Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, Alan Jones Evans, Louise Hughes, Iwan Huws, Beth Lawton, Linda Morgan, Gareth Coj Parry, Arwyn Herald Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts a Hefin Underwood.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 387 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn fel rhai cywir:-

 

·         23 Mehefin, 2022

·         25 Awst, 2022 (Cyfarfod Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn fel rhai cywir:-

 

·         23 Mehefin, 2022

·         25 Awst, 2022 (Cyfarfod Arbennig)

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

·         Y Cynghorydd Alan Jones Evans a’r teulu ar farwolaeth ei Nain

·         Y Cynghorydd Menna Jones a’r teulu ar farwolaeth ei Thadcu.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Estynnwyd croeso i Dylan Owen, olynydd i Morwena Edwards fel Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, ac fe’i longyfarchwyd ar ei benodiad. 

 

Llongyfarchwyd Geraint Owen hefyd ar ei benodiad yntau’n Gyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Llongyfarchwyd Medi Harris o Borth y Gest ar ennill medal efydd yn y gystadleuaeth nofio 100m ar y cefn yng Ngemau’r Gymanwlad yn ddiweddar, a nodwyd y daeth ei Thîm Cyfnewid hefyd yn 4ydd i Gymru.  Nodwyd hefyd, fel rhan o Dîm Ras Gyfnewid y DG yn Rhufain, bod Medi wedi ennill medalau aur, arian ac efydd, a’i bod hefyd wedi cystadlu yn y Pencampwriaethau Byd, lle daeth yn 7fed yn y cystadleuthau nofio 50m a 100m ar y cefn.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Elin Hywel

 

“Pa gamau mae’r Cyngor yn gymryd i sicrhau cydraddoldeb i bobl ifanc mewn addysg wrth iddynt baratoi a chwblhau gwaith y tu allan i oriau dysgu, ar amseroedd o’u dewis hwy, ta waeth gallu eu teuluoedd neu warchodwyr i allu fforddio y gost gynyddol o ynni i bweru eu offer technoleg gwybodaeth angenrheidiol, megis gliniaduron?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae’r cwestiwn yn un pwysig iawn achos mae’n tynnu sylw at y myrdd o heriau mae teuluoedd a phobl ifanc yn wynebu yn sgil yr argyfwng costau byw sy’n ein hwynebu, ac mae’r Adran Addysg wedi rhoi sawl peth ar waith i gyfarch yr ystod o heriau sydd o’n blaenau i gyd.  Ond un peth rwy’n arbennig o falch ohono ydi ein Strategaeth Ddigidol, sef bod modd i unrhyw ddisgybl gael mynediad i ddyfais ddigidol, a bod y ddyfais honno - a dyma’r darn pwysig - yn mynd adref hefo’r plentyn yn y sector uwchradd er mwyn cyfarch y problemau anghyfartaledd a nodwyd yn y cwestiwn.  Strategaeth Gwynedd ydi hon ac mae’n un flaengar.  Ond ar y mater o’r ynni a’r gwefru a’r gost o hynny, mae’r dyfeisiadau sydd wedi’u dewis yn rhai sy’n gwneud defnydd rhesymol o drydan ar gost resymol, a bydd yna gyfle i’r disgyblion wefru eu dyfeisiadau yn yr ysgol, ac mewn clybiau cyn ac ar ôl ysgol ac mewn llyfrgelloedd hefyd.  Mae yna weithdai wedi’u trefnu mewn ysgolion hefyd i drafod gwefru a bydd y mater a godwyd gan yr aelod yn cael sylw yn y fan honno hefyd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elin Hywel

 

“I warchod ein cymunedau rhag artaith gwleidyddiaeth a pholisïau Llywodraeth bresennol San Steffan, ac i gefnogi trigolion a dysgwyr Gwynedd drwy’r argyfwng hinsawdd ynni a chostau byw, beth yw cynlluniau’r Cyngor i sicrhau buddsoddiad yn isadeiledd ein hysgolion a chanolfannau addysg ac adeiladau cyhoeddus tu hwnt, megis llyfrgelloedd, er mwyn galluogi sicrwydd cyflenwad a phris ynni yn yr hir dymor?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae hyn, wrth gwrs, yn fater i’r Adran Eiddo hefyd, ond, wrth gwrs, mae’r Adran Addysg yn teimlo’n gryf iawn bod angen cyfarch y math yma o bethau.  Mae yna 2 brosiect ar y gweill gan yr Uned Ynni a Gwasanaethau Masnachol, sef prosiect paneli solar fydd yn cael eu rhoi ar amryw o safleoedd y Cyngor, a gobeithio y bydd hynny yn cynnwys ambell ysgol, a phrosiect golau LED er mwyn rhoi gwell rheolyddion i mewn i’r ysgolion, er mwyn sicrhau pethau fel bod y golau yn cael ei ddiffodd ar ddiwedd y dydd.  Ond yn amlwg mi fyddwn i’n cefnogi unrhyw symudiad tuag at leihau ein dibyniaeth ar y grid yn y maes yma yn y cyd-destun a nodwyd.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022 eu bod yn cyflwyno newidiadau i'r ddeddf Gynllunio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD DRAFFT 2022 pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Adroddiad Sefydlog y Farchnad Gogledd Cymru 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan, adroddiad yn darparu trosolwg o Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru 2022, a luniwyd fel gofyn dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cyngor llawn i’r ddogfen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i bawb fu’n gysylltiedig â pharatoi’r adroddiad mewn amser mor fyr, a hefyd am y gwaith hynod bwysig yn y maes sy’n aml yn anweladwy. 

·         Holwyd a fyddai’n werth herio Llywodraeth Cymru i roi mwy o arian yn uniongyrchol i’r cynghorau ar gyfer talu am ofalwyr.  Mewn ymateb, eglurwyd bod sgyrsiau aeddfed, a dyddiol bron, yn cymryd lle rhwng y Cyngor, y rhanbarth a gweinidogion y Llywodraeth ar hyn o bryd.  O ran taliadau, cyfeiriwyd at y system daliadau uniongyrchol i ofalwyr, a nodwyd bod gwaith ar droed i hyrwyddo hynny ymhellach dros y cyfnod nesaf.

·         Mewn ymateb i sylw, cadarnhawyd bod gofal seibiant yn flaenoriaeth uchel, a bod y Cyngor yn gefnogol, ac yn awyddus iawn i wneud gymaint ag y gellid i gefnogi gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau.

·         Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ail-edrych ar y dull o dalu costau teithio i ofalwyr, yn enwedig oddi fewn i’r gwaith, wrth iddynt deithio o un lleoliad i’r llall.  Mewn ymateb, eglurwyd bod hyn yn rhan o’r gwaith o ail-ddylunio gofal cartref, ac y byddai yna fanteision, nid yn unig i’r bobl sy’n derbyn y gofal, ond hefyd i’r gweithwyr, gan y byddai’r Cyngor yn ail-edrych ar eu telerau gwaith fel rhan o hyn. 

·         Nodwyd bod costau uchel tanwydd ac yswiriant car yn rwystr i bobl ifanc rhag gweithio fel gofalwyr.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffyg gwelyau nyrsio yn Nwyfor a Meirionnydd a galwyd am sefydlu’r cartref nyrsio newydd ar safle Penrhos, Pwllheli.  Mewn ymateb, nodwyd, er na ellid cadarnhau’r amserlen ar hyn o bryd, bod Penrhos yn gynllun eithriadol gyffrous a blaengar, ac awgrymwyd y gellid cynnal cyfarfod gyda’r aelod lleol i leddfu ei phryderon, gan hefyd roi mwy o gyhoeddusrwydd i’r datblygiad arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Sefydlog y Farchnad Gogledd Cymru 2022.

 

8.

DIWYGIO POLISI IAITH GYMRAEG Y CYNGOR pdf eicon PDF 507 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Jones, adroddiad yn gwahodd y Cyngor llawn i fabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig er mwyn adlewyrchu:-

 

·         Y newidiadau mawr yn y modd mae’r Cyngor yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd ers i’r polisi cyfredol gael ei lunio yn 2016; ac

·         Uchelgais cyfredol y Cyngor o ran hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn ei wasanaethau.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gan gyfeirio at Atodiad B i’r adroddiad – Crynodeb Ymgysylltu y Polisi – croesawyd y ffaith bod y ddogfen ar ei newydd wedd yn ystyried y materion a godwyd yng nghyfarfod 20 Mehefin, 2022 o’r Pwyllgor Iaith, ond gofynnwyd am eglurhad ar y paragraff “Mae gennym bryder am ymrwymo mewn cymal polisi i fesur effaith cynlluniau yn uniongyrchol ar nifer a chanran siaradwyr, gan nad hawdd yw gwneud cyswllt uniongyrchol rhwng polisïau, prosiectau a chynlluniau strategol y Cyngor a newid yn nifer a chanran siaradwyr, ac felly nid hawdd fyddai profi yr effaith.”  Cydnabyddid bod hynny’n anodd, ond ni chredid y dylai hynny fod yn rheswm dros beidio asesu effaith polisïau.  Mewn ymateb, nodwyd mai’r hyn oedd yn anodd oedd gwybod sut i roi hynny fel egwyddor yn y polisi ei hun, ond cadarnhawyd bod hyn yn waith oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gan yr Uned i fod yn datblygu mesuryddion ar gyfer gwahanol brosiectau a pholisïau.

·         Nodwyd y dylai unrhyw asesiad effaith ystyried pethau sy’n fesuradwy a’i bod yn hanfodol gwybod beth ydi’r mesuryddion.  Awgrymwyd bod canran siaradwyr mewn cymuned neilltuol yn rhywbeth y mae modd ei fesur, yn fwy na phethau meddal.  Ni chredid bod problem yn y maes cynllunio, er enghraifft, i fesur hynny, ond derbynnid y gallai fod yn anodd mewn rhai meysydd eraill lle mae cysylltu’r dystiolaeth a’r polisi yn anodd.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd edrych ar bethau fel yr iaith Gymraeg a thechnoleg a bod y polisi’n cyfarch y materion pwysig yma i’r dyfodol.

·         Croesawyd amcan y Cyngor i gyfeirio at ei hun fel ‘Cyngor Gwynedd’ yn hytrach na ‘Cyngor Gwynedd Council o hyn allan.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2021/22 pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor am 2021-22.

 

Nododd y Dr Einir Young mai hwn fyddai’r tro olaf iddi ddod gerbron y Cyngor i gyflwyno’r adroddiad blynyddol, gan fod ei thymor ar y Pwyllgor yn dod i ben.  Diolchodd i aelodau’r Pwyllgor, y Swyddog Monitro, y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau a’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth am eu holl gymorth a chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.  Diolchodd hefyd i’r aelodau etholedig am gynnal safonau ac am wneud gwaith y pwyllgor yn haws.

 

Diolchodd y Swyddog Monitro i’r Dr Einir Young am ei gwasanaeth ac am gadeirio ac arwain y Pwyllgor yn lleol ac yn rhanbarthol hefyd.  Diolchodd iddi hefyd am y gefnogaeth a’r gwaith caled a’r weledigaeth, gan ddymuno’n dda iddi i’r dyfodol.

 

Ategwyd geiriau’r Swyddog Monitro gan y Cadeirydd, yr Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid, a diolchwyd i’r Dr Einir Young am ddod gerbron y Cyngor yn flynyddol i roi cyflwyniad clir, cytbwys a chadarn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

PENDERFYNIAD BRYS CABINET pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, er gwybodaeth, ar benderfyniad brys gan y Cabinet ar 27 Medi, 2022 i gymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer newidiadau posib’ i’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag.  Eglurwyd, oherwydd effaith gohirio cyfarfod 13 Medi o’r Cabinet yn sgil marwolaeth y Frenhines, y byddai gweithredu’r cyfnod galw i mewn ar gyfer penderfyniadau wedi golygu y byddai dyddiad cychwyn y cyfnod ymgynghori wedi llithro’n sylweddol.  Gan hynny, bu’n ofynnol gwneud penderfyniad brys yn unol â Rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad i eithrio’r mater o’r drefn galw i mewn i graffu er sicrhau bod y Cyngor yn medru cychwyn ar y broses ymgynghori yn amserol.

 

Mewn ymateb i gais gan aelod, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod copïau papur o’r pecyn ymgynghoriad Premiwm Treth Cyngor ar gael drwy ffonio’r Adran Gyllid.

 

Holwyd beth fyddai sefyllfa aelodau sy’n ymateb i’r ymgynghoriad, gan y byddent wedi mynegi barn ar y mater cyn i’r Cyngor llawn ei drafod ym mis Rhagfyr.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro na ddymunid agor trafodaeth ar y Premiwm yn y cyfarfod hwn, ond y gallai’r aelod gysylltu ag ef yn uniongyrchol i gael cyngor ar hynny.  Ychwanegodd nad trafod y Premiwm oedd pwrpas yr eitem oedd gerbron, eithr eitem dechnegol ydoedd, yn adrodd ar drefn a ddilynwyd ar gyfer y penderfyniad.

 

Mynegodd aelod ei anfodlonrwydd gyda’r broses ar y sail bod y Cabinet wedi gofyn am yr hawl i fwrw ymlaen â mater na chafodd yr holl aelodau gyfle i’r drafod.  Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Monitro y drefn unwaith yn rhagor, gan nodi mai’r Cyngor llawn fyddai’n dod i benderfyniad ar y mater maes o law, ond mai rôl y Cabinet oedd gwneud y penderfyniad cychwynnol i gynnal ymgynghoriad er mwyn sicrhau priodoldeb y drefn a gwneud yn siwr na fyddai’n agored i her.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

 

11.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

12.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

(l)      Cynigiaf fod y Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad i barhad y teitl ‘Tywysog Cymru’ ac yn gofyn i’r awdurdodau perthnasol ymgynghori’n ffurfiol â phoblogaeth Cymru ar ddiddymu’r teitl ai peidio.

(ll)      Cynigiaf fod y Cyngor yn gwrthwynebu unrhyw arwisgiad rhag cael ei gynnal yng Ngwynedd neu unrhyw le ar diroedd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(i)        Bod y Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad i barhad y teitl ‘Tywysog Cymru’ ac yn gofyn i’r awdurdodau perthnasol ymgynghori’n ffurfiol â phoblogaeth Cymru ar ddiddymu’r teitl ai peidio.

(ii)       Bod y Cyngor yn gwrthwynebu unrhyw arwisgiad rhag cael ei gynnal yng Ngwynedd neu unrhyw le ar diroedd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

(i)         Bod y Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad i barhad y teitl ‘Tywysog Cymru’ ac yn gofyn i’r awdurdodau perthnasol ymgynghori’n ffurfiol â phoblogaeth Cymru ar ddiddymu’r teitl ai peidio.

(ii)        Bod y Cyngor yn gwrthwynebu unrhyw arwisgiad rhag cael ei gynnal yng Ngwynedd neu unrhyw le ar diroedd Cymru.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan nodi:-

 

·         Bod teitl Tywysog Cymru wedi bod yn friw ar ein cenedl ers canrifoedd a’i fod yn ein hatgoffa ein bod ni’n eiddo i’r drefn, yn hytrach na’n ddinasyddion yn ein gwlad.  Nodwyd bod yr amser wedi dod i ni fel cenedl wrthwynebu’r teitl yma, ac i wrthwynebu’r gwerthoedd annemocrataidd mae’r syniad o dywysog Cymru yn ei gynrychioli.

·         Nad oedd yn gweld ei hun fel eiddo’r dywysogaeth, ond yn hytrach yn gyfartal i’w gyd-ddyn.

·         Bod yr ariannu cyhoeddus sy’n mynd at gynnal y Teulu Brenhinol, gan gynnwys swydd Tywysog Cymru, yn wastraffus gan ystyried yr argyfwng costau byw mae’n pobl yn ei ddioddef.

·         Bod rhai aelodau’n cofio arwisgiad 1969, a’r rhwyg cenedlaethol a’r drwg deimlad gododd yn sgil hynny, ond gwaeth fyddai’r drwg deimlad a’r ffraeo fyddai’n codi yn sgil unrhyw arwisgiad heddiw.

·         Bod llawer iawn wedi newid ers 1969, gyda Chymru nawr yn meddu ar Senedd ei hun, gyda’r gwerthoedd democrataidd Cymreig i’w gweld yn tyfu wrth i’n Llywodraeth a’n Senedd ni dderbyn mwy o rym.  Nodwyd bod yr hen drefn o weld Cymru fel tywysogaeth, neu ‘the little principality’ bellach yn rhywbeth sy’n perthyn i’r mileniwm diwethaf, a’i bod yn bryd i ni symud ymlaen yn rhydd o’r hen deitl yma sy’n peri cymaint o warth i ni.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Nododd aelod y byddai’n atal ei bleidlais ar y mater ar y sail:-

 

·         Nad oedd yn gweld bod y cynnig o bwys mawr i’n cenedl yn y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd, ac mai’r ffordd orau o gyfarch yr argyfwng costau ynni, ac unrhyw argyfwng arall fydd yn ein hwynebu, yw drwy sicrhau annibyniaeth i Gymru.

·         Bod yna amryw o bobl sydd o blaid annibyniaeth hefyd o blaid y Teulu Brenhinol.

·         Bod 54 gwlad yn rhan o’r Gymanwlad, ac y dymunai i Gymru fod yn o’r rheini hefyd.

 

Cefnogwyd y cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-

 

·         Mai nod amgen ceidwadaeth wleidyddol ydi parch at hierarchaeth ac awdurdod, a bod unrhyw un sydd am weld cymdeithas lle mae pawb yn gyfartal yn ymwrthod â’r syniad o frenhiniaeth, oherwydd bod y syniad o frenhiniaeth ynddo’i hun yn gosod anghydraddoldeb wrth galon ein sefydliad gwleidyddol ni.

·         Bod brenhiniaeth yn gosod seilwaith o anghydraddoldeb ac yn anghydnaws â’r oes sydd ohoni a bod sawl gwlad arall ar draws y byd wedi ymwrthod â’r cysyniad yn llwyr.

·         Bod y penderfyniad i roi’r teitl i’r Tywysog William wedi’i wneud heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru.

·         Ei bod yn bwysig clywed llais dinasyddion Cymru ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwyno er gwybodaeth:-

 

(i)            Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 23 Mehefin o’r Cyngor, 2022 ynglŷn ag ymgynghoriadau ar ail-gartrefi.

(ii)          Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd  Gwynfor Owen i gyfarfod 23 Mehefin, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â llwyddiant Tîm Pêl-droed Cymru wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth:-

 

(a)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 23 Mehefin 2022 o’r Cyngor ynglŷn ag ymgynghoriadau ar ail-gartrefi.

(b)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gwynfor Owen i gyfarfod 23 Mehefin, 2022 ynglŷn â llwyddiant Tîm Pêl-droed Cymru wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022.