffiniau rhesymol. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU PDF 253 KB I dderbyn a chymeradwyo y datganiad
llywodraethu blynyddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol 2020/21. Cofnod: TRAFODAETH: Tywyswyd y Cydbwyllgor
drwy’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch yr egwyddorion a’r
weledigaeth. Eglurwyd bod y datganiad yn rhoi trosolwg o sut mae’r gwasanaeth
wedi bod yn ymddwyn a beth yw’r camau nesaf yn y flwyddyn i ddod. Mynegwyd
diolch i Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd) am ei gyngor o safbwynt llywodraethu wrth
lunio’r Datganiad Llywodraethu. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: -
Nodwyd
ei fod yn ddogfen ddefnyddiol i gyfeirio ato ac yn cynnig lefel uchel o
sicrwydd i aelodau’r Cydbwyllgor. -
Diolchwyd am yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020/21 PDF 383 KB I gyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2020-21 i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer
2020/21 ar yr amod o ychwanegu blaenoriaeth sy’n ymdrin ag ymateb i effeithiau ôl-covid yng nghyd-destun y
gwasanaeth. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE ac amlinellwyd sut mae GwE wedi
ail-bwrpasu yn ystod y cyfnod pandemig. Ategwyd bod y Cydbwyllgor wedi cael eu
diweddaru ar y gwaith yma yn ystod y flwyddyn a bod yr adroddiad yma yn grynodeb o hyn. Amlygwyd
bod yr adroddiad yn amlinellu sut mae ysgolion yn cael eu cefnogi i weithredu'r
daith ddiwygio a pharatoi am y cwricwlwm newydd ac mae'n nodi’r blaenoriaethau
strategol a rhanbarthol ar gyfer 2021-22 a gytunwyd arnynt yn y cyfarfod
blaenorol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:- -
Diolchwyd i Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a’r tîm am eu gwaith
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. -
Cyfeiriwyd at Bwynt 8 - blaenoriaethau ar gyfer 21/22 gan
nodi bod bwlch yna sef nad oes cyfeiriad at sut mae GwE am ymateb i effeithiau
ôl-covid yng nghyd-destun Addysg. Mewn
ymateb nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE:- -
Y bydd trosolwg o’r cynlluniau sy’n ystyried effeithiau
ôl-covid i yn yr adroddiad monitro yn yr hydref -
Ategwyd y bydd modd ychwanegu effeithiau Covid fel rhan o’r
adroddiad neu, nodwyd bod posibilrwydd i’w ychwanegu fel blaenoriaeth 7. |
|
STRATEGAETH I GEFNOGI RHIENI/ GOFALWYR PDF 287 KB I ddiweddaru aelodau'r Cyd-bwyllgor am ein
strategaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu rhieni a gofalwyr ar sut orau i
gefnogi eu plant i ddysgu. Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad a chefnogi’r strategaeth a’r gefnogaeth sydd
ar gael i ysgolion mewn perthynas ag ymgysylltiad rhieni/gofalwyr yng ngogledd
Cymru. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi mai un o flaenoriaethau’r cynllun busnes
yw cynorthwyo rhieni/ gofalwyr i fedru helpu eu plant i ddysgu. Ategodd bod grŵp
rhanbarthol eisoes wedi ei sefydlu sydd wedi cyfarfod dwywaith i osod cyfeiriad
strategol i’r gwaith. Soniwyd am becyn i helpu plant rhwng 5-12 oed i ddysgu,
sydd wedi rhannu efo’r ysgolion cynradd
. Cyfeiriwyd at y rhaglen gan nodi bod dolen yn y fersiwn ar-lein i
aelodau’r Cydbwyllgor ei weld. Eglurodd bod Penaethiaid
eisoes wedi cael cyflwyniad i’r adnodd a bod y grŵp rhanbarthol wedi
adnabod yr angen i gael pecyn ar gyfer dysgwyr
13-16 oed. Ategodd bod penaethiaid Uwchradd yn gefnogol ac yn awyddus i gael y
pecyn yn ogystal â phecyn ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: -
Nododd
aelod bod wir angen am hyn a bod yr adnodd yn cael ei werthfawrogi. -
Gofynnodd
aelod a yw’r adnodd yn berthnasol ar gyfer rhieni di-gymraeg sydd â phlant mewn
ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mewn ymateb: -
Nododd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE bod angen i GwE arddangos eu cyfraniad i CSGA yr
Awdurdodau Lleol. -
Ategodd
bod y mater o gynorthwyo rhieni di-gymraeg yn un lled Cymru a bod angen
trafodaethau yn y Bwrdd Rheoli er mwyn adnabod sut i lenwi’r bwlch. |
|
Rhoi trosolwg o
Fenter TEDxGwE i aelodau'r Cyd-Bwyllgor. Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad a Menter TEDxGwE Gogledd Cymru ac edrychir ymlaen at dderbyn diweddariad yn yr Hydref. Cofnod: TRAFODAETH: Rhoddwyd trosolwg o’r
menter newydd gan ategu ei fod yn ddarn o waith fydd yma yng ngogledd Cymru am flynyddoedd. Eglurwyd bod GwE wedi
cofrestru ac wedi cael trwydded ar gyfer TEDxGwE ble bydd plant yn cyfrannu at y drafodaeth o
ran sut i fynd i'r afael â, a chynnig datrysiadau i’r argyfwng newid hinsawdd. Ategwyd y bydd modd mynd a barn a llais plant y
gogledd ymlaen at COP26 sydd yng Nglasgow eleni a bod
ysgolion wedi derbyn gwybodaeth am hyn. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: -
Gofynnwyd
a oedd amserlen ar gyfer dychwelyd i’r Cydbwyllgor gydag adroddiad pellach ar y
fenter yma. -
Cytunwyd
bod y fenter yn amserol iawn ar gyfer dibenion y cwricwlwm newydd a gallai
ysgolion fabwysiadu’r fenter yn flynyddol. -
Diolchwyd
i GwE am ymdrechu i sicrhau’r fenter yma fel yr unig gonsortia rhanbarthol i
wneud hynny. Mewn ymateb
nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE: -
Ei
ddiolchiadau ar ran y Cydbwyllgor i Gavin Cass am sicrhau bod pobl ifanc y gogledd ar y blaen efo’r
cyfleoedd yma. -
Bod
angen sicrhau bod gan y fenter yma cyswllt clir gyda blaenoriaethau’r ALl. Materion yn
codi I gloi, ffarweliwyd â Rheolwr Busnes GwE. Estynnwyd
diolch iddi am ei holl waith a chefnogaeth dros y blynyddoedd ers sefydlu GwE.
Nodwyd bod y gwasanaeth yn gwerthfawrogi ei chyfraniad, ei deallusrwydd dwfn,
a’i chyngor dros ei hamser yno. |