Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy), Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych), Karen Evans (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam) ac Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05.10.2022 fel rhai cywir. Cofnod: Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 5ed o
Hydref, 2022 yn gywir. |
|
CYMERADWYO ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL AR GYFRIFON GwE PDF 329 KB Cyflwyno – · Datganiad o’r
Cyfrifon ôl-Archwiliad; · Adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru; · Llythyr
Cynrychiolaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo yr adroddiad
ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2021/22, ac
awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a gadarnhaodd fod Aelodau
y Cydbwyllgor eisoes wedi derbyn y wybodaeth (13 Gorffennaf) yn ei ffurf
drafft, ond bod Swyddog o Archwilio Cymru wedi eu cymeradwyo erbyn hyn. Cyfeiriodd at dri chywiriad a wnaed i’r
cyfrifon yn ystod yr archwiliad ac sydd wedi eu hamlygu yn Atodiad 3 fel a ganlyn : Diweddaru nifer staff mewn rhai bandiau
cyflog Symiau arian grantiau - ym mha linellau
maent yn ymddangos o fewn y cyfrifon (gweler yr eglurhad) Cwpwl o wallau teipio, sydd wedi eu
cywiro erbyn hyn. Ehangodd Swyddog Archwilio Cymru ar yr uchod, gan gadarnhau bod yr
adroddiad yn dangos darlun clir a theg, gan dynnu sylw at faterion : Tudalen 4 – 441 Gweithio yn annibynnol Llofnodion electroneg Cadarnhaodd nad oeddynt yn faterion arwyddocaol, ac nad oes unrhyw
gamddatganiadau. Diolchwyd am yr adroddiadau manwl ac am y cydweithio. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo yr adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru,
cymeradwyo cyfrifon 2021/22, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr
cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor. |
|
CYLLIDEB GwE 2022-2023 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 PDF 407 KB Diweddaru
aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr Adolygiad Chwarterol oedd yn rhagweld tanwariant erbyn
diwedd 2022/23 fel a ganlyn : Gweithwyr - Chwarter 2: tanwariant (£46,552) o ran costau staffio o’i
gymharu â : thanwariant (£84,046) oedd
yn cael ei ragweld ddiwedd Chwarter 1 Adeilad: Chwarter 2: gorwariant £25,367 o ran diffyg incwm, ond
disgwylir i'r ffrwd incwm yma wella.
Rhagwelwyd gorwariant o £25,367 ar ddiwedd Chwarter 1 Cludiant: Chwarter 2: tanwariant (£59,759), hyn o ganlyniad i lai o
deithio a ffyrdd newydd o weithio.
Diwedd Chwarter 1 rhagwelwyd tanwariant o (£46,771) Nodwyd bod cronfa tanwariant o £91,900 net. Adroddodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod Chwarter 2 wastad yn anodd ac mai
yn Chwarter 3 (Medi i Ragfyr) oedd y prif weithgareddau ac y byddai yn disgwyl
gweld newid. Cwestiynwyd, gan nad yw reserfau yn cael eu caniatáu, tybed a oes
isafswm trothwy reserfau? Cadarnhawyd nad
oes cyfyngiad ar sut i ddefnyddio y gronfa tanwariant, megis ar gyfer pontio
neu brynu amser. Nodwyd er nad oes
ffigwr penodol, ond tybir o leiaf £100,000. Atgoffodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, cyn y cyfnod clo, fod y gyllideb
wrthgefn wedi bod yn llai na £200,000.
Nodwyd y bydd yn rhaid disgwyl am Setliad Rhagfyr a gweld y goblygiadau
wrth fynd ymlaen. Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion swyddi gwag a recriwtio gan holi a
oes sialensiau o ran y sefyllfa secondiadau, a chadarnhawyd ei bod wedi bod yn
sialens yn yr uwchradd ers rhai blynyddoedd ond ei bod yn bryder yn y cynradd
erbyn hyn hefyd. PENDERFYNWYD Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad ar Gyllideb GwE 2022-2023 – Adolygiad
Chwarter 2 |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2022-2023 GwE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 PDF 268 KB Cyflwyno
Adroddiad monitro chwarter 2 – Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i’r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE, oedd yn rhoi darlun
o weithgarwch Gorffennaf i Fedi. Cadarnhawyd fod trafodaethau wedi cymryd lle
ar y cwricwlwm, bod y gwaith cefnogi yn parhau a bod parodrwydd gan yr ysgolion
i rannu lle maent wedi ei gyrraedd. O ran Arweinyddiaeth, nodwyd y cynifer sydd yn mynychu’r cyrsiau gyda
nifer ohonynt o bosib yn ddarpar arweinwyr ar gyfer y dyfodol. Nodwyd ei bod yn braf gweld prosiect Llais Ni yn dwyn ffrwyth. Holiwyd am y ffigyrau hyfforddi a chefnogi clystyrau o amgylch y
trawsnewid. Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE eu bod ar bwynt o newid. Mae diffyg
sylweddol o ran athrawon llanw, ac er ei bod yn dda cael y cyfarfodydd wyneb yn
wyneb, mae cyflwyniadau yn cael eu recordio erbyn hyn oherwydd y pwysau ar
ysgolion bychain. Mae gwahanol ysgolion
ar lefelau gwahanol o aeddfedrwydd. Cyfeiriwyd at dracio cynnydd ac asesu disgyblion, yn benodol o ran 360,
a sut mae hynny yn cyd-fynd â’r fframwaith newydd. Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod
gwaith allweddol wedi ei wneud o ran sgiliau disgyblion a bod y gwaith tracio
yn parhau. Cyfeiriwyd at y Gweithdai Arfarnu a Dal Effaith, a nodwyd yr angen i
dynnu papur at ei gilydd, gan weithio gydag ysgolion ar ffurf yr adroddiad,
gyda yr un egwyddorion yn rhedeg trwyddynt. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai yn dda cael mewnbwn. Cadarnhawyd y byddai Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
yn dod â phapur gerbron pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo yr Adroddiad Monitro Chwarter 2 - Cynllun Busnes
Rhanbarthol 2022-2023 GwE. |
|
BWRIAD I ADOLYGU TREFNIADAU GWEITHREDOL A'R STRWYTHUR STAFFIO PRESENNOL PDF 348 KB Hysbysu’r
Cyd-bwyllgor am y bwriad i adolygu’r trefniadau gweithredu a’r strwythur
staffio presennol. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE gyda chais am
ganiatâd i wneud y darn hwn o waith gyda chefnogaeth y Cyd-Bwyllgor. Nododd y bydd y pwyslais ar gryfhau y
cydweithio agos sydd eisoes rhwng GwE a’r Awdurdodau Lleol. Nododd y Cadeirydd bod hwn yn amserol iawn ac y byddai y Cyd-Bwyllgor yn
falch o gael y cyfle i roi sylwadau maes o law.
Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y bydd y Cyd-Bwyllgor yn cael bwydo
i’r papur a’i drafod ymhellach. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo y bwriad i adolygu trefniadau gweithredol a’r
strwythur staffio presennol. |
|
LLYTHYR Y CYDBWYLLGOR I'R GWEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG PDF 261 KB Darparu
cofnod ffurfiol i’r Cyd-Bwyllgor, yn dilyn trafodaethau a phenderfyniad yn y
cyfarfod blaenorol ar 05/10/2022, yng nghyswllt y llythyr a anfonwyd at y
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 11/10/2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidor y
Gymraeg ac Addysg Cofnod: Yn dilyn y cyfarfod diwethaf a’r pwysau o ran atebolrwydd, cadarnhawyd
bod llythyr wedi ei ddanfon at y Gweinidog, â chopi wedi ei anfon i ysgolion y
rhanbarth er gwybodaeth. Nodwyd bod y
llythyr wedi cael sylw yn y Fforwm Prif Athrawon a bod y gefnogaeth gan y
Cyd-Bwyllgor wedi ei werthfawrogi.
Cadarnhawyd y byddai yn cael ei roi yn ôl ar yr agenda ar gyfer cyfarfod
arall yn y dyfodol, gan fod ymateb hwyr wedi dod o swyddfa’r Gweinidog. PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidog y Gymraeg ac
Addysg Dechreuodd y
cyfarfod am 10.30 a daeth i ben am 11.20 y.b. _________________________________ CADEIRYDD |