Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679326

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Elfed Powell Roberts a Rhys Tudur.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen gan y Cynghorydd Dafydd Meurig oherwydd ei fod yn Gadeirydd Partneriaeth Ogwen. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 83 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 06 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 202 KB

Adolygu Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a diweddariad ar waith yr is-grwpiau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-          Esboniwyd fod y Bwrdd wedi ei sefydlu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a bod y bwrdd yn gorff statudol ar y cyd gydag Ynys Môn.

 

-          Eglurwyd fod y gwasanaethau Iechyd a thân, colegau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a chymdeithasau tai yn cael eu cynrychioli ar y bwrdd. Maent yn adnabod meysydd pwysig a nodi mannau ble gall cydweithio mewn partneriaeth gael mwy o effaith ar drigolion.

 

-          Adroddwyd bod Asesiadau Llesiant yn cael eu cwblhau pob 5 mlynedd dros 13 ardal wahanol. Nodwyd bod Gwynedd wedi ei rannu yn 8 ardal ac Ynys Môn wedi ei rannu i 5 ardal. Eglurwyd bod y rhaniad yma wedi cael ei greu fel bod y materion pwysicaf ym mhob ardal yn cael eu cyfarch, gan fod y materion hynny yn amrywio o ardal i ardal.

 

-          Cadarnhawyd fod Cynllun Llesiant yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfnod 2023-2028 yn dilyn yr Asesiadau Llesiant presennol.

 

-          Cyfeiriwyd at dri is-grŵp gweithredol sy’n delio â rhai o agweddau gweithredu’r Bwrdd a nodwyd eu prif blaenoriaethau:

 

-      Is-grŵp Newid Hinsawdd: yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau atal llifogydd.

-      Is-grŵp yr Iaith Gymraeg: yn canolbwyntio ar wella a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Cynhaliwyd cynllun peilot er mwyn cydweithio â sefydliadau cyhoeddus i weld pam bod pobl ddim yn defnyddio’r Gymraeg mewn derbynfeydd a sut gynyddu defnydd o’r iaith.

-      Is-grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig: yn llywodraethu sefydlu trefn cydweithio yn y sector,  gan gynnwys y Timau Adnoddau Cymunedol.

 

-          Sicrhawyd y byddai drafft o’r Cynllun Llesiant (2023-2028) yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

                       

Byddai mewnbwn y pwyllgor hwn yn ddefnyddiol i’r Bwrdd wrth lunio’r Cynllun Llesiant.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, esboniodd Arweinydd y Cyngor bod adroddiad yn mynd i’r Cabinet yn fuan ar sut roedd y Bwrdd yn mynd ati i gasglu gwybodaeth. Ymhelaethodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod drafft y Cynllun Llesiant (2023-2028) ar ei ffordd i’r pwyllgor craffu hwn mor fuan â phosibl.

 

Holwyd os oedd modd gweld cynllun gweithredu’r is-grŵp newid hinsawdd yn ogystal â derbyn cadarnhad o aelodaeth yr is-grŵp er mwyn edrych ar ei effeithiolrwydd a chynllun amser.

 

-          Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, bod yr is-grŵp yn cael ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a sicrhawyd yr aelodau fod holl aelodau’r is-grŵp yn cymryd perchnogaeth ohono. Cydnabuwyd bod amcanion yr is-grŵp wedi bod yn rhy eang yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf ac o’r herwydd nid oedd wedi bod mor llwyddiannus a obeithiwyd. Er hyn, ymhelaethodd Arweinydd y Cyngor bod atal llifogydd yn brif ffocws yn ddiweddar ac yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

BINIAU HALEN - DIWEDDARIAD GWASANAETH CYNNAL GAEAF pdf eicon PDF 136 KB

I ddiweddaru’r Pwyllgor ar reolaeth biniau halen fel rhan o’r Gwasanaeth Cynnal Gaeaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd a Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurodd yr Aelod Cabinet fod y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau tref a chymuned yn y gorffennol er mwyn eu hysbysu na fydd biniau halen yn cael eu llenwi gan y Cyngor mwyach, ac mai eu cyfrifoldeb hwy byddai eu ariannu. Yn anffodus, doedd cynghorau tref a chymuned ddim yn gallu ymdopi â’r costau gan achosi i’r Cyngor dderbyn nifer o alwadau ar ffyrdd peryglus. Oherwydd hyn, roedd yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi ail ymweld a’r sefyllfa.

 

-      Datganwyd fod tua 600 o finiau halen wedi eu lleoli ar draws y Sir a bod y Gwasanaeth yn y broses o’u hail llenwi. Byddai’r adran yn eu monitro yn rheolaidd dros y gaeaf er mwyn eu llenwi pan fu angen.

 

-      Esboniwyd bod lleoliadau’r biniau halen yn ogystal a’r ffyrdd sy’n cael eu graeanu gan y Cyngor yn mynd i ymddangos ar Fap Gwynedd er mwyn i drigolion ac Aelodau eu gweld.

 

-      Nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod gwaith yn cael ei wneud i rifo’r biniau halen. Byddai rhif unigryw'r bin halen yn ei gwneud yn haws i aelodau a chynghorau tref a chymuned adrodd gan gynorthwyo’r gweithwyr i ddatrys unrhyw broblem yn gynt.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Canmolwyd yr adran am dderbyn fod trafferthion wedi codi yn y gorffennol ynglŷn â biniau halen, a clodforwyd y syniad o rifo’r biniau a nodi eu lleoliad ar Map Gwynedd.

 

Holwyd lle’r oedd y cyllid i ail gyflwyno’r gwasanaeth hwn yn deillio.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododdy Pennaeth Adran bod y cyllid wedi  cronni ers i gynghorau tref a chymuned gymryd drosodd y gwasanaeth. Roedd y gost o ail-gyflwyno’r gwasanaeth yn gymharol debyg ac felly nid oedd angen chwilio am gyllid o unman arall.

 

Gofynnwyd os oedd lleoliad y biniau halen ar Fap Gwynedd yn barod ac os oedd gan y cyhoedd mynediad at y cyfleuster hwn.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Adran nad oedd y biniau halen i’w gweld ar Fap Gwynedd ar hyn o bryd ond roedd y broses o’u ychwanegu wedi cychwyn. Unwaith byddai’r broses yma wedi ei gwblhau, gall drigolion Gwynedd eu gweld drwy wefan y Cyngor. Hysbysir aelodau’r Cyngor yn dilyn cwblhau’r gwaith er eu galluogi i rannu’r wybodaeth gyda trigolion eu ward.

 

Datganwyd pryder bod y Gwasanaeth Cynnal Gaeaf yn cychwyn o 01.10.2022 ymlaen gan nad oedd yn rhoi digon o amser i edrych ar gyflwr y biniau halen a’u disodli pe bai angen.

           

-      Mewn ymateb i’r datganiad hwn, nododd y Pennaeth bod yr adran yn gweithio yn agos gyda’r Peiriannydd Ardal ac yn hyderus y byddai’r biniau halen mewn cyflwr da erbyn pryd y bydd eu hangen. Cadarnhawyd er bod y y gwasanaeth yn cychwyn o 01.10.2022, nad oedd y  gwasanaeth graeanu yn cychwyn nes  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD - DATBLYGIADAU YN Y MAES CLUDIANT CYHOEDDUS pdf eicon PDF 191 KB

I ddiweddaru’r Pwyllgor am y gwaith wrth law i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a  Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Esboniodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd fod pwerau i lywodraethu cludiant cyhoeddus wedi symud o afael cwmnïau preifat i’r Llywodraeth ers 2017.

 

-      Datganwyd fod yr adran wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y misoedd diwethaf i ddiwygio amserlen y gwasanaeth SHERPA yn ardal  Llanberis. Roedd yr incwm a gynilwyd dros yr haf yn cael ei sybsideiddio ar gyfer gweddill y flwyddyn. Golyga hyn fod yr arian yn cael ei wario i gynorthwyo trigolion yr ardal yn ogystal ag ymwelwyr tymhorol.

 

-      Gwahoddwyd ceisiadau am unrhyw adroddiad manwl am unrhyw agwedd o waith yr adran.

 

-      Adroddodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod cludiant ysgolion ar gyfer yr adran addysg yn flaenoriaeth fawr. Nid oedd y Cyngor eisiau bod yn ddibynnol ar gwmnïau mawr i weithredu gwasanaethau o’r fath.

 

-      Eglurwyd er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth oraf yn cael ei ddarparu i bobl Gwynedd, bod yr adran yn cydweithio gyda’r Llywodraeth. Nodwyd bod swyddogaethau’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn rhoi gofyniad statudol ar y Cyd-Bwyllgor i gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol erbyn Gorffennaf 2023 a datblygu cynlluniau newydd pob 5 mlynedd wedi hynny.

 

-      Esboniwyd fod cyd-weithio gyda TrawsCymru yn effeithiol iawn gan alluogi gweithredu gwasanaeth a oedd yn ymweld â sawl ardal wledig er mwyn cyrraedd anghenion trigolion lleol.

 

-      Cydnabuwyd fod y gwasanaeth cludiant wedi gorwario £300,000.00 eleni a nodwyd fod yr adran yn ymwybodol iawn o’r angen i sicrhau fod costau’r gyllideb yn cael ei lynu ato yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Holwyd os oedd cynlluniau i ail-gyflwyno gwasanaeth bws 10yh fel roedd yr angen yn codi mewn ardaloedd gwledig, gan fod pris y gwasanaeth yn rhatach i ddefnyddwyr na dulliau eraill o deithio megis archebu tacsi.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad hwn, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod diffyg gyrwyr yn her fawr i’w oresgyn. Os byddai sefyllfa niferoedd gyrwyr yn gwella yn y dyfodol, gobeithir y byddai mwy o’r gwasanaethau hwyr yma yn gallu rhedeg unwaith eto gan fod gwerth cymdeithasol i’r teithiau Eglurodd oherwydd y sefyllfa bresennol roedd rhaid i gwmnïau flaenoriaethu adnoddau.

 

Cwestiynwyd os oedd cydweithio yn digwydd rhwng adrannau’r Cyngor er mwyn hyrwyddo’r swyddi hyn sydd ar gael gan y cwmnïau bysiau.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod hyn yn digwydd. Yn ogystal, roedd gan Lywodraeth Cymru syniadau ar sut i ddenu mwy o yrwyr bysiau. Er hyn , yn anffodus, roedd llawer o weithwyr hŷn wedi ymddeol ers y cyfnodau clo ac yn anodd sbarduno diddordeb ym mhobl ifanc i fod yn yrwyr bysiau.

 

Cydnabuwyd fod TrawsCymru yn ymweld a mwy o ardaloedd gwledig nad oedd yn derbyn gwasanaethau bysiau yn rheolaidd yn y gorffennol, ond bod rhai ardaloedd yn parhau i golli allan o’r llwybr teithio presennol. Holwyd os oes modd newid y llwybrau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 230 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 i’w mabwysiadu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd yr eitemau a flaenoriaethwyd ar gyfer pwyllgorau’r flwyddyn yn y gweithdy blynyddol ar 06.07.2022 a nodwyd bod dwy eitem ar ôl i’w amserlennu ar gyfer y flwyddyn, sef ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’ a ‘Chynllun Gwella Hawliau Tramwy’.

 

-      Eglurwyd bod adroddiad Cynllun Gwella Hawliau Tramwy wedi ei amserlennu i’w drafod yn y Cabinet ar 22.11.2022 ac felly byddai’n amserol i drafod y mater hwn yng nghyfarfod 27.10.2022 o’r pwyllgor hwn. Cadarnhawyd y byddai angen cadarnhau hyn gyda’r adran berthnasol er mwyn sicrhau ei fod yn bosibl iddynt gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr o fewn y cyfyngiadau amser hyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad yng nghyswllt amserlennu’r eitem ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’. Nodwyd y ceir trafodaeth yng nghyfarfod anffurfiol y pwyllgor, ble byddai adborth yn cael ei rannu o gyfarfod y Bwrdd Hinsawdd a Natur.

 

PENDERFYNWYD

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2022/23.