Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYFANSODDIAD CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG RHANBARTH Y GOGLEDD Adroddiad i’w
gyflwyno gan Iwan G.D. Evans, Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y
Cyfansoddiad: ·
Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig ·
Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau ·
Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol ·
Rheolau Gweithdrefn Contractau 2. Dirprwyo hawl
i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer
eu cyhoeddi. |
|
ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2022/23 Adroddiad i’w
gyflwyno gan Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a
Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. 2.
Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r
tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi
ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol. 3.
Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn
unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n
briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2). |